Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Miliwn a Fi – Rhaglen Awyr Fawr

Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.

O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn rhagor o geisiadau Awyr Fawr newydd ar ôl 9 Mehefin 2025. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch dyfodol y rhaglen Awyr Fawr yn ystod haf 2025.

Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 25 Gorffennaf 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.

Grantiau Awyr Fawr

Mae BBC Plant mewn Angen yn bodoli i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y plentyndod maen nhw’n ei haeddu – a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu.

Mae ein cronfa Miliwn a Fi yn cynorthwyo plant rhwng 8 ac 13 oed. Mae’n canolbwyntio ar eu llesiant emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Nod y gronfa hon yw darparu cymorth yn gynnar, cyn i broblemau iechyd meddwl ddatblygu.

Fel rhan o’r rhaglen hon, fe wnaethom ganolbwyntio ar effaith arwahanu daearyddol ar lesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant.

Mae ymchwil gan y Ganolfan Iechyd Meddwl (adroddiad) yn tynnu sylw at y ffaith bod lleisiau plant yn aml yn absennol o ymgynghoriadau. Dylid dyrannu cymorth a chyllid penodol i gyrraedd plant mewn cymunedau anghysbell.

Mae’r rhaglen Awyr Fawr wedi cael ei datblygu mewn ymateb i’r anghenion hyn.

Ar gyfer beth mae cyllid y Rhaglen Awyr Fawr?

  • Mae’r grantiau ar gyfer dulliau ymyrryd yn gynnar. Bydd y grantiau hyn yn cynorthwyo â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant rhwng 8 ac 13 oed sy’n byw mewn cymunedau sydd wedi eu arwahanu’n ofodol.
  • Rhaglen drwy wahoddiad yn unig yw hon ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig, anghysbell ac ar ynysoedd.
  • Gan fod ceisiadau drwy wahoddiad yn unig, byddant yn cael eu datblygu drwy sgyrsiau â thimau BBC Plant mewn Angen ym mhob un o’r 4 gwlad ac yn defnyddio ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth leol.
  • Rydym wedi ymrwymo i gyllido sefydliadau ar lawr gwlad ledled y Deyrnas Unedig, gan ddarparu’r cysylltiadau cadarnhaol hanfodol hynny sy’n ategu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl da.
  • Bydd cyllid o hyd at £5,000 yn cael ei ddyfarnu er ein bod yn disgwyl y bydd amrywiaeth yn y grantiau a ddyfernir.
  • Gall mudiadau wneud cais am hyd at 2 flynedd, heb ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. Rhaid i’r ceisiadau gyd-fynd â chynlluniau cyllido lleol BBC Plant mewn Angen a dynodwyr gwledig a ddatblygir ar lefel leol. Mae manylion cyswllt timau lleol ar gael yma.
  • Gall rhai sy’n cael grant gennym ni’n barod wneud cais, ond rydym yn awyddus i dargedu mudiadau a grwpiau nad ydynt wedi cael eu cyllido gennym ni.
  • Dim ond un grant Awyr Fawr y bydd sefydliadau’n gallu ei gael.

Bydd rhaglen gymorth wedi ei theilwra ar gyfer mudiadau ar lawr gwlad ar gael i fudiadau sy’n cael eu cyllido.

Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu un-i-un, digwyddiadau sector, cyngor pwrpasol, cyfeirio a hyfforddiant.  Bydd y rhaglen gymorth hon yn mapio darpariaeth leol ac yn cysylltu prosiectau ar lawr gwlad â’i gilydd. Bydd yn meithrin hyder drwy ddysgu, yn cynyddu dylanwad ac yn ymgysylltu â llunwyr polisïau.

Bydd y rhaglen hon yn gwrando, yn casglu ac yn chwyddo lleisiau plant sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, gwledig ac ynysig ar draws y Deyrnas Unedig.

Safonau Gofynnol

Mae BBC Plant mewn Angen yn defnyddio Safonau Gofynnol ar gyfer rhoi grantiau i edrych ar gryfderau sefydliad. Rydym yn edrych ar feysydd gan gynnwys eich cyllid, llywodraethu a diogelu.

Os cewch eich gwahodd i wneud cais, bydd rhagor o fanylion am y rhain yn cael eu trafod gyda chi, ond gallwch ddarllen mwy yma Safonau Sylfaenol ar gyfer Dyfarnu Grantiau

Pwy allai gael eu gwahodd i wneud cais?

  • Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
  • Mudiadau sydd wedi’u lleoli yn y DU, ar Ynys Manaw neu ar Ynysoedd y Sianel.
  • Os na fyddwn yn cyllido eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch wneud cais i ni nesaf.
  • Rydym yn ceisio blaenoriaethu sefydliadau lleol, llai. Ar gyfer Grantiau Prosiect, rydym yn deall, mewn amgylchiadau penodol, y gall mudiadau mwy fod yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Os oedd trosiant eich mudiad dros £2m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf, gallwch wneud cais am Grant Prosiect dim ond os ydych chi’n:
    • Hosbisau
    • Lloches
    • Cyflawni gwaith sy’n cyd-fynd yn dda â’n meysydd diddordeb thematig a’n hardaloedd daearyddol a’ch bod yn gallu dangos pam mai eich mudiad chi sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r gwaith”
  • Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion uchod, rhaid I chi gael sgwrs â’ch tîm lleol a all eich cynghori a ddylech chi wneud cais ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am sut I gysylltu â’ch tîm lleol ar gael
  • Os yw sefydliad yn cyflawni mewn mwy nag un wlad yn y Deyrnas Unedig – gall wneud cais am grant prosiect a’i dderbyn mewn mwy nag un wlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban) ar unrhyw un adeg.

Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy'n:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
  • Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
  • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc

Nid yw BBC Plant mewn Angen yn cyllido:

  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
  • Mudiadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Z i gael rhagor o fanylion
  • Awdurdodau Lleol, Chyrff y GIG, ysbytai neu carchardai
  • Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd
  • Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • Triniaeth feddygol neu ymchwil
  • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi ei dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
  • Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • Costau a drosglwyddir i gyrff eraill. Rydym ni’n disgwyl i bob sefydliad ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am y llywodraethu, cyllid a diogelu ddarparu eu gwaith.
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
  • Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
  • Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
  • Gwariant amhenodol
  • Adennill costau’n llawn
  • Os ydych yn gennym eisoes Grant gan BBC Plant mewn Angen, Rhaid i’r gwaith a gyflawnir drwy eich cais am Gyllid Prosiect fod fel a ganlyn ar gyfer gwaith gwahanol, bydd eich grant presennol a Gweithio gyda grŵp gwahanol o blant a phobl ifanc na’r rheini sy’n elwa o’r grant presennol
     

Beth mae angen i mi ei wybod?

Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Z ar-lein os cewch eich gwahodd i wneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.

Mae ein Canllawiau A i Z yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer. Rydyn ni’n adolygu ein polisïau a’n canllawiau cymhwysedd yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y rhain yn ofalus cyn gwneud cais.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1