Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

baking general

PŴER POBL IFANC

Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar hydref rhifyn gaeaf Trust & Foundation News, cylchgrawn aelodau Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol.

To read this page in English, please click here/Am y dudalen Cymraeg cliciwch yma.

Dyma Fozia Irfan OBE, cyfarwyddwr plant a phobl ifanc BBC Plant mewn Angen, yn dweud sut mae strategaeth dyrannu grantiau newydd y sefydliad yn cael ei hybu gan bŵer a grym plant a phobl ifanc.

Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i’r hyn a wneir gennym yn BBC Plant mewn Angen. Brawddeg hawdd i’w hysgrifennu ond anoddach o lawer i’w dangos yn ymarferol. Fodd bynnag, fel y prif gorff cyllido annibynnol ar gyfer plant yn y DU, rydym wedi cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri felly rydym wedi datblygu uchelgais elusennol newydd a strategaeth dyrannu grantiau sy’n canolbwyntio’n sylfaenol ar blant a phobl ifanc ac ar y pŵer sydd ganddynt.

Pam datblygu strategaeth newydd? Wel, y ddwy flynedd diwethaf fu’r mwyaf heriol i blant a phobl ifanc ers cenedlaethau, a phetaem ni ddim yn newid yr hyn roeddem yn ei wneud a sut roeddem yn gwneud hynny, ni fyddem yn llwyddo i ymateb i’r amryfal argyfyngau sy’n eu hwynebu.

Mae ein hymchwil wedi dangos yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar blant a phobl ifanc. Nid dim ond y canlyniadau amlwg o ran addysg, iechyd meddwl a chyfleoedd bywyd ond hefyd y llu o agweddau ar fywyd sy’n llai diriaethol – colli adegau allweddol mewn bywyd, fel nosweithiau prom, mynd o fod yn blentyn i’r arddegau, ffurfio cyfeillgarwch a meithrin eu hymdeimlad o hunaniaeth. Ni ellir dod â’r amser hwn yn ôl, ond fel corff cyllido rhaid i ni ganolbwyntio ar helpu i adeiladu’r dyfodol gorau posibl i, a gyda, phlant a phobl ifanc.

Dyma Fozia Irfan OBE, cyfarwyddwr plant a phobl ifanc BBC Plant mewn Angen, yn dweud sut mae strategaeth dyrannu grantiau newydd y sefydliad yn cael ei hybu gan bŵer a grym plant a phobl ifanc.

BETH SYDD ANGEN EI WNEUD YN WAHANOL?

Fel pob corff cyllido, mae ein hadnoddau’n gyfyngedig a rhaid gwneud dewisiadau clir ynghylch sut i’w defnyddio yn sgil y galw cynyddol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar ailddiffinio gweledigaeth BBC Plant mewn Angen ac ar symud yn nes at fodel sy’n seiliedig ar asedau, gan fynegi’r weledigaeth hon fel ‘mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle i ffynnu a bod y gorau y gall fod’.

Dyma newid sylweddol yn y dull gweithredu gan ei fod yn cydnabod nad problem ‘i’w datrys’ yw plant a phobl ifanc, ond yn hytrach bod ganddynt eu grym a’u pŵer eu hunain. Ein rôl ni fel corff cyllido yw meithrin hyn.

Sut mae’r model hwn sy’n seiliedig ar asedau yn cael ei droi’n strategaeth newydd ar gyfer dyrannu grantiau? Yn gyntaf, rydym wedi canolbwyntio ar egluro ein hunaniaeth fel corff cyllido. Yn ail, rydym wedi diffinio’r egwyddorion i’w hymgorffori yn ein dulliau cyllido. Yn drydydd, rydym wedi creu model newydd ar gyfer dyrannu grantiau. Yn olaf, rydym yn ailgynllunio ein prosesau ymgeisio. Felly, gallwch weld nad mater o wneud mân newidiadau yw hyn. Mae’r rhain yn gamau dewr i ail-ddychmygu’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i heriau hollbwysig ein hoes ac yn osgoi siomi ein plant a’n pobl ifanc.

EIN HUNANIAETH FEL CORFF CYLLIDO

Wrth wraidd yr holl waith hwn roedd cwestiwn amlwg am ein hunaniaeth fel corff cyllido. All sefydliadau ddim ariannu pob unigolyn a phob mater, felly roedd hi’n bwysig diffinio’r nodweddion unigryw sy’n ein gwneud ni’n BBC Plant mewn Angen. Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc, ein timau, ein hymddiriedolwyr a rhanddeiliaid allanol, roeddem wedi diffinio ein hunaniaeth sylfaenol fel corff cyllido ar draws y DU sydd â gwreiddiau lleol, fel rhan annatod o’r BBC, fel arweinydd ystyriol yn y sector cyllido, ac fel sefydliad sydd â phlant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn.

EIN HEGWYDDORION AR GYFER DYRANNU GRANTIAU

Arweiniodd yr eglurhad o’r weledigaeth a’r hunaniaeth at ganolbwyntio ar sut roeddem eisiau gwneud ein gwaith dyrannu grantiau. Unwaith eto, daeth i’r amlwg fod rhannu grym gyda phlant a phobl ifanc yn rhywbeth hanfodol, ynghyd ag ymgorffori tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant a gweithredu’n fwy hyblyg. Dwy egwyddor ychwanegol y gwnaethom eu cynnwys ac a allai synnu pobl yw ‘defnyddio ein llais’ a ‘datblygu partneriaethau pwrpasol’.

Fel corff cyllido, mae gennym safle unigryw fel elusen gorfforaethol y BBC yn y DU. Meddyliwch am y potensial enfawr y mae hynny’n ei roi i ni, o ran adrodd gwahanol straeon a newid y naratif am blant a phobl ifanc. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu ein perthynas â’r BBC fel un sy’n canolbwyntio’n bennaf ar godi arian ar noson ein hapêl flynyddol. Dychmygwch y posibiliadau pe baem yn defnyddio’r llwyfan hwn i gynyddu a defnyddio lleisiau plant a phobl ifanc a chael dylanwad gwirioneddol ar y genhedlaeth.

Gan mai dim ond rhan fach o ecosystem y sector ieuenctid ydym ni, mae angen i ni gydweithio mwy. Rydym yn cydnabod bod partneriaethau pwrpasol yn mynd yn fwyfwy pwysig, lle gallwn weithio gydag eraill sydd â nodau cyson. Pan wnes i ymuno â BBC Plant mewn Angen am y tro cyntaf, roeddwn i’n rhyfeddu at y wybodaeth a’r ymchwil sydd gennym ar y materion mwyaf enbyd sy’n wynebu plant a phobl ifanc. Mae rhannu hyn gyda gweddill y sector, a’i ddefnyddio i greu mentrau cydweithredol, yn rhan hanfodol o’n dyfodol.

EIN MODEL DYRANNU GRANTIAU

Rydym bob amser wedi cael ein gweld fel corff cyllido prosiectau ac, i ryw raddau, rydym wedi tueddu i ariannu mudiadau mwy sefydledig, rhai yr ydym wedi’u hariannu o’r blaen ac y mae ein prosesau’n eu ffafrio. Drwy graffu a dadansoddi llawer mwy ar ein portffolio, rydym yn gwybod bod rhai grwpiau wedi cael eu tangynrychioli’n draddodiadol yn hyn o beth, ond eto maen nhw wrth galon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng, fel y pandemig. Mae eu cryfhau nhw, a’r gwaith a wnânt, wedi dod yn ddyletswydd bwysig.

Felly, am y tro cyntaf, rydym wedi gwneud dau newid sylweddol i’n cynnig dyrannu grantiau, sef byddwn yn cynnig costau sefydliadol neu gyllid craidd fel ffrwd grantiau ar wahân, a bydd gennym ffrwd ariannu benodol ar gyfer mudiadau newydd, llai o faint, na fyddent fel arfer wedi gallu cael gafael ar ein cyllid. Gwyddom fod gennym gyfrifoldeb i gefnogi gallu’r sefydliadau eu hunain, er mwyn sicrhau bod ganddynt y nerth a’r cynaliadwyedd i barhau i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf effeithiol sy’n newid bywydau plant a phobl ifanc.

Byddwn yn parhau i werthfawrogi gwaith eang ledled y DU, ond ar yr un pryd byddwn hefyd yn cysoni rhywfaint o’n gwaith â phedair thema drawsbynciol allweddol, sef tlodi, iechyd meddwl, heriau teuluol ac anghydraddoldeb cymdeithasol.

BETH NESAF?

Mae creu strategaeth dyrannu grantiau newydd o’r dechrau, gyda thîm pwrpasol, wedi bod yn llafur cariad ond hefyd yn elfen hanfodol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn dal yn berthnasol ac yn ymatebol i’r cyd-destun newidiol rydym yn gweithio ynddo. I ni yn BBC Plant mewn Angen (a gobeithio i bawb sy’n gweithio gyda ni), bydd y strategaeth newydd yn darparu eglurder a ffocws hanfodol ar bwy ydym ni, beth sy’n bwysig i ni, a sut rydym yn ariannu. Ond nid dyma ddiwedd y gwaith. Rhaid i strategaeth fod yn ddogfen fyw a gweithredol, sy’n addasu wrth i amgylchiadau newid. Gwyddom fod problemau a heriau annisgwyl yn gallu codi, a bydd yn cymryd amser i ddatblygu’r portffolio cytbwys a’r partneriaethau rydym eu heisiau. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol nad oedd yn bosibl gwneud dim. I unrhyw un sy’n gweithio ym maes dyngarwch, byddem yn eich annog i adolygu’n sylfaenol bopeth rydych chi’n ei wneud. Byddwch yn ddidrugaredd wrth ollwng gafael ar bethau nad ydynt yn gwasanaethu ein sector mwyach, a byddwch yn uchelgeisiol o ran creu’r newid rydych chi eisiau ei weld.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar hydref rhifyn gaeaf Trust & Foundation News, cylchgrawn aelodau Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1