Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin

Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.

Gweler isod rai cwestiynau cyffredin, a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.

A yw BBC Plant Mewn Angen atal rhoi grantiau rhwng Ebrill a Medi 2025?

Nac ydy, bydd BBC Plant mewn Angen yn dal i ddyfarnu grantiau drwy gydol y flwyddyn. Fyddwn ni ddim yn gallu derbyn ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb newydd ar ôl 15 Ebrill tan ganol mis Medi 2025. Yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn parhau i ystyried ac i brosesu pob cais a gyflwynir ar 15 Ebrill neu cyn hynny. Os byddwch yn cyflwyno cais Datganiad o Ddiddordeb ar 15 Ebrill neu cyn hynny a’ch bod yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn, byddwch yn gallu cyflwyno hon i gael ei hystyried o fewn yr amserlen arferol.

Mae gennyf gais ar y gweill neu rwyf ar fin cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, sut mae hyn yn effeithio arna i?

Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar neu cyn 15 Ebrill yn cael eu hystyried yn y ffordd arferol. Efallai byddwch chi’n cael penderfyniad 1-2 wythnos yn hwyrach na’r disgwyl. Os bydd eich cais neu eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Rydw i’n derbyn grant; sut mae defnyddio fy nghyfrif ar-lein yn y system newydd i ddyfarnu grantiau?

Pan fyddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru ar gyfer cyfrif porth derbynnydd grant newydd.

Rydyn ni’n disgwyl taliad rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2025, fyddwn ni’n dal i gael ein taliad?

Byddwch. Byddwn yn dal i dalu derbynwyr grantiau drwy gydol y cyfnod hwn.

Rydw i wedi gwneud cais i BBC Plant mewn Angen yn y gorffennol, neu mae gen i grant ar hyn o bryd. Beth fydd yn digwydd i’r hen ffurflenni cais a’r adroddiadau yn fy nghyfrif ar-lein (sydd hefyd yn cael ei alw yn borth derbynnydd grant)?

Fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio eich cyfrif ar-lein (sydd hefyd yn cael ei alw yn borth derbynnydd grant) o 26 Gorffennaf 2025 ymlaen. Felly fyddwch chi ddim yn gallu cael gafael ar eich hen ffurflenni ac adroddiadau ac ati o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Byddwn yn cysylltu â phob sefydliad sydd â chyfrif ar-lein i ofyn iddynt gadw unrhyw ffurflenni neu adroddiadau maen nhw eisiau eu defnyddio yn y dyfodol.  Bydd cyfarwyddiadau llawn ar sut mae gwneud hyn yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon cyn bo hir.

Roeddwn i’n bwriadu cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025, beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Fyddwn ni ddim yn gallu derbyn unrhyw geisiadau Datganiadau o Ddiddordeb newydd ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025. Byddwn yn blaenoriaethu ystyried a phrosesu pob cais gan ddefnyddio ein system bresennol cyn cau ein porth presennol ar gyfer ymgeiswyr/derbynwyr grantiau. Byddwn wedyn yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb newydd yn ein system newydd ar ôl i ni ail-lansio ym mis Medi 2025.

Rwy’n dderbynnydd grant ac mae fy adroddiad diwedd blwyddyn i fod i gael ei gyflwyno rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2025, beth ddylwn i ei wneud?

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Rydyn ni’n gweithio ar ddull arall i’n derbynwyr grantiau gyflwyno eu hadroddiadau diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod cau. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i egluro eich opsiynau. Yn y cyfamser, os oes gennych chi adroddiad ar ei hanner nad yw’n debygol o gael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau, sef 26 Gorffennaf 2025, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi lleol o’r holl wybodaeth sydd yn eich adroddiad. Bydd cyfarwyddiadau llawn ar sut mae gwneud hyn yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon cyn bo hir.

Mae grant ar fin dod i ben rhwng canol mis Ebrill 2025 a mis Chwefror 2026. Rydw i eisiau gwneud cais am gyllid i barhau â’r gwaith hwn. Beth ddylwn i ei wneud?

Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd unrhyw un o’n derbynwyr grantiau presennol yn cael rhagor o gyllid.  Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod y bydd rhai derbynwyr grant presennol am wneud cais am ragor o gyllid, felly os byddan nhw’n llwyddo, bydd eu gwaith yn parhau heb doriad. Os bydd eich grant presennol yn dod i ben yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cysylltu â chi yn ystod yr wythnosau nesaf i egluro eich opsiynau. Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch Rheolwr Grantiau neu [email protected].

Mae grant newydd gael ei ddyfarnu i mi. Fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?

Os ydych chi newydd dderbyn llythyr dyfarnu, dychwelwch eich ffurflen derbyn grant atom cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu ei phrosesu a threfnu eich taliad cyntaf. Mae’n syniad da dychwelyd eich ffurflen atom gyda digon o amser i wneud unrhyw gywiriadau neu newidiadau os oes angen.

Pan fyddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru ar gyfer cyfrif porth derbynnydd grant newydd. Byddwch yn defnyddio’r cyfrif newydd hwn i reoli eich grant yn y dyfodol.

Mae gen i gwestiynau, gyda phwy alla i siarad am hyn?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr wybodaeth hon, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch ni ar 0345 609 0015.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1