Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Telerau Arbennig Hebryngwyr BBC Plant mewn Angen

Sylwch fod y fersiwn Saesneg o’r telerau hyn ar gael isod. 

Os bydd telerau ac amodau cyffredinol BBC Plant mewn Angen yn gwrthdaro â’r Telerau Arbennig hyn, y Telerau Arbennig fydd yn cael blaenoriaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth am Hebryngwyr, ewch i – Hebryngwyr (Chaperones) 

1. Diffiniadau 

Bydd telerau a gaiff eu diffinio yn y Telerau ac Amodau cyffredinol yn berthnasol i’r Telerau Arbennig hyn, oni nodir yn benodol fel arall.  Yn ogystal, bydd yr ystyron canlynol i’r termau canlynol: 

1.1 Mae “Hebryngwr” yn golygu person dros 18 oed sydd wedi’i gymeradwyo o dan Reoliad 15 o Reoliadau Plant (Perfformiad a Gweithgareddau) (Lloegr) 2014, i fod â gofal a rheolaeth dros blentyn er mwyn diogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn tra bydd yn cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer, gweithgaredd neu’n byw oddi cartref yn ystod cyfnod y Drwydded. 

1.2 Mae hebryngwyr yn gweithredu in loco parentis ac yn ymarfer y gofal y gellid disgwyl yn rhesymol i riant da ei roi i blentyn.  

1.3 Mae “Trwydded” yn golygu’r awdurdodiad cyfreithiol sydd gan hebryngwr i oruchwylio plentyn tra bydd yn cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer, gweithgaredd neu’n byw oddi cartref. 

2. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Hebryngwyr 

2.1 Fel Hebryngwr, eich prif gyfrifoldeb yw sicrhau lles a goruchwyliaeth y plentyn/plant yn eich gofal Chi  

2.2 Rhaid i Chi fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaethol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Reoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Lloegr) 2014 neu Reoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Yr Alban) 2014    

2.3 Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â Pholisïau Diogelu BBC Plant mewn Angen fel y’u darperir i chi gan eich archebwr neu gan Gyswllt yn BBC Plant mewn Angen a, lle bo hynny’n berthnasol i’ch ymgysylltiad, â Pholisi Diogelu’r BBC a Chanllawiau Golygyddol y BBC. Maent ar gael yma:  

Polisi Diogelu’r BBC  

Canllawiau Golygyddol y BBC 2025 

2.4 Rhaid i Chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi cwblhau cwrs ar-lein yr NSPCC, ‘Amddiffyn Plant yn y Diwydiant Adloniant’ (o fewn 3 blynedd)    

2.5 Rhaid i Chi sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd addas ar gyfer gweithgareddau hamdden a’i fod yn cael ei amddiffyn rhag pwysau, straen, tywydd garw ac unrhyw amodau eraill sy’n debygol o’i niweidio.    

2.6 Rhaid i Chi gadw mewn cysylltiad â’ch Awdurdod Trwyddedu Chi (os yw’n berthnasol), Awdurdod Trwyddedu’r plentyn/plant, Awdurdod Lleol yr ardal y mae’r plentyn yn perfformio ynddi, asiant y plentyn (os yw’n berthnasol) a Rhiant/Gwarcheidwad Cyfreithiol y plentyn/plant.

3. Trwyddedau Hebryngwyr a Phlant ac Aelodaeth y Cynllun PVG 

3.1 Un o amodau Eich cyflogaeth fel Hebryngwr yw bod gennych Chi un o’r pethau canlynol: 

3.2 Os ydych Chi’n Hebryngwr yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, Trwydded ddilys i Hebryngwyr a gyhoeddwyd gan eich Awdurdod Lleol Chi, a bydd gofyn i Chi ddarparu copi ohoni i BBC Plant mewn Angen neu’r BBC (yn ôl y cyfarwyddyd) ar gais.  

3.3 Os ydych Chi’n Hebryngwr yn yr Alban, aelodaeth o’r Cynllun PVG (Amddiffyn Grwpiau Agored i Niwed), a bydd gofyn i Chi ddarparu copi o’r naill neu’r llall i BBC Plant mewn Angen neu’r BBC (yn ôl y cyfarwyddyd) ar gais.  

3.4 Os ydych Chi wedi gwarantu bod gennych Chi Drwydded Hebryngwr ddilys, Gwiriad manwl cyfredol (gyda Rhestr Gwahardd ar gyfer plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, neu eich bod Chi’n aelod o’r Cynllun PVG (fel y bo’n briodol), rydych Chi’n cytuno i gadarnhau unrhyw newidiadau i’r swydd honno yn ystod Eich cyflogaeth â BBC Plant mewn Angen, neu cyn derbyn unrhyw waith pellach.     

3.5 Rydych Chi’n cytuno i sicrhau Eich bod yn gwbl gyfarwydd â thelerau Trwydded y plentyn rydych Chi’n ei hebrwng, ac yn gyfarwydd â’r trwyddedau a roddir gan yr Awdurdodau Lleol, ac fel o fewn Eich gallu Chi, dylech sicrhau bod unrhyw rai o amodau’r Trwyddedau’n cael eu bodloni.  

3.6 Rydych Chi’n gwarantu bod gan y plentyn/plant rydych Chi’n ei/eu hebrwng drwydded ddilys a byddwch yn darparu’r drwydded honno i BBC Plant mewn Angen neu’r BBC (yn ôl y cyfarwyddyd) ar gais

4. Diogelu Data 

Gallwch brosesu Data Personol o bryd i’w gilydd wrth gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y Contract fel a ganlyn: 

Categorïau Gwrthrychau Data: plant/pobl ifanc sy’n cael eu hebrwng a’u rhiant/gwarcheidwad 

Mathau o Ddata Personol: enw, cyfeiriad, dyddiad geni/oed, gwybodaeth allweddol neu “stori”, manylion unrhyw faterion penodol gan gynnwys, heb gyfyngiad, materion iechyd, y daflen alwadau, rhiant/gwarcheidwad y plentyn/person ifanc: manylion cyswllt mewn argyfwng. 

Diben Angenrheidiol y Prosesu: at ddibenion darparu’r gwasanaethau neu’r elfennau i’w cyflawni a nodir yn eich Archeb / Contract Archebu yn unig. 

Rhaid i chi gydymffurfio â’r Telerau ac Amodau cyffredinol wrth Brosesu Data Personol o’r fath. 

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1