Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Panelists discussing children's mental health

Grant Miliwn a Fi

Miliwn a Fi oedd cronfa £10m BBC Plant mewn Angen, a oedd yn benodol ar gyfer cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae Miliwn a Fi wedi ariannu prosiectau sy’n gweithio ar draws y DU, yn lleol ac yn ddigidol. Mae’r rhain wedi galluogi plant rhwng 8 ac 13 oed i gael eu cefnogi mewn perthnasoedd cadarnhaol ymysg eu cyfoedion, rhieni, gofalwyr ac oedolion dibynadwy yn eu bywydau.

Yn dilyn llwyddiant prosiectau a ariannwyd gan Miliwn a Fi a gwerthusiad y rhaglen gan y Centre for Mental Health (Power of the Ordinary), rydym yn bwriadu dyfarnu £1m er mwyn rhoi’r gwersi a ddysgwyd ar waith a galluogi cymorth ar ffurf ymyrraeth gynnar i blant ledled y DU.

Mae BBC Plant mewn Angen wedi ffurfio partneriaeth â’r Health Foundation ac Impact on Urban Health i ddyfarnu’r £1m hwn.

Y Grant Miliwn a Fi

Nod y Grant Miliwn a Fi yw adeiladu ar adroddiad Power of the Ordinary ac:

  • Annog atebion creadigol arloesol ar raddfa fawr ar gyfer ymyrraeth gynnar. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar blant sy’n dechrau cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, ond sydd heb gyflwr clinigol sydd wedi gwreiddio eto. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn rhaglenni sy’n cynnwys elfen ddigidol fawr
  • Darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i blant rhwng 8 ac 13 oed, gan gynnwys y rheini o gymunedau sydd ar y cyrion
  • Adeiladu corff o dystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyriadau cynnar i ddilysu model cymdeithasol o gefnogaeth
  • Dosbarthu adnoddau, gan ganolbwyntio ar iaith, hyder a meithrin gallu. Dylid cynllunio hyn fel ei fod yn annog sgyrsiau cadarnhaol a chyfleoedd i blant
  • Cyfrannu at ymwybyddiaeth rhieni ac oedolion dibynadwy o bwysigrwydd ‘hudoliaeth bob dydd’ perthnasoedd cyffredin, cadarnhaol.

Sylwer: Ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r rhaglen hon yn uniongyrchol o’r dudalen we hon. Rhaid i chi fynychu sesiwn wybodaeth ar-lein yn gyntaf, ac ar ôl hynny byddwch yn cael eich gwahodd i wneud cais.

Darllenwch y meini prawf canlynol yn ofalus. Os ydych chi’n teimlo y gallai eich sefydliad fod yn gymwys ar gyfer Grant Miliwn a Fi, cofrestrwch ar gyfer un o’r sesiynau gwybodaeth drwy’r dolenni Ticket Tailor ar waelod y dudalen hon.

Os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu neu ofynion hygyrchedd a allai effeithio ar eich presenoldeb, cofrestrwch ar gyfer un o’r sesiynau drwy un o’r dolenni Ticket Tailor ac anfonwch e-bost atom yn [email protected] er mwyn i ni allu eich cefnogi.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i fudiadau sydd am wneud cais am grant:

  • Bod yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi’i gofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol. Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban. Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • Bodloni Safonau Gofynnol BBC Plant mewn Angen ar gyfer dyfarnu grantiau
  • Bod yn sefydliad cenedlaethol gyda’r seilwaith lleol i gyrraedd a chyflawni drwy ddull sy’n seiliedig-ar-le. Croesewir ceisiadau hefyd gan sefydliadau sydd ag arbenigedd gwahanol. Fodd bynnag, rhaid i’r partner arweiniol* fod yn sefydliad cenedlaethol a bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau
  • Rhaid bod yn gweithredu ar hyn o bryd mewn o leiaf ddwy o wledydd y DU (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban). Fodd bynnag, rhaid i’r sefydliad allu cyflawni ym mhob un o’r pedair gwlad drwy gydol y prosiect hwn
  • Profiad o ddarparu ar y rheng flaen, gan weithio gyda phlant i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol. Yn arbennig, y rheini nad ydynt yn cael eu cyrraedd yn aml oherwydd anghydraddoldebau croestoriadol. Gallai hyn gynnwys plant anabl, plant o gymunedau sydd wedi’u hymyleiddio’n ethnig, neu blant sy’n ystyried eu hunain yn bobl LHDTC+
  • Profiad amlwg o gyflawni prosiectau cenedlaethol cymhleth gyda nifer o bartneriaid, gan achosi newid ar raddfa genedlaethol
  • Cynnwys pobl ifanc a’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o faterion iechyd meddwl wrth ddylunio eu gwasanaeth. Er enghraifft, drwy gefnogi plant i rannu eu barn, neu eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio’r mudiad neu’r prosiect
  • Dangos dealltwriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth o faterion iechyd meddwl mewn plant, yn seiliedig ar ymchwil drylwyr, gwybodaeth a arweinir gan y gymuned, a gwerthuso
  • Wedi ennill eu plwyf yn y cymunedau maen nhw’n eu cefnogi a’u bod yn ymddiried ynddynt. Rhaid i’r sefydliad allu gwneud ymyriadau priodol ar gyfer plant nad ydynt yn cael eu cynnwys yn aml drwy wasanaethau prif ffrwd
  • Dangos ymrwymiad i degwch a gallu dangos sut mae hyn yn berthnasol i ddealltwriaeth o iechyd meddwl a lles emosiynol plant
  • Gall sefydliadau wneud cais am Grant Miliwn a Fi p’un a ydynt yn dal grant arall gan BBC Plant mewn Angen ai peidio.

*Sylwch, rhaid i’r corff arweiniol enwebedig wneud y cais, a bydd yn atebol am y canlynol:

  • Cyflawni’r gwaith fel y cytunwyd
  • Diogelu
  • Rheoli’r grant ac adrodd yn ôl
  • Rheoli unrhyw weithwyr sy’n cael eu hariannu fel rhan o’r prosiect
  • Gwneud yn siŵr bod y gwaith yn cyflawni’r canlyniadau a nodwyd

Meini Prawf y Prosiect

Rhaid i’r prosiect:

  • Gwneud cais am gostau prosiect a chostau cysylltiedig yn unig
  • Darparu gwasanaeth sy’n seiliedig-ar-le, gan dargedu plant rhwng 8 ac 13 oed
  • Canolbwyntio ar fathau cymdeithasol, cyn-glinigol ac anfeddygol o gymorth i blant
  • Cefnogi plant i adnabod, deall ac ymdopi’n well â’u teimladau, ac i fanteisio ar opsiynau cadarnhaol pan fyddant yn dechrau cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl
  • Peidio â chanolbwyntio ar faterion iechyd meddwl unigol, fel anhwylderau bwyta, gorbryder, hunan-niweidio, neu brofedigaeth a thrawma sy’n gysylltiedig â galar
  • Cynnig cymorth wyneb yn wyneb a chymorth digidol
  • Darparu gwybodaeth ac adnoddau sy’n cael eu rheoli gan ansawdd i blant ac oedolion dibynadwy, a’u cyfeirio atynt, e.e. rhieni/gofalwyr ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant yn eu cymunedau
  • Defnyddio a lledaenu iaith sy’n seiliedig ar fodel cymdeithasol o gefnogaeth, gan ganolbwyntio ar feithrin hyder a gallu’r bobl sydd o gwmpas plant
  • Dangos bod y gwaith yn cael ei arwain gan, ar gyfer, a chyda’r cymunedau y ceisir eu cyrraedd
  • Dangos sut bydd materion croestoriadol yn cael sylw drwy’r ddarpariaeth rheng flaen, gan nodi sut byddir yn cyrraedd plant nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol
  • Gallu cyflawni mewn cyfnod o 24 mis, gan gynnwys cyfnod datblygu dewisol (hyd at) 6 mis

Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy’n:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
  • Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
  • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc

Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu:

  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
  • Sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Y i gael rhagor o fanylion
  • Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
  • Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd
  • Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r DU
  • Ymchwil neu driniaeth feddygol
  • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
  • Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • Costau a drosglwyddir i gyrff eraill
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
  • Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
  • Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
  • Gwariant amhenodol

A ddylai eich sefydliad wneud cais?

Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Y ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu hariannu. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.

Mae ein Canllawiau A i Y yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer.

Sut mae gwneud cais?

1.  Cynlluniwch eich prosiect yn fanwl. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein canllaw ar gynllunio eich prosiect cyn gwneud cais. Mae cynllunio gwael yn rheswm cyffredin pam mae ceisiadau’n aflwyddiannus.

2. Darllenwch ein Canllawiau A i Z i helpu i sicrhau nad ydych ond yn gwneud cais am bethau y gallwn eu cyllido.

3. Darllenwch ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau i wneud yn siŵr bod eich sefydliad yn gymwys. Os na chaiff y safonau hyn eu bodloni, ni fyddwn yn gallu cefnogi eich gwaith.

4. Darllenwch feini prawf y prosiect Miliwn a Fi i wneud yn siŵr bod eich sefydliad yn gymwys ar gyfer y gronfa hon. Oni bai fod eich mudiad yn bodloni’r holl feini prawf, mae’n annhebygol y bydd eich cais yn symud ymlaen. Os nad ydych yn siŵr, ewch i sesiwn wybodaeth

5. Cofrestrwch ar gyfer sesiwn wybodaeth ar-lein orfodol drwy Ticket Tailor, a mynd iddi. Bydd hyn yn rhoi rhagor o fanylion i chi am y grant ac yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau. Rhaid i chi fynychu un o’r sesiynau naill ai ddydd Gwener 20fed Hydref neu ddydd Mercher 25ain Hydref er mwyn gwneud cais am gyllid.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad:

  • Cofrestrwch ar gyfer y naill ddigwyddiad neu’r llall ar Ticket Tailor
  • Ar ôl i chi gael yr e-bost cadarnhau, rhaid i chi glicio ar y ddolen Zoom a chofrestru ar gyfer y sesiwn wybodaeth. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad er mwyn osgoi unrhyw gymhlethdodau yn y cyfnod sy’n arwain at y sesiynau.
  • Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost rydych chi’n bwriadu cyflwyno eich cais ohono. Ni fyddwn yn gallu anfon dolen y cais i gyfeiriad e-bost gwahanol
  • Os na allwch chi ddod i un o’r sesiynau gwybodaeth oherwydd rhesymau hygyrchedd, cofrestrwch drwy ddolen Ticket Tailor ac anfonwch e-bost atom yn [email protected] er mwyn i ni allu eich cefnogi gyda threfniadau eraill

6. Ar ôl mynd i sesiwn wybodaeth, byddwch yn cael e-bost, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 30ain Hydref, gyda dolen gwneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Sul 26ain Tachwedd. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn

Sylwer: Ar ôl i chi agor y ddolen o’r e-bost a dechrau eich cais, peidiwch ag ailagor y ddolen o’r e-bost oherwydd gallai hyn achosi i chi golli’r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu’n barod. Os ydych am ddod yn ôl at eich cais yn nes ymlaen, ewch ato drwy’r porth ymgeisio ar-lein. Cofiwch gadw eich gwaith yn rheolaidd

7.      Os yw eich cais yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau ac yn bodloni meini prawf y prosiect, efallai y cewch eich gwahodd i asesiad allanol ym mis Ionawr 2024

8.      Os bydd eich cais yn cael ei symud ymlaen i’r cam nesaf, efallai y cewch eich gwahodd i Lundain i gyflwyno eich cynnig terfynol yn bersonol ym mis Ebrill 2024. Efallai y bydd y cam hwn yn cael ei ffilmio at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd

9.      Byddwch yn cael gwybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus erbyn mis Mai 2024.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael penderfyniad?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Mae gennyf grant yn barod’.

  • Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud neu bethau y bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian y cytunwyd arno i chi
  • Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad drwy e-bost

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd y gallwch wneud cais eto.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.

 

*Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y Sesiwn Wybodaeth ddydd Gwener 20fed Hydref*

*Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer Sesiwn Wybodaeth ddydd Mercher 25ain Hydref*

 

Sylwer: Dim ond un o’r sesiynau gwybodaeth y cewch chi ei mynychu.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn sy’n ymwneud â’r Grant Miliwn a Fi neu unrhyw un o’n rhaglenni grant eraill, cysylltwch â’r Tîm Grantiau drwy ddefnyddio un o’r dulliau isod:

Anfonwch e-bost atom

[email protected]

Ffoniwch ni

0345 609 0015 – dewiswch opsiwn 2

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1