Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Close up of a girl's hand on her wheelchair in a group of volunteers

Cwestiynau Cyffredin

Y cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn fwyaf aml ynghylch y broses gwneud cais am grant.

Pwy sy’n gallu ymgeisio am grant?

Rydym yn cyllido mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais sy’n 18 oed neu’n iau. Rhaid i’r plant a’r bobl ifanc fyw yn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Mudiadau corfforedig elusennol, gan gynnwys mudiadau corfforedig elusennol yn yr Alban
  • Cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant gyda chymal yn eu dogfen lywodraethu yn atal dosbarthu elw (gan gynnwys mentrau cymdeithasol)
  • Cymdeithasau Tai
  • Cymdeithasau budd cymunedol diwydiannol a darbodus
  • Elusennau cofrestredig
  • Sefydliadau crefyddol
  • Ysgolion arbennig, gyda darpariaethau ar gyfer plant ag anawsterau dysgu neu anableddau na ellir eu diwallu mewn lleoliad prif ffrwd
  • Mudiadau gwirfoddol gyda chymal nid-er-elw clir yn eu dogfen lywodraethu

Nid ydym yn cyllido cyrff llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorau ar bob lefel. Nid ydym yn cyllido unrhyw gorff sy’n rhan o’r GIG na charchardai.

Rydym yn disgwyl i bob mudiad fod wedi bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.

Os ydych chi’n dal yn ansicr a yw eich grŵp yn gallu gwneud cais am grant BBC Plant mewn Angen, darllenwch ein Canllawiau A-Y, neu cysylltwch â ni.

Mae ein Rhaglen Hanfodion Brys yn dyfarnu grantiau i blant a phobl ifanc unigol. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n cael anawsterau drwy gyllido eitemau penodol i ddiwallu anghenion mwyaf sylfaenol plant. Gallai enghreifftiau gynnwys gwely i gysgu ynddo, popty i ddarparu prydau poeth, neu ddillad mewn argyfwng. Nid ydym fel arfer yn derbyn ceisiadau i ddarparu cronfeydd lles.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y gwnawn ni ystyried achos gan sefydliad sy’n targedu cynulleidfa ehangach. Enghraifft o hyn fyddai sefydliad sy’n anelu at lunio pecynnau dechreuol ar gyfer pobl ifanc ddigartref.

Mae’n bosibl y gwnawn ni hefyd ystyried ceisiadau am eitem benodol i helpu plentyn mae salwch yn effeithio arno. Byddai angen i’r ceisiadau hynny gael eu gwneud gan fudiad cymwys sy’n gallu ateb cwestiynau am y plentyn a’i sefyllfa.

Oes, cyn belled â bod mwyafrif sylweddol o’r plant a’r bobl ifanc a fyddai’n elwa ar y grant yn 18 oed neu’n iau. Cofiwch mai dim ond costau gweithio gyda phobl ifanc 18 oed neu iau y byddwn ni’n eu cyllido.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i geisiadau am waith gyda phobl ifanc anabl.

Gall sefydliadau sydd eisoes yn cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod disgwyl i’r cyllid presennol yn dod i ben o fewn 12 mis. Fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi grant gennym ni’n barod gyda thros 12 mis ar ôl i’w ddarparu.

Mae ein ffrydiau Craidd a’n Prosiectau yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantai cyfredol na blaenorol yn warant o gael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Os byddwch yn llwyddo â chais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei ddyfarnu.

Gallwch. Cyfeiriwch at ein Safonau Gofynnol, sy’n dweud wrthych pa ofynion sylfaenol sydd eu hangen ar eich mudiad.

Dylech gyflwyno rhagolwg ariannol 12 mis gyda’ch cais, yn hytrach na set o gyfrifon. Dylai eich rhagolygon gynnwys y canlynol o leiaf:

  • Incwm rhagamcanol
  • Gwariant rhagamcanol
  • Tystiolaeth o gynllunio ar gyfer cynhyrchu incwm

Mae’n bosibl y byddwch chi hefyd yn gymwys ar gyfer ein cronfa ‘Grantiau sy’n dod i’r amlwg’ newydd a fydd yn agor yng ngwanwyn 2023. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rydym yn ceisio rhoi blaenoriaeth i fudiadau lleol, llai.

Yn anaml iawn y byddwn ni’n cyllido Costau Prosiect ar gyfer mudiadau sydd â throsiant blynyddol o fwy na £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf. Yn anaml iawn y byddwn ni’n cyllido Costau Craidd ar gyfer sefydliadau sydd â throsiant blynyddol o dros £1 miliwn.

Rydym yn deall bod rhai mudiadau sydd ag incwm uwch yn gwneud gwaith hanfodol dros blant a phobl ifanc. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan y sefydliadau a ganlyn, beth bynnag fo’u trosiant:

  • Hosbisau (gan gynnwys hosbisau plant)
  • Cymdeithasau Tai
  • Rhaglenni sy’n darparu gwaith ar draws y wlad (ar draws y wlad gyfan) neu ledled y Deyrnas Unedig (ar draws nifer o wledydd yn y Deyrnas Unedig)

Rydym yn deall, mewn rhai amgylchiadau, y gallai mudiadau mwy a/neu fudiadau cenedlaethol fod yn y sefyllfa orau i ddarparu gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.

Prosiectau neu wasanaethau yw’r rhain lle mae’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael budd yn byw ledled y Deyrnas Unedig.

Er enghraifft, mae’n bosibl fod eich prosiect neu eich staff wedi eu lleoli mewn un ardal, ond eu bod yn darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc ledled y wlad. Gallai hyn fod drwy gymorth ar-lein neu dros y ffôn, gwaith wyneb yn wyneb o bell, neu drwy ddod â chyfranogwyr i’ch lleoliad.

Os ydych chi’n gwneud cais am waith ledled y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi ddweud wrthym sut rydych chi’n bwriadu cyrraedd plant a phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig.

Rydym yn trin canghennau annibynnol o fudiadau cenedlaethol fel mudiadau ar wahân. Rhaid i ganghennau annibynnol feddu ar eu cyfansoddiad a’u cyfrifon ariannol eu hunain, eu pwyllgor rheoli eu hunain a rhaid iddynt fod yn gwbl gyfrifol am eu cyllid eu hunain. Gallwn dderbyn ceisiadau gan bob cangen.

Ar gyfer Grantiau Prosiect
Gall mudiadau ledled y Deyrnas Unedig gael un grant prosiect ym mhob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban).
O fewn pob gwlad, mae ein rheolau arferol yn berthnasol i ganghennau lleol sefydliad mwy.

Ar gyfer Grantiau Craidd
Dim ond un grant Costau Craidd y gall mudiadau ei gael ar unrhyw adeg, ni waeth ble yn y Deyrnas Unedig maent yn cyflawni eu gwaith.

Ni all y mudiad ddal grant Craidd os oes ganddo grant Prosiect mewn unrhyw un o’r Gwledydd.

Gallwn gyllido grwpiau sy’n gweithio mewn partneriaeth. Rhaid i’r corff arweiniol enwebedig wneud y cais, a bydd yn atebol am y canlynol:

  • Cyflawni’r gwaith fel y cytunwyd
  • Diogelu
  • Rheoli’r grant ac adrodd yn ôl
  • Rheoli gweithwyr sy’n cael eu cyllido fel rhan o’r grant
  • Sicrhau bod y gwaith yn cyflawni’r canlyniadau a ddatganwyd

Rhaid i geisiadau gan bartneriaethau hefyd fodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.

Dylai cytundeb partneriaeth fod yn ei le cyn i chi wneud cais, a gofynnir i chi grynhoi hyn yn eich cais.

Ar gyfer beth ydych chi’n rhoi grantiau?

Bydd y bobl a’r sefydliadau y bydd BBC Plant mewn Angen yn eu cyllido yn:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maent yn ei wneud, o’r dylunio i’r cyflawni
  • Mynd i’r afael â’r heriau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u cydnerthedd
  • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • Wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc

Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod chi’n bodloni ein Safonau Sylfaenol ar gyfer dyfarnu grantiau.

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cyfeirio at ein Canllawiau A-Y ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi o ran gwneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido.

Mae ein Canllawiau A-Y yn cynnwys manylion ein polisïau dyfarnu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer rhai mathau o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n chwilio am gyllid ar gyfer offer.

  • Faint allwn ni wneud cais amdano?
  • Mae ein ffrydiau Costau Prosiect a Chostau Craidd yn cynorthwyo prosiectau am hyd at dair blynedd
  • Nid ydym yn rhoi grantiau o fwy na £120,000 (neu £40,000 y flwyddyn), ac mae’r rhan fwyaf o’r grantiau a ddyfernir gennym yn llai o lawer na hyn
  • Bob blwyddyn, rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau am gyllid nag y gallwn eu cefnogi
  • Mae ceisiadau am symiau mwy bob amser yn fwy anodd i ni eu cyllido
  • Bydd ceisiadau am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn yn derbyn penderfyniad cyflymach gennym ni, ac felly byddant yn gallu dechrau gweithio’n gynt os byddant yn llwyddiannus
  • Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn gan fudiadau oni bai eu bod wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol
    • Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban
    • Os ydych chi’n gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • Os yw eich gwaith yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn
    • Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant sydd wedi eu heffeithio gan gamfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol
    • Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu

Gallwch. Mae ein ffrwd cyllido Costau Craidd yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol ar gyfer elusennau a mudiadau nid-er-elw.

Gellir gwario cyllid Costau Craidd ar weithrediadau canolog eich mudiad o ddydd i ddydd – y prif dreuliau sydd eu hangen i gynnal eich mudiad. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

  • Rheoli a gweinyddu
  • Adnoddau Dynol a’r gyflogres
  • Costau swyddfa cyffredinol
  • Cyfrifeg ac archwilio
  • Cyfathrebu ac allgymorth
  • Gwaith monitro, gwerthuso a dysgu
  • Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio

Gall ymgeiswyr i’r rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Ein nod yw gwneud penderfyniadau cyflymach am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

Gallwch. Rydym yn derbyn ceisiadau am gostau staffio ar yr amod bod y rolau’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Gallwch ofyn am gostau staffio yn ein ffrydiau cyllido Craidd a Phrosiect.

Wrth wneud cais am gostau staffio, meddyliwch am y pethau hyn:

  • Gofynnwch am y cyflog rydych chi’n meddwl mae’r swydd yn ei haeddu, nid yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwn ni eisiau ei dalu. Rydym eisiau cyllido swyddi sy’n llwyddo, ac rydym yn disgwyl i’r cyflog fod yn unol â swyddi tebyg ar draws y sector.
  • Dylid nodi’r costau ar gyfer pob swydd gyflogedig ar eich ffurflen gais. Os nad ydych chi’n gwbl sicr ynghylch y costau, dylech gynnwys eich trysorydd i wneud yn siŵr bod y rhain yn gywir
  • Mae angen hysbysebu swyddi newydd yn gyhoeddus; ystyriwch a oes angen i chi gynnwys costau recriwtio fel rhan o’ch cais
  • Cofiwch gynnwys costau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogi rhywun. Gallai hyn gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn
  • Cofiwch ganiatáu ar gyfer chwyddiant yn eich costau

Rydym yn cydnabod yr angen i gyflogi staff sesiynol at ddibenion darparu mathau penodol o brosiectau neu weithgareddau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gynlluniau chwarae tymor byr neu unwaith ac am byth yn ystod y gwyliau. Fodd bynnag, pan fo’n bosibl, credwn ei bod yn fwy tebygol o sicrhau canlyniadau da i blant os yw sefydliadau’n cynnig contractau cyfnod penodol ar gyfer prosiectau.

Mae’n bosibl y gwnawn ni ystyried ceisiadau am waith sy’n cefnogi rhieni, neu sy’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau magu plant, ar yr amod y bydd o fudd uniongyrchol i fywydau plant a phobl ifanc. Bydd angen darparu tystiolaeth glir iawn o’r canlyniadau hyn.

Nid ydym yn cyllido prosiectau cyfalaf nac adeiladu. Mae hyn yn cynnwys adeiladu o’r newydd, yn ogystal ag adnewyddu neu addasu adeiladau a lleoliadau presennol. ‘Ni fyddwn yn cyllido costau offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau, ac ati). Mae’n bosibl y gwnawn ni ystyried ceisiadau am offer nad yw’n sefydlog (e.e. eitemau chwarae neu synhwyraidd) nad ydynt yn werth mwy nag £20,000.

Pryd ddylen ni wneud cais a beth fydd yn digwydd nesaf?

Nid oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ein ffrydiau Costau Prosiect a Chostau Craidd. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn cyllido unrhyw waith sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a gododd cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi penderfyniad i chi. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi ddechrau gwario eich grant o fewn 12 mis.

Cynlluniwch ddyddiad eich cais er mwyn i chi gael penderfyniad mewn da bryd cyn i’r gwaith ddechrau. Rydym yn cael nifer uchel iawn o geisiadau rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Os byddwch chi’n cyflwyno ffurflen yn ystod y misoedd hyn, mae’n cymryd mwy o amser i gael penderfyniad.

Dim ond un Grant Prosiect neu un Grant Craidd y gall mudiad ei ddal ar unrhyw adeg. Yr eithriad i hyn yw y gall mudiadau ledled y Deyrnas Unedig gael un grant Prosiect ym mhob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban). Ni all mudiad gael Grant Prosiect a Grant Craidd.

Os byddwch chi’n cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ond nad ydym yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd eich llythyr penderfyniad yn egluro pa mor hir y bydd angen i chi aros cyn cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb arall. Bydd hyn o leiaf chwe mis ar ôl y penderfyniad hwn.
Rydym wedi cael grant gan BBC Plant mewn Angen yn barod. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?
Gall sefydliadau sydd eisoes yn cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod disgwyl i’r cyllid presennol yn dod i ben o fewn 12 mis. Fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi grant gennym ni’n barod gyda thros 12 mis ar ôl i’w ddarparu.

Mae ein ffrydiau Craidd a’n Prosiectau yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantai cyfredol na blaenorol yn warant o gael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Os byddwch yn llwyddo â chais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei gynnig.

Canllawiau i’r derbynyddion grant presennol sy’n dymuno gwneud cais i’n ffrydiau ariannu Prosiect neu Graidd

 

  • Os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn naill ai Grant Bach neu Brif Grant gan BBC Plant mewn Angen a fydd yn dod i ben yn ystod y 12 mis nesaf, gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd.
  • Os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn Grant Bach a Phrif Grant gennym, gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd unwaith y bydd eich Grant Bach neu Brif Grant yn ei 12 mis diwethaf.
  • Ni chewch wneud cais am Grant Prosiect na Grant Craidd os oes gennych chi ar hyn o bryd mwy na 12 mis ar ôl ar:
    • Grant bach yn unig
    • Prif grant yn unig,
    • Grant Bach a Phrif Grant.
  • Os nad oes gennych chi Grant Bach neu Brif Grant ar hyn o bryd, ond bod gennych chi fath arall o grant BBC Plant mewn Angen (e.e. We Move, YSA, Curiosity, Inspiring Futures, ac ati), gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd unrhyw bryd.

 

Gwybodaeth bwysig os ydych chi’n dderbynnydd grant presennol a’ch bod eisiau gwneud cais i’n ffrydiau ariannu Prosiect neu Graidd

 

  • Os oes gennych chi Grant Bach a/neu Brif Grant yn ystod y 12 mis diwethaf, a’ch bod yn llwyddiannus yn gwneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd, hwn fydd yr unig grant sydd gennych chi gyda ni pan fydd eich Grant Bach a/neu eich Prif Grant yn cyrraedd eu dyddiad gorffen.
    • Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am ail Grant Prosiect neu Grant Craidd tra byddwch eisoes gydag un yn barod – hyd yn oed os oeddech yn arfer dal Grant Bach a Phrif Grant ar yr un pryd.
    • Am y rheswm hwn, dylai sefydliadau feddwl yn ofalus wrth wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd ynghylch pa fath fyddai’r ffordd orau o gefnogi eu gwaith yn y dyfodol.
  • Os oes gennych chi Grant Bach neu Brif Grant yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi llwyddo i wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd, ni fydd arian ar gyfer y grant newydd yn cael ei ryddhau nes bydd y grant presennol hwnnw wedi dod i ben.
  • Ni ellir defnyddio Grant Prosiect neu Grant Craidd i ariannu unrhyw weithgaredd sydd eisoes yn cael ei ariannu drwy Grant Bach neu Brif Grant i’r un mudiad. Felly, os ydych chi’n llwyddiannus am Grant Prosiect neu Grant Craidd a fydd yn cael ei ddarparu ar yr un pryd â Grant Bach neu Brif Grant presennol, ni all y grant newydd fod ar gyfer yr un gweithgaredd â’r grant presennol.

Mae ein ffrydiau Prosiect a Chraidd yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantî presennol neu flaenorol yn warant o gael cynnig cyllid pellach. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.

Os byddwch yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd hyd nes y byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei gynnig.

Y cam cyntaf wrth wneud cais am Gostau Prosiect yw llenwi ffurflen Datgan Diddordeb fer ar-lein. Defnyddiwch y ffurflen Mynegi Diddordeb i ddweud ychydig mwy wrthym am eich mudiad, a’r gwaith rydych chi am i ni ei gyllido. Fe welwch y ffurflen Mynegi Diddordeb yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydym am gefnogi’r gwaith a amlinellir yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch i’w llenwi. Bydd ein Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol yn eich helpu i ddeall sut rydym yn blaenoriaethu penderfyniadau.

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi ei chael. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf:

  • Os na fydd eich Ffurflen Mynegi Diddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad
  • Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Mynegiant o Diddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch chi at Ffurflen Gais ar-lein lawn
  • Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
  • Bydd gennych 120 diwrnod i gyflwyno eich cais llawn, o’r diwrnod y byddwn yn anfon y ddolen atoch

Mae’n bosibl y gwnawn ni benderfynu y byddai eich ffurflen Mynegi Diddordeb yn cyd-fynd yn well ag un o’n ffrydiau cyllido eraill, ac nid yr un rydych chi wedi gwneud cais amdano. Os felly, byddwn yn anfon dolen i ffurflen gais atoch ar gyfer y ffrwd sy’n cefnogi eich gwaith arfaethedig orau.

Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi ei chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf:

  • Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y costau y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid
  • Byddwn wedyn yn defnyddio proses safonol i’n helpu i benderfynu pa geisiadau i’w hystyried ymhellach. Ymysg pethau eraill, bydd y broses hon yn ystyried:
    • Nifer y ceisiadau ar hyn o bryd
    • Y gyllideb gyfredol sydd ar gael
    • Ein meysydd diddordeb rhanbarthol neu genedlaethol
  • Mae’n bosibl y gwnawn ni ofyn i chi drefnu slot amser gyda ni ar gyfer galwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
  • Mae’n bosibl y gwnawn ni ofyn hefyd am ragor o wybodaeth am eich cais neu am eich gwaith
  • Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu eich gwlad, lle gwneir argymhelliad cyllido
  • Trosglwyddir argymhellion i’n hymddiriedolwyr, a gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi

Ar ôl gwneud penderfyniad, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am faint o amser y bydd yn ei gymryd i wrando ar benderfyniad.

Cofiwch y gall Asesydd sy’n gweithio ar ein rhan ar ei liwt ei hun gysylltu â chi; nid oes gan yr Aseswyr hyn gyfeiriadau e-bost BBC Plant mewn Angen. Os nad ydych chi’n siŵr ai rhywun sy’n gweithio ar ein rhan sydd wedi cysylltu â chi, gallwch gysylltu â ni ar 0345 609 0015 neu [email protected] i wneud yn siŵr.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn esbonio mwy am beth sy’n digwydd nesaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn yr adran ‘Mae gen i grant’.

  • Bydd llythyr dyfarnu ynghlwm wrth yr e-bost. Mae hwn yn amlinellu telerau ac amodau eich grant, ac mae’n cynnwys Ffurflen Derbyn Grant
  • Dylai Cadeirydd a Thrysorydd eich corff llywodraethu lofnodi a dyddio eich ffurflen
  • Darllenwch eich llythyr dyfarnu’n ofalus, oherwydd mae’n bosibl y bydd amodau pellach ar eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud, neu bethau y bydd angen i chi eu dweud wrthym, cyn y gallwn ddyfarnu’r cyllid y cytunwyd arno i chi
  • Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn anfon ein penderfyniad atoch drwy e-bost

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd gallwch chi wneud cais eto.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.

Os na ddyfernir eich cais, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost honno’n rhoi rhai rhesymau byr pam na chafodd eich cais ei gyllido. Bydd yr e-bost hefyd yn dweud wrthych pryd gallwch chi wneud cais nesaf.

Mae hyn yn dibynnu ar i ba raddau mae eich cais wedi cael ei ddatblygu. Os bydd eich prosiect yn aflwyddiannus cyn cyrraedd y cam asesu, byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn amlinellu pam. Oherwydd y nifer fawr o sefydliadau sy’n cofrestru drwy’r broses hon, ni allwn roi unrhyw adborth pellach i chi ar hyn o bryd.

Os bydd eich prosiect yn cyrraedd y cam asesu, byddwn yn anfon e-bost atoch yn rhoi adborth ar eich cais. Os ydych chi’n dymuno gofyn am ragor o adborth, bydd manylion ynghylch sut mae gwneud hynny’n cael eu cynnwys yn eich llythyr penderfyniad.

Pa ddogfennau ychwanegol y mae angen i mi eu hatodi i fy ffurflen gais?

Mae dogfen lywodraethu yn amlinellu rheolau, amcanion a sut maent yn gwneud penderfyniadau. Yn aml, gelwir y ddogfen hon yn gyfansoddiad. Ar gyfer Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, fe’i gelwir yn Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu.

Dylai eich dogfen lywodraethu ddatgan:

  • Nad yw’r mudiad yn gwneud elw, neu’n dangos yn glir bod yr holl incwm yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol y mudiad (ac nad yw’n cael ei ddosbarthu i aelodau, cyfranddalwyr neu berchnogion)
  • Nodau elusennol sy’n addas ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig
  • Cymal diddymu neu gymal clo asedau (ar gyfer Cwmnïau Buddiannau Cymunedol). Mae hyn yn dangos y bydd asedau eich mudiad yn cael eu dosbarthu i fudiad nid-er-elw a enwir sydd â nodau elusennol tebyg os caiff ei gau

Dylai eich cyfrifon:

  • Gwmpasu cyfnod o 12 mis
  • Fod ddim mwy na 18 mis oed
  • Fod wedi eu llofnodi a’u dyddio gan eich Cadeirydd neu Drysorydd eich Corff Llywodraethu

Os yw eich cyfrifon diweddaraf dros 18 mis oed, rhaid i chi hefyd ddarparu eich set ddiweddaraf o Gyfrifon Rheoli. Bydd y rhain yn dangos:

  • Incwm a gwariant dros y 12 mis diwethaf
  • Unrhyw incwm a ddygwyd ymlaen
  • Incwm y disgwylir y bydd yn cael ei gario drosodd

Mae arnom angen gwahanol fathau o gyfrifon gan wahanol fathau o sefydliadau, fel a ganlyn:

Efallai mai dim ond dros 12 mis y bydd mudiad newydd yn gallu dangos yr incwm a’r gwariant a ragwelir. Dylai eich rhagolwg gynnwys y canlynol o leiaf:

  • Incwm rhagamcanol
  • Gwariant rhagamcanol
  • Tystiolaeth o gynllunio/eglurder o ran cynhyrchu incwm – sut ydych chi’n disgwyl i’r mudiad/gwaith dyfu dros y flwyddyn nesaf?

Dylai mudiad gydag incwm o lai na £25,000 ddarparu incwm a gwariant, yn ogystal ag unrhyw eitem ar y fantolen.

Dylai mudiad sydd ag incwm o dros £25,000 ond llai na £1 miliwn ddarparu cyfrifon sydd wedi cael eu hadolygu gan un sydd â chymwysterau priodol. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn archwiliad. Bydd angen cyfrifon archwiliedig os bydd cyfanswm yr asedau (cyn rhwymedigaethau) yn fwy na £3.26 miliwn, ac os yw incwm gros y mudiad yn fwy na £250,000.

Dylai mudiad gydag incwm o dros £1 miliwn ddarparu cyfrifon a archwiliwyd yn allanol. Mae hyn yn debygol o gynnwys adroddiad manwl gan yr Ymddiriedolwyr, a nodiadau ar y cyfrifon.

Os nad yw dogfennau cyfrifon eich sefydliad yn dangos dadansoddiad o gronfeydd cyfyngedig ac anghyfyngedig neu asedau cyfredol a rhwymedigaethau cyfredol (a’i bod yn ofynnol i chi wneud hyn gan eich rheoleiddiwr), llenwch y Templed Ariannol. I lenwi’r ddogfen hon, bydd angen i chi gael cofnod o’ch incwm, eich gwariant a’ch cronfeydd wrth gefn, yn ogystal â dadansoddiad o unrhyw asedau a rhwymedigaethau cyfredol. I weld y templed ariannol a’r canllawiau, cliciwch yma.

Cofiwch, os ydych chi’n llenwi’r templed ariannol, bydd angen i chi hefyd gyflwyno eich set ddiweddaraf o gyfrifon gyda’ch ffurflen gais.

Mae’n well gennym fersiynau electronig o’ch cyfrifon, er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Os ydych chi’n cael trafferth atodi dogfennau i ffurflen ar-lein, gallwch eu hanfon atom dros e-bost yn [email protected]. Cofiwch gynnwys enw eich sefydliad, er mwyn i ni allu cyfateb eich dogfennau i’ch ffurflen gais.

Os ydych chi’n dal i fethu anfon dogfennau atom yn electronig, ffoniwch ein desg gymorth ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].

Nid oes angen rhagor o ddogfennau arnom gan ymgeiswyr sy’n gofyn i ni gyllido costau staffio.

Byddai’n well gennym pe na baech yn anfon rhagor o wybodaeth atom na’r hyn rydym wedi gofyn amdano. Mae hyn yn ein helpu i brosesu eich ceisiadau’n gynt.

Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw ddeunydd ychwanegol y byddwch yn ei anfon atom yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif.

Help! Rwy’n cael trafferth gyda’r system ymgeisio ar-lein.

Help! Rwy’n cael trafferth gyda’r system ymgeisio ar-lein.

Rydyn ni eisiau bod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall, neu ddarparu ffurflenni/canllawiau mewn fformatau eraill. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiwn.

Os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].

Na, dim ond ceisiadau ar-lein y gallwn ni eu derbyn. Os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].

Os ydych chi’n cael problemau technegol gyda’ch ffurflen gais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected]. Mae ein desg gymorth yn agored rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol.

  1. Cadwch fersiwn electronig o’ch dogfennau ar eich cyfrifiadur yn rhywle sy’n hawdd i chi ddod o hyd iddo
  2. Dewiswch enw’r ddogfen berthnasol yn y cwympflwch (e.e. cyfrifon)
  3. Cliciwch ‘Pori’ i edrych drwy’r ffolderi ar eich cyfrifiadur, a dewis y ffeil lle mae wedi ei chadw
  4. Ar ôl i chi ddewis y ffeil, cliciwch ar ‘Iawn’
  5. Bydd llwybr y ffeil (dyma enw’r ddogfen a’r ffolder y mae’n cael ei chadw ynddi) yn ymddangos yn y blwch isod. Cliciwch ‘Llwytho i fyny’ a bydd y ddogfen yn dechrau atodi
  6. Pan gaiff ei lwytho i fyny, bydd y ffurflen ar-lein yn rhestru eich dogfen fel atodiad ar waelod y dudalen atodiadau
  7. Gwnewch hyn eto ar gyfer yr holl ddogfennau
  8. Cliciwch ar ‘SUBMIT’
  9. Os ydych chi’n cael unrhyw broblem dechnegol gyda’ch ffurflen gais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].

Gallwn eich helpu i lenwi cais. Ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].

Dim ond os ydych chi wedi ateb yr holl gwestiynau ac wedi atodi’r dogfennau sydd eu hangen arnom y bydd modd i chi gyflwyno eich ffurflen gais.

Mae terfyn ar nifer y geiriau yn rhai o’r cwestiynau. Mae gan eraill gyfarwyddiadau penodol ar sut i ateb (er enghraifft, pan fydd yn rhaid i chi roi atebion i rifau, ni ddylech ddefnyddio atalnodi). Os nad ydych chi wedi dilyn y cyfarwyddiadau hyn, bydd saethau coch yn ymddangos i dynnu sylw at unrhyw broblem pan fyddwch chi’n ceisio cyflwyno eich ffurflen.

Ar ôl i chi fynd i’r afael â’r problemau hyn, cliciwch y botwm diweddaru ar waelod y sgrin. Dylech wedyn allu cyflwyno eich cais.

Os ydych chi’n dal i gael problemau, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].

Mae rhai adrannau o’r ffurflen yn cynnwys nodau, yn hytrach na geiriau. Mae’n bosibl fod gennych chi ormod o lythrennau yn eich ateb. Bydd pob llythyren, bwlch ac eitem unigol o atalnodi yn cyfrif tuag at derfyn eich nodau.

Os ydych chi’n dal i gael problemau, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].

 

Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch cais, ffoniwch ni ar y llinell Rhadffôn 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost i [email protected]. Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi, ond ni allwn eich helpu i ysgrifennu eich cais.

Ni allwn wirio ceisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae’n bosibl y gall eich CGS lleol neu eich gwasanaeth cyngor am gyllid eich helpu.

Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch cais, ffoniwch ni ar y linell Rhadffôn 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost i [email protected]. Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1