Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

A girl holding a Pudsey and wearing ears

Camau Nesaf Pudsey Grantau

Beth yw Grantiau Camau Nesaf Pudsey?

Mae ein Grantiau Camau Nesaf Pudsey newydd yn rhoi’r cyfle i fudiadau cymunedol llai gael mynediad at ein cyllid. Rydyn ni’n deall y gall mudiadau sydd â llai o seilwaith fod dan anfantais oherwydd eu gallu wrth gystadlu am gyllid yn erbyn sefydliadau mwy. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio gyda’r mudiadau hynny mewn golwg.

Bydd y ffrwd gyllido hon yn ein galluogi i gynrychioli’r mudiadau sy’n helpu Plant a Phobl Ifanc ledled y DU yn well.

Ar hyn o bryd, does dim angen gwneud cais am Grant Camau Nesaf Pudsey. Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael eich ystyried pan fyddwch yn gwneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd am y tro cyntaf.

Bydd y gronfa’n parhau i ddatblygu a newid dros amser wrth i ni ddatblygu dulliau newydd, arloesol a mentrus o ddarparu cyllid. Dyma gam cyntaf ein rhaglen Grantiau Camau Nesaf Pudsey ar hyn o bryd, ac efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r rhaglen a’r prosesau mewn camau yn y dyfodol. Edrychwch ar ein gwefan eto yn y dyfodol i weld sut mae’r gronfa hon yn datblygu.

Beth fyddwn ni’n ei ariannu?

Gellir defnyddio’r grantiau hyn ar gyfer costau prosiect neu gostau craidd. Mae’r rhaglen grant hon yn agored i fudiadau sy’n bodloni’r gofynion canlynol:

    • Heb gael eu hariannu gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen
    • Gyda throsiant blynyddol o £100,000 neu lai
    • Heb eu cofrestru gyda rheoleiddiwr ar hyn o bryd (e.e. y Comisiwn Elusennau, Tŷ’r Cwmnïau, OSCR ac ati.)
    • Mae ganddynt gysylltiadau cryf â’u cymuned. Gallai hyn fod naill ai’n gymuned leol, neu’n gymuned sy’n canolbwyntio ar thema benodol
    • Efallai eu bod wedi’u ffurfio o’r newydd, neu efallai nad oes ganddynt lawer o brofiad o wneud cais i gyllidwyr mawr fel BBC Plant mewn Angen
    • Angen cyllid neu gefnogaeth i ddatblygu eu mudiad cyn gwneud cais am symiau mwy o arian
    • Yn meddu ar, neu eisiau datblygu, diwylliant cryf o rannu grym gyda phlant a phobl ifanc, ac yn gallu dangos egwyddorion Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant drwy gydol eu gwaith.

Rydyn ni am ariannu mudiadau sydd yn:

    • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
    • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
    • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
    • Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
    • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
    • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
    • Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc

Er nad yw’n ofyniad ar gyfer y rhaglen hon, efallai y byddwn yn ceisio ariannu mudiadau sy’n cyflawni gwaith mewn meysydd y tynnir sylw atynt yn ein Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol. Rydyn ni’n trafod y meysydd hyn yn ein Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol ar ein gwefan. Nid yw hyn yn golygu mai dim ond mudiadau sy’n gwneud gwaith yn unol â’n themâu cyllido y byddwn yn eu hariannu, ond byddwn yn ystyried hyn wrth wneud ein penderfyniadau.

Ni fydd y rhaglen hon yn ariannu:

    • Mudiadau y mae BBC Plant mewn Angen wedi’u hariannu o’r blaen
    • Mudiadau sydd â throsiant blynyddol o dros £100,000
    • Mudiadau nad ydynt yn bodloni ein safonau sylfaenol ar gyfer rhoi grantiau
    • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
    • Mudiadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Z i gael rhagor o fanylion
    • Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
    • Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
    • Prosiectau sy’n hybu crefydd
    • Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r DU
    • Triniaeth feddygol neu ymchwil
    • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
    • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
    • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
    • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
    • Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
    • Unigolion
    • Costau sydd wedi cael eu trosglwyddo i fudiadau eraill (gan gynnwys grwpiau ‘Ffrindiau’ sy’n codi arian i’w trosglwyddo i sefydliadau cysylltiedig)
    • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
    • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
    • Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
    • Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant

Alla i wneud cais?

Ar hyn o bryd, does dim angen gwneud cais am Grant Camau Nesaf Pudsey. Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig pan fyddwch yn gwneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd. Os cewch eich ystyried ar gyfer Grant Camau Nesaf Pudsey, a’ch bod yn aflwyddiannus, byddwch yn dal i gael eich ystyried ar gyfer y ffrwd y gwnaethoch gais amdani (h.y. cyllid Prosiect neu Graidd).

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol i gael eich ystyried ar gyfer Grant Camau Nesaf Pudsey.

Ni fyddwch yn gwybod eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer Grant Camau Nesaf Pudsey, oni bai eich bod yn llwyddiannus.

Os byddwch yn llwyddiannus yn cael eich dewis ar gyfer Grant Camau Nesaf Pudsey, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â’ch cais am gyllid Prosiect neu Graidd; fodd bynnag, byddwch yn dal i gael yr un swm o arian ag y gwnaethoch gais amdano’n wreiddiol.

Efallai y byddwn yn agor y grant hwn ar gyfer ceisiadau uniongyrchol yn y dyfodol. Does dim dyddiad cau ar gyfer rhaglen Grantiau Camau Nesaf Pudsey ar hyn o bryd.

Hygyrchedd

Mae BBC Plant mewn Angen yn ymrwymo i degwch a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Ein cyfrifoldeb ni yw arddel agwedd amrywiol, deg a chynhwysol ym mhopeth a wnawn. Mae plant a phobl ifanc yn wych am hyn ac mae angen i ninnau fod hefyd.

Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw adborth am ein proses dyrannu grantiau. Rydyn ni am fod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiynau.  Os oes angen help arnoch chi i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected]

Wrth i ni fynd ymhellach ar y daith hon gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu i sicrhau ein bod yn dyrannu grantiau mewn ffordd deg, amrywiol a chynhwysol. Rydyn ni am i’n proses o wneud cais weithio’n dda i chi. Mae’n newydd i ninnau hefyd, felly byddwn yn dysgu ac yn gwella wrth fynd ymlaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1