Beth yw’r meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig i ni ar lefel leol?
Mae BBC Plant mewn Angen yn gweithio ledled y DU gyda thimau dyfarnu grantiau lleol, gan ddefnyddio gwaith ymchwil sy’n berthnasol i’r ardal leol a thrafod gyda’r sector.
Rydym yn ariannwr eang iawn ac yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi prosiectau sy’n cyrraedd plant a phobl ifanc difreintiedig sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n gryf drwy ein cyllid.
Mae meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig yn ein helpu i sicrhau portffolio cynhwysfawr a chynhwysol o grantiau, gan gynrychioli amrywiaeth cymunedau ac anghenion ledled y DU.
Gellir disgrifio meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol fel ardaloedd sydd â lefelau uchel o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, wedi’u mapio yn erbyn BBC Plant mewn Angen a buddsoddiad arall yn yr ardal honno.
Mae meysydd sydd o ddiddordeb thematig yn deillio o’n gwaith ymchwil, ein buddsoddiad presennol a’n gwybodaeth am y seilwaith ar lefel leol.
Ni fwriedir i ddiddordeb daearyddol na thematig fod yn rhwystr i gyrff sy’n gwneud cais i BBC Plant mewn Angen.
Mae meysydd o ddiddordeb yn rhan o gynlluniau gweithredu lleol, yn sail i’n trafodaethau gyda’r sector, ac yn ein helpu i adnabod problemau a rhwystrau i fynediad ar lefel leol.
Rydym yn awyddus i gyrraedd plant a phobl ifanc sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n deg yn ein portffolio ar lefel leol.
Mae’r cyd-destun cyllido yn newid, ac mae’r sector yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym. Rydym yn monitro ac yn profi’r meysydd sydd o ddiddordeb i ni’n rheolaidd, a byddwn yn addasu er mwyn ymateb i’r amgylchedd sy’n newid, gan ddefnyddio gwaith dadansoddi a thrafodaethau gyda’r sector.
Sut rydym yn adnabod y meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig?
-
- Rydym yn edrych ar ble mae’r prosiectau rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd yn cyflawni
- Rydym yn edrych ar y rhwystrau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu
- Rydym yn gwrando ac yn gweithredu ar leisiau amrywiol plant a phobl ifanc
- Rydym yn gwrando ar gyrff yn y sector sy’n dweud wrthym am anghenion presennol plant a phobl ifanc a’r rhai sy’n dod i’r amlwg
- Rydym yn gwrando ar brofiadau bywyd ac ymarfer
- Rydym yn edrych ar y cyd-destun cyllido ehangach, ar bolisïau’r llywodraeth ac ar ymchwil leol
- Rydym yn ystyried beth sy’n cyd-fynd orau â’n strategaeth dyrannu grantiau
- Rydym yn cydnabod bod darlun cymhleth o amrywiadau rhanbarthol ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys amrywiadau ar lefel ward, a bod anghenion mewn ardaloedd sydd fel arall i bob golwg yn cael eu gwasanaethu’n dda.
Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon?
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas gyda’r rheini sy’n derbyn grantiau, ymgeiswyr a chyllidwyr eraill.
Rydym am fod yn fwy tryloyw drwy siarad yn allanol am y meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig i ni, gan eu bod yn rhan annatod o gynlluniau gweithredu lleol.
Er y gallai cais fod yn berthnasol i feysydd sydd o ddiddordeb daearyddol neu thematig, nid yw hyn yn golygu y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu’n awtomatig i’r ymgeisydd hwnnw.
Rydym yn ystyried sawl peth wrth ddyrannu cyllid, gan gynnwys:
-
- Tystiolaeth o’r angen am y cyllid
- Y gwahaniaeth y gallai’r gwaith ei wneud i blant a phobl ifanc
- Tystiolaeth bod y corff mewn sefyllfa dda i gyflawni’r prosiect
- Tystiolaeth o gynnwys plant a phobl ifanc wrth siapio’r prosiect
- Tystiolaeth o waith cynllunio prosiect da
- Beth sy’n cyd-fynd orau â’r rhaglen gyllido
- Ffocws cryf ar blant yn y cais
Dylai ceisiadau ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau sefydliadol, a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol ac ar lefel y DU, wedi’u hategu gan wybodaeth leol a gwaith y Tîm Mewnwelediad.
LLOEGR
Gogledd Lloegr
Gogledd Lloegr
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol ac y mae trais ieuenctid difrifol yn effeithio arnynt; plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal; plant a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl a gweithgareddau sy’n galluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial drwy gynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn Salford a Bury (Manceinion Fwyaf), Barnsley (De Swydd Efrog), Tees Valley, Burnley a Pendle (Swydd Gaerhirfryn), Sunderland (Tyne a Wear), Kirklees a Calderdale (Gorllewin Swydd Efrog) a County Durham.
Canolbarth Lloegr
Canolbarth Lloegr
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael problemau gyda’u hiechyd meddwl neu eu lles emosiynol, a’r rheini sydd wedi/yn wynebu trais domestig gartref.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn Derby, Dudley, Norfolk, Swydd Gaerwrangon.
Llundain
Llundain
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a phlant a theuluoedd sy’n byw mewn llety ansefydlog, anaddas neu dros dro.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn Barking a Dagenham, Bexley, Brent, Ealing, Enfield, Greenwich, Harrow, Havering, Hillingdon, Merton, Newham a Redbridge.
De-ddwyrain Lloegr
De-ddwyrain Lloegr
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau sy’n profi anghydraddoldeb hiliol, plant a phobl ifanc o gymunedau LHDTC+, plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth a phlant a phobl ifanc sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol (neu’n wynebu risg o hynny).
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn Folkestone a Hythe, Havant, Dartford, Gravesham, Wealden a Gosport.
De-orllewin Lloegr
De-orllewin Lloegr
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau sy’n profi anghydraddoldeb hiliol. Mae’r meysydd thematig sy’n gysylltiedig â chyrhaeddiad daearyddol yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n gweithio i fynd i’r afael ag effaith tlodi ac amddifadedd yng Nghernyw; a phlant a phobl ifanc sy’n ddigartref yng Nghernyw a Torbay.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn Fforest y Ddena, Dorset (Weymouth a Portland), Ddwyrain Devon, Torbay, Canol Dyfnaint a Teignbridge.
YR ALBAN
Yr Alban
Yr Alban
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Ein nod yw cefnogi’r cyrff hynny sy’n cynrychioli amrywiaeth plant a phobl ifanc sy’n byw yn yr Alban. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys cyrff sydd â phrofiad o gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau sy’n profi anghydraddoldeb hiliol, mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc anabl a’r rheini mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, a galluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a chymunedau ar yr ynysoedd, gan gynnwys Ucheldiroedd yr Alban, Swydd Aberdeen, Shetland, Perth a Kinross, a Dumfries a Galloway, sy’n unig, yn methu cael mynediad at wasanaethau a chymorth, ac yn wynebu mwy o dlodi wrth i ble maent yn byw ddwysáu effaith y cynnydd mewn costau byw.
CYMRU
Cymru
Cymru
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yng Nghymru ar yn cynnwys prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd (neu sydd wedi bod) yn gysylltiedig ag ymddygiad troseddol; plant a phobl ifanc sydd â rhiant yn y carchar, a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd lle mae mynediad ac arwahanrwydd yn golygu heriau ychwanegol wrth gysylltu â gwasanaethau a chymorth. Mae enghreifftiau o’r heriau hyn yn cynnwys pellter corfforol, trafnidiaeth a chysylltedd digidol.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn siroedd Caerffili, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg ac Ynys Môn.
GOGLEDD IWERDDON
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon
Meysydd o Ddiddordeb Thematig:
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol llawer o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc, a’r darlun cymhleth o anghenion sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd. Ein nod yw cefnogi’r cyrff sy’n cynrychioli amrywiaeth plant a phobl ifanc sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yn cynnwys cyrff sydd â phrofiad o gefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi anghydraddoldeb hiliol, gwasanaethau blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc anabl, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, gryn bellter o gymorth prif ffrwd.
Meysydd o Ddiddordeb Daearyddol:
Prosiectau a chyrff sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn wardiau yn Strabane, Newry a Mourne, Canol a Dwyrain Antrim a Fermanagh.