
Ffrwd Ariannu Costau (Sefydliadol) Craidd
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Hydref. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ar hyn o bryd, nid yw BBC Plant mewn Angen bellach yn derbyn ceisiadau Datganiad Diddordeb newydd. Byddwn yn derbyn ceisiadau newydd wedi i ni lansio ein system grantiau newydd diwedd mis Hydref 2025.
Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 15 Awst 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Hydref 2025.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Pan fyddwn yn lansio ein system dyrannu grantiau newydd bydd yna rai newidiadau i’n polisïau a fydd yn effeithio ar bwy all wneud cais am grant wrth BBC Plant mewn Angen. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda manylion cyn i ni ailagor ym mis Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.
Ffrwd Ariannu Costau (Sefydliadol) Craidd
- Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y ffrwd gyllido Costau Craidd – gallwch wneud cais unrhyw bryd
- Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a gafwyd, cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad
- Y cam cyntaf wrth wneud cais yw mynd i siarad â’ch tîm lleol
- Defnyddiwch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i ddweud rhywfaint mwy wrthym am eich sefydliad a’r gwaith rydych am i ni ei ariannu
- Byddwch yn gallu cael gafael ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yn eich cyfrif ar-lein
- Os hoffem gefnogi’r gwaith sydd wedi’i amlinellu yn eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch i’w llenwi
- Ewch ati i ddysgu rhagor am y math o brosiectau rydym ni’n eu hariannu i’ch helpu chi i ddeall rhagor am y prosiectau yn eich gwlad neu’ch rhanbarth chi
Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 6 cais a dderbyniwn.
Rydym ni’n eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw adborth am ein proses dyrannu grantiau. Rydym ni am fod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein ffurflen gais i iaith arall. Byddwn hefyd yn siarad â chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau. Os oes angen help arnoch chi i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected]
Beth yw Costau Craidd?
Mae Costau Craidd yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol. Dyma’r prif gostau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal eich sefydliad.
Gellir gwario ein cyllid Costau Craidd ar weithrediadau canolog eich mudiad o ddydd i ddydd. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:
- Rheoli a gweinyddu
- Adnoddau Dynol a’r gyflogres
- Costau swyddfa cyffredinol
- Cyfrifyddiaeth ac archwilio
- Cyfathrebu a gwaith maes
- Monitro, gwerthuso a dysgu
- Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio
Mae ein Ffrwd Gyllido Costau Craidd ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.
Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i benderfynu a ydych am wneud cais am Gostau Craidd. Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am Gostau Prosiect yn lle hynny, ewch i’n tudalen Ffrwd Gyllido Costau Prosiect.
Cyfeiriwch hefyd at ein Canllawiau Cwestiynau Cyffredin a Canllaw A-Y i gael rhagor o wybodaeth.
A yw ein grantiau Costau Craidd yn cyfrif fel cyllid cyfyngedig neu anghyfyngedig?
A yw ein grantiau Costau Craidd yn cyfrif fel cyllid cyfyngedig neu anghyfyngedig?
Mae ein grantiau Costau Craidd yn cael eu dyfarnu fel cyllid cyfyngedig. Rhaid eu defnyddio i dalu costau rhedeg hanfodol eich mudiad.
Gallai sefydliad ddefnyddio cyllid anghyfyngedig ar gyfer unrhyw nod elusennol ar unrhyw adeg, yn ôl disgresiwn llwyr y derbynnydd grant ei hun. Nid ydym yn dyfarnu cronfeydd cwbl anghyfyngedig fel hyn.
Beth yw adennill costau’n llawn?
Beth yw adennill costau’n llawn?
Ni ellir defnyddio Grantiau Craidd BBC Plant mewn Angen i gefnogi modelau adennill costau llawn. Nid ydym yn ariannu unrhyw wariant amhenodol yn y rhaglen hon. Er enghraifft, nid ydym yn ariannu grantiau ar gyfer canran o’r holl gostau sefydliadol/gorbenion. Rydym yn disgwyl i sefydliadau allu mynegi cais am gyllid Costau Craidd penodol.
Sylwch fod yn rhaid i chi nodi costau unigol yn eich cyllideb.
Pwy all wneud cais?
- Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
- Mudiadau sydd wedi’u lleoli yn y DU, ar Ynys Manaw neu ar Ynysoedd y Sianel
- Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y ar Geisiadau am dros £15,000 y flwyddyn a Sefydliadau anghofrestredig.
- Gallwch ond wneud un cais a dal un grant ar unrhyw adeg
- Os oes gennych chi grant BBC Plant mewn Angen sydd i ddod i ben o fewn 12 mis gweler hefyd ‘Mae gennym ni grant eisoes gan BBC Plant Mewn Angen. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?’ yn ein Cwestiynau Cyffredin
- Os nad ydym yn ariannu eich cais byddwn yn eich cynghori pan fyddwch nesaf yn gallu gwneud cais i ni
- Rydym yn ceisio blaenoriaethu mudiadau lleol, llai eu maint. O ganlyniad, ar gyfer ein Grantiau Craidd, ni fyddwn yn ariannu mudiadau â throsiant o fwy na £1m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf
- Dim ond un grant Costau Craidd y gall sefydliad ei gael ar unrhyw adeg, ni waeth ym mha le yn y DU y mae’n cyflawni gwaith
- Os byddwch yn gwneud cais i ni i’w gyflwyno ledled y DU, bydd panel penderfynu canolog yn ystyried eich cais. Gweler ein tudalen Canllawiau Cymhwysedd A-Y am fwy o wybodaeth am Geisiadau ledled y DU.
Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy’n:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
- Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
- Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
- Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc
Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu:
- Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
- Sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Nid yw Ysgolion Arbennig yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Grant Craidd
- Awdurdodau Lleol, Chyrff y GIG, ysbytai neu carchardai
- Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
- Gwaith sy’n hyrwyddo crefydd
- Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r DU
- Ymchwil neu driniaeth feddygol
- Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
- Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
- Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
- Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
- Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
- Unigolion
- Costau a drosglwyddir i gyrff eraill. Rydym ni’n disgwyl i bob sefydliad ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am y llywodraethu, cyllid a diogelu ddarparu eu gwaith
- Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
- Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
- Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
- Gwariant nad yw’n gallu dechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
- Gwariant amhenodol
- Adennill costau’n llawn
Faint ddylech chi wneud cais amdano?
- Cofiwch fod angen i chi siarad â’ch tîm grantiau lleol cyn i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Mae’n bwysig iawn eich bod yn cael golwg ar ein tudalennau gwneud cais am gyllid, canllawiau cymhwysedd A-Y, safonau sylfaenol
- Byddwn yn gwneud penderfyniadau cyflymach ynghylch ceisiadau am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn, ac felly byddwch yn gallu dechrau’n gynt os byddwch yn llwyddiannus
- Mae ein ffrwd Grantiau Craidd yn cefnogi sefydliadau am hyd at dair blynedd
- Dim ond gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein ar Geisiadau am dros £15,000 y flwyddyn a Mudiadau Heb eu Cofrestru
- Nid ydym yn rhoi grantiau o fwy na £120,000 (neu £40,000 y flwyddyn), ac mae’r rhan fwyaf o’r grantiau a ddyfernir gennym yn llai o lawer na hyn. Bob blwyddyn, rydym yn cael llawer mwy o geisiadau am gyllid nag y gallwn eu cefnogi. Mae bob amser yn anoddach i ni ariannu ceisiadau am symiau mwy
- Os yw eich gwaith yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn. Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant y mae camfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol wedi effeithio arnynt. Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu
Pryd ddylech chi wneud cais?
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y ffrwd Costau Craidd, felly gallwch wneud cais unrhyw bryd. Nid ydym yn ariannu’n ôl-weithredol, ac ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sydd wedi digwydd cyn i ni ymateb i’ch cais. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi ddechrau gwario eich grant o fewn 12 mis.
Cynlluniwch ddyddiad eich cais er mwyn i chi gael penderfyniad mewn da bryd cyn i chi ddechrau gwario. Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o geisiadau rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Os byddwch yn cyflwyno ffurflen yn ystod y misoedd hyn, mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser i chi gael penderfyniad.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb?
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
- Os na fydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad
- Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch i ffurflen gais ar-lein lawn
- Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
- Bydd gennych chi 30 diwrnod i gyflwyno eich cais llawn, o’r diwrnod y byddwn yn anfon y ddolen atoch
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ein ffurflen gais lawn am Gostau Craidd?
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
1. Yn gyntaf, bydd eich tîm lleol yn gwneud yn siŵr bod y Costau Craidd y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid.
2. Byddwn wedyn yn defnyddio proses safonol i’n helpu i benderfynu pa geisiadau i’w hystyried ymhellach. Ymysg pethau eraill, bydd y broses hon yn ystyried:
-
- Nifer y ceisiadau ar y pryd
- Y gyllideb sydd ar gael ar y pryd
3. Efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu slot amser gyda ni am alwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
4. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am fwy o wybodaeth am eich cais neu’ch gwaith.
5. Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu’ch gwlad, lle gwneir penderfyniadau ynghylch argymell cyllid.
6. Trosglwyddir argymhellion i’n hymddiriedolwyr, a gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi. Ar ôl gwneud y penderfyniad hwn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael penderfyniad?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Mae gennyf grant yn barod’.
- Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud neu bethau y bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian y cytunwyd arno i chi
- Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad drwy e-bost
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd y gallwch wneud cais eto. Os ydych chi’n dymuno gofyn am ragor o adborth, bydd manylion ynghylch sut mae gwneud hynny’n cael eu cynnwys yn eich llythyr penderfyniad.
English
To read this page in English, please click here.