Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

McDonald's Fun Football

Y Broses o’r Dechrau i’r Diwedd

Rydym yn gwybod bod gwneud cais am gyllid yn gallu bod yn anodd ac mae’n cymryd llawer o amser. Felly, dyma ganllawiau cam wrth gam syml i egluro ein proses gyllido. Yma fe welwch ddolenni i’r holl wybodaeth berthnasol y bydd ei hangen arnoch.Y Broses o’r Dechrau i’r Diwedd

Step 1

Dilynwch y camau i wneud cais am gyllid

TODO ALT

Ewch i’n tudalen Gwneud Cais am Gyllid a’n tudalen Beth rydym ni’n ei ariannu i weld a ydych chi’n gymwys ac i ddysgu sut i wneud cais.

Yna, rhaid i chi siarad â’ch tîm grantiau lleol. Os ydych chi wedi cael cyllid gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen, neu os ydych chi’n ddeiliad grant ar hyn o bryd ac yn bwriadu gwneud cais eto, bydd angen i chi fynd i sesiwn cyn cyflwyno’r cais newydd.

Os oes gennych chi gwestiwn i ni nad yw’n cael ei ateb ar y dudalen hon, gallwch fynd i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gallwch gysylltu â ni. 

 

Step 2

Datgan Diddordeb

TODO ALT

Rhan gyntaf y broses o wneud cais yw llenwi ffurflen ‘Datganiad o Ddiddordeb’. Ffurflen fer yw hon, i chi gael dweud mwy wrthym am eich sefydliad a’r gwaith rydych am i ni ei ariannu. Os ydym am glywed mwy am y gwaith rydych yn ei wneud, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch, er mwyn i chi ei llenwi. Bwriad y Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yw bod yn ffordd gyflym a hawdd i chi ddweud wrthym beth yw syniad sylfaenol eich prosiect.

 

Step 3

Cyflwyno Cais

TODO ALT

Os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, gofynnir i chi gyflwyno ffurflen gais lawn. Yn ystod y cam ymgeisio, gofynnir i chi roi rhagor o fanylion i ni am y gwaith rydych chi’n ei wneud. Byddwn hefyd yn gofyn am ragor o fanylion am gyllid, trefniadau llywodraethu a gweithdrefnau diogelu eich sefydliad.

Step 4

Cael Gafael ar Ragor o Wybodaeth

TODO ALT

Ceisiadau am £15,000 neu lai’r flwyddyn   

Ein nod yw ymateb yn gyflym i geisiadau am £15,000 neu lai. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais lawn, efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am eich sefydliad neu’r gwaith rydych yn ei wneud. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i holi rhai cwestiynau ychwanegol dros e-bost, galwad ffôn sydyn neu alwad asesu.

Ceisiadau am £15,000 neu fwy’r flwyddyn 

Ar ôl i ni gael eich ffurflen gais lawn, byddwn ni’n eich ffonio i drafod prosesau diogelu eich sefydliad. Efallai y byddwn ni’n anfon e-bost atoch neu’n eich ffonio i ofyn i chi egluro rhywfaint o wybodaeth, mae hyn yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich cais a’ch gwaith. Pan fo ceisiadau cymhleth yn ein cyrraedd, byddwn yn cael sgwrs hirach â chi am y gwaith rydych am i ni ei ariannu.

Step 5

Y Grant

TODO ALT

Byddwn yn trefnu galwad groesawu gyda’ch Swyddog Grant lleol i chi gael cyfle i drafod y grant. Ar ôl i ni gael yr holl wybodaeth angenrheidiol, bydd eich grant yn cael ei dalu mewn rhanddaliadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y llythyr cynnig grant.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw eich Swyddog Grant, cysylltwch â ni.

Step 6

Cyflawni ac adrodd yn ôl

TODO ALT

Rydym yn gofyn i bawb sy’n cael grant gennym adrodd yn ôl i ni bob blwyddyn, gan roi gwybod i ni sut mae pethau wedi mynd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiadau hyn yn ein helpu ni i ddeall pa mor werthfawr oedd y grant ac yn gyfle i ni ddysgu rhagor am y gwaith arbennig rydych chi’n ei wneud. Mae’n gyfle hefyd i chi dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol rydych chi wedi’i chael a rhannu astudiaethau achos sy’n profi gwerth eich gwaith.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1