Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid

Mae ceisiadau ar gyfer y Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid bellach wedi cau.

Nod Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid sy’n werth £1m yw grymuso plant a phobl ifanc Du drwy Weithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Rydyn ni’n diffinio gweithredu cymdeithasol ieuenctid fel yr adeg mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’u llais i fynd i’r afael â’r pynciau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn rhan o Cadw Fynd: Cronfa, mewn partneriaeth â Radio 1xtra. Drwy Cadw Fynd: Cronfa, gyda chefnogaeth Radio 1Xtra, bydd BBC Plant mewn Angen yn ymrwymo £10m dros 10 mlynedd i greu a buddsoddi mewn cyfleoedd i blant a phobl ifanc Du.

Mae Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid hefyd yn rhan o’n Rhaglen Rhannu Pŵer (Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid) gwerth £4m. Mae’n un o ddwy gronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid sydd ar agor eleni, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â chronfa #Bydaaf (Mae Cronfa #bydaaf yn fuddsoddiad ar y cyd gwerth £54 miliwn rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon). Os nad yw eich sefydliad neu’ch prosiect yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc Du, gallwch ddarllen am ein cronfa arall yma.

Mae BBC Plant mewn Angen yn dymuno rhoi plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni eisiau creu cyfleoedd i gefnogi a meithrin lleisiau, syniadau ac arweinyddiaeth plant a phobl ifanc yn y DU. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod plant a phobl ifanc wedi gweld gostyngiad yn eu cyfleoedd i gymryd rhan yn ystod y pandemig.

Gwyddom fod plant a phobl ifanc Du yn wynebu llawer o rwystrau mewn cymdeithas ym Mhrydain. Mae anghydraddoldeb hiliol, hiliaeth a gwahaniaethu yn atal plant a phobl ifanc Du rhag manteisio ar lawer o gyfleoedd, gan gynnwys:

  • cael mynediad at gyfleoedd a gwasanaethau tebyg, o’i gymharu â’u cyfoedion.
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, addysgol ac economaidd.

Mae hyn yn effeithio ar les emosiynol, iechyd meddwl a gallu plentyn neu berson ifanc i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod.

Nod Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yw:

  • Cyrraedd plant a phobl ifanc Du gyda chyfleoedd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Bydd yn eu grymuso i greu newid ynghylch y materion sy’n bwysig iddyn nhw
  • Cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc Du drwy Weithredu Cymdeithasol Ieuenctid
  • Dysgu beth mae Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn ei olygu i blant a phobl ifanc Du. Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwn gyda’r sector.

Beth yw gweithredu cymdeithasol ieuenctid?

I ni, mae gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn ymwneud â’r gweithgareddau mae pobl ifanc yn eu gwneud i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau a’u hamgylchedd. Gweithredu cymdeithasol ieuenctid ydy’r adeg mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’u llais a’u gweithgareddau i fynd i’r afael â’r pynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Drwy weithredu cymdeithasol, mae plant a phobl ifanc yn datblygu atebion i faterion maen nhw a’u cymunedau lleol yn eu hwynebu.

Mae gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn digwydd ar sawl ffurf. Mae cymaint o ffyrdd i bobl ifanc ‘ymgymryd’ â gweithredu cymdeithasol ieuenctid, ar draws amrywiaeth o gyd-destunau, a gweithgareddau ffurfiol neu anffurfiol.

Mae’n bwysig i ni nad yw pobl ifanc yn teimlo bod angen iddyn nhw achub y byd ar eu pen eu hunain. Ni ddylent orfod gwneud hynny. Does dim rhaid i weithredu cymdeithasol dros blant a phobl ifanc Du ganolbwyntio ar anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol. Diben y gronfa hon yw cefnogi plant a phobl ifanc Du i greu newid a datblygu atebion i ba faterion bynnag maen nhw’n dewis canolbwyntio arnynt, waeth pa mor fawr neu fach.

Os gwneir hyn yn dda, mae gweithredu cymdeithasol ieuenctid o fudd i’r bobl ifanc dan sylw a’r cymunedau neu’r achosion maen nhw’n ceisio’u helpu.

Dyma rai enghreifftiau o Weithredu Cymdeithasol Ieuenctid;

  • Mae Community Changers yn Wolverhampton yn grŵp o bobl ifanc Ddu sy’n ail-greu cymorth iechyd meddwl yn eu hardal
  • Mae Kidz Campaign yng Nghaerdydd yn ail-ddylunio posteri ffilm eiconig i gynnwys cast o bobl Ddu
  • Mae K4C Community Organising yn Glasgow yn cynnal rhaglen ymateb bwyd cymunedol, gan ddosbarthu prydau bwyd sy’n briodol yn ddiwylliannol, a bagiau siopa.

Dyma ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu cymdeithasol ieuenctid o ansawdd uchel:

  • Plant a phobl ifanc i gymryd yr awenau, gan ganolbwyntio ar y newid cymdeithasol maen nhw eisiau ei weld.
  • Yn ddatblygol ac yn ddwyochrog i blant a phobl ifanc.
  • Rhoi profiadau, sgiliau newydd, a hyder i bobl ifanc sy’n gwella eu bywydau.
  • Blaenoriaethu llesiant plant a phobl ifanc.
  • Cydnabod profiad bywyd ac yn amddiffynnol ohono.

Rydyn ni’n deall y gall gweithredu cymdeithasol ieuenctid fod yn rhywbeth newydd i rai sefydliadau. Dydyn ni ddim yn disgwyl i sefydliadau fod yn arbenigwyr yn y maes, na gwybod pob un o’r atebion ar unwaith. Dydyn ni ddim ychwaith yn disgwyl eich bod wedi paratoi cynllun prosiect llawn pan fyddwch yn gwneud cais. Bydd gan bob grant gyfnod datblygu o hyd at chwe mis. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich syniadau, a’ch gallu i’w cyflawni.

Gwybodaeth am y Gronfa

Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio ar roi cyfle i blant a phobl ifanc Du gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Pan fyddwn ni’n dweud Du, rydym yn golygu; Du Affricanaidd, Caribïaidd, Lladin-Affricanaidd, neu Ddu gyda threftadaeth gymysg.

Er mwyn bod yn rhan o Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid dylai o leiaf 75% neu fwy o’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn ystyried eu hunain yn Ddu.

Rydym yn eich annog yn arbennig i ymgeisio os ydy eich sefydliad yn cael ei arwain gan bobl Dduon.

Pan fyddwn ni’n dweud ‘arwain gan bobl Dduon’, rydyn ni’n golygu bod:

  • yr arweinydd uchaf (Prif Swyddog Gweithredol neu Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr) yn ystyried ei hun yn Ddu
  • a 50% neu fwy o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr/ Pwyllgor Rheoli, yr uwch staff yn ystyried eu hunain yn Ddu.

Rydyn ni’n ymwybodol efallai na fydd sefydliadau mewn rhai ardaloedd sy’n cael eu harwain gan Bobl Dduon a fydd mewn sefyllfa i wneud cais. Rydyn ni’n fodlon ystyried cyllido sefydliadau nad ydynt yn cael eu harwain gan Bobl Dduon yn yr achos hwn. Byddwn yn dymuno i chi allu dangos i ni:

  • Eich hanes blaenorol o weithio gyda phlant â phobl ifanc Du.
  • Bod o leiaf 75% neu fwy o’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn yn ystyried eu hunain yn Ddu.
  • Y ffyrdd y mae eich sefydliad yn adlewyrchu’r gymuned rydych chi’n gweithio ynddi

Beth fydd bod yn rhan o Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn ei olygu?

Bydd y sefydliadau a ariennir drwy Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn:

  • Cysylltu â sefydliadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc Du i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol
  • Rhan o werthusiad sy’n canolbwyntio ar brofiad plant a phobl ifanc Du a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi
  • Cael cyfle i fod yn rhan o waith datblygu ehangach Cadw Fynd: Cronfa
  • Cael cymorth i ddatblygu (os oes angen) gan ein Partner Cymunedol. Bydd y cymorth hwn yn canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc Du, a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl Dduon.

Faint allwn ni wneud cais amdano?

Hyd at £15,000 i sefydliadau nad ydynt wedi cofrestru a hyd at £50,000 i gyrff sydd wedi cofrestru (darllenwch y manylion isod yn ofalus)

  • Os nad ydych chi wedi cofrestru gyda chorff rheoleiddio priodol, gallwch chi wneud cais am hyd at £10,000 y flwyddyn, neu £15,000 dros y 18 mis. Mae corff priodol yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban. Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant neu’n Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.
  • Os ydych chi wedi cofrestru, gallwch wneud cais am hyd at £50,000 dros y 18 mis

Pwy all wneud cais?

  • Sefydliadau corfforedig elusennol a sefydliadau corfforedig elusennol yn yr Alban;
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol (CIC) cyfyngedig drwy warant;
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd â chymal yn eu dogfen lywodraethu sy’n atal dosbarthu elw (gan gynnwys mentrau cymdeithasol);
  • Cymdeithasau tai;
  • Cymdeithasau budd cymunedol diwydiannol a darbodus;
  • Elusennau cofrestredig;
  • Sefydliadau crefyddol;
  • Ysgolion arbennig – Mae’r rhain yn ddarpariaethau ar gyfer plant ag anableddau neu anawsterau dysgu na ellir eu diwallu mewn lleoliad prif ffrwd
  • Sefydliadau heb eu Cofrestru. Os nad ydych wedi cofrestru â chorff rheoleiddio priodol, rydych yn sefydliad sydd heb ei gofrestru Mae corff priodol yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon ac OSCR – Swyddfa Cofrestr Elusennau’r Alban. Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant neu’n Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau

Nid ydym yn rhoi grantiau ar gyfer:

  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu.
  • Sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad.
  • Llywodraeth leol, carchardai na chyrff y GIG.
  • Prosiectau cyfalaf na phrosiectau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu, adnewyddu neu drosi adeiladau newydd, eiddo presennol, meysydd chwarae, caeau chwaraeon, ac ati fel rhan o’ch prosiect. Efallai y byddwn yn ariannu plant a phobl ifanc i godi arian, ymgyrchu a chynyddu costau er mwyn gwella cyfleusterau. Ni allwch ddefnyddio eich grant i dalu am welliannau cyfalaf. Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith adeiladu na gwelliannau i gyfleusterau statudol.
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd. (Fodd bynnag, gallwn ariannu sefydliadau crefyddol o hyd)
  • Cyllido tripiau neu brosiectau dramor.
  • Gwaith ymchwil neu driniaeth feddygol.
  • Profion neu gyngor ar feichiogrwydd, gwybodaeth neu gwnsela ynghylch dewisiadau beichiogrwydd.
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gyfatebol.
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl.
  • Gweithgarwch gwleidyddol, sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu ar gyfer lobïo uniongyrchol.
  • Ei drosglwyddo i gyrff eraill.
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol. Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian fel rhan o’r rhaglen hon. Mae eich grant BBC Plant mewn Angen ar gyfer darparu gweithgareddau prosiect yn unig. Ni ellir ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at incwm codi arian.
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb, ad-daliadau dyledion neu gyfraniadau i gronfeydd wrth gefn.
  • Costau diswyddo neu drosglwyddo staff
  • Buddsoddiadau
  • Rhwymedigaethau pensiwn a/neu gyfraniadau at nifer fawr o bensiynau staff
  • Astudiaethau dichonoldeb neu waith cwmpasu
  • Gwaith sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol ag effeithiau camfanteisio’n rhywiol ar blant, neu sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mater hwn
  • Offer ansefydlog sy’n werth dros £20,000 (e.e. cyfarpar chwarae/synhwyraidd)
  • Prosiectau lle mae disgwyl i wariant y grant ddechrau cyn dyddiad dyfarnu’r grant (cyllid ôl-weithredol).
  • Prosiectau nad ydynt yn gallu cwblhau eu grant erbyn mis Mawrth 2024.
  • Gwariant amhenodol.
  • Sefydliadau sydd wedi cael gwybod nad ydynt yn gymwys i dderbyn ein cyllid (darllenwch eich llythyr penderfyniad blaenorol)
  • Gwaith sy’n cael ei wneud y tu allan i’r DU
  • Gwaith gyda phobl ifanc dros 18 oed.
  • Cerbydau gan gynnwys bysiau mini.
  • Offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau ac ati)
  • Costau rydych chi eisoes wedi cael arian ar eu cyfer (dyblygiad)

Prosiectau lle nad ydy o leiaf 75% neu fwy o’r plant a’r bobl ifanc yn ystyried eu bod yn Ddu

Pa mor hir bydd y grantiau’n para?

  • Byddwn yn ariannu grantiau am unrhyw gyfnod hyd at 18 mis
  • Rydyn ni’n disgwyl y bydd cam datblygu cychwynnol i’ch gwaith, er mwyn i chi allu dylunio a pharatoi yn ôl dewisiadau’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw

Sut beth fydd y broses?

Byddwn yn dyfarnu grantiau ym mis Medi. Rhaid cwblhau ei gyflawni erbyn canol mis Mawrth 2024.

Rydyn ni’n disgwyl i’r holl sefydliadau llwyddiannus gymryd rhan mewn cam datblygu y byddant yn ei arwain eu hunain am hyd at chwe mis ar ddechrau cyfnod eu grant. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n cymryd amser i gynllunio ac i ddatblygu gwaith yn fanwl, a meithrin gallu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Bydd y cynnwys a’r hyd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer y prosiect a’r mudiad. Yn eich cais, gallwch ofyn am hyd at 10% o’ch cyllideb ar gyfer cefnogaeth datblygu. Byddwn hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth meithrin gallu i’ch mudiad a phlant a phobl ifanc yn ystod y cam hwn. Byddwn yn trafod hyn ymhellach yn y sesiwn wybodaeth. Rydym yn disgwyl y bydd y cam datblygu yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • Datblygu cynlluniau prosiect, recriwtio a mireinio eich cyllideb
  • Meithrin gallu’r plant a’r bobl ifanc i gymryd yr awenau wrth siapio’r prosiect
  • Meithrin gallu’r sefydliad i redeg prosiect llwyddiannus.
  • Mireinio eich cyllideb

Ar ôl y cam datblygu a fydd wedi’i gyllido, bydd sefydliadau’n cael tan erbyn mis Mawrth 2024 i gyflawni a gwerthuso eu prosiectau gweithredu cymdeithasol.

Ar ddiwedd y cam datblygu pwrpasol, bydd y sefydliadau llwyddiannus yn cwrdd â’u swyddog grantiau i gwblhau cynllun y prosiect a’r gwariant.

Sut byddwn ni’n gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i’w ariannu?

Mae gan Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid gyllideb o £1m. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud rhwng 50 a 70 o grantiau i gyd.

Disgwyliwn y bydd mwy o ddiddordeb yn y gronfa hon nag sydd gennym y gyllideb i’w cefnogi.

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch pa geisiadau i’w hariannu, byddwn yn cael ein harwain gan y canlynol:

Hefyd, byddwn yn blaenoriaethu:

  • Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl dduon; a
  • Sefydliadau sydd heb gael eu cyllido gennym o’r blaen

Ond, rydyn ni’n ymwybodol efallai na fydd sefydliadau mewn rhai ardaloedd sy’n cael eu harwain gan Bobl Dduon a fydd mewn sefyllfa i wneud cais. Rydyn ni’n fodlon ystyried cyllido sefydliadau nad ydynt yn cael eu harwain gan Bobl Dduon yn yr achos hwn. Byddwn yn dymuno i chi allu dangos i ni:

  • Eich hanes blaenorol o weithio gyda phlant â phobl ifanc Du.
  • Bod o leiaf 75% neu fwy o’r plant a’r bobl ifanc sy’n arwain y prosiect yn ystyried eu hunain yn Ddu. Pan fyddwn ni’n dweud Du, rydym yn golygu; Du Affricanaidd, Caribïaidd, Lladin-Affricanaidd, neu Ddu gyda threftadaeth gymysg.
  • Y ffyrdd y mae eich sefydliad yn adlewyrchu’r gymuned rydych chi’n gweithio ynddi

I ba gronfa ddylwn i gyflwyno cais?

Os ydych chi’n bwriadu gweithio gyda phlant a phobl ifanc Du yn bennaf, yna dylech ystyried gwneud cais i Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid.

Fodd bynnag, efallai y byddai’n well gan rai sefydliadau wneud cais i’n cronfa mynediad agored y gallwch ddarllen amdani yma.

Sylwch, dim ond un cais gan bob sefydliad ar draws y ddwy gronfa y byddwn yn ei ystyried yn ein Rhaglen Rhannu Pŵer (Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid).

Drwy gydol y cyfnod ymgeisio, gallwch hefyd siarad â ni i’ch helpu i benderfynu pa raglen sy’n fwy addas i chi. Gallwch anfon unrhyw gwestiynau dros e-bost at: [email protected]

Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau

Mae BBC Plant mewn Angen yn defnyddio Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau i’n helpu i ddeall cryfderau ymgeisydd o ran cyllid, llywodraethu a Diogelu.

Mae gweithio gyda grwpiau ar lawr gwlad a allai fod angen rhywfaint o gefnogaeth datblygu yn allweddol i nodau Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Rydym am gefnogi sefydliadau gyda chymorth datblygu i fodloni’r safonau hyn fel rhan o’n hymrwymiadau drwy Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Felly:

Mae rhagor o wybodaeth am y safonau sylfaenol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio yn Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid ar gael yma.

Beth os oes gen i grant BBC Plant mewn Angen yn barod?

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr newydd, a gan fudiadau sydd â grant BBC Plant mewn Angen yn barod.

Ond, byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan sefydliadau sydd heb gael cyllid BBC Plant mewn Angen.

Sut mae gwneud cais neu gael gwybod mwy?

Mae ceisiadau ar gyfer y Cadw Fynd: Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid bellach wedi cau.

Mae The Ubele Initiative, fel Partner Cymunedol ar gyfer Cronfa Cadw Fynd: Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid hefyd yn cynnig cyfres o sesiynau cymorth 40 munud cyn ymgeisio i fudiadau dan arweiniad Pobl Dduon, a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc Du.  Mae’r sesiynau hyn yn gyfyngedig ac mae 45 slot ar gael.

I gymryd rhan, rhaid i’ch mudiad fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Bod yn sefydliad bach (rydym yn diffinio’r rhain fel sefydliadau sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn)
  • Bod â throsiant o lai na £20,000
  • Heb gael arian gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen

NEU

  • Bod yn sefydliad bach (rydym yn diffinio’r rhain fel sefydliadau sy’n cyflogi rhwng 10 a 49 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn)
  • Uchafswm trosiant o £50,000
  • Heb gael arian gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen

Bydd hwn yn gyfle i sefydliadau ofyn cwestiynau mwy penodol a chael cymorth i lenwi eich cais.  Lle bynnag y bo modd, byddwch wedi mynychu sesiwn wybodaeth neu wedi gwylio recordiad cyn y sesiwn er mwyn gallu defnyddio’r amser i ganolbwyntio ar gymorth ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol.

Cynhelir y sesiynau am 10am, 11am, 12pm, 2pm a 3pm ar y dyddiadau canlynol:

  • 6 Mehefin
  • 7 Mehefin
  • 8 Mehefin
  • 9 Mehefin
  • 13 Mehefin
  • 14 Mehefin
  • 15 Mehefin
  • 16 Mehefin

I gael mynediad at sesiwn cymorth cyn ymgeisio unigol, gwnewch y canlynol:

  • Gwnewch yn siŵr bod eich mudiad yn bodloni’r meini prawf a restrir uchod
  • Anfonwch neges e-bost at [email protected] gyda’r pwnc ‘Cymorth Cyn Ymgeisio’. Yng nghorff yr e-bost, cadarnhewch pa feini prawf yr ydych yn ei fodloni gan gynnwys enw a manylion cyswllt eich sefydliad (enw llawn, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)

Gallwch gofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth i rhagor o wybodaeth am y gronfa drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu harwain gan staff BBC Plant mewn Angen ochr yn ochr â’n Partner Cymunedol. Bydd y sesiwn wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • y gronfa
  • y broses ymgeisio; a’r
  • cam datblygu ar gyfer sefydliadau llwyddiannus

Cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun 16 Mai 10.00am
  • Dydd Iau 19 Mai 5.30pm
  • Dydd Llun 23 Mai 12.00pm
  • Dydd Llun 30 Mai 11.00am

Os na allwch fynychu unrhyw un o’r dyddiadau, dewiswch yr opsiwn ar y ffurflen ‘Ni allaf fynychu unrhyw un o’r sesiynau hyn’ a byddwn yn anfon cofnod o sesiwn wybodaeth atoch.

Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod sefydliadau sy’n newydd i’r math hwn o waith neu a hoffai wybod mwy am weithredu cymdeithasol ieuenctid, yn gallu ystyried gwneud cais i’r Gronfa hon.

O ganlyniad, rydym yn cynnal gweithdy ychwanegol dewisol sy’n canolbwyntio ar Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Bydd hyn yn canolbwyntio ar sut i gynnwys plant a phobl ifanc yn fwy ystyrlon yn eich gwaith.

Cynhelir y gweithdai ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth 31 Mai 11.00am
  • Dydd Gwener 10 Mehefin am 11.00am

Gallwch gofrestru ar gyfer un o’r gweithdai hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Os na allwch fynychu unrhyw un o’r dyddiadau, dewiswch yr opsiwn ar y ffurflen ‘Ni allaf fynychu unrhyw un o’r sesiynau hyn’ a byddwn yn anfon recordiad atoch.

Gair am ein Partneriaid

  • Ubele Initiative ydy ein partner Cymunedol. Mae’n sefydliad seilwaith sy’n cael ei arwain gan Bobl Dduon. Bydd yn ein helpu ni i wneud y canlynol:
    • rhoi gwybod am y gronfa
    • cyrraedd sefydliadau na fyddem efallai yn eu cyrraedd fel arall; a
    • darparu cymorth pwrpasol i sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl Dduon a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc Du.

Yn dilyn deialog gydag arweinwyr diaspora Affricanaidd sefydlwyd Menter Ubele yn 2014. Canolbwyntiodd Ubele, sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned ac yn gydweithredol o ran cymeriad, ar atebion effeithiol i faterion cymdeithasol ac economaidd parhaus. Mae Ubele yn cael ei gymryd o’r air Swahili sy’n golygu “Y Dyfodol”.

Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan diaspora Affricanaidd, yn nhermau seilwaith a sefydliad, mae Ubele yn credu mewn grymuso cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn y DU i weithredu fel catalyddion ar gyfer newid cymdeithasol ac economaidd. Er mwyn cyflawni hyn, maen Ubele yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol, grwpiau a sefydliadau yn y DU a thu hwnt i gryfhau eu cynaliadwyedd, eu gwydnwch, a’u llais. Mae Ubele yn cefnogi twf unigolion, grwpiau, a sefydliadau cymunedol drwy fentrau arwain sy’n pontio’r cenedlaethau, datblygu capasiti, cefnogi menter, a datblygu asedau

  • Mae BBC Radio 1xtra yn un o’r partneriaid a sylfaenodd Cadw Fynd: Cronfa, ochr yn ochr â BBC Plant mewn Angen. Mae BBC Radio 1xtra yn eistedd ochr yn ochr â BBC Plant mewn Angen wrth i ni siapio nodau a chyfeiriad yr ymrwymiad 10 mlynedd. Bydd Mae BBC Radio 1xtra yn ein helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r gronfa. Bydd Mae BBC Radio 1xtra hefyd yn arwain ar y gwaith o adrodd hanes Cadw Fynd: Cronfa, ac yn tynnu sylw at yr effaith y mae’r prosiectau rydym yn eu hariannu yn ei chael ar blant a phobl ifanc.
  • Mae Cronfa #bydaaf yn fuddsoddiad ar y cyd gwerth £54 miliwn rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon. Mae BBC Plant mewn Angen yn gweithredu fel ariannwr cyfatebol ac yn dyfarnu grantiau ar ran Cronfa #byddaf. Mae Cronfa #byddaf yn dwyn ynghyd grŵp o sefydliadau sydd i gyd yn cyfrannu cyllid i ymgorffori gweithredu cymdeithasol ym mywydau pobl ifanc.

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb allu gwneud cais am ein cyllid. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosibl, pryd bynnag y byddwn yn gallu gwneud hynny. Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015 neu drwy anfon neges e-bost i [email protected].

Ar gyfer y sesiynau gwybodaeth, gallai’r cymorth hwn gynnwys:

  • Darparu trawsgrifiadau ar ôl y sesiwn wybodaeth
  • Galluogi capsiynau caeedig
  • Sgwrs yn hytrach na dod i sesiwn wybodaeth

Ar gyfer y broses ymgeisio, gallai’r cymorth hwn gynnwys

  • Gwneud cais mewn fformatau eraill
  • Defnyddio cyfieithydd

Chi sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnoch chi, felly siaradwch â ni ac fe wnawn ni bopeth gallwn ni i’ch cefnogi chi.

Mae’n bosib y bydd yr wybodaeth a roddwch mewn perthynas â hyn yn ddata categori arbennig o dan ddeddfau diogelu data. Dim ond er mwyn helpu i sicrhau bod ein sesiwn gwybodaeth a’n rhaglen grantiau yn hygyrch i chi y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Byddwn yn ei chadw yn unol â’n Polisi Data Categori Arbennig ac Euogfarnau Troseddol (mae modd cael copi o’r polisi, dim ond i chi ofyn). Mae’r ffordd y mae BBC Plant mewn Angen yn prosesu eich data categori arbennig wedi’i seilio’n gyfreithiol ar eich caniatâd penodol chi, ac mae modd i chi dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â [email protected]. Gofynnir i chi roi eich caniatâd pan fyddwch yn cysylltu â ni. Byddwn yn dileu’r wybodaeth ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau. I gael gwybodaeth lawn am breifatrwydd, ewch i https://www.bbcchildreninneed.co.uk/grants/bbc-children-in-need-privacy-notice/ 

 

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1