Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Telerau Arbennig Ffotograffydd BBC Plant mewn Angen

Sylwch fod y fersiwn Saesneg o’r telerau hyn ar gael isod.

Os bydd telerau ac amodau cyffredinol BBC Plant mewn Angen yn gwrthdaro â’r Telerau Arbennig hyn, y telerau Arbennig fydd yn cael blaenoriaeth.   

1. Diffiniadau

Bydd telerau a gaiff eu diffinio yn y Telerau ac Amodau cyffredinol yn berthnasol i’r Telerau Arbennig hyn, oni nodir yn benodol fel arall.  Yn ogystal, bydd yr ystyron canlynol i’r termau canlynol: 

Mae’r “Dyddiad Cyflwyno” yn golygu’r dyddiad a nodir yn y Dogfennau Archebu ar gyfer cyflwyno’r Ffotograffau neu, os nad oes dyddiad, o fewn 7 diwrnod i gwblhau’r aseiniad ffotograffig.  

Mae “Ffotograffau” yn golygu’r holl ddelweddau llonydd digidol sydd wedi’u tynnu gennych Chi yn unol â’r Archeb.

2. Cyflwyno

2.1 Rydych chi’n cytuno i gyflwyno’r Ffotograffau ar y Dyddiad Cyflwyno ac yn ôl cyfarwyddyd gan BBC Plant mewn Angen. Rhaid i bob ffotograff a dynnir yn unol â’r Archeb fodloni’r telerau canlynol:  

(a) Wedi’i gyflwyno wedi’i raddio ac yn barod i’w ddefnyddio ond heb unrhyw ragolygu arall (oni bai fod BBC Plant mewn Angen wedi nodi’n benodol fel arall fel rhan o’r Archeb);  

(b) Cael ei dynnu ar y cydraniad uchaf posibl;  

(c) Cael ei gyflwyno yn y fformatau canlynol:  

–  JPEG – 35 megabeit, 300 dpi; a 

– lle gofynnir am hynny fesul achos, ffeiliau RAW – o leiaf 45 megabeit ar gyfer deunydd uned a 60mb ar gyfer ffotograffiaeth Celf a Phortreadu Allweddol, 300dpi; a  

(d) Cael ei gyflwyno i BBC Plant mewn Angen heb yr holl fetaddata personol.  

2.2 Rhaid i Chi drosglwyddo unrhyw Ffotograffau a dynnir yn ystod yr ymgysylltiad i BBC Plant mewn Angen yn brydlon ac yn ddiogel drwy unrhyw ddull a gymeradwyir gan BBC Plant mewn Angen. Ar ôl trosglwyddo’r Ffotograffau i BBC Plant mewn Angen fel uchod, ni chewch Chi gadw, trosglwyddo i unrhyw drydydd parti na storio’r Ffotograffau ar unrhyw ffurf nac ar unrhyw ddyfais o gwbl.  

Rydych Chi’n cytuno nad oes gennych Chi hawl i dynnu unrhyw ffotograffau (ac eithrio’r rhai y mae’n rhaid i chi eu tynnu yn unol â’r Archeb) na fyddech Chi fel arfer wedi gallu eu tynnu oherwydd diffyg mynediad neu fel arall pe na baech Chi wedi ymgymryd â’r Archeb. Os byddwch Chi yn tynnu unrhyw ffotograffau ar wahân i’r rhai a nodir yn Eich archeb, bydd y ffotograffau hynny’n cael eu trin fel Ffotograffau a bydd y Telerau ac Amodau Arbennig hyn, ynghyd â’r Telerau ac Amodau cyffredinol, yn berthnasol iddynt.

3. Defnydd

3.1 Drwy dderbyn yr Archeb hon, rydych Chi’n cytuno nad oes gennych Chi hawl i gadw copïau o’r Ffotograffau na’u defnyddio mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, eu defnyddio ar bortffolios neu wefannau ac ati) heb ganiatâd ysgrifenedig BBC Plant mewn Angen ymlaen llaw.  

3.2 Pan roddir caniatâd, rydych chi’n derbyn ac yn cydnabod na fydd BBC Plant mewn Angen yn cydsynio i’r Ffotograffau gael eu defnyddio na’u cyhoeddi yn unol â’r cymal hwn cyn iddynt gael eu cyhoeddi a/neu eu darlledu am y tro cyntaf ar raglen neu gynnwys sy’n gysylltiedig â BBC Plant mewn Angen neu’r BBC.

4. Gwarantau

4.1 Rydych Chi’n gwarantu:  

(a) Y byddwch Chi bob amser yn sicrhau diogelwch a chyfrinachedd y Ffotograffau ac yn atal unrhyw berson heb awdurdod rhag gweld neu gamddefnyddio’r Ffotograffau;  

(b) Bod y Ffotograffau yn rhai gwreiddiol ac na fyddant yn cael eu cyhoeddi na’u defnyddio mewn unrhyw ffordd cyn eu Cyflwyno;  

(c) Bod gennych chi bob hawl i gytuno i’r Telerau ac Amodau Arbennig hyn, yn ogystal â’r Telerau ac Amodau cyffredinol cysylltiedig; a  

(d) Na fydd y defnydd o’r Ffotograffau gan BBC Plant mewn Angen a (lle bo hynny’n berthnasol) y BBC yn unol â’r Telerau ac Amodau Arbennig hyn, a’r Telerau ac Amodau cyffredinol, yn tresmasu ar hawliau unrhyw drydydd parti.

5. Diogelu Data

Gallwch brosesu Data Personol o bryd i’w gilydd wrth gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y Contract fel a ganlyn: 

Categorïau Gwrthrychau Data: testunau’r ffotograffau Mathau o Ddata Personol: delwedd ac (os yw’n berthnasol) enw 

Diben Angenrheidiol y Prosesu: at ddibenion darparu’r gwasanaethau neu’r elfennau i’w cyflawni a nodir yn eich Archeb / Contract Archebu yn unig. 

Rhaid i chi gydymffurfio â’r Telerau ac Amodau cyffredinol wrth Brosesu Data Personol o’r fath. 

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1