Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Enghreifftiau o’r Cyfnod Datblygu

Bwriedir i gyfnod datblygu pob grant fod yn amser paratoi ar gyfer rhaglen gweithredu cymdeithasol ieuenctid pob sefydliad. Nod hyn yw datblygu gallu’r plant a’r bobl ifanc i gymryd rhan. Dylai sefydliadau ddefnyddio’r amser hwn i wneud y canlynol:

  • Cynllunio a sefydlu’r prosiect (ee recriwtio, hyfforddi staff ac ati)
  • Archwilio’r pwnc gweithredu cymdeithasol dan sylw
  • Ymgynghori â’r gymuned am y (ddaearyddiaeth; gymuned fuddiant)
  • Cefnogi’r plant a’r bobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd
  • Galluogi’r plant a’r bobl ifanc i gynllunio eu syniadau gweithredu cymdeithasol

Efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch chi hefyd i gryfhau eich trefniadau llywodraethu, cyllid neu ddiogelu. Byddwn yn darparu rhywfaint o hyfforddiant drwy bartneriaid, neu’n eich cefnogi i gael gafael ar ymgynghorydd. Pan ddyfernir grant i chi, bydd Swyddog Rhanbarthol neu Genedlaethol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn bwynt cyswllt i chi gyda BBC Plant mewn Angen – bydd yn gweithio gyda chi drwy gydol y cyfnod hwn. Ar ddiwedd y cyfnod datblygu bydd disgwyl i bob sefydliad a ariennir i gyrraedd ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau.

Byddwn yn gweithio gyda chi drwy’r broses asesu i ddeall yr amser a’r gyllideb sydd arnoch eu heisiau neu eu hangen ar gyfer eich sefydliad. Ni fydd hyn yn fwy na chwe mis o’r grant ac ni fydd yn fwy na 10% o’ch cyllideb.

Mae Kidz Time yn glwb bach gwledig ar ôl ysgol yng Nghanolbarth Ulster, Gogledd Iwerddon. Maent yn gweithio’n bennaf gyda phlant rhwng 8 ac 13 oed, gan roi swper wedi’i goginio iddynt ddwywaith yr wythnos. Mae hyn o ganlyniad broblemau tlodi bwyd yn y gymuned. Yn ddiweddar, mae rhai o’r plant hŷn wedi dangos diddordeb mewn cael gwybod mwy am y banc bwyd lleol a sut gallant helpu.

  • Mae Kidz Time wedi gwneud cais am grant o £20,000, gan gynnwys cyfnod datblygu o 3 mis.
  • Bydd y grant cyfnod datblygu o £2,000 yn cael ei wario ar amser staff ychwanegol, llogi lleoliadau a darparwyr allanol i hwyluso sesiynau i’r plant.
  • Bydd y sesiynau hyn yn helpu’r plant i ddysgu mwy am dlodi bwyd gan siaradwyr allweddol ac yn rhoi cyfle iddynt wirfoddoli mewn shifft prawf.
  • Bydd y sefydliad hefyd yn cyflogi Hwylusydd Llais yr Ifanc i helpu’r plant i archwilio eu barn a’u profiadau eu hunain, a throsi hynny’n gynllun prosiect. Y nod yw meithrin eu hyder fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu siarad am y pwnc a llunio eu prosiect gweithredu cymdeithasol eu hunain sy’n canolbwyntio ar dlodi bwyd.
  • Bydd gweddill y gyllideb sef £18k yn cael ei ddefnyddio dros 12 mis ar amser staff, hwyluswyr, costau gweithgareddau, costau deunyddiau a chludiant.

Mae Connect yn glwb ieuenctid ar gyrion Caerdydd, sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl rhwng 8 a 18 oed. Yn ystod y cyfnod clo, roedd y bobl ifanc yn teimlo’n fwyfwy ynysig o gymharu â’u cyfoedion. Ysgrifennodd sawl un bost blog a llythyrau at eu Cyngor lleol am y diffyg cyfleusterau awyr agored a mannau gwyrdd hygyrch yn eu hardal. Maent eisoes wedi dal sylw’r wasg leol a hoffent ddatblygu ymgyrch ar y mater hwn.

  • O ganlyniad i’r awydd hwn am weithredu cymdeithasol ymysg y bobl ifanc, mae Connect yn gwneud cais am grant o £40,000.
  • Hoffent ddefnyddio cyfnod datblygu o 4 mis i gynyddu hyder y bobl ifanc, archwilio sut mae ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol eraill wedi bod yn llwyddiannus a chwrdd hefyd â phrosiect yn Llundain sy’n darparu gwaith tebyg.
  • Bydd eu grant datblygu o £4,000 yn cael ei wario ar gostau cludiant a gwirfoddolwyr ar gyfer y daith, cost hwylusydd llais yr ifanc a hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y grŵp.
  • Bydd y gyllideb sy’n weddill, sef£36k yn cael ei defnyddio dros 18 mis fel cyfraniad tuag at amser staff, gweithwyr cefnogi sesiynol, llogi lleoliadau, hwyluswyr, costau digwyddiadau, deunyddiau a chludiant.

Mae We Care, yn Dundee, yn sefydliad newydd, a sefydlwyd gan grŵp o 8 o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed. Gan rannu angerdd tuag at ymgyrchu amgylcheddol, maen nhw’n cael eu cefnogi gan y Tîm Gwaith Ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid White Rocks. Cyfarfu’r ddau sefydliad wrth weithio ar raglen gweithredu cymdeithasol fwy drwy eu hysgolion, i baratoi ar gyfer uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow yn ystod haf 2021.

  • Hoffai We Care ddod i Gynhadledd Amgylcheddol Ieuenctid Manceinion yn ystod haf 2023 a gweithio tuag at gyflwyno eu cynlluniau a’u gwaith yn y maes hwn.
  • Ar hyn o bryd nid oes ganddynt yr arian i wneud hyn ac nid ydynt ychwaith yn teimlo’n gwbl hyderus wrth siarad yn gyhoeddus. Maent wedi gofyn am grant o £10,000 i’w cefnogi i gyflawni hyn.
  • Bydd y cyllid datblygu sef £1,000 yn cael ei ddefnyddio i weithio gyda sefydliad cefnogi lleol yn y sector gwirfoddol i helpu We Care i ddatblygu eu gwybodaeth am lywodraethu a chyllid fel grŵp newydd ac i fodloni ein safonau cyllid, llywodraethu a diogelu.
  • Bydd y gyllideb sy’n weddill sef £9k yn cael ei defnyddio dros gyfnod o 9 mis fel cyfraniad tuag at logi lleoliadau, ffioedd ymgynghori, treuliau, costau gweinyddu a chludiant.

Mae Youth Aloud yn sefydliad ieuenctid ledled Lerpwl sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 18 oed sy’n canolbwyntio ar hawliau plant ac sy’n annog llais pobl ifanc. Mae ganddynt lawer o brofiad o weithio ochr yn ochr â phobl ifanc yn eu harddegau i ddatblygu eu gallu i gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Yn ystod y pandemig, mae grŵp allweddol o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal y maent wedi gweithio gyda nhw ar sawl rhaglen wedi bod yn rhoi gwybod am broblemau sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys diweithdra ymysg pobl ifanc, pryderon iechyd meddwl a lefelau uchel o ddadrymuso, gan arwain at lai o ymgysylltu â’r bobl ifanc.

  • Mae Youth Aloud yn gwneud cais i’r gronfa am £50,000.
  • Bydd y cyfnod datblygu 3 mis yn cael ei ddefnyddio i ailgysylltu â’r grŵp hwn, i drafod eu profiadau o’r cyfnod clo ac i weithio tuag at gynyddu eu lefelau hyder mor agos â phosibl at y lefelau cyn y pandemig.
  • Bydd y cyllid datblygu o £5,000 yn cael ei wario ar amser staff, tripiau rheolaidd, hwyluswyr a theithio i gwrdd â phrosiectau eraill yn yr ardal.
addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1