Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau

Mae BBC Plant mewn Angen yn defnyddio ein Safonau Gofynnol ar gyfer rhoi grantiau i edrych ar gryfderau sefydliad pan fyddwch yn cyflwyno cais i ni. Rydym yn edrych ar feysydd gan gynnwys eich cyllid, llywodraethu a diogelu.

Cipolwg ar ein Safonau Gofynnol…

Dyma’r safonau gofynnol y mae’n rhaid i sefydliad eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid gan BBC Plant mewn Angen. I fod yn gymwys i gael grant, rhaid i gais fodloni meini prawf ychwanegol hefyd. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer Grantiau Prosiect a Chraidd, a’n Canllawiau A i Y.

Llywodraethu

Dogfen lywodraethu sy’n dangos y canlynol:

Ystyr ‘nodau elusennol’ gennym yw datganiad sy’n disgrifio pwrpas y sefydliad. Rhaid i’r nodau fod er budd y cyhoedd a rhaid iddynt fod yn briodol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Gan hyn rydym yn golygu bod yr holl incwm yn cael ei ddefnyddio i gyflawni nodau elusennol y sefydliad ac nid yw’n cael ei dalu i aelodau, cyfranddalwyr na pherchnogion.

Mae cymal diddymu neu glo asedau yn disgrifio beth fydd yn digwydd i unrhyw eiddo neu arian os bydd y sefydliad yn cau. Er mwyn bodloni ein gofynion, rhaid i’r cymal ddweud bod y rhain i’w rhoi i sefydliad nid-er-elw arall sydd â nodau elusennol tebyg.

Rhaid i Gwmnïau Buddiannau Cymunedol gael clo asedau a rhaid i hwnnw enwi’r sefydliad dan sylw y bydd cyllid yn cael ei roi iddo. Er mwyn bodloni ein gofynion, rhaid i’r sefydliad arall hwn fod â nodau elusennol tebyg.

Os nad oes gennych gymal diddymu addas neu glo asedau yn eich dogfen lywodraethu ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais i ni. Os y llwyddoch i gael grant, byddem yn gofyn i chi gael hwn yn ei le cyn i ni ryddhau unrhyw arian i’ch sefydliad. Efallai y gallwn gynnig cefnogaeth i’ch helpu i gyflawni hyn.

Gan ‘annibynnol’, rydym yn golygu aelodau’r corff llywodraethu nad ydynt yn perthyn i’w gilydd nac yn byw gyda’i gilydd.

Os ydych chi’n talu aelodau o’ch corff llywodraethu am wasanaethau y tu allan i’w rôl fel aelod o’r corff llywodraethu (e.e. fel ymgynghorydd neu aelod staff sesiynol) mae’n rhaid i chi gael y canlynol:

  • cytundeb ysgrifenedig sy’n esbonio beth y gellir talu i aelod o’r corff llywodraethu ei wneud, pryd, a pha mor aml y gellir ei dalu a faint y gellir ei dalu
  • polisi gwrthdaro buddiannau ar waith sy’n nodi sut y bydd penderfyniadau ynghylch taliadau i unigolyn yn cael eu rheoli gan y corff llywodraethu

Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr, rhaid i hyn fod yn nogfen lywodraethu eich sefydliad neu mewn dogfen arall y cytunwyd arni gan y Comisiwn Elusennau.

Os ydych chi’n elusen gofrestredig yn yr Alban, rhaid i chi fodloni’r holl amodau canlynol:

  • ni ddylai fod dim yn nogfen lywodraethu’r elusen sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
  • mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusennau yn cael eu talu gan yr elusen
  • mae cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen ac ymddiriedolwr yr elusen
  • mae’r cytundeb ysgrifenedig yn nodi’r uchafswm sydd i’w dalu, ac mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi cymeradwyo’r taliad

Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • rhaid cael cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen ac ymddiriedolwr yr elusen neu’r unigolyn cysylltiedig, yn nodi’r swm neu’r uchafswm sydd i’w dalu
  • rhaid i ymddiriedolwyr yr elusen gymeradwyo’r cytundeb
  • mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusen yn cael eu talu gan yr elusen
  • ni ddylai fod dim yn nogfen lywodraethu’r elusen sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
  • rhaid i ymddiriedolwr yr elusen sy’n cael ei dalu beidio â chymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch gwneud y cytundeb, pa mor dderbyniol yw’r gwasanaeth a ddarperir, na gosod y pris

Os ydych yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid nodi hyn yn glir yn eich dogfen lywodraethu.

Cyllid

Dylai eich cyfrifon:

  • Fod yn ddim mwy na 18 mis oed, a bod wedi eu llofnodi a’u dyddio gan aelod o’ch Corff Llywodraethu. Dylai’r ddogfen gyfrifon fod wedi’i llofnodi’n ‘wlyb’, ac ni ddylai gynnwys llofnod digidol oni bai eich bod yn defnyddio meddalwedd arbenigol megis e-lofnod Adobe. Dylai’r ddogfen cael ei chyflwyno mewn fformat na ellir ei olygu
  • Dylech gynnwys datganiad incwm sy’n dangos yr holl incwm a gwariant
  • Dylech gynnwys mantolen sy’n rhoi manylion eich asedau, eich rhwymedigaethau a’ch cronfeydd wrth gefn (ni allwn dderbyn cyfrifon micro)

Dylai eich incwm, eich gwariant a’ch cronfeydd wrth gefn fod wedi’u rhannu’n weithgareddau/ cronfeydd anghyfyngedig a chyfyngedig.

  • Dim ond at ddiben penodol y mae modd defnyddio Cronfeydd Cyfyngedig. Er enghraifft: mae ond yn bosibl gwario grant gan gyllidwr i gyflawni prosiect ar y prosiect hwnnw’n unig.
  • Mae cronfeydd anghyfyngedig yn grantiau neu’n rhoddion y gellir eu defnyddio mewn unrhyw ffordd sy’n briodol i gyflawni nodau elusennol y sefydliad. Mae rhoddion gan aelodau o’ch cymuned leol yn enghraifft o roddion anghyfyngedig.

Os nad yw cyfrifon eich sefydliad yn dangos dadansoddiad o gronfeydd cyfyngedig ac anghyfyngedig, bydd angen i chi gyflwyno’r Templed Ariannol ochr yn ochr â’ch cyfrifon. I lenwi’r ddogfen hon, bydd angen i chi gael cofnod o’ch incwm, eich gwariant a’ch cronfeydd wrth gefn, yn ogystal â dadansoddiad o unrhyw asedau a rhwymedigaethau cyfredol. Noder, os ydych chi’n cwblhau’r templed ariannol, bydd angen i chi hefyd gyflwyno’ch set ddiweddaraf o gyfrifon gyda’ch ffurflen gais. I weld y templed ariannol a’r canllawiau, cliciwch yma.

Os yw eich sefydliad yn y 12-18 mis cyntaf o weithredu ac nad oes ganddo gyfrifon eto, rhaid i chi ddarparu rhagolwg ariannol. Dylai rhagolwg ariannol gynnwys yr incwm a’r gwariant a ragwelir ynghyd â rhywfaint o gynllunio / eglurder ynghylch sut y byddwch chi’n codi arian. Dylai’r ddogfen hon cael ei chyflwyno mewn fformat na ellir ei olygu.

Mae’r wybodaeth hon ar gael ar Fantolen eich cyfrifon.

Drwy bobl nad ydynt yn gysylltiedig, rydym yn golygu staff, gwirfoddolwyr neu Aelodau’r Corff Llywodraethu nad ydynt yn berthnasol nac yn byw gyda’i gilydd.

Gall hyn gynnwys adolygu trafodion yn eich sefydliad megis terfynau gwariant y cytunwyd arnynt ymlaen llaw, cymeradwyaeth deiliad y gyllideb ac adolygiadau o wariant ariannol y bwrdd.

Diogelu

Nid ydym yn derbyn polisïau sydd yn enw sefydliad arall. Er enghraifft, sefydliad partner, rhiant-sefydliad neu sefydliad cysylltiedig.

Dylai hyn gynnwys pwy i’w hysbysu a sut i gysylltu â nhw.

Dylai’r person hwn fod yn gyflogedig neu’n gwirfoddoli’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad chi, nid sefydliad partner neu riant-sefydliad.

Mae’r unigolyn hwn yn cael ei alw’n ‘Arweinydd Diogelu Dynodedig’ fel arfer. Maen nhw’n gyfrifol am wneud a rheoli atgyfeiriadau i’r gwasanaethau cymdeithasol, rhoi gwybod pan fyddant yn dod ar draws problemau a diweddaru cofnodion mewnol. Dylent fod yn rhywun sydd â lefel briodol o awdurdod yn eich sefydliad, sy’n sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yn y maes hwn ac yn mynychu hyfforddiant i’w cefnogi i gyflawni’r rôl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rhaid i’r holl staff, aelodau’r corff llywodraethu a gwirfoddolwyr sy’n cael cyswllt wyneb yn wyneb a/neu ar-lein â Phlant a Phobl Ifanc gael hyfforddiant diogelu rheolaidd a phriodol.

Rhaid i hyfforddiant:

  • Ymdrin ag arferion gorau o ran diogelu yn ogystal â gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau diogelu’r sefydliad
  • Bod yn briodol i natur y gwaith
  • Cael ei adnewyddu’n rheolaidd. Rydym yn awgrymu bod hyn yn digwydd o leiaf unwaith bob tair blynedd.

Rydym yn disgwyl i’r holl staff, gwirfoddolwyr neu aelodau o’r corff llywodraethu sy’n gymwys fod yn destun archwiliadau cefndir perthnasol. Rhaid adnewyddu sieciau’n rheolaidd.

Os ydych chi yng Nghymru a Lloegr ac yn defnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, rydym yn cynghori bod hyn yn digwydd o leiaf bob tair blynedd. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i hyn fod yn briodol i natur y gwaith sy’n cael ei gyflawni.
Os ydych chi yng Nghymru neu yn Lloegr ac yn defnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru, dylai fod gennych broses ar waith i wirio’n rheolaidd a oes unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau wedi bod. Rydym yn awgrymu bod hyn yn digwydd o leiaf unwaith bob tair blynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am yr archwiliadau perthnasol yng Nghymru a Lloegr, ewch i wefan gov.uk.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac yn defnyddio Access NI, rydym yn cynghori bod hyn o leiaf bob tair blynedd. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i hyn fod yn briodol i natur y gwaith sy’n cael ei gyflawni.
I gael rhagor o wybodaeth am yr archwiliadau perthnasol yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect.gov.uk.

Os ydych chi yn yr Alban ac yn defnyddio cynllun gwirio Disclosure Scotland PVG, rydym yn ymwybodol o’r newidiadau diweddar i Ddeddf Datgelu (Yr Alban) 2020 sy’n dod ag aelodaeth oes i’r cynllun i ben ym mis Ebrill 2026. Er bod y rhai sydd wedi cofrestru â’r cynllun yn cael eu monitro’n barhaus gan Disclosure Scotland, mae’n symud i gynllun aelodaeth 5 mlynedd o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Felly, rydym yn cynghori bod yr holl archwiliadau PVG o 1 Ebrill 2026 ymlaen yn cael eu hailadrodd o leiaf bob 5 mlynedd yn unol ag amserlenni aelodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am yr archwiliadau perthnasol yn yr Alban, ewch i wefan myscot.gov.

Os ydych chi’n cynnal archwiliadau cefndir yn llai aml ar hyn o bryd na’r hyn a awgrymir uchod, mae’n bosibl y byddwch chi’n dal yn gymwys i wneud cais i ni. Os y llwyddoch i gael grant, byddem yn gofyn i chi gynnal archwiliadau cefndir amlach cyn i ni ryddhau unrhyw arian i’ch sefydliad.

Mae’r NSPCC yn cynnig Teclyn Hunanasesu am ddim i helpu sefydliadau i wirio eu trefniadau diogelu ac amddiffyn plant presennol. Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r adnodd hwn cyn i chi wneud cais.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1