Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau
Dyma’r safonau gofynnol y mae’n rhaid i sefydliad eu cyrraedd er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid gan BBC Plant mewn Angen:
Bydd ceisiadau sy’n cyrraedd y safonau hyn yn cael eu hasesu. Er mwyn bod yn gymwys i gael grant, rhaid i gais fodloni amrywiaeth o feini prawf ychwanegol. Mae rhestr lawn o bolisïau ariannu BBC Plant mewn Angen ar gael yn ein Canllawiau A i Y.
Llywodraethu
- Corff Llywodraethu sy’n cynnwys tri aelod o leiaf (e.e. Ymddiriedolwyr neu, i gwmnïau, Cyfarwyddwyr). Os oes aelodau sy’n perthyn, rhaid cael aelod annibynnol bob amser
- Mae’r Corff Llywodraethu’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn o leiaf.
- Os ydych yn talu aelodau o’r Corff Llywodraethu:
- o rhaid cael cytundeb ysgrifenedig ffurfiol sy’n cynnwys manylion am hyn”
- i elusennau sydd wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhaid i hyn fod yn y ddogfen lywodraethu neu ddogfen arall y cytunir arni gan y Comisiwn Elusennau neu’r Llysoedd
- i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol, rhaid i’r ddogfen lywodraethu gynnwys manylion clir am hyn
- Mae’r dogfennau llywodraethu’n nodi’r canlynol yn glir:
- Bod y sefydliad yn un nid-er-elw, neu fod ganddo gymal clir yn ei ddogfen lywodraethu yn sicrhau bod yr holl incwm yn cael ei gymhwyso at ddibenion y sefydliad, yn hytrach na chael ei ddosbarthu i aelodau, cyfranddalwyr neu berchnogion.
- Nodau elusennol sy’n addas ar gyfer gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y DU
- Bod cymal diddymu/clo asedau ar waith, yn mynnu bod asedau’n cael eu dosbarthu i sefydliad sydd â nodau elusennol tebyg pe bai’r sefydliad yn cau
- Rhaid i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol gael clo asedau a rhaid i hwnnw enwi’r sefydliad dan sylw y bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu iddo.
Ariannol
- Darparu cyfrifon swyddogol, sy’n cynnwys datganiad incwm a mantolen, wedi’u llofnodi a’u dyddio gan Gadeirydd neu Drysorydd Corff Llywodraethu*, a’r rheini’n ddim mwy na 18 mis oed. Rhaid darparu esboniad os yw’r cyfrifon yn fwy na 18 mis oed. Rydym yn disgwyl i ddogfennau ddangos gweithgareddau cyfyngedig ac anghyfyngedig, ac arian wrth gefn
*Nid oes angen cyfrifon wedi’u llofnodi arnom gan elusennau sydd wedi cofrestru â Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Rydym yn disgwyl i sefydliadau gymeradwyo eu cyfrifon yn ffurfiol o hyd, a rhaid i gopi wedi’i lofnodi fod ar gael yng nghyfeiriad cofrestredig yr elusen. Efallai y byddwn yn gofyn am y copi hwn.
- Rhaid i’r cyfrifon ddangos bod eich sefydliad yn abl i dalu dyled
*Wrth hyn rydym yn golygu bod eich cyfrifon yn dangos nid ydych yn ddibynnol ar incwm dyfodol i ateb anghenion byr-dymor presenol h.y. mae eich asedau cyfredol yn ddigonol i gyflenwi eich ymrwymiadau.
- Darparu rhagolwg ariannol os yw’r sefydliad yn ei 12-18 mis cyntaf o weithredu. Rhaid i’r rhagolwg gynnwys y canlynol o leiaf:
- Incwm amcanol
- Gwariant amcanol
- Rhywfaint o waith cynllunio / eglurder ynghylch cynhyrchu incwm
- Dylai’r sefydliad ddarparu tystiolaeth bod trafodiadau ariannol a thaliadau’n cael eu hadolygu gan ddau awdurdodwr taliadau nad oes cysylltiad rhyngddynt.
Diogelu
- Mae polisi diogelu’r sefydliad yn enw’r sefydliad sy’n gwneud cais.
- Mae arweinydd diogelu dynodedig yn y sefydliad.
- Mae’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n cael cyswllt wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant diogelu:
- Rhaid i’r hyfforddiant fod yn addas i natur y gwaith a rhaid ei adnewyddu’n rheolaidd.
- Dylai’r hyfforddiant ymwneud â’r arferion diogelu gorau a chyflwyno gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau diogelu’r sefydliad.
- Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio gyda phlant gael archwiliadau cefndir perthnasol, h.y. gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Disclosure Scotland neu Access NI. Mae hyn yn cynnwys yr holl staff, pwyllgor rheoli, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr sydd â mynediad uniongyrchol at blant. Rhaid adnewyddu’r archwiliadau’n rheolaidd.
- Mae’r polisi Diogelu Plant yn cynnwys camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu ddatgeliad, gan gynnwys i bwy y dylid rhoi gwybod a sut mae cysylltu â nhw.