Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid

Mae BBC Plant mewn Angen, mewn partneriaeth â’r Gronfa #byddaf a Sefydliad Hunter, yn darparu cronfa gwerth £2.65 miliwn i helpu mudiadau i wreiddio gweithredu cymdeithasol ieuenctid ar draws y DU. Bydd y gronfa hon yn helpu i feithrin hyder a sgiliau plant a phobl ifanc, gan eu grymuso i chwarae rhan weithredol ac arweiniol yn y gwaith o ddatblygu atebion i faterion sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau.

Mae Cronfa #byddaf yn fuddsoddiad ar y cyd gwerth £54 miliwn rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon (DCMS).



Bydd y cyllid hwn yn cefnogi mudiadau i gyflwyno cyfleoedd gweithredu cymdeithasol a grymuso ieuenctid i blant a phobl ifanc, er mwyn helpu i atal neu i oresgyn effeithiau’r anfanteision maen nhw’n eu hwynebu. Rydym yn arbennig o awyddus i gyrraedd:

  • mudiadau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anfanteision sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc
  • plant a phobl ifanc sydd â rhywfaint o brofiad o weithredu cymdeithasol ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’r profiad i wneud mwy.
  • plant a phobl ifanc sydd heb brofiad o waith gweithredu cymdeithasol o gwbl ond sydd eisiau dysgu mwy amdano.

Byddwn yn lansio dwy raglen sy’n ymwneud â rhannu grym gyda phlant a phobl ifanc; ein Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid a’n Cronfa Cadw Fynd Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Mae’r Cronfa Cadw Fynd Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid wedi’i hanelu’n benodol at fudiadau sy’n cael eu harwain gan bobl Ddu a mudiadau sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc Du. Cewch ragor o wybodaeth am y gronfa yma.

Mae’r Gronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid ar gyfer plant a phobl ifanc 18 oed ac iau. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o brosiectau gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn gweithio gyda’r ystodau oedran hynach yn y categori hwn. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan fudiadau sy’n gweithio gyda phlant (ee 15 ac iau) neu sy’n bwriadu gwneud hynny.

Mae pobl ifanc wedi bod yn gweithio gyda ni ers i ni ddechrau dylunio’r gronfa hon. Mae’n bwysig i ni ein bod yn dylunio rhaglen sy’n ymgorffori gwerthoedd gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Byddwn yn parhau i’w cynnwys drwy gydol y broses asesu a gwneud penderfyniadau. Mae arnom eisiau sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod y materion a bod y materion sydd bwysicaf iddyn nhw yn cael sylw.

Beth yw gweithredu cymdeithasol?

Mae gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn disgrifio’r gweithgareddau mae plant a phobl ifanc yn eu gwneud i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a sbarduno newid yn eu cymunedau ac yn y byd o’u cwmpas. Drwy weithredu cymdeithasol ieuenctid, mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’u llais a’u profiad bywyd i’r afael â’r pynciau sy’n bwysig iddyn nhw.

Drwy weithredu cymdeithasol, gobeithiwn y bydd plant a phobl ifanc yn gallu datblygu eu hatebion eu hunain i faterion maen nhw a’u cymunedau lleol yn eu hwynebu.  Ein nod yw ariannu gwaith:

  • Dan arweiniad plant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar y newid cymdeithasol maen nhw eisiau ei weld.
  • Datblygu a dwyochrog go iawn i blant a phobl ifanc. Gan roi profiadau, sgiliau newydd a hyder sy’n gwella eu bywyd iddyn nhw.
  • Sy’n blaenoriaethu llesiant plant a phobl ifanc bob amser.
  • Sy’n cynnwys pob ystod oedran
  • Sy’n harneisio gwerth profiad bywyd
  • Sy’n caniatáu amser a lle i dyfu syniadau prosiectau, drwy gam datblygu cychwynnol. Bydd y cyfnod hwn ar ddechrau pob grant yn meithrin gallu’r plant a’r bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Gall hefyd alluogi’r mudiadau i feithrin eu gallu eu hunain.

Gwybodaeth am y Gronfa

Mae’r gronfa hon ar gyfer mudiadau nid-er-elw, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag anfantais sy’n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc, ac sy’n cael eu hysgogi i’w grymuso i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid.

Faint allwn ni wneud cais amdano?

  • Hyd at £15k i fudiadau heb eu cofrestru a hyd at £50k i gyrff sydd wedi cofrestru (darllenwch y manylion isod yn ofalus)
  • Os nad ydych chi wedi cofrestru â chorff rheoleiddio priodol, gallwch chi wneud cais am hyd at £10k y flwyddyn, neu £15k dros y 18 mis. Mae corff priodol yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a OSCR -Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban.
  • Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant neu’n Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Os ydych chi wedi cofrestru, gallwch chi wneud cais am hyd at £50k dros y 18 mis

Nid ydym yn rhoi grantiau ar gyfer:

  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu.
  • Sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad.
  • Llywodraeth leol, carchardai na chyrff y GIG.
  • Prosiectau cyfalaf na phrosiectau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu, adnewyddu neu drosi adeiladau newydd, eiddo presennol, meysydd chwarae, caeau chwaraeon, ac ati fel rhan o’ch prosiect. Efallai y byddwn yn ariannu plant a phobl ifanc i godi arian, ymgyrchu a chynyddu costau er mwyn gwella cyfleusterau. Ni allwch ddefnyddio eich grant i dalu am welliannau cyfalaf. Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith adeiladu na gwelliannau i gyfleusterau statudol.
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd. (Fodd bynnag, gallwn ariannu sefydliadau crefyddol o hyd)
  • Cyllido tripiau neu brosiectau dramor.
  • Gwaith ymchwil neu driniaeth feddygol.
  • Profion neu gyngor ar feichiogrwydd, gwybodaeth neu gwnsela ynghylch dewisiadau beichiogrwydd.
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gyfatebol.
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl.
  • Gweithgarwch gwleidyddol, sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu ar gyfer lobïo uniongyrchol.
  • Ei drosglwyddo i gyrff eraill.
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol. Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian fel rhan o’r rhaglen hon. Mae eich grant BBC Plant mewn Angen ar gyfer darparu gweithgareddau prosiect yn unig. Ni ellir ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at incwm codi arian.
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb, ad-daliadau dyledion neu gyfraniadau i gronfeydd wrth gefn.
  • Costau diswyddo neu drosglwyddo staff
  • Buddsoddiadau
  • Rhwymedigaethau pensiwn a/neu gyfraniadau at nifer fawr o bensiynau staff
  • Astudiaethau dichonoldeb neu waith cwmpasu
  • Gwaith sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol ag effeithiau camfanteisio’n rhywiol ar blant, neu sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mater hwn
  • Offer ansefydlog sy’n werth dros £20,000 (ee cyfarpar chwarae/synhwyraidd)
  • Prosiectau lle mae disgwyl i wariant y grant ddechrau cyn dyddiad dyfarnu’r grant (cyllid ôl-weithredol).
  • Prosiectau nad ydynt yn gallu cwblhau eu grant erbyn mis Mawrth 2024
  • Gwariant amhenodol.
  • Sefydliadau sydd wedi cael gwybod nad ydynt yn gymwys i dderbyn ein cyllid (darllenwch eich llythyr penderfyniad blaenorol)
  • Gwaith sy’n cael ei wneud y tu allan i’r DU
  • Gwaith gyda phobl ifanc dros 18 oed.
  • Cerbydau gan gynnwys bysiau mini.
  • Offer sefydlog (ee boeleri, goleuadau ac ati)
  • Costau rydych chi eisoes wedi cael arian ar eu cyfer (dyblygiad)

Pa mor hir bydd y grantiau’n para?

  • Byddwn yn ariannu grantiau am unrhyw gyfnod hyd at 18 mis
  • Rydyn ni’n disgwyl y bydd cam datblygu cychwynnol i’ch gwaith, er mwyn i chi allu dylunio a pharatoi yn ôl dewisiadau’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw

Sut beth fydd y broses?

  • Byddwn yn dyfarnu grantiau ym mis Awst. Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn canol Mawrth 2024.
  • Rydyn ni’n disgwyl i’r holl fudiadau llwyddiannus gymryd rhan mewn cam datblygu y byddant yn ei arwain eu hunain am hyd at 6 mis ar ddechrau cyfnod eu grant. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n cymryd amser i gynllunio ac i ddatblygu gwaith yn fanwl, a meithrin gallu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Bydd y cynnwys a’r hyd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer y prosiect a’r mudiad. Yn eich cais, gallwch ofyn am hyd at 10% o’ch cyllideb ar gyfer cefnogaeth datblygu. Byddwn hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth meithrin gallu i’ch mudiad a phlant a phobl ifanc yn ystod y cam hwn. Byddwn yn trafod hyn ymhellach yn y sesiwn wybodaeth. Rydym yn disgwyl y bydd y cam datblygu yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
    • Datblygu cynlluniau prosiect, recriwtio a mireinio eich cyllideb
    • Meithrin gallu’r plant a’r bobl ifanc i gymryd yr awenau wrth siapio’r prosiect
    • Meithrin gallu’r mudiad i redeg prosiect llwyddiannus.
    • Mireinio eich cyllideb

Ar ôl y cyfnod datblygu a ariennir, bydd gan sefydliadau hyd at ganol mis Mawrth 2024 i gyflawni a gwerthuso eu prosiectau gweithredu cymdeithasol

  • Ar ddiwedd y cam datblygu pwrpasol, bydd y mudiadau llwyddiannus yn cwrdd â’u swyddog grantiau i gwblhau cynllun y prosiect a’r gwariant.

Sut mae gwneud cais neu gael gwybod mwy?

Mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid bellach wedi cau.

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb allu gwneud cais am ein cyllid.  Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosibl, pryd bynnag y byddwn yn gallu gwneud hynny. Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015 neu drwy anfon neges e-bost i [email protected].

Ar gyfer y sesiynau gwybodaeth, gallai’r cymorth hwn gynnwys:

  • Darparu trawsgrifiadau ar ôl y sesiwn wybodaeth
  • Galluogi capsiynau caeedig
  • Sgwrs yn hytrach na dod i sesiwn wybodaeth

Ar gyfer y broses ymgeisio, gallai’r cymorth hwn gynnwys

  • Gwneud cais mewn fformatau eraill
  • Defnyddio cyfieithydd

Chi sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnoch chi, felly siaradwch â ni ac fe wnawn ni bopeth gallwn ni i’ch cefnogi chi.

Mae’n bosib y bydd yr wybodaeth a roddwch mewn perthynas â hyn yn ddata categori arbennig o dan ddeddfau diogelu data. Dim ond er mwyn helpu i sicrhau eich bod ein sesiwn gwybodaeth a’n rhaglen grantiau yn hygyrch i chi y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Byddwn yn ei chadw yn unol â’n Polisi Data Categori Arbennig ac Euogfarnau Troseddol (mae modd cael copi o’r polisi, dim ond i chi ofyn). Mae’r ffordd y mae BBC Plant mewn Angen yn prosesu eich data categori arbennig wedi’i seilio’n gyfreithiol ar eich caniatâd penodol chi, ac mae modd i chi dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â [email protected]. Gofynnir i chi roi eich caniatâd pan fyddwch yn cysylltu â ni. Byddwn yn dileu’r wybodaeth ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau. I gael gwybodaeth lawn am breifatrwydd, ewch i https://www.bbcchildreninneed.co.uk/grants/bbc-children-in-need-privacy-notice/

A ddylwn i fynd i sesiwn wybodaeth?

I benderfynu a ddylech chi fynd i sesiwn wybodaeth ac i gael gwybodaeth am y plant a’r bobl ifanc y bwriadwn eu cyrraedd a’r mathau o fudiadau a fydd yn gymwys ar gyfer y gronfa hon, cliciwch ar y penawdau isod.

Mae’r gronfa hon ar gyfer mudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed ac y mae’r canlynol yn effeithio arnyn nhw:

  1. Amddifadedd ardal h.y. plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig iawn, gan gynnwys amddifadedd lleol uchel, diogelwch isel a chymunedau ynysig
  2. Materion sy’n ymwneud ag ymddygiad neu ymgysylltu ag addysg h.y. plant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag ymgysylltu ag addysg a chyflogaeth neu sydd wedi bod yn ymwneud â throseddu
  3. Anabledd h.y. plant anabl (gan gynnwys anableddau dysgu) a phlant ag anawsterau dysgu
  4. Heriau sy’n gysylltiedig â’r teulu h.y. plant a phobl ifanc sy’n wynebu heriau sy’n ymwneud â’u teulu, gan gynnwys trais yn y cartref, gofalwyr ifanc, profiad o ofal a phrofedigaeth
  5. Tlodi cartref ac anawsterau tai h.y. plant a phobl ifanc sy’n byw mewn aelwyd sy’n profi tlodi neu sy’n wynebu anawsterau tai fel digartrefedd neu dai anaddas
  6. Hunaniaeth neu genedligrwydd ymylol h.y. plant a phobl ifanc sy’n perthyn i hunaniaethau neu genhedloedd sydd wedi’u gwthio i’r cyrion yng nghymdeithas y DU
  7. Iechyd meddwl a llesiant emosiynol h.y. plant a phobl ifanc sy’n cael problemau gyda’u hiechyd meddwl neu eu llesiant emosiynol
  8. Niwed personol h.y. plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef niwed personol gan bobl eraill neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed
  9. Iechyd corfforol h.y. plant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd

Mae’r gwaith rydyn ni’n ei ariannu yn gwneud gwahaniaethau ym mywydau plant a phobl ifanc sy’n helpu i atal neu i oresgyn effeithiau’r anfanteision maen nhw’n eu hwynebu. Bydd mudiadau a ariennir yn cyflawni’r gwahaniaethau hyn drwy weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i archwilio a chyflwyno eu syniadau gweithredu cymdeithasol.

Mae’r Cronfa Cadw Fynd Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid wedi’i hanelu’n benodol at fudiadau sy’n cael eu harwain gan bobl Ddu a mudiadau sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc Du. Cewch ragor o wybodaeth am y gronfa yma.

Mae’r Cronfa Cadw Fynd Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid wedi’i hanelu’n benodol at fudiadau sy’n cael eu harwain gan bobl Ddu a mudiadau sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc Du. Cewch ragor o wybodaeth am y gronfa yma.

Nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad o brosiectau gweithredu cymdeithasol dan arweiniad pobl ifanc. Mae arnom eisiau i fudiadau ddweud wrthym pam mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni eu gwaith. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i chi allu rhoi gwybodaeth i ni am y canlynol:

  • Eich cysylltiadau sydd wedi hen ennill eu plwyf gyda phlant a phobl ifanc
  • Eich profiad o gyfranogiad plant / rhannu pŵer gyda phlant a phobl ifanc
  • Sut rydych chi’n gweithio ochr yn ochr â mudiadau eraill yn eu cymuned leol
  • Sut a pham rydych chi eisiau cyflawni prosiectau gweithredu cymdeithasol dan arweiniad pobl ifanc
  • Dangos eich bod yn gallu cefnogi’r plant a’r bobl ifanc i gydlawni prosiectau dan arweiniad pobl ifanc (e.e. staff, gweinyddol ac ati). Dylech gynnwys y costau hyn yn eich cyllideb.

Mae’r Cronfa wedi’i hanelu’n benodol at fudiadau sy’n cael eu harwain gan bobl Ddu a mudiadau sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc Du. Cewch ragor o wybodaeth am y gronfa yma.

Mae BBC Plant mewn Angen yn defnyddio Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau i’n helpu i ddeall cryfderau ymgeisydd o ran cyllid, llywodraethu a Diogelu. Gallwch ddysgu rhagor am y safonau gofynnol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio yn y Gronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yma. 

Rydym am gyllido cyrff sydd yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc difreintiedig. Fel bob amser, mae galw mawr am ein cyllid, ac rydym eisiau sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr newydd, a gan fudiadau sydd â grant BBC Plant mewn Angen yn barod.

Byddwn ond yn derbyn ceisiadau gan fudiadau sydd:

  • Eisiau cyflawni prosiect gweithredu cymdeithasol ieuenctid
  • Yn meddu ar y capasiti a grŵp o blant neu bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw
  • Yn barod i ymgysylltu yn ein cymuned ddysgu ar gyfer y gronfa hon

Sut mae gwneud cais? – Sesiynau gwybodaeth

Mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid bellach wedi cau.

Bydd ffurflenni cais yn cael eu hanfon ar ôl y sesiynau gwybodaeth i’r rhai sydd wedi mynychu neu wedi gwylio fersiwn wedi’i recordio.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais yw dydd Llun 23 Mai am 11.59am.

Bydd penderfyniadau’n cael eu cyfleu i ymgeiswyr erbyn diwedd mis Awst 2022.

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod mudiadau a fyddai’n hoffi gwybod rhagor am weithredu cymdeithasol ieuenctid yn gallu ystyried gwneud cais i’r Gronfa hon. O ganlyniad, byddwn ni hefyd yn cynnal gweithdy ychwanegol dewisol a fydd yn canolbwyntio ar Weithredu Cymdeithasol Ieuenctid a sut mae cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy ystyrlon yn eich gwaith.

Cynhelir gweithdai Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid ar y dyddiadau canlynol:

  • 26 Ebrill 4.30pm (Llawn)
  • 28 Ebrill 4.30pm (Llawn)
  • 7fed Mai, 10:30am (Llawn)

Mae’r gweithdai Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid bellach yn llawn.

Ynglŷn â'n partneriaid

  • Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyd yn buddsoddi £20 miliwn i greu Cronfa #byddaf. Mae BBC Plant mewn Angen yn gweithredu fel ariannwr cyfatebol ac yn dyfarnu grantiau ar ran Cronfa #byddaf. Mae Cronfa #byddaf yn dwyn ynghyd grŵp o sefydliadau sydd i gyd yn cyfrannu cyllid i ymgorffori gweithredu cymdeithasol ym mywydau pobl ifanc.
  • Mae Sefydliad Hunter (THF) yn fenter dyngarwch rhagweithiol sy’n buddsoddi mewn atebion enghreifftiol, mewn partneriaeth ag eraill, i faterion systemig sy’n ymwneud â lleihau tlodi a galluogi addysgol. Ein cred gref yw y gellir goresgyn y ffactorau hynny er mwyn rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn lwyddo waeth beth fo’i leoliad; Kigali, Rwanda neu Kilmarnock, yr Alban.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1