Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Two small boys sitting in a field of yellow flowers staring into the distance

Canllaw A-Y

Polisïau a chanllawiau

Mae BBC Plant mewn Angen yn ei gwneud yn ofynnol i bob sefydliad fodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau. Disgwyliwn i bob cais am grant adlewyrchu’r egwyddorion craidd hyn (cliciwch bob pwnc isod i agor ateb manwl):

Disgwyliwn i’ch gwaith ganolbwyntio ar fynd i’r afael â materion difreintedd sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Rydym yn diffinio difreintedd fel:

  • Salwch, trallod, cam-drin neu esgeulustod.
  • Unrhyw fath o anabledd.
  • Anawsterau ymddygiad neu seicolegol.
  • Byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd.

Wrth wneud cais, mae angen i chi:

  • Ddangos bod y mwyafrif clir o’r plant a fydd yn elwa ar y grant yn ddifreintiedig.
  • Dweud wrthym am y plant a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.
  • Disgrifio sut mae’r anfanteision y maent yn eu profi yn effeithio ar eu bywydau.
  • Disgrifio sut rydych chi’n cyrraedd y plant a’r bobl ifanc difreintiedig a all elwa fwyaf ar y gwaith.
  • Dweud wrthym sut byddwch yn targedu’r plant a’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd.

Wrth wneud cais, mae angen i chi ddangos:

  • Sut rydych chi wedi ystyried barn plant a phobl ifanc wrth gynllunio’r gwaith a’r gwahaniaethau y bydd yn ei wneud yn eu bywydau
  • Sut byddwch yn parhau i’w cynnwys ac ymgynghori â nhw wrth i’r gwaith fynd rhagddo
  • Sut bydd plant a phobl ifanc sy’n ymwneud â rhedeg neu reoli agweddau ar y gwaith yn cael eu cefnogi

Gwyddom y gallai fod rhesymau pam y gall rhai mathau o waith gynnig ymgynghoriad cyfyngedig yn unig. Bydd angen i chi allu esbonio pam mai felly y mae pethau.

Mae’n rhaid i chi ddangos sut byddwch yn amddiffyn plant a phobl ifanc yn eich gofal ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu.

Bydd angen i’ch cais ddangos:

  • Mae gan eich sefydliad ei Bolisi a’i weithdrefnau Diogelu Plant a Phobl Ifanc ei hun
    • Mae’r polisi hwn yn enw eich sefydliad
  • Dylai pawb sy’n rhan o’r gwaith – gan gynnwys y plant a phobl ifanc – wybod am eich polisi a’ch gweithdrefnau, a’u defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd
  • Mae eich polisi yn nodi’r camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu bryder yn codi
    • Dylai hyn gynnwys pwy i’w hysbysu a sut i gysylltu â nhw
  • Mae gan eich sefydliad berson penodol sy’n gyfrifol am ddiogelu
  • Mae archwiliadau cefndir priodol a rheolaidd yn cael eu cynnal
    • Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc
  • Mae’r holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r pwyllgor yn cael hyfforddiant diogelu plant
    • Mae hyfforddiant diogelu yn berthnasol i rolau pobl, mae’n ymwneud â pholisi eich sefydliad, ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd
  • Mae eich sefydliad yn cymryd camau priodol i sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc yn eich gofal yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi
    • Gallai hyn fod drwy wneud asesiadau risg neu drwy fynnu bod gan oruchwylwyr gymwysterau perthnasol

Mae’r mesurau hyn yn helpu i sicrhau bod y plentyn neu’r unigolyn ifanc yn eich gofal yn cael profiad da wrth gymryd rhan yn eich gwaith.

Os caiff eich cais am gyllid ei symud ymlaen i’r cam ymgeisio llawn, byddwn yn dymuno gwybod mwy am eich dull o ddiogelu.

Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn rhag niwed. Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb ni i ddiogelu lles yr holl blant a phobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn ymrwymo i ymarfer sy’n eu hamddiffyn.

Nid ydym ac ni allwn fod yn arbenigwyr ar ddiogelu. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r NSPCC a sefydliadau blaenllaw eraill i hyrwyddo arfer gorau o ran diogelu plant a phobl ifanc.

Mae gan wefan yr NSPCC adnoddau ar ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Rhowch sylw arbennig i’r canllawiau canlynol:

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn taro golwg ar Everyone’s Business: Safeguarding for Trustees gan Children England. Mae cyngor ac adnoddau diogelu ychwanegol hefyd ar gael ar wefannau NCVO a’r Comisiwn Elusennau.

Nid ydym yn darparu cyllid ar gyfer gwaith y mae cyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) yn gyfrifol am eu darparu. Nid ydym yn ariannu gwaith sy’n dyblygu neu’n cymryd lle’r gweithgareddau hyn.

Gallwn ystyried ceisiadau am wasanaethau ychwanegol sydd y tu hwnt i gyfrifoldeb y wladwriaeth. Os mai dyna’r sefyllfa, byddem yn disgwyl i chi ddangos tystiolaeth glir o sut mae hwn yn wasanaeth ychwanegol.

Polisïau a chanllawiau

Mae’r wybodaeth a ganlyn yn rhestru polisïau a chanllawiau i ymgeiswyr.

Rydym eisiau sicrhau nad ydych chi’n gwastraffu amser yn gwneud cais am bethau nad ydym yn eu cyllido. Fe welwch fanylion gwerthfawr am ein disgwyliadau yma. Mae rhai’n berthnasol i bob cais – er enghraifft, diogelu. Mae rhai’n bwysig ar gyfer rhai mathau o geisiadau – fel cwnsela neu offer, er enghraifft.

Nid ydym yn ariannu prosiectau cyfalaf na phrosiectau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys adeiladau newydd, yn ogystal ag adnewyddu neu addasu adeiladau a lleoliadau presennol.

Ni fyddwn yn ariannu offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau ac ati), nac offer heb fod yn sefydlog sy’n dod i gyfanswm o dros £20,000 (e.e. offer chwarae/synhwyraidd).

(Gweler hefyd: Offer)

Rydym yn cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae hwn yn nodi bod perthynas anghyfartal mewn cymdeithas, ac nad yw anghenion pobl a chanddynt nam yn cael digon o ystyriaeth yn aml. Gall hyn arwain at allgáu cymdeithasol.

O ganlyniad i’r rhwystrau sy’n wynebu plant a phobl ifanc anabl, efallai y byddant hefyd yn wynebu anfanteision eraill. Gall y rhain gynnwys tlodi, ynysu, llai o fynediad at weithgareddau hamdden a chyfeillgarwch, salwch a chyfleoedd cyfyngedig.

  • Rydym am i’n cyllid roi cymorth i blant a phobl ifanc anabl mewn ffyrdd sydd yn:
  • Gwella eu dewisiadau a’u cyfleoedd
  • Gwella eu galluoedd
  • Annog annibyniaeth
  • Magu hyder a hunan-barch
  • Dangos pobl ifanc ac oedolion anabl fel modelau rôl cadarnhaol
  • Gwrthsefyll agweddau negyddol a rhwystrau i gymryd rhan
  • Cydnabod anghenion teuluoedd a gofalwyr.

Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sy’n atgyfnerthu stereoteipiau negyddol o blant a phobl ifanc anabl. Rydym yn disgwyl i chi gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Er ein bod yn gallu ariannu bwyd fel rhan o ddarn mwy o waith (h.y. cinio i’r rhai sy’n bresennol), ni allwn ariannu pecynnau bwyd i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys banciau bwyd sy’n dosbarthu bwyd a chyflenwadau eraill. Gallwn ariannu mudiadau ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â bwyd, ond rhaid i chi allu dangos y gwahaniaeth y bydd eich mudiad yn ei wneud y tu hwnt i fwydo plant a phobl ifanc.

Nid ydym yn ystyried ceisiadau gan gyrff llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys cynghorau ar bob lefel.
Nid ydym yn ystyried ceisiadau gan gyrff iechyd statudol. Mae hyn yn cynnwys cyrff gofal sylfaenol neu eilaidd y GIG, ysbytai, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Byrddau Iechyd a Llesiant, a chyfwerth (e.e. Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Byrddau GIG ac Ymddiriedolaethau Iechyd).

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Nid ydym yn ariannu’r canlynol:

  • Profion beichiogrwydd, cyngor neu wybodaeth/cwnsela ynghylch dewisiadau beichiogrwydd.
  • Addysg Iechyd Rhywiol neu Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (ABGI) a ddarperir mewn ysgolion neu gan wasanaethau iechyd statudol. Fodd bynnag, gallwn ystyried ceisiadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth am iechyd rhywiol sy’n mynd y tu hwnt i’r ddarpariaeth statudol, lle mae grŵp targed penodol wedi’i nodi.

I wneud cais am waith sy’n ymwneud â phlant ifanc, mae angen i chi ddangos ei fod y tu allan i ddarpariaeth statudol genedlaethol a/neu leol.

Hefyd, bydd rhaid i chi ddangos sut mae’r gwaith er budd plant dan anfantais yn uniongyrchol, yn hytrach na’u rhieni.

Gellir ystyried ceisiadau gan gyrff a mudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau mewn canolfannau plant awdurdodau lleol. Rhaid i’r partner gwirfoddol sy’n gwneud cais fod yn brif sefydliad ar gyfer y gwaith.

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Nid ydym yn ystyried ceisiadau i ariannu:

  • Bwrsarïau
  • Nawdd neu gymhorthdal ar gyfer gweithgareddau codi tâl nad yw plant a phobl ifanc dan anfantais yn gallu eu fforddio
    • Gallai enghreifftiau gynnwys llefydd mewn sefydliadau sy’n codi tâl sy’n cynnig dosbarthiadau drama, cylchoedd chwarae, neu hyfforddiant chwaraeon

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried gwaith lle mae’r rhan fwyaf o’r plant a’r bobl ifanc dan sylw dan anfantais, a lle nad yw unrhyw ffioedd a godir yn rhwystr i’r rheini sy’n cymryd rhan.

(Gweler hefyd: Ffioedd)

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau am fysiau mini.

Fodd bynnag, prin iawn yw’r grantiau hyn, a bydd angen i chi gyflwyno achos cryf dros eich angen. Bydd canlyniadau i blant a chost-effeithiolrwydd yn arbennig o bwysig.

Bydd angen i chi ddangos y canlynol o leiaf:

  • Pam fod angen i’r sefydliad fod yn berchen ar fws mini yn hytrach na’i logi
  • Sut rydych yn disgwyl defnyddio’r bws mini, a pha mor aml y bydd plant a phobl ifanc difreintiedig yn ei ddefnyddio
  • Sut bydd costau yswiriant, storio diogel, rhedeg a chynnal a chadw yn cael eu talu
  • Y bydd y cerbyd yn ddigon hygyrch ar gyfer pob darpar ddefnyddiwr
  • Bod yr holl ofynion diogelwch (fel gwregysau diogelwch ac offer diffodd tân) yn cydymffurfio â’r gyfraith

Os yw eich gwaith yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn.

  • Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant y mae camfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol wedi effeithio arnynt.
  • Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu.

Fel rhan o’r broses gwneud cais, gallwn ofyn am ganolwr allanol i gefnogi’r asesiad.

Lle mae angen canolwr, byddwn yn nodi pwy ddylai fod yn ganolwr a’r materion penodol rydym am iddo roi sylwadau arnynt. Gallai peidio â darparu geirda o fewn y cyfyngiad amser a ragnodir olygu na yw eich cais yn symud ymlaen i’r cam gwneud penderfyniadau. Felly, mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn esbonio’n glir i’w canolwr y gallai peidio ag ymateb effeithio ar eu siawns o gael grant.

Mae’n rhaid i’ch canolwr fod yn rhywun o’r tu allan i’ch sefydliad. Dylai fod yn rhywun:

  • sy’n adnabod eich sefydliad mewn rhinwedd broffesiynol
  • nad yw’n gweithio nac yn gwirfoddoli gyda’ch sefydliad, nac yn elwa ohono
  • sydd â dealltwriaeth dda o’r gwaith rydych chi’n gwneud cais amdano, oherwydd efallai y byddwn yn gofyn iddo drafod eich cais drwy e-bost neu dros y ffôn.

Nid ydym yn ariannu darpariaeth statudol, gan gynnwys carchardai.

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio mewn carchardai neu mewn partneriaeth â nhw.

Rhaid bod cytundeb partneriaeth clir yn ei le, cytundeb sy’n cynnwys cyfrifoldebau diogelu.

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau am waith sy’n cefnogi rhieni, neu sy’n cynnig hyfforddiant sgiliau magu plant, ar yr amod y bydd o fudd uniongyrchol i fywydau plant a phobl ifanc.

Bydd angen darparu tystiolaeth glir o’r canlyniadau hyn.

Nid ydym yn ariannu mentrau codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol, na gwaith addysgol sy’n seiliedig ar faterion lle nad yw’r grŵp targed wedi’i nodi’n benodol. Mae hyn yn berthnasol i waith sydd wedi’i anelu at boblogaeth gyffredinol o blant a phobl ifanc.

Cyn i ni allu ystyried gweithgaredd arall yn y maes hwn, mae angen i chi ddangos ei fod yn cael ei dargedu’n benodol at:

  • blant a phobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd y mater, neu
  • blant a phobl ifanc sydd mewn risg benodol o fod dan anfantais o’i herwydd.

Gallai enghreifftiau gynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar faterion fel cam-drin rhywiol, trais domestig, neu ddefnyddio alcohol/cyffuriau.

Dim ond gan gyrff elusennol sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn.

  • Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban.
  • Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau

(Gweler hefyd: Dogfen Lywodraethu neu Gyfansoddiad)

Mae ein ffrwd gyllido Costau Craidd yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol. Dyma’r prif gostau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal eich sefydliad.

Gellir gwario cyllid Costau Craidd ar weithrediadau canolog eich mudiad o ddydd i ddydd. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:

  • Rheoli a gweinyddu
  • Adnoddau Dynol a’r gyflogres
  • Costau swyddfa cyffredinol
  • Cyfrifyddiaeth ac archwilio
  • Cyfathrebu a gwaith maes
  • Monitro, gwerthuso a dysgu
  • Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio

Mae ein ffrwd gyllido Costau Craidd ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

Ewch i’n tudalen Ffrwd Gyllido Costau Craidd i gael rhagor o fanylion.

(Gweler hefyd: Costau Prosiect)

Mae ein ffrwd gyllido Costau Prosiect yn cefnogi nodau darn penodol o waith ac yn cefnogi’r broses o’i gyflawni. Bydd y gwaith hwn fel arfer am gyfnod cyfyngedig, ac yn seiliedig ar set benodol o weithgareddau.

Mae Costau Prosiect ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

Ewch i’n tudalen ffrwd gyllido Costau Prosiect i gael rhagor o fanylion.

(Gweler hefyd: Costau Craidd)

Gellir gwario ein cyllid Costau Craidd (sefydliadol) ar weithrediadau canolog eich sefydliad o ddydd i ddydd.

Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:

  • Rheoli a gweinyddu
  • Adnoddau Dynol a’r gyflogres
  • Costau swyddfa cyffredinol
  • Cyfrifyddiaeth ac archwilio
  • Cyfathrebu a gwaith maes
  • Monitro, gwerthuso a dysgu
  • Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio

Cliciwch yma i ddarllen am ein ffrwd grantiau Craidd (sefydliadol).

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan Gwmnïau Buddiannau Cymunedol sydd â chyfansoddiad ac sydd wedi eu cofrestru’n briodol sydd:

  • â thri neu ragor o gyfarwyddwyr heb gysylltiad â’i gilydd
  • â chymal ‘clo asedau’ priodol yn yr Erthyglau Cymdeithasu. Mae hyn yn dangos y bydd asedau eich sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad nid-er-elw a enwir sydd â nodau elusennol tebyg os bydd yn cael ei gau
  • yn Gwmnïau Cyfyngedig drwy Warant, yn hytrach na Chwmnïau Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau.

Mae’n rhaid sefydlu Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a’u cofrestru fel cwmnïau o’r fath gyda Thŷ’r Cwmnïau. Dylech allu darparu rhif cofrestru.

Mae’n rhaid i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol hefyd ddangos bod y gwaith yn canolbwyntio ar anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc. Rhaid i hyn fod yn ychwanegol at anghenion busnes y cwmni. Dylai ceisiadau ddangos sut mae’r gwaith yn ymateb i angen a nodwyd yn glir. Dylent ystyried barn plant a phobl ifanc hefyd.

Dyma ddolenni at rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol gan Swyddfa’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol:

(Gweler hefyd: Mentrau Cymdeithasol)

Nid ydym yn ariannu cymhorthion na chyfarpar meddygol lle bo cyfrifoldeb statudol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys prynu offer meddygol arbenigol ar gyfer ysbyty.

Rhaid i geisiadau gan sefydliadau sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc gyda chyflyrau meddygol prin ddarparu canolwr allanol sy’n ymarferydd meddygol.

Rhaid i’r canolwr hwn fod wedi cael:

  • Profiad o weithio gyda’r cyflwr
  • Gwybodaeth am waith y sefydliad
  • Gwybodaeth am y gwaith penodol y gwneir cais amdano

Dylai pob sefydliad ddangos diwylliant cryf o gefnogi diogelwch ar-lein a chydnerthedd digidol plant a phobl ifanc. Dylai eich Polisi Diogelu Plant ymdrin â sut rydych chi’n sicrhau bod gweithgareddau staff a phlant ar-lein yn diogel ac yn gyfrifol.

Rhaid i bolisïau fod yn briodol i oedran, ac yn berthnasol i weithgarwch y sefydliad. Dylai gynnwys tystiolaeth o ddulliau rheoli effeithiol a chefnogaeth ar gyfer yr amgylchedd digidol, gan gynnwys:

  • Cefnogi a grymuso pobl ifanc i reoli eu bywydau ar-lein yn fwy effeithiol
  • Cefnogi a datblygu gwytnwch digidol pobl ifanc mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hoedran
  • Diweddariadau diweddar perthnasol i Bolisïau, gweithdrefnau, hyfforddiant a Chod Ymddygiad Diogelu craidd
  • Dull unedig o ymdrin â’r byd go iawn a’r byd rhithwir y bydd plant, staff a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan ynddo
  • Rheolaethau preifatrwydd addas ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio technoleg ryngweithiol

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch adnoddau Diogelwch Ar-lein yr NSPCC.

Mae Thinkuknow hefyd yn darparu rhaglen addysg ar-lein sy’n benodol ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc. Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan CEOP (Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein).

I gael rhagor o adnoddau i helpu pobl ifanc i reoli eu bywydau ar-lein eu hunain, rydym yn argymell adnodd y BBC i blant, BBC Own It.

Bydd angen i’r rhan fwyaf o gynlluniau chwarae a chylchoedd chwarae ar gyfer plant o dan wyth oed fod wedi cofrestru, oni bai fod y gyfraith yn nodi nad oes yn rhaid iddynt wneud hynny.

Ni fyddwn yn ariannu gwaith cylchoedd chwarae a grwpiau chwarae os oes gofyn iddynt gofrestru a’u bod heb wneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

Gall sefydliadau sydd eisoes wedi cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod y cyllid presennol ar fin dod i ben o fewn 12 mis.

Mae ein ffrydiau Prosiect a Chraidd yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn dderbynnydd grant cyfredol na blaenorol yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant ei hun ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn gwneud cais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei ddyfarnu.

Nid ydym yn ystyried cyllid llawn ar gyfer rolau sy’n gwneud gwaith achos os yw’r gwaith hwnnw’n denu unrhyw gymorth cyfreithiol.

Wrth wneud cais am rolau o’r fath, dangoswch unrhyw gyllid cymorth cyfreithiol a gafwyd mewn cysylltiad â gwaith achos y flwyddyn flaenorol.

Ar gyfer blynyddoedd dau a thri ceisiadau o’r fath, bydd angen i chi nodi:

  • Faint o gymorth cyfreithiol byddwch yn ei gael o bosibl
  • Faint o gyfraniad i’r rôl maen nhw’n gofyn amdano gennym ni

Mae BBC Plant mewn Angen yn credu y dylai pob Plentyn a Pherson Ifanc gael mynediad at yr un cyfleoedd; fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn deall y gall fod yn fuddiol weithiau i gynnal prosiectau sydd dim ond yn caniatáu i rywedd penodol gymryd rhan ar unrhyw adeg benodol, boed hynny am resymau crefyddol, diwylliannol neu ymarferol.

Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i gefnogi darpariaeth un rhywedd, byddwn yn disgwyl i chi ddangos y canlynol yn glir:

  • Bod rheswm clir pam mai dim ond i un rhywedd y mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnig.
  • Lle bo hynny’n briodol/yn bosibl, cynigir darpariaeth arall ar gyfer unrhyw grwpiau sydd wedi’u heithrio.
  • Nid yw gweithgareddau’n cael eu rhannu ar sail tybiaethau ynghylch yr hyn fydd yn/ddim yn apelio at bob rhywedd.

O ganlyniad i gyfrifoldebau statudol eang yn y maes hwn, dim ond mewn achosion eithriadol iawn y byddwn yn ystyried ariannu llety i blant neu deuluoedd digartref.

Mae’n bosibl y byddwn yn cefnogi gweithgareddau mewn canolfannau llety os ydynt yn mynd i’r afael â phroblemau ac anghenion y plant yn uniongyrchol.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ariannu llety lloches i bobl ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd.

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Dogfen gyfreithiol yw dogfen lywodraethu sy’n cynnwys rheolau ar gyfer y ffordd y bydd eich sefydliad yn gweithredu. Dylai roi sylw i’r canlynol:

  • Beth mae’r sefydliad wedi’i sefydlu i’w gyflawni (dibenion)
  • Sut mae’r sefydliad yn mynd ati i gyflawni ei ddibenion (pwerau)
  • Sut mae’r sefydliad yn cael ei reoli
  • Beth fydd yn digwydd os bydd y sefydliad yn cau

Dylai hefyd gynnwys manylion am y canlynol:

  • Pa mor aml mae’r bwrdd llywodraethu’n cwrdd
  • Sut i benodi aelodau o’r bwrdd llywodraethu ac am ba hyd y gallant weithredu fel aelodau o’r bwrdd llywodraethu
  • A ellir talu ymddiriedolwyr a sut

(Gweler hefyd: Cofrestru Elusennau)

Nid ydym yn ariannu gwaith sy’n hyrwyddo crefydd.

Gall eglwysi wneud cais ar gyfer mathau eraill o waith. Gofynnir i chi gyflwyno eich cyfrifon blynyddol i ni yn ystod y broses gwneud cais. Lle bo’n bosibl, dylai’r rhain fod y cyfrifon a fydd yn dal y cyllid rydych yn gwneud cais amdano.

Fel rhan o’ch cais, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos:

  • Sut bydd penderfyniadau am y prosiect yn cael eu gwneud (dylai hyn gynnwys mwy nag un person)
  • Sut bydd penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud (dylai hyn gynnwys mwy nag un person)
  • Eich statws cyfreithiol

Rydym yn ariannu sefydliadau sy’n codi ffioedd i fynychu eu gweithgareddau. Fodd bynnag, disgwyliwn weld datganiad neu bolisi clir ar hepgor ffioedd. Dylai hyn ddangos y canlynol:

  • Mae’r rheini nad ydynt yn gallu fforddio talu ffioedd yn cael eu hystyried ac yn derbyn gofal
  • Mae’r rheini nad ydynt yn gallu parhau i dalu ffioedd yn dal i gael cymorth
  • Mae’r gymuned ehangach yn ymwybodol y gellir hepgor ffioedd mewn rhai amgylchiadau
  • Rydych yn rhagweithiol wrth rannu eich agwedd tuag at ffioedd a hepgor ffioedd

Rydym yn gweithio i gefnogi sefydliadau sy’n gwella canlyniadau ar gyfer plant difreintiedig. Mae sicrhau bod cyn lleied â phosibl o blant yn cael eu heithrio rhag ymuno â gweithgareddau yn ganolog i’n proses o wneud penderfyniadau.

Rydym yn ystyried gwaith sy’n cynnwys elfen gofal plant, gan gynnwys meithrinfeydd, ond dim ond os ydynt yn canolbwyntio ar ddarparu profiad datblygu o ansawdd uchel i’r plant eu hunain.

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau am waith sy’n cefnogi rhieni, neu sy’n cynnig hyfforddiant sgiliau magu plant, ar yr amod y bydd o fudd uniongyrchol i fywydau plant a phobl ifanc. Bydd angen darparu tystiolaeth glir iawn o’r canlyniadau hyn.

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer gwaith sy’n cynnig gofal seibiant i deulu plentyn neu berson ifanc anabl.

Gan fod darpariaeth graidd gofal seibiant yn gyfrifoldeb statudol, bydd angen i chi ddangos yn glir nad oes modd ateb y galw drwy ddarpariaeth statudol.

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Rhaid i geisiadau i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u gwahardd o ysgolion ddangos y canlynol:

  • Nid yw ein cyllid yn cymryd lle nac yn gorgyffwrdd cyllid statudol (rydym yn disgwyl i hyn ddilyn y plentyn)
  • Bydd y gwaith yn ychwanegol at gyfrifoldebau statudol
  • Mae’r gwaith yn darparu ansawdd profiad sydd y tu allan i ofynion darpariaeth statudol

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Rydym yn diffinio cwnsela fel ymyrraeth therapiwtig sy’n darparu ‘cymorth ac arweiniad proffesiynol wrth ddatrys problemau personol neu seicolegol.’

Mae hyn yn cynnwys pethau fel therapi grŵp, therapi chwarae a therapi celf, i enwi dim ond rhai.

Disgwyliwn i bob sefydliad sy’n cynnig ymyriadau therapiwtig neu gwnsela ffurfiol a phroffesiynol wneud y canlynol:

  • Cyflogi cwnselwyr proffesiynol cymwysedig gyda
    • phrofiad o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc
    • mynediad at oruchwyliaeth glinigol briodol
    • cofnodion gweithredol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Darparu cwnsela hygyrch mewn lleoliadau preifat ond diogel priodol (ar gyfer y cleientiaid a’r cwnselwyr)
  • Cael ei ystyried fel gwasanaeth nad yw’n peri stigma yn y gymuned
  • Gweithio o fewn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau cyfredol
  • Sicrhau cyfrinachedd o fewn cyfyngiadau moesegol a diogelu arferol
  • Dangos hyblygrwydd o ran anghenion mynediad ac amrywiaeth lleol
  • Gweithio ar y cyd â gwasanaethau ac asiantaethau eraill, gan gynnal cyfrinachedd priodol yr un pryd
  • Bod yn aelod o gorff proffesiynol (fel Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain)
  • Cadw at fframwaith moesegol a phroses gwyno sefydledig
  • Cyflogi cwnselwyr agos-atoch gyda sgiliau gwrando da, i feithrin perthnasoedd diogel, llawn ymddiriedaeth

Rhaid i wasanaethau sy’n cael eu darparu gan gydweithwyr nad ydynt yn gwbl gymwys, gael eu goruchwylio gan staff profiadol a chymwys. Mae’n rhaid cael systemau ar waith i sicrhau diogelwch cleientiaid, gweithwyr, a’r gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at BACP (Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain).

Cofiwch, nid ydym yn debygol o ariannu gwaith sy’n digwydd yn ystod amser ysgol. Disgwyliwn i waith ddigwydd cyn neu ar ôl ysgol, yn ystod amser cinio neu yn ystod y gwyliau. (Gweler hefyd: Ysgolion a gwaith amser ysgol)

Rydym yn diffinio mentora neu gyfeillio fel ‘perthynas wirfoddol, bwrpasol a buddiol i’r naill ochr a’r llall, lle mae unigolyn yn rhoi amser i gefnogi un arall i’w alluogi i wneud newidiadau yn ei fywyd’.

Rhaid i hyn ddigwydd o fewn trefniant ffurfiol a strwythuredig. Weithiau gall eich gwaith gynnwys staff a gwirfoddolwyr sy’n rhoi cyngor mwy anffurfiol i blant a phobl ifanc. Nid ydym yn diffinio hyn fel mentora na chyfeillio mewn synnwyr ffurfiol.

Rydym yn disgwyl i bob sefydliad sy’n gwneud cais am waith mentora a chyfeillio ddangos y canlynol:

  • Cysylltiad clir rhwng eich nodau a’r budd i gleientiaid/gwirfoddolwyr unigol
  • Proses ar gyfer atgyfeirio/gwirio cymhwysedd cleientiaid, sy’n seiliedig ar arfer gorau cyfle cyfartal
  • Proses recriwtio a dethol gadarn ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Prosesau cadarn ar gyfer sgrinio gwirfoddolwyr, ac ar gyfer diogelu cleientiaid a gwirfoddolwyr, gan gynnwys
    • gwiriadau, geirdaon, asesiadau risg, hyfforddiant, yswiriant, datganiadau cyfrinachedd a ffurflenni caniatâd priodol
    • hyfforddiant cychwynnol a sesiynau paratoi ar gyfer gwirfoddolwyr, yn ogystal â chefnogaeth barhaus
  • Proses glir a chyson ar gyfer paru cleientiaid â gwirfoddolwyr gan gynnwys
    • prosesau wedi’u dogfennu ar gyfer monitro cynnydd perthnasau
    • trefniadau ar waith i ddelio â pherthnasau sy’n profi’n anaddas

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at NCVO – Gwasanaethau Mentora a Chyfeillio.

Os yw eich sefydliad yn recriwtio Cydlynydd Gwirfoddolwyr, efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o ddisgrifiad y rôl.

Gallwn ariannu grwpiau sy’n gweithio mewn partneriaeth. Rhaid i’r corff arweiniol enwebedig wneud y cais, a bydd yn atebol am y canlynol:

  • Cyflawni’r gwaith fel y cytunwyd
  • Diogelu
  • Rheoli’r grant ac adrodd yn ôl
  • Rheoli unrhyw weithwyr sy’n cael eu hariannu fel rhan o’r prosiect
  • Gwneud yn siŵr bod y gwaith yn cyflawni ei ganlyniadau a nodwyd

Rhaid i geisiadau gan bartneriaethau hefyd fodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.

Dylai cytundeb partneriaeth fod ar gael cyn i chi wneud cais, a gofynnir i chi grynhoi hyn yn eich cais.

(Gweler hefyd: Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau; Defnyddio partneriaid cyflenwi eraill)

Er ein bod yn cydnabod bod dylanwadu ar newid cymdeithasol yn bwysig, nid ydym yn ariannu gweithgarwch, ymgyrchu na lobïo uniongyrchol pleidiau gwleidyddol.

Dim ond gwyliau, tripiau a theithiau a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion y plant a’r bobl ifanc dan sylw y byddwn yn eu hariannu. Ni fyddwn yn ariannu gwyliau i deuluoedd lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, neu ddim rhan o gwbl.

  • Mae’n bosibl y byddwn yn ariannu gwyliau a gweithgareddau preswyl am hyd at dair blynedd, naill ai fel y prif gost neu fel un rhan o’ch gwaith
  • Rhaid i sefydliadau sy’n gofyn am y math hwn o gyllid allu dangos tystiolaeth bod eu polisi a’u harferion diogelu’n cael eu defnyddio’n rheolaidd
  • Dylai derbynnydd y grant ar gyfer y math hwn o waith allu arsylwi a thracio ei ganlyniadau
  • Mae’n hanfodol cael mynediad uniongyrchol at y plant a’r bobl ifanc a pherthynas waith sefydledig â nhw
    • Ni fyddwn yn ariannu ceisiadau i anfon grwpiau, gan gynnwys teuluoedd, ar dripiau lle nad yw gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan sefydliad derbynnydd y grant
    • Ni fyddwn yn rhoi grantiau’n uniongyrchol i ganolfannau preswyl sy’n dymuno sicrhau cyllid i blant a phobl ifanc fynd i’w canolfannau Rydym yn cyllido tripiau a gwyliau yn y DU yn unig.
    • Rydym yn cyllido tripiau a gwyliau yn y DU yn unig. Yr un eithriad yw ar gyfer gwaith yng Ngogledd Iwerddon, lle mae modd ystyried tripiau neu wyliau i Weriniaeth Iwerddon

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer hyfforddiant staff sy’n gallu dangos cysylltiad clir â chanlyniadau gwell i blant a phobl ifanc.

Ni fyddwn ni’n cyllido hyfforddiant sy’n golygu gwella datblygiad proffesiynol unigolyn yn bennaf.

Rydym yn ceisio blaenoriaethu sefydliadau lleol, llai eu maint.

Anaml iawn y byddwn yn ariannu Costau Prosiect i sefydliadau â throsiant blynyddol o fwy na £2m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf. Anaml iawn y byddwn yn ariannu Costau Craidd i sefydliadau â throsiant blynyddol o dros £1 miliwn.

Rydym yn deall bod rhai sefydliadau ag incwm uwch yn cyflawni gwaith hollbwysig i blant a phobl ifanc. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan y sefydliadau canlynol waeth beth fo’u trosiant:

  • Hosbisau (gan gynnwys hosbisau plant)
  • Cymdeithasau Tai
  • Rhaglenni sy’n cyflawni gwaith ar draws y wlad (ar draws gwlad gyfan) neu ledled y DU (ar draws nifer o wledydd yn y DU)

Rydym yn deall, mewn rhai amgylchiadau, y gallai sefydliadau mwy a/neu genedlaethol fod yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.

O ganlyniad, byddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sydd â throsiant blynyddol dros y symiau a nodwyd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn blaenoriaethu’r ymgeiswyr hynny os nad ydynt yn gallu dangos tystiolaeth pam mai nhw yw’r ymgeiswyr gorau i gyflawni’r gwaith hwn.

Weithiau, efallai y byddwch yn dewis defnyddio neu weithio gyda sefydliad neu unigolyn arall i gyflawni rhan o’ch gwaith. Gallai hyn fod ar sail is-gontractio; er enghraifft, dod â cherddor i mewn i gyflwyno gweithdai fel rhan o grŵp ieuenctid.

Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn ddull rhesymol a synhwyrol o weithredu. Fodd bynnag, cofiwch fod yn rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais am gyllid wneud y canlynol:

  • Cael perthynas uniongyrchol â’r plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gwaith
  • Ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn dros fodloni’r Safonau Gofynnol o ran cyllid, llywodraethu a diogelu wrth gyflawni
  • Sicrhau bod unrhyw un sy’n cael ei is-gontractio yn ystod gwaith a ariennir yn deall ac yn dilyn polisïau ac arferion eich sefydliad bob amser

(Gweler hefyd: Gwaith Partneriaeth)

Rydyn ni’n ystyried ceisiadau gan lochesi menywod ledled y DU. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y gallwn ei ariannu rhwng Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Rhaid i geisiadau am weithwyr lloches yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr allu dangos y bydd y cyllid yn cefnogi gwaith sydd:

  • Yn mynd y tu hwnt i ofal plant, ac yn cael effaith ystyrlon ar fywydau’r plant a’r bobl ifanc dan sylw.
  • Yn cefnogi ymyriadau tymor hwy i fynd i’r afael â’r trawma y gallai plant fod wedi’i brofi, neu dorri’r cylch cam-drin.
  • Ddim yn cael ei ariannu, ac ni fyddai’n cael ei ariannu gan ffynonellau statudol.

Yn yr Alban, ni allwn ariannu gweithwyr ymroddedig sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn llochesi, gan fod hon yn ddyletswydd statudol.

Mae hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn lloches, neu yn y gymuned, ar ran lloches.

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan Fentrau Cymdeithasol neu Gwmnïau Cyfyngedig drwy Warant sydd wedi cofrestru ac sy’n meddu ar gyfansoddiad priodol, ar yr amod bod:

  • Y sefydliad yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, yn hytrach na Chwmni Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau
  • Mae’r sefydliad wedi’i sefydlu a’i gofrestru felly gyda Thŷ’r Cwmnïau, a gall ddarparu rhif cofrestru
  • Mae gan y sefydliad dri neu ragor o gyfarwyddwyr heb gysylltiad â’i gilydd
  • Mae Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu’r sefydliad yn cynnwys cymal diddymu priodol
  • Mae hyn yn sicrhau mai dim ond i sefydliad neu achos sydd â nodau elusennol tebyg y gellir trosglwyddo arian neu asedau
  • Mae’r sefydliad yn gallu dangos yn glir bod ei waith yn canolbwyntio ar anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc
  • Dylai hyn fod yn ogystal ag anghenion busnes y cwmni
  • Dylai ceisiadau ddangos sut mae’r gwaith yn ymateb i angen dynodedig, ac ystyried barn plant a phobl ifanc

(Gweler hefyd: Cwmnïau Buddiannau Cymunedol)

Ni fyddwn yn ariannu offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau ac ati), nac offer heb fod yn sefydlog sy’n dod i gyfanswm o dros £20,000 (e.e. offer chwarae/synhwyraidd).

Nid ydym yn ariannu offer y bydd corff statudol, fel ysgol neu ysbyty, yn ei ddefnyddio – neu a fydd yn dod i feddiant corff statudol o’r fath.

Wrth wneud cais am gyllid ar gyfer offer, rhaid i chi ddangos:

  • Sut bydd plant a phobl ifanc yn elwa’n uniongyrchol fel y prif ddefnyddwyr
  • Pam mae angen yr offer hwn arnoch ar gyfer eich gwaith
  • Eich bod wedi ystyried materion tymor hwy fel yswiriant, storio diogel, gwydnwch a chynnal a chadw
  • Sut rydych chi wedi sicrhau’r gwerth gorau am arian
  • Pam mae prynu yn fwy priodol na llogi neu fenthyca
  • Pwy fydd yn cael mynediad pan na fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni gwaith

Pan fydd offer arbenigol yn cael ei brynu ar gyfer un plentyn neu berson ifanc, disgwyliwn y bydd yn parhau i fod yn eiddo i’r grŵp, yn hytrach na’r unigolyn. Gallwn wneud eithriad os yw’r eitem yn bwrpasol neu os nad oes modd i eraill ei hailddefnyddio.

Mae ein Rhaglen Hanfodion Brys yn rhoi grantiau i blant a phobl ifanc unigol. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n cael anawsterau drwy ariannu eitemau penodol i ddiwallu anghenion mwyaf sylfaenol plant.

Gallai enghreifftiau gynnwys gwely i gysgu ynddo, popty i goginio prydau poeth, neu ddillad mewn argyfwng. Nid ydym fel arfer yn derbyn ceisiadau i ddarparu cyllid lles.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried achos gan sefydliad sy’n targedu cynulleidfa ehangach. Enghraifft o hyn fyddai sefydliad sy’n ceisio creu pecynnau cychwynnol ar gyfer pobl ifanc ddigartref.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am eitem benodol i helpu plentyn y mae salwch yn effeithio arno. Byddai angen i sefydliad cymwys wneud y ceisiadau hyn, er mwyn iddo allu ateb cwestiynau am y plentyn a’i sefyllfa.

Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod arian BBC Plant mewn Angen yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd iawn. Mae ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau yn ein helpu ni i wneud yn siŵr bod sefydliadau’n gadarn, yn barod i gyflawni gwaith ac yn gallu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais i BBC Plant mewn Angen fodloni ein Safonau Gofynnol er mwyn cael ei ystyried ar gyfer cyllid. Darllenwch y rhestr lawn yn ofalus cyn i chi ystyried gwneud cais, a chysylltwch â ni os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono.

Mae ein Safonau Gofynnol yn ymdrin â thri phrif faes: llywodraethu, cyllid a diogelu. Byddwn yn gofyn i bob sefydliad ddarparu amrywiol ddogfennau allweddol i helpu i ddangos eich bod yn bodloni pob un ohonynt.

Mae sefydliadau cenedlaethol yn darparu gwasanaethau i Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gyfan (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain).

Rydym yn trin canghennau annibynnol sefydliadau cenedlaethol fel sefydliadau ar wahân. I fod yn gymwys i fod yn annibynnol, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol i ganghennau:

  • Mae ganddynt eu cyfansoddiad a’u cyfrifon ariannol eu hunain
  • Mae ganddynt eu pwyllgor rheoli eu hunain
  • Maent yn gyfan gwbl gyfrifol am eu cyllid eu hunain

Os bodlonir y meini prawf uchod, gallwn dderbyn ceisiadau gan bob cangen fel a ganlyn:

Ar gyfer Grantiau Prosiect

  • Gall sefydliadau ledled y DU gael un grant prosiect ym mhob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon)
  • Mae ein rheolau arferol o fewn pob gwlad yn berthnasol i ganghennau lleol sefydliad mwy o faint

Ar gyfer Grantiau Craidd

  • Dim ond un grant Costau Craidd y gall sefydliad ei gael ar unrhyw adeg, ni waeth ym mha le yn y DU y mae’n cyflawni ei waith
  • Ni all sefydliad gael grant Craidd os oes ganddo grant Prosiect mewn unrhyw un o’r Gwledydd

Mae Sefydliadau Corfforedig Elusennol yn gymwys i wneud cais a dylent fod wedi cofrestru â’r Comisiwn Elusennau (neu’r OSCR yn yr Alban), yn yr un modd ag elusennau.

Mae’r dogfennau sydd angen i chi eu darparu ym mhob gwlad yr un fath ag sy’n ofynnol i elusennau.

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau ffydd, ond nid ydym yn ariannu hyrwyddo crefydd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Unrhyw weithgaredd sy’n golygu trosi rhywun i grefydd (proselytio)
  • Unrhyw gyllid ar gyfer staff y mae eu disgrifiad swydd a/neu fanyleb y person yn gofyn am ffydd benodol
  • Unrhyw gyllid ar gyfer treuliau gwirfoddolwyr neu staff cysylltiedig (fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr) lle mae’r disgrifiad o’r rôl yn gofyn am ffydd benodol

Rydym yn dymuno ariannu sefydliadau sydd â hanes cadarn o lywodraethu.

Dim ond gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am fwy na £15,000 y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban.

Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt wedi cofrestru am £15,000 neu lai y flwyddyn.

(Gweler hefyd: Cofrestru Elusennau)

Dylai sefydliadau mwy newydd allu dangos y canlynol yn glir:

  • Eu bod yn gallu cynllunio a chyflawni’r gwaith maent yn gwneud cais amdano
  • Eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc drwy’r gweithgareddau neu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu

Mewn achosion lle nad yw cyfrifon llawn y 12 mis diwethaf ar gael eto, dylai sefydliadau newydd gyflwyno rhagolwg ariannol 12 mis gyda’u cais.

Dylai’r rhagolwg gynnwys y canlynol o leiaf:

  • Incwm amcanol
  • Gwariant amcanol
  • Tystiolaeth o ragor o gynllunio/eglurder o ran cynhyrchu incwm yn y dyfodol

Rydym yn cydnabod yr angen i ymgymryd â staff sesiynol at ddibenion cyflwyno ffurfiau penodol o waith neu weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallai hyn fod yn weithgareddau tymor byr neu untro, e.e. cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau.

Os yw’n bosibl, credwn ei fod yn fwy tebygol o gynhyrchu canlyniadau da i blant os yw sefydliadau’n cynnig contractau tymor penodol ar gyfer y mathau hyn o waith.

Os ydych chi’n talu aelodau o’ch corff llywodraethu am wasanaethau y tu allan i’r rôl honno (fel ymgynghorydd neu aelod staff sesiynol, er enghraifft) mae’n rhaid i chi gael y canlynol:

  • Cytundeb ysgrifenedig sy’n nodi’r hyn y gellir talu i’r aelod hwnnw ei wneud, pa mor aml y gellir ei dalu, a faint
  • Polisi gwrthdaro buddiannau sy’n nodi sut bydd penderfyniadau ynghylch taliadau i unigolyn yn cael eu rheoli gan y corff llywodraethu

Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr, rhaid i’r uchod fod yn Nogfen Lywodraethu eich sefydliad (neu mewn dogfen arall y cytunwyd arni gan y Comisiwn Elusennau).

Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru yn yr Alban, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • Nid oes dim yn eich Dogfen Lywodraethu sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
  • Mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusen yn cael eu talu drwy’r elusen
  • Mae cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen a’r ymddiriedolwr yn datgan yr uchafswm sydd i’w dalu
  • Mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi cymeradwyo’r cytundeb

Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • Nid oes dim yn eich Dogfen Lywodraethu sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
  • Mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusen yn cael eu talu drwy’r elusen
  • Mae cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen a’r ymddiriedolwr yn datgan yr uchafswm sydd i’w dalu
  • Mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi cymeradwyo’r cytundeb
  • Rhaid i’r ymddiriedolwr sy’n cael ei dalu beidio â chymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch gwneud y cytundeb, pa mor dderbyniol yw’r gwasanaeth a ddarperir, na gosod y pris

Os ydych yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid nodi hyn yn glir yn eich dogfen lywodraethu. Dyma un o’n Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.

 

Yn gyfreithlon, dim ond treuliau gwirfoddolwyr ar gyfer gwariant sydd eisoes wedi digwydd y cewch chi eu talu. Gallai enghreifftiau gynnwys rhoi ad-daliad am docyn bws, neu gost petrol, sydd wedi cael ei dalu ac y mae derbynneb ar gael ar ei gyfer.

Ni ellir talu treuliau ar ffurf lwfans, nac fel rhan o ffi sefydlog am wirfoddoli. Ystyrir hyn fel arfer fel tâl, sy’n ddarostyngedig i Yswiriant Gwladol a threth.

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at NCVO VolunteeringGwirfoddoli CymruVolunteer Scotland, neu Volunteer Now (Gogledd Iwerddon).

Nid ydym yn ariannu darpariaeth statudol, gan gynnwys ysbytai.

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio mewn ysbytai neu mewn partneriaeth â nhw.

Rhaid bod cytundeb partneriaeth clir yn ei le. Rhaid i’r cytundeb gynnwys diogelu.

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

Nid ydym yn ariannu ysgolion, academïau, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion na sefydliadau addysgol statudol.

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan:

• Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio mewn ysgolion, neu mewn partneriaeth â nhw
• Ysgolion Arbennig – mae’r rhain yn ddarpariaethau i blant ag anableddau neu anawsterau dysgu nad oes modd darparu ar eu cyfer mewn lleoliad prif ffrwd

Os ydych chi’n gwneud cais fel Ysgol Arbennig (ac nad ydych chi’n Elusen Gofrestredig), bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau. Os byddwn yn eich gwahodd i lenwi cais llawn, bydd hyn yn golygu anfon dogfen atom sy’n cadarnhau eich statws cyfreithiol a’ch strwythur llywodraethu. Yn ystod y cam hwnnw, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon atom. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi eto yn ystod y broses ymgeisio i ofyn am dystiolaeth ychwanegol.

Disgwyliwn i waith ddigwydd cyn neu ar ôl ysgol, yn ystod amser cinio neu yn ystod y gwyliau. Oni bai y gellir gwneud achos eithriadol iawn, nid ydym yn debygol o ariannu gwaith:

  • Sy’n digwydd yn ystod oriau ysgol
  • Lle mae gofyn tynnu plant neu bobl ifanc allan o’r dosbarth i fod yn bresennol

Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ariannu gwaith yn ystod amser ysgol os yw’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd:

  • Yn wael
  • Mewn argyfwng, felly mae rheswm cryf dros y plentyn yn colli gwersi yn seiliedig ar ei anghenion
  • Yn ei chael hi’n anymarferol mynd i weithgareddau y tu allan i oriau ysgol, er enghraifft, gofalwyr ifanc

Os ydych chi’n darparu yn ystod oriau ysgol, mae’n rhaid i chi ddangos:

  • Sail resymegol glir dros pam eich bod yn darparu yn ystod y cyfnod hwn
  • Bod yr amseru’n seiliedig ar anghenion penodol y plant a’r bobl ifanc

(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1