
Hanfodion Brys (AR GAU)
Mae Rhaglen Hanfodion Brys BBC Plant mewn Angen wedi cau am y tro.
Yn sgil y galw mawr am y grantiau Hanfodion Brys, mae ein cyllid presennol wedi cael ei ddyrannu’n llawn ac ni allwn dderbyn rhagor o geisiadau ar hyn o bryd.
Bydd Rhaglen Hanfodion Brys BBC Plant mewn Angen yn dychwelyd ar 1af Mehefin 2022. Dewch yn ôl i gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen yn nes at yr amser.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gais rydych chi wedi’i gyflwyno eisoes neu am y Rhaglen Hanfodion Brys, cysylltwch â’r Tîm Hanfodion Brys: [email protected]
Hanfodion Brys
Mae ein rhaglen Hanfodion Brys yn cefnogi plant a phobl ifanc unigol sydd yn byw mewn tlodi difrifol heb y cyfleusterau sylfaenol y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, a gyda phwysau ychwanegol megis trais yn y cartref, anabledd neu afiechyd yn y teulu.
Mae’r rhaglen yn darparu eitemau sydd yn cwrdd ag anghenion mwyaf sylfaenol plant megis gwely i gysgu ynddo neu ffwrn i baratoi pryd o fwyd poeth, dillad (mewn argyfwng) ac eitemau a gwasanaethau eraill sydd yn hanfodol i les plentyn. Mae’r ffilm fer hon, a gafodd ei chynhyrchu ar gyfer apêl y llynedd, yn helpu i ddangos pwysigrwydd ein Rhaglen Hanfodion Brys, a pha effaith mae’n ei chael.
Mae’r rhaglen nawr yn cael ei darparu ar ein rhan gan Family Fund Business Services. Dim ond drwy gyfeirio mae modd defnyddio’r rhaglen a dim ond asiantaethau cofrestredig sy’n cael cyfeirio, sef yr asiantaethau hynny sy’n gallu cyrraedd y teuluoedd hynny sydd angen y rhaglen fwyaf. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dysgu sut mae cofrestru fel asiantaeth cyfeirio, ar eu gwefan.
Er mwyn ymateb i’r galw cynyddol ar gyfer nwyddau angenrheidiol gan deuluoedd sy’n byw ag anawsterau ariannol, iechyd a chymdeithasol difrifol sy’n effeithio ar les eu plant, bydd BBC Plant mewn Angen yn cynyddu ei ymrwymiad i Hanfodion Brys, ac yn gwario £3.0m ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019.
Bydd gwybodaeth am sut mae gwneud cais i’r rhaglen newydd, neu am sut mae cofrestru i fod yn bartner cyfeirio, ar gael ym mis Mehefin.
English
To read this page in English, please click here.