Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

A young boy and a Warrington Wolves rugby player smiling in the rain

Gwnewch Gais am Grant Archive

Bydd ein rhaglenni cyllido newydd yn dechrau lansio yn Hydref 2022.

Yn BBC Plant mewn Angen, mae plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Ar ôl digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu uchelgais elusennol a strategaeth dyrannu grantiau newydd. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ein hegwyddorion canlynol:

  • Rhannu pŵer gyda Phlant a Phobl Ifanc
  • Gweithredu mewn dull hyblyg
  • Defnyddio ein llais i feithrin ymwybyddiaeth ac empathi ynghylch materion
  • Meithrin partneriaethau i ddod â chymunedau a buddsoddwyr at ei gilydd

Fel rhan o hyn, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol i’n model dyfarnu grantiau:

  • Byddwn yn parhau i gynnig cyllid sy’n seiliedig ar brosiectau, yn yr un modd â’r gorffennol.
  • Byddwn yn cynnig cyllid ar gyfer costau craidd (sefydliadol) fel ffrwd grantiau ar wahân.
  • Yn ystod Gwanwyn 2023, byddwn yn lansio ffrwd gyllido ar gyfer mudiadau llai sy’n dod i’r amlwg. Mae’r ffrwd hon wedi’i hanelu at fudiadau a allai fod angen mwy o gefnogaeth i gael gafael ar ein cyllid.

Dim ond ar gyfer un o’r ffrydiau hyn y bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais bob blwyddyn. Dylai eich sefydliad ddewis pa ffrwd sydd fwyaf addas ar gyfer eich gwaith a byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach amdanynt dros y misoedd nesaf. Byddwn hefyd yn rhoi rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau cyllido ar lefel leol a rhanbarthol.

Ein Strategaeth Dyrannu Grantiau 2022-2025

I ddarllen mwy am ein Strategaeth Grantiau newydd ar gyfer 2022-2025, cliciwch ar un o’r dolenni isod. Yno, cewch weld ein strategaeth grantiau newydd, yn ogystal â fersiwn a luniwyd gan blant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn tynnu sylw at ein hegwyddorion, ein dylanwad a’n model cyllido.

Ein Rhaglenni Ariannu ar gyfer y Dyfodol:

Cliciwch isod i ddarganfod mwy

Agor ar gyfer ceisiadau ym mis Hydref 2022.

Cyfyngir costau’r prosiect i amcanion darn penodol o waith gyda phlant a phobl ifanc, a’i gyflawni. Byddant yn ymdrin â set benodol o weithgareddau, sy’n gyfyngedig o ran amser.  Gallai enghreifftiau gynnwys costau staff ar gyfer prosiect, tripiau a theithiau, treuliau gwirfoddolwyr a/neu offer symudol.

Agor ar gyfer ceisiadau ym mis Hydref 2022.

Gellir gwario cyllid costau craidd yn hyblyg ar gostau rhedeg a chostau gweithredol canolog deiliad y grant. Byddwn yn ariannu sefydliadau sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc. Gallai hyn gynnwys costau rheoli a gweinyddu, costau swyddfa cyffredinol, cyfrifyddiaeth ac archwilio, codi arian, a chostau llywodraethu/cydymffurfio. Mae’r ffrwd hon ar gyfer y costau sydd eu hangen i redeg sefydliad.

Mae enw’r ffrwd hon i’w gadarnhau. Bydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn ystod Gwanwyn 2023.

Nod y ffrwd gyllido hon yw datblygu’r amrywiaeth o sefydliadau a’r gwaith rydym yn eu hariannu. Byddwn yn targedu sefydliadau a grwpiau mwy newydd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n deg yn ein portffolio o dderbynwyr grant, sefydliadau nad ydym efallai wedi’u hariannu o’r blaen. Bydd y ffrwd hon yn cefnogi sefydliadau, syniadau, prosiectau a dulliau newydd o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn olygu gweithio ar fater sy’n dod i’r amlwg, maes ffocws/gynulleidfa newydd, neu ffordd o wneud pethau’n wahanol.  Bydd y ffrwd gyllido hon yn caniatáu costau prosiect, costau craidd neu gyfuniad o’r ddau. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nes at yr amser am y themâu a’r ardaloedd daearyddol sy’n flaenoriaeth i’n cyllid.

Mewngofnodwch nawr

Eisiau rheoli Grant presennol?

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1