Grantiau
Gwnewch Gais am Grant
Gwneud cais am grant
Mae BBC Plant mewn Angen yn dyfarnu cyllid ar draws nifer o raglenni. Fel bob amser, mae galw mawr am ein cyllid, ac rydym eisiau sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Cafodd ein rhaglenni diweddar bum gwaith yn fwy o geisiadau ar gyfartaledd nag y gallem eu cyllido. Cofiwch ystyried ein canllawiau’n ofalus cyn gwneud cais.
Ein rhaglenni cyllido sydd ar y gweill
Bydd ein Rhaglen Grantiau, Prif a Bach, yn ailagor ar gyfer ceisiadau ar 28 Mehefin 2021.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda’r holl wybodaeth allweddol, gan gynnwys dyddiadau cau sydd ar y gweill, drwy gydol y flwyddyn
Rhaglenni 2021 ar gyfer cyrff:
| Y Rhaglen
|
Maes y Rhaglen
|
Dyddiad Cau’r Rhaglen | Cyhoeddi’r Penderfyniadau | Y Lleoliad |
| Grantiau Bychain | Cyllid eang (3 blynedd) | 11.30am, Hydref 6 2021 | Chwefror 2022 | Ar draws y Deyrnas Unedig |
| Prif Grantiau
(Rydym ar gau ar gyfer ceisiadau newydd – Gwiriwch yn ôl yn y dyfodol am ddiweddariadau)
|
Cyllid eang (3 blynedd) | 11.30am, Awst 23, 2021 | Diwedd Ionawr 2022 | Ar draws y Deyrnas Unedig |
I gael gwybodaeth am ein grantiau ar gyfer unigolion, edrychwch ar ein rhaglen Hanfodion Brys (Emergency Essentials).
Sut rydych chi’n helpu i wella bywydau plant
Bydd deall sut mae BBC Plant mewn Angen yn helpu i wella bywydau plant yn eich helpu chi i drafod eich prosiect â ni. Drwy siarad yn glir am eich gweithgareddau a sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth sy’n gwella bywydau plant, rydych chi’n ein helpu ni i ddeall yn well – wrth wneud penderfyniad am eich cais – beth yw’ch bwriad. Yn bwysicach na hynny, ar ôl i chi gael grant, bydd hynny’n ein helpu ni i siarad â chi am ddatblygiad eich prosiect a’i effaith gadarnhaol barhaus ar fywydau plant.
Wrth ddweud wrthym ni sut bydd eich prosiect yn gwella bywydau plant, gofynnwn i chi sôn am y canlynol:
- Yr anfanteision sy’n wynebu’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n eu helpu, a sut mae’r anfanteision hynny’n effeithio ar eu bywyd.
- Beth fydd eich prosiect yn ei wneud, a sut bydd ei weithgareddau’n helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant.
- Y tri gwahaniaeth pwysicaf y bydd eich prosiect yn eu gwneud a fydd yn gwella bywydau plant. Y rhan yma o’ch cais sydd fwyaf o ddiddordeb i ni. Os byddwch chi’n cael grant, gofynnir i chi adrodd yn ôl yn fanwl ar hynny.
- Ar gyfer pob gwahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud, dylech fod yn gryno a sôn am un newid arwyddocaol yn unig. Peidiwch â rhoi rhestr o wahaniaethau na newidiadau.
- Bydd y gwahaniaeth yn digwydd tra byddwch chi mewn cysylltiad â’r plant rydych chi’n eu helpu. Gall fod yn newid bach neu’n un parhaol.
- Defnyddiwch iaith newid yn eich disgrifiadau, e.e. gwella sgiliau bywyd, cynyddu hunanbarch, lleihau trallod.
- Dim ond am y gwahaniaeth penodol y byddwch chi’n ei wneud mae angen i chi sôn, er enghraifft, ‘gwella perthnasoedd teuluol’, ac nid y bloc(iau) adeiladu maen nhw’n eu cryfhau, yn yr achos hwn, ‘perthnasoedd cadarnhaol’.