Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Telerau ac Amodau Gweithiwr Llawrydd Oddi ar yr Awyr

1. Contract

1.1 Ar y gwahanol achlysuron pan fydd BBC Plant mewn Angen am dderbyn gwasanaeth gennych Chi (pob un yn “Archeb”), bydd manylion penodol yr Archeb honno wedi’u nodi yn nogfennau archebu BBC Plant mewn Angen a anfonir atoch Chi neu (os yw’n berthnasol) ar y ddalen flaen sydd ynghlwm wrth y telerau ac amodau hyn (y “Dogfennau Archebu”).
1.2 Gyda’i gilydd, mae’r Dogfennau Archebu a’r telerau ac amodau hyn yn ffurfio’r Contract rhyngoch Chi a BBC Plant mewn Angen.
1.3 Ar gyfer pob Archeb arall, ystyrir eich bod Chi wedi derbyn y Contract ar y dyddiad rydych Chi’n cadarnhau eich bod yn derbyn y Dogfennau Archebu.
2. Parti Contractio BBC Plant mewn Angen a’i berthynas â’r BBC
2.1 Yn y telerau ac amodau hyn:
(a) Mae “BBC Plant mewn Angen” yn gwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 04723022) ac yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 802052) ac yn yr Alban (rhif SC039557) o 4ydd Llawr, Dock House, Media City UK, Salford, M50 2BH.   BBC Plant mewn Angen yw’r parti contractio.
(b) Mae’r “BBC”” yn golygu’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (a/neu unrhyw aelod perthnasol o Grŵp BBC fel sy’n berthnasol).  BBC Plant mewn Angen yw elusen gorfforaethol y BBC.  Mae llawer o bolisïau BBC Plant mewn Angen yn berthnasol i staff BBC Plant mewn Angen ac mae BBC Plant mewn Angen hefyd yn hwyluso archebion a thaliadau ar gyfer BBC Plant mewn Angen. Am y rheswm hwn, mae cyfeiriadau amrywiol at y BBC (a’u polisïau a’u gweithdrefnau) o fewn y telerau hyn ac mae’n rhaid i Chi gydweithredu â’r BBC yn ôl yr angen fel rhan o’r Archeb hon.
(c) Ystyr “Grŵp BBC” yw’r BBC ac unrhyw gwmni arall y mae’r BBC yn ei reoli, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (boed hynny drwy un neu ragor o is-gwmnïau).
3. Diffiniadau 3.1 Yn y telerau ac amodau hyn:
(a) Mae “Chi” yn golygu’r unigolyn a enwir yn y Dogfennau Archebu;
(b) os ydych Chi o dan 18 oed mae hwn yn Gontract: (a) y mae BBC Plant mewn Angen a’ch rhiant/gwarcheidwad Chi yn ymrwymo iddo ar eich rhan Chi; a (b) mae’n amodol ar gael unrhyw drwydded angenrheidiol o dan reoliadau perthnasol sy’n ymwneud â thrwyddedau plant.
(c) Mae “Hawliau Eiddo Deallusol” yn golygu pob hawl sy’n ymwneud â hawlfraint a hawliau cysylltiedig, hawliau o ran dyluniadau, nodau masnach, enwau masnach ac enwau parth, hawliau o ran ewyllys da, diwyg (get-up), neu beri coel (passing-off), hawliau o ran meddalwedd gyfrifiadurol, hawliau cronfa ddata, hawliau o ran gwybodaeth gyfrinachol (gan gynnwys gwybodaeth ymarferol a chyfrinachau masnachu), patentau a hawliau i syniadau gwreiddiol a hawliau perchnogol eraill ym mhob achos mewn unrhyw ran o’r byd a pha un a ydynt wedi’u cofrestru ai peidio a chan gynnwys pob cais ar gyfer adnewyddu neu ymestyn hawliau o’r fath.

4. Amser yn Hanfodol

4.1 Pan fydd dyddiad cyflawni yn cael ei nodi mewn unrhyw Archeb, mae’n hanfodol darparu’r gwasanaethau dan sylw yn amserol. Rydych chi’n cytuno i roi gwybod i BBC Plant mewn Angen ar unwaith os byddwch Chi’n dod yn ymwybodol o unrhyw oedi tebygol o ran cyflawni’r gwasanaethau.

5. Trefnu

Gwasanaethau 5.1 Rydych Chi’n cydnabod mai yn ôl disgresiwn BBC Plant mewn Angen y bydd yn cynnig derbyn gwasanaeth gennych Chi ac nad oes rheidrwydd ar BBC Plant mewn Angen i roi rhesymau dros unrhyw benderfyniad ynghylch ymgysylltiadau.
5.2 Ar ôl i Chi dderbyn Archeb, mae contract ar waith rhyngoch Chi a BBC Plant mewn Angen ar gyfer y gwasanaethau a nodir yn yr Archeb.
5.3 Bydd pob Archeb yn cael ei thrin fel contract ar wahân y gellir ei wahanu ac ni fydd perthynas rhyngoch Chi a BBC Plant mewn Angen yn ystod y cyfnod pan nad ydych Chi wedi cael archeb gan BBC Plant mewn Angen.
5.4 Ni ystyrir y bydd unrhyw beth yn y telerau hyn nac yn nhelerau unrhyw Archeb gyfystyr â pherthynas gyflogaeth rhyngoch Chi a BBC Plant mewn Angen ac ni fydd contract cyflogaeth yn bodoli rhyngoch Chi a BBC Plant mewn Angen ar unrhyw adeg.
5.5 Os bydd BBC Plant mewn Angen yn derbyn gwasanaeth gennych Chi fwy nag unwaith, ni fydd hyn yn rhoi unrhyw hawliau cyfreithiol ac ni fydd yn sefydlu hawl i Archebion pellach neu reolaidd gyda BBC Plant mewn Angen.

6. Hawl i Weithio

6.1 Mae unrhyw Archeb a wneir o dan y telerau hyn yn amodol ar fod gennych Chi hawl i weithio yn y DU, ac ar gynnal yr hawl honno. Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth foddhaol o’ch hawl i weithio yn y DU cyn dechrau ar eich ymgysylltiad, gallai hynny arwain at derfynu’r Contract.

7. Ffi

7.1 Wrth ystyried y gwasanaethau a ddarperir, mae BBC Plant mewn Angen yn cytuno i dalu’r Ffi i Chi a nodir yn eich Dogfennau Archebu (bydd y Ffi hon yn cael ei thalu i chi gan y BBC ar ran BBC Plant mewn Angen gan mai’r BBC sy’n hwyluso’r taliadau ar gyfer BBC Plant mewn Angen).
7.2 Dim ond fel y cytunwyd gyda’ch Archebwr neu gyswllt yn BBC Plant mewn Angen y caniateir taliadau am ddiwrnodau ychwanegol a weithiwyd (os yw’n berthnasol). Oni chytunir fel arall, mae’r ffi a nodir yn Eich Archeb yn cynnwys popeth ac ni fydd taliadau ychwanegol yn ddyledus i Chi er enghraifft, am weithio gyda’r nos neu ar ŵyl y banc.
7.3 Mae’r broses o dalu’r Ffi yn amodol arnoch Chi yn darparu i BBC Plant mewn Angen yr wybodaeth gyfredol a chywir sydd ei hangen ar BBC Plant mewn Angen neu’r BBC i brosesu’r taliad ac i gydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol/Nawdd Cymdeithasol Chi, eich enw cyfreithiol Chi a’ch dyddiad geni Chi, ymysg pethau eraill.
7.4 Rhaid i chi dderbyn Eich archeb yn brydlon ar y Porth Taliadau Llawrydd fel y nodir yn Eich Dogfennau Archebu.
7.5 Ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar sail Talu Wrth Ennill (PAYE), bydd yr holl daliadau’n cael eu prosesu ar gylch cyflogres wythnosol, a byddant yn cael eu gwneud ar ddydd Gwener fel arfer. Mae hyn yn amodol arnoch Chi yn derbyn archebion yn y Porth Taliadau Llawrydd. Gall oedi cyn derbyn yr archebion effeithio ar ba mor gyflym y byddwn ni’n prosesu taliadau ac yn cyfrifo didyniadau, gan gynnwys treth.
7.6 Rhaid hawlio talu ffioedd yn brydlon drwy gydymffurfio â phroses BBC Plant mewn Angen (a fydd yn cael ei hysbysu i Chi). Bydd BBC Plant mewn Angen yn talu’r symiau sy’n ddyledus erbyn diwedd yr wythnos sy’n dilyn yr wythnos y gwnaethoch Chi hawlio’r taliad.
7.7 Gall BBC Plant mewn Angen beidio â thalu, neu dalu’n rhannol, os na wnaethoch Chi ddarparu eich gwasanaethau yn unol â’r telerau ac amodau hyn a/neu Eich Dogfennau Archebu, a gall ddidynnu o’r taliad unrhyw symiau sy’n ddyledus gennych Chi i BBC Plant mewn Angen pryd bynnag yr oedd symiau o’r fath yn ddyledus.

8. Oriau Gwaith a Gwyliau

8.1 Rydych Chi’n cytuno, dros gyfnod yr ymgysylltiad o dan y Contract hwn, y byddwch Chi yn gweithio’r cyfryw oriau sy’n angenrheidiol i gyflawni eich rhwymedigaethau Chi o dan y contract hwn. Mae Eich ymgysylltiad yn amodol ar ddarpariaethau Rheoliadau Amser Gwaith 1998 (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd). Rydych Chi drwy hyn yn cydnabod ac yn cytuno y gall eich oriau gwaith Chi fod yn fwy na’r uchafswm oriau gwaith wythnosol yn ôl y gofynion hynny; ar yr amod fodd bynnag, y gallwch Chi dynnu’n ôl o gytundeb o’r fath drwy roi 3 mis o rybudd ysgrifenedig (neu, os yw’n fyrrach, cyfnod o rybudd ysgrifenedig sy’n cyfateb i gyfnod eich ymgysylltiad Chi) i BBC Plant mewn Angen unrhyw bryd yn ystod yr ymgysylltiad. Byddwch Chi yn cydymffurfio ag unrhyw geisiadau a wneir neu fesurau a osodir i alluogi BBC Plant mewn Angen i fonitro eich amser gwaith Chi a bydd methu â gwneud hynny’n golygu eich bod Chi yn torri’r Contract hwn yn sylweddol.
8.2 Mae gennych chi hawl i 5.6 wythnos o wyliau â thâl ym mhob blwyddyn wyliau (sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf eich ymgysylltiad Chi o dan y Contract hwn), gan gynnwys gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc (gydag “wythnos” yn cael ei chyfrifo drwy gyfeirio at nifer y diwrnodau rydych Chi yn eu gweithio yn ystod eich ymgysylltiad.)
8.3 Dylech gymryd y gwyliau rydych chi wedi’i gronni ar ddyddiadau a gymeradwywyd gan eich cyswllt yn BBC Plant mewn Angen. Bydd tâl gwyliau’n cael ei dalu pan fydd y gwyliau’n cael eu cymryd. Ar ddiwedd y Cyfnod, byddwch Chi yn cael eich talu yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd yn y flwyddyn wyliau gyfredol ond na chawsant eu cymryd, neu bydd angen ad-dalu BBC Plant mewn Angen am unrhyw wyliau a gymerwyd sy’n fwy na’r hawl a gronnwyd gennych Chi.

9.  Treuliau

9.1 Pan gytunir ar dreuliau ar gyfer Archeb benodol, mae’n amod cyn i BBC Plant mewn Angen wneud unrhyw daliad i Chi fod y treuliau wedi codi’n rhesymol, yn briodol ac yn angenrheidiol gennych Chi wrth gyflawni’r gwasanaethau, ac nad yw’r treuliau’n fwy na’r hyn y byddai gan gyflogai BBC Plant mewn Angen hawl i’w cael o dan bolisïau perthnasol BBC Plant mewn Angen, a’ch bod Chi wedi cyflwyno tystiolaeth ategol briodol i BBC Plant mewn Angen o’r treuliau a gafwyd.

10.  Terfynau Cyllidebol BBC Plant mewn Angen

10.1 Rhaid i Chi gydymffurfio â therfynau cyllidebol perthnasol BBC Plant mewn Angen (os yw’n berthnasol) sydd wedi cael eu darparu gan BBC Plant mewn Angen. Rydych Chi’n cydnabod os byddwch Chi’n mynd y tu hwnt i gyfyngiadau o’r fath heb gael caniatâd gan BBC Plant mewn Angen ymlaen llaw, yna ni fydd yn rhaid i BBC Plant mewn Angen eich ad-dalu Chi mewn perthynas ag unrhyw symiau dros derfynau o’r fath.
10.2 Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd BBC Plant mewn Angen yn gofyn i Chi fel rhan o Archeb i weithredu fel asiant prynu a/neu dalu BBC Plant mewn Angen ar gyfer prynu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau ar ran BBC Plant mewn Angen. Os felly, bydd yn rhaid cytuno ar unrhyw wariant gyda BBC Plant mewn Angen yn ysgrifenedig cyn prynu a rhaid i Chi gael anfoneb TAW yn enw BBC Plant mewn Angen. Dim ond pan fydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno y bydd hawliadau’n cael eu had-dalu.

11.  Iechyd

11.1 Rydych Chi’n gwarantu nad ydych Chi’n gwybod am unrhyw gyflwr iechyd a allai effeithio ar eich gallu Chi i ddarparu’r gwasanaethau.

12.  Cymhwysedd

12.1 Rydych Chi’n tystio eich bod Chi’n gymwys i ddarparu’r gwasanaethau.
12.2 Bydd Eich cymhwysedd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gael y profiad, yr hyfforddiant a/neu’r cymwysterau perthnasol a byddwch Chi’n darparu’r safon ddisgwyliedig o ran sgiliau, gofal a diwydrwydd priodol fel y byddai’n rhesymol i’w ddisgwyl gan unigolyn proffesiynol sy’n ymgymryd â’r rôl (gan gynnwys gweithredu o fewn cyllidebau os yw hyn yn rhan o’r rôl a gwaith cyn ac ôl cynhyrchu ac ailfformatio os yw’n briodol).
12.3 Os nad ydych Chi’n dangos y cymhwysedd hwn, gallai BBC Plant mewn Angen derfynu’r Archeb ar unwaith.

13. Cyfnod

13.1 Bydd grym ac effaith y Contract yn parhau’n llawn am y cyfnod a nodir o dan y ‘Dyddiadau Archebu’ yn y Dogfennau Archebu (y “Cyfnod”).
13.2 Os bydd unrhyw rwymedigaethau wedi eu cyflawni eisoes gan unrhyw barti i unrhyw raddau, ystyrir i bob diben bod y rhwymedigaethau hynny wedi cael eu cyflawni yn unol â darpariaethau’r Contract hwn ac yn amodol arnynt.
13.3 I osgoi amheuaeth, mae’r rhwymedigaethau o dan gymalau 38 Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol, 39 Didyniadau, 27 Indemniad, 19 Cyfrinachedd, 42 Cyfraith Lywodraethol yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod.

14. Ymddygiad Disgwyliedig

14.1 Yn ystod eich ymgysylltiad, rhaid i Chi gydymffurfio â Chod Ymddygiad y BBC, Gwerthoedd y BBC a’r polisïau a’r canllawiau sy’n berthnasol i’ch ymgysylltiad Chi, sydd i’w gweld yma:  Polisïau a Chanllawiau. Os byddwch chi’n gweld pobl eraill sy’n gweithio yn BBC Plant mewn Angen neu’r BBC yn ymddwyn mewn ffordd nad yw’n cyd-fynd â Chod Ymddygiad y BBC a Gwerthoedd y BBC, gallwch godi hyn yn unol â’r Cod Ymddygiad. Mae’n rhaid bodloni’r safonau ymddygiad hyn, a gallai peidio â gwneud hynny olygu bod y Contract hwn wedi cael ei dorri’n sylweddol.

15. Gwiriadau Cofnod Troseddol

  15.1 Rydych Chi’n cytuno i gael gwiriad DBS neu os ydych chi yn yr Alban, i ymaelodi â chynllun PVG, os yw BBC Plant mewn Angen yn credu bod hyn yn briodol.

16. Pensiwn

16.1 Mae’r Llywodraeth yn mynnu bod cyflogwyr yn darparu trefniant pensiwn yn y gweithle ar gyfer eu gweithwyr; gelwir hyn yn “gofrestru’n awtomatig am bensiwn” (PAE). Mae BBC Plant mewn Angen wedi dewis NEST (Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol) fel ei ddarparwr PAE. Mae BBC Plant mewn Angen yn cadw’r hawl i ddefnyddio darparwr arall ar wahân i NEST o ran PAE unrhyw bryd yn y dyfodol.
16.2 Mae BBC Plant mewn Angen wedi dewis gohirio cofrestru awtomatig am dri mis; felly (cyn belled â’ch bod chi’n bodloni meini prawf penodol o ran eich oed a’ch enillion) byddwch yn cael eich cofrestru â NEST yn awtomatig dri mis ar ôl dechrau archeb unigol yn BBC Plant mewn Angen. Bydd rhagor o fanylion am NEST, a fydd angen i chi gofrestru’n awtomatig, a’r buddion pensiwn sydd ar gael i chi yn ystod eich ymgysylltiad yn cael eu darparu i chi ar ôl i chi ddechrau gweithio i BBC Plant mewn Angen adeg pob archeb. Os byddwch chi’n cael eich cofrestru â NEST yn awtomatig, gallwch chi ddewis optio allan o NEST ond dim ond ar ôl i chi gael eich cofrestru’n awtomatig.
16.3 Hefyd, os oes gennych chi dipyn o gynilion pensiwn eisoes a’ch bod wedi cofrestru ar gyfer statws Gwarchodaeth Benodol neu Warchodaeth Uwch gyda CThEF yn y gorffennol, dylech chi fod yn ymwybodol y gallai ymuno â chynllun pensiwn gyda BBC Plant mewn Angen wneud i chi golli budd eich Gwarchodaeth Benodol neu Uwch yn y dyfodol. Os ydych Chi yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, byddai BBC Plant mewn Angen yn argymell eich bod chi’n gofyn am gyngor ariannol annibynnol ynghylch eich buddion pensiwn a’ch sefyllfa o ran treth.

17.  Statws Cyflogaeth

17.1 Rydych Chi’n cydnabod eich bod Chi yn “weithiwr” o dan adran 230(3)(b) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, at ddibenion Rheoliadau Amser Gwaith 1998 a Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998. At ddibenion a.83(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydych Chi wedi ymrwymo i gontract yn bersonol i wneud gwaith.
17.2 Ni fydd unrhyw beth yn y Contract hwn yn eich gwneud Chi yn gyflogai i BBC Plant mewn Angen.
17.3 Nid yw BBC Plant mewn Angen na’r BBC yn atebol am unrhyw daliadau cyflogaeth statudol fel (heb gyfyngiad) tâl dileu swydd sut bynnag y byddai’n codi. Mae gennych Chi hawl i daliadau statudol penodol sy’n daladwy i weithwyr.
17.4 Chi eich hun sy’n gyfrifol am eich gwaith cynllunio ariannol a’ch cyngor treth ac nid yw BBC Plant mewn Angen yn derbyn unrhyw atebolrwydd yn hyn o beth. Cynigir y Contract hwn yng nghyswllt y Gwasanaethau yn unig ac nid mewn unrhyw gyd-destun ehangach, y tybir bod gennych Chi a’ch cynghorwyr wybodaeth amdano.

18.  Absenoldeb oherwydd Salwch

18.1 Os nad ydych Chi yn gallu gweithio ar y dyddiadau a gytunwyd, rhaid i Chi roi gwybod i’ch Archebwr neu’r cyswllt yn BBC Plant mewn Angen cyn gynted â phosibl beth yw’r rheswm dros Eich absenoldeb.
18.2 Os ydych Chi’n bodloni’r amodau cymhwyso a bennwyd gan y gyfraith, bydd gennych Chi hawl i dâl salwch statudol ar y gyfradd bresennol mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch yn ystod eich ymgysylltiad Chi, ond ni fydd gennych Chi hawl i unrhyw daliadau eraill gan BBC Plant mewn Angen yn ystod cyfnod o’r fath.

19.  Cyfrinachedd

19.1 Ni chewch ac ni fyddwch yn gwneud y canlynol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan BBC Plant mewn Angen:
(a) Ysgrifennu am BBC Plant mewn Angen, y BBC nac am faterion y naill neu’r llall ar gyfer cyhoeddi neu ar gyfer siarad yn gyhoeddus am hynny; neu
(b) cyhoeddi neu ddatgelu yn fwriadol i unrhyw un o dan unrhyw amgylchiadau, unrhyw gyfrinach neu wybodaeth gyfrinachol sy’n ymwneud â materion busnes BBC Plant mewn Angen, y BBC neu gyflenwyr neu gwsmeriaid y ddau, y byddwch Chi yn dod i wybod amdano drwy Eich archeb gyda BBC Plant mewn Angen; neu
(c) gyhoeddi neu ddosbarthu (gan gynnwys dosbarthu ar-lein sy’n cynnwys, heb gyfyngiad, Facebook, Instagram, TikTok ac X) unrhyw ffotograffau neu ddelweddau fideo y gellir eu tynnu tra byddwch ar safleoedd/lleoliadau BBC Plant mewn Angen neu’r BBC.
19.2 Ni fyddwch Chi, ar unrhyw adeg yn ystod Cyfnod y Contract nac ar unrhyw adeg ar ôl ei derfynu, yn datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol i unrhyw drydydd parti (ac eithrio eich cynghorwyr proffesiynol neu pan fydd yn ofynnol datgelu gwybodaeth yn ôl y gyfraith, corff rheoleiddiol neu lys ag awdurdodaeth gymwys), gan gynnwys telerau cyfrinachol y Contract hwn ac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â busnes, materion a chyllid BBC Plant mewn Angen, y BBC neu unrhyw ddarlledwr comisiynu perthnasol (gan gynnwys allbwn, a gwybodaeth breifat am unigolion y dewch Chi ar ei thraws yn ystod Eich Archeb).  Ni fydd y cymal hwn yn cynnwys gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd neu a ddaw ar gael i’r cyhoedd wedyn ac eithrio drwy weithred neu anweithred gennych Chi.
19.3 Nid oes unrhyw beth yn y cymal hwn yn eich atal Chi rhag:
(a) gwneud datgeliad tâl perthnasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; neu
(b) wneud datgeliad cymwys fel y’i diffinnir gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998.

20. Polisïau’r BBC

20.1 Yn ystod Eich Archeb gyda’ BBC Plant mewn Angen, rydych Chi’n cadarnhau y byddwch Chi’n cydymffurfio â Pholisi Diogelu BBC Plant mewn Angen, a holl bolisïau eraill BBC Plant mewn Angen a’r BBC sy’n berthnasol i’ch rôl Chi.
20.2 Mae BBC Plant mewn Angen a’r BBC yn cadw’r hawl i ddiwygio ei bolisïau, ei ganllawiau a’i weithdrefnau yn unol ag anghenion busnes a/neu ddatblygiadau perthnasol mewn deddfwriaeth neu arferion busnes.
20.3 Os na fyddwch Chi’n cydymffurfio â pholisïau BBC Plant mewn Angen neu’r BBC, gellir terfynu Eich archeb gyda BBC Plant mewn Angen.
Dolen i Bolisïau’r BBC.   Bydd eich Archebwr chi neu Gyswllt yn BBC Plant mewn Angen yn rhoi unrhyw bolisïau BBC Plant mewn Angen perthnasol i Chi.

21. Datgan Buddiannau Personol

21.1 Mae’n rhaid i Chi ddarllen Polisi Datgan Buddiannau Personol y BBC sy’n berthnasol hefyd i’r rheini sy’n gweithio i BBC Plant mewn Angen.
21.2 Os oes gennych Chi unrhyw fuddiannau personol i’w datgan, mae’n rhaid i Chi lenwi ffurflen Datgan Buddiannau Personol fel y nodir yn Eich Dogfennau Archebu.

22. Prynu

 22.1 Os bydd angen i Chi brynu nwyddau neu wasanaethau fel rhan o’ch rôl, rydych Chi’n cytuno i gydymffurfio â Pholisi Caffael BBC Plant mewn Angen sydd ar gael gan eich Archebwr neu gan Gyswllt yn BBC Plant mewn Angen.

23. Gwrth-lwgrwobrwyo

23.1 Rydych Chi’n cytuno i gydymffurfio â Deddf Llwgrwobrwyo 2010 a Pholisi Gwrth-lwgrwobrwyo a Throseddau Ariannol y BBC, sydd hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n gweithio i BBC Plant mewn Angen, ac sydd i’w weld yma:  Polisïau’r BBC
23.2 Ystyrir eich bod wedi torri’r contract yn sylweddol os byddwch yn torri’r rhwymedigaeth hon, a gall BBC Plant mewn Angen derfynu eich Archeb Chi.

24. Cydymffurfiaeth Olygyddol

24.1 Rydych Chi’n cytuno i Ganllawiau Golygyddol a chanllawiau cysylltiedig BBC Plant mewn Angen, ac yn gweithio’n unol â nhw, pan fyddant yn berthnasol i’ch rôl yn BBC Plant mewn Angen, ac rydych Chi’n cydnabod bod y rhain yn cael eu hamrywio o bryd i’w gilydd.
24.2 Ystyrir eich bod wedi torri’r contract yn sylweddol os byddwch yn torri’r rhwymedigaeth hon o dan y telerau ac amodau hyn, a gellir terfynu Eich Archeb.

25. Iechyd a Diogelwch

25.1 Rydych Chi’n gyfrifol am gydymffurfio â’r safonau iechyd a diogelwch fel sy’n briodol yn amgylchiadau’r Archeb a byddwch bob amser yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch cyfredol y BBC, sydd i’w gweld ar safle Diogelwch  BBC Plant mewn Angen.

26. Yswiriant

26.1 Os ydych Chi’n creu cynnyrch, rydych Chi’n gyfrifol am drefnu a chynnal yswiriant cynnyrch digonol.
26.2 Os ydych Chi’n darparu offer, rydych Chi’n gyfrifol am yswirio’r offer hwnnw.
26.3 Mae manylion trefniadau perthnasol y BBC a allai fod ar gael i Chi (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd) wrth weithio i BBC Plant mewn Angen o dan y Contract hwn i’w gweld yma ar Borth Gweithwyr Llawrydd y BBC ac ar wefan y BBC.
26.4 Mae gofynion yswiriant penodol yn berthnasol i rai rolau. Mae’r rolau hyn yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
(a) Arbenigwyr Effeithiau Arbennig a Phyrotechneg;
(b) Arfogwyr;
(c) unigolion sy’n cael eu cyflogi’n benodol i ddarparu gwasanaethau diogelwch/amddiffyniad personol neu wasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch;
(d) unigolion sy’n cael eu cyflogi’n benodol i ddarparu gwasanaethau goruchwylio mynediad â rhaff a deifio sgwba;
(e) unigolion sy’n darparu a/neu’n goruchwylio rhyngweithio ag Anifeiliaid Peryglus fel y’u diffinnir o dan y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus berthnasol (neu reoliadau sy’n ei disodli);
(f) unigolion sy’n darparu gwasanaethau fel Arweinwyr Teithiau;
(g) unigolion sy’n darparu gwasanaethau meddygol (er enghraifft, Meddygon Ymgynghorol, Meddygon, Parafeddygon, Nyrsys, ac ati);
(h) unigolion sy’n cael eu cyflogi fel ymgynghorwyr rheoli.
26.5 Os ydych Chi’n cael eich cyflogi ar gyfer rôl a restrir yn (a) i (f) ac yn cael tâl gros neu’n cael eich cyflogi ar gyfer unrhyw rôl arall lle mae angen yswiriant penodol, rhaid i Chi drefnu a chynnal Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol gydag yswiriwr dibynadwy a, lle bo hynny’n berthnasol, Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch a/neu Yswiriant Indemniad Proffesiynol ac fe fydd gan bob un o’r rhain gyfyngiad atebolrwydd o ddim llai na dwy filiwn o bunnoedd sterling (£2,000,000) i bob digwyddiad gyda chwmpas y warchodaeth yn briodol i’r elfennau sydd i’w cyflawni o dan yr Archeb.
26.6 Os derbynnir gwasanaeth gennych Chi fel Ymgynghorydd Rheoli, mae lefel sylfaenol yr Yswiriant Indemniad Proffesiynol yn cael ei gostwng i filiwn o bunnoedd sterling (£1,000,000) i bob digwyddiad.
26.7 Gall BBC Plant mewn Angen amrywio gofynion yswiriant o’r fath, a’r mathau o wasanaethau y maent yn berthnasol iddynt, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd y lefelau isaf ar gyfer yswiriant o’r fath yn gyfyngiad ar atebolrwydd o dan yr archeb.
26.8 Ar gais BBC Plant mewn Angen, byddwch Chi’n rhoi copïau o’r polisïau yswiriant a gedwir yn unol â’r telerau hyn a/neu’r rhai a nodir yn y Dogfennau Archebu.

27. Indemniad

  27.1 Rhaid i Chi bob amser indemnio BBC Plant mewn Angen a’r BBC yn llawn mewn perthynas ag unrhyw ganlyniadau a allai ddilyn ar ôl i Chi dorri unrhyw rwymedigaethau neu warantau a roddwyd gennych Chi o dan y Contract hwn, yn dilyn Eich gweithredoedd neu anweithredoedd bwriadol neu esgeulus.
27.2 Mae hyn yn cynnwys unrhyw hawliadau a wneir gan drydydd partïon o ganlyniad i weithredoedd neu anweithredoedd gennych Chi, yn ôl y digwydd (gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â thorri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol a ddarperir o dan y telerau hyn neu delerau unrhyw archebion, neu a ddefnyddir mewn cysylltiad â nhw).
27.3 Ni fyddwch Chi na BBC Plant mewn Angen yn atebol am unrhyw golledion “canlyniadol” neu “arbennig” neu “anuniongyrchol”, colli elw, refeniw a/neu fusnes, arbedion disgwyliedig, ym mhob achos, p’un a yw’r partïon yn ystyried hyn wrth ymrwymo i unrhyw Archeb neu beidio, oni nodir hynny’n ffurfiol yn yr Archeb.
27.4 Bydd yr indemniadau a’r rhwymedigaethau a nodir yn y cymal hwn yn goroesi terfynu’r Contract hwn.

28. Gyrru ar Fusnes y BBC

28.1 Os bydd angen i Chi yrru at ddibenion cyflawni’r gwasanaethau yn ystod Eich archeb gyda BBC Plant mewn Angen (p’un a yw BBC Plant mewn Angen wedi cytuno i dalu ffi am wneud hynny neu beidio), mae’n rhaid i Chi gael datganiad gyrwyr cyfredol y BBC a thrwydded yrru briodol.
28.2 Os byddwch Chi’n darparu cerbyd, bydd yn rhaid cael cymeradwyaeth BBC Plant mewn Angen i ddefnyddio’r cerbyd a bydd yn rhaid cydymffurfio â’r Weithdrefn Cerbydau Modur (sydd i’w gweld yma:  Polisïau’r BBC)  gan gynnwys y gofyniad eich bod Chi’n dal yswiriant cerbyd modur priodol.
28.3 Byddwch yn cytuno i ddarparu gwybodaeth a dogfennau i BBC Plant mewn Angen, os bydd rhywun yn gofyn amdanyn nhw, i ddangos eich bod yn cydymffurfio â gofynion y BBC.

29. Offer

29.1 Os ydych Chi’n defnyddio unrhyw offer yn ystod eich Archeb gyda BBC Plant mewn Angen, byddwch Chi’n cytuno i gydymffurfio â chanllawiau’r BBC ynglŷn â defnyddio TG ac offer cysylltiedig, gan gynnwys Polisi Defnyddio Technoleg BBC Plant mewn Angen, sydd i’w weld yma: Polisïau’r BBC ynghyd ag unrhyw ganllawiau neu bolisïau mewnol eraill BBC Plant mewn Angen rydych Chi wedi cael gwybod amdanynt.
29.2 Os byddwch Chi’n darparu offer at ddibenion eich gwasanaethau Chi, byddwch Chi’n gyfrifol am y gwaith o ofalu, rheoli, diogelu, yswirio, a chynnal a chadw offer o’r fath.
29.3 Efallai y bydd BBC Plant mewn Angen yn darparu man storio ar gyfer unrhyw offer, ond nid oes rheidrwydd arno i wneud hynny.

30. Diogelwch/Mynediad/Archwiliad

30.1 Pan ofynnir i chi, rydych Chi’n cytuno i roi dogfennau adnabod dilys i’r BBC a/neu BBC Plant mewn Angen (fel y bo’n berthnasol).
30.2 Rhaid i Chi gael cardiau adnabod neu drwyddedau mynediad gan y BBC neu BBC Plant mewn Angen a’u harddangos tra byddwch Chi ar safleoedd y BBC. Rhaid i Chi ddychwelyd y cardiau neu’r trwyddedau hyn i’r BBC neu BBC Plant mewn Angen (yn unol â’r cyfarwyddyd) pan fydd yr Archeb yn dod i ben neu’n cael ei therfynu.
30.3 Efallai y bydd BBC Plant mewn Angen a’r BBC ill dau yn cynnal archwiliadau diogelwch ar hap gan gynnwys archwilio eich eiddo a’ch cerbyd(au) Chi tra byddwch ar safleoedd y BBC.
30.4 Efallai y caniateir mynediad i Chi i safleoedd y BBC a chyfleusterau’r BBC a/neu BBC Plant mewn Angen fel rhan o’ch Archeb Chi. Mae’r BBC a BBC Plant mewn Angen ill dau yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un y mae’r BBC neu BBC Plant mewn Angen (fel y bo’n berthnasol) yn credu ei fod yn annerbyniol am unrhyw reswm ar wahân i lesteirio’r archeb yn unig.
30.5 Rydych Chi’n cytuno i ganiatáu mynediad i BBC Plant mewn Angen (a, lle y bo’n berthnasol, i’r BBC) i’ch safle Chi neu i unrhyw safle arall y gallai ofyn yn rhesymol i gael mynediad iddo yn gysylltiedig â chyflawni gwasanaethau.
30.6 Rydych Chi’n cytuno y byddwch Chi’n dychwelyd i BBC Plant mewn Angen ac i’r BBC ei holl eiddo, o ba bynnag fath, gan gynnwys cardiau adnabod neu drwyddedau mynediad i safleoedd y BBC neu BBC Plant mewn Angen, eich Archebwr Chi neu gyswllt yn BBC Plant mewn Angen ni waeth beth fo’r amgylchiadau a arweiniodd at derfynu neu ddod â’r Archeb i ben.  Ystyrir bod gan BBC Plant mewn Angen a’r BBC yr holl bwerau ac awdurdod yn ddi-droi’n-ôl i fynd ar eich safle Chi neu i unrhyw safle arall i adfeddiannu a chymryd eitemau o’r fath ac adennill y costau o wneud hynny gennych Chi.

31. Didwylledd / gweithgareddau allanol / cyhoeddusrwydd

31.1 Byddwch yn cytuno i weithredu’n ddidwyll bob amser tuag at BBC Plant mewn Angen a’r BBC, ac ni fyddwch yn dwyn anfri ar BBC Plant mewn Angen na’r BBC, nac yn cyfeirio at BBC Plant mewn Angen neu’r BBC mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu na hyrwyddo, nac yn siarad yn gyhoeddus am BBC Plant mewn Angen na’r BBC na materion y naill na’r llall, heb gael caniatâd ymlaen llaw gan BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC fel y bo’n berthnasol).

32. Deallusol

Eiddo Deallusol – pob rôl 32.1 Oni ddarperir yn benodol fel arall ar ei gyfer mewn unrhyw Ddogfennau Archebu neu gytundeb atodol a wneir mewn cysylltiad ag Archeb, bydd yr holl Hawliau Eiddo Deallusol mewn perthynas ag unrhyw waith (gan gynnwys gwaith yn y dyfodol) sy’n cael ei greu gennych Chi wrth gyflawni eich gwasanaethau Chi gyda BBC Plant mewn Angen, boed hynny wrth gyflawni Eich dyletswyddau (“y Gwaith”) ai peidio, yn cael eu breinio yn BBC Plant mewn Angen ac rydych Chi drwy hyn yn neilltuo i BBC Plant mewn Angen yr holl hawliau o’r fath mewn perthynas â’r Gwaith ynghyd â’r holl hawliau cysylltiedig, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw achosion o dorri’r hawliau hyn.
32.2 Ar gais BBC Plant mewn Angen, byddwch Chi’n gwneud popeth sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol i weithredu hawliau BBC Plant mewn Angen o dan y cymal hwn.
32.3 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae gan BBC Plant mewn Angen yr hawl i olygu, copïo, newid ac addasu’r holl Waith ac rydych Chi’n ildio unrhyw hawliau moesol a allai godi o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, a phob hawl debyg mewn awdurdodaethau eraill.
32.4 Byddwch Chi’n datgelu’n ddi-oed i BBC Plant mewn Angen yr holl Waith sy’n cael ei wneud gennych Chi (boed hynny ar eich pen eich hun neu gydag eraill) yn ystod cyfnod unrhyw Archeb sydd gennych Chi gyda BBC Plant mewn Angen.
32.5 Ni fyddwch Chi’n gwneud cais i gofrestru, nac yn gwrthwynebu unrhyw gais gan BBC Plant mewn Angen na’r BBC i gofrestru, unrhyw Waith na Hawliau Eiddo Deallusol eraill BBC Plant mewn Angen neu’r BBC. Ni fyddwch Chi’n mynd ati’n fwriadol i wneud unrhyw beth sy’n peryglu cofrestriad, dilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol BBC Plant mewn Angen neu’r BBC, nac i achosi i hynny ddigwydd.

33. Eiddo Deallusol Ychwanegol ar gyfer

Cyfarwyddwyr, Cynhyrchwyr a Chynhyrchwyr/ Cyfarwyddwyr Teledu a Radio yn unig
  33.1 Mae’r hawliau a roddir o dan 32 uchod yn cynnwys aseiniad gyda gwarant teitl llawn o Hawliau Eiddo Deallusol ym mhob Gwaith a wneir gennych Chi o dan y telerau ac amodau hyn lle rydych Chi’n brif gyfarwyddwr a/neu’n cyfrannu at sgriptiau.
33.2 Rydych Chi’n gwarantu mai Chi yw unig berchennog cyfreithiol a llesiannol yr hawliau a neilltuir yn 32 uchod ac nad ydych Chi wedi neilltuo na thrwyddedu ac na fyddwch yn neilltuo nac yn trwyddedu unrhyw un o’r hawliau (ac eithrio’r hawl i gydnabyddiaeth deg sy’n deillio o ddefnyddio hawliau rhentu a benthyg) ac eithrio fel y nodir yn 32 uchod.

34. Cynhyrchion

34.1 Os yw cynhyrchion yn cael eu darparu neu eu cynhyrchu gennych Chi, rydych Chi’n gwarantu eu bod yn addas i’r diben y maent yn cael eu cyflenwi ar ei gyfer a, lle bo hynny’n berthnasol, eu bod o ansawdd boddhaol, eu bod wedi’u llunio’n dda, gyda deunydd addas a chadarn, a chryfder digonol, a’u bod wedi cael eu profi cyn eu darparu.
34.2 Rhaid i chi sicrhau, ar ran BBC Plant Mewn Angen, pob cydsyniad, caniatâd a/neu gliriad angenrheidiol gyda hawliau trydydd parti (gan gynnwys Hawliau Eiddo Deallusol) mewn perthynas â’r cynhyrchion.
34.3 Rhaid i unrhyw gynnyrch a ddarperir neu a gynhyrchir gennych Chi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau a chodau ymddygiad perthnasol cyfredol.
34.4 Bydd y cynnyrch yn cael ei gadw mewn ffordd addas a diogel ar eich menter eich hun nes iddo gael ei ddanfon i BBC Plant mewn Angen.
34.5 Pan fydd BBC Plant mewn Angen yn darganfod, adeg danfon neu gasglu neu ar ôl hynny, nad yw’r cynnyrch/cynhyrchion yn cydymffurfio ag archeb fel y nodir, gall BBC Plant mewn Angen dderbyn neu wrthod y cyfan neu unrhyw ran ohono ac os caiff ei wrthod, gall BBC Plant mewn Angen adennill unrhyw daliadau a wnaed am y cynnyrch a wrthodwyd.

35. Cydsyniad ar gyfer recordio / darlledu

35.1 Rydych Chi’n cytuno, heb ganiatâd pellach, i wneud y canlynol mewn unrhyw ffordd sy’n hysbys nawr neu a ddyfeisir yn y dyfodol:
(a) recordio unrhyw gyfraniad neu berfformiad o unrhyw fath (boed yn berfformiad at ddibenion Rhan II o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 ai peidio, gan gynnwys cyfweliadau, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) y gallwch Chi eu rhoi ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod archeb ar gais BBC Plant mewn Angen mewn unrhyw un o raglenni BBC Plant mewn Angen neu’r BBC (p’un a ydynt yn cael eu darlledu ai peidio); a
(b) atgynhyrchu, darlledu neu roi gwybod fel arall i’r cyhoedd am gofnod o unrhyw gyfraniad neu berfformiad o’r fath neu awdurdodi eraill i wneud hynny ar unrhyw adeg boed hynny yn ystod neu ar ôl terfynu’r archeb.
35.2 Bydd telerau unrhyw berfformiad a roddir y tu allan i ddyletswyddau arferol o dan unrhyw archeb sydd gennych Chi gyda BBC Plant mewn Angen yn cael ei lywodraethu gan y math priodol o gontract sy’n ofynnol gan BBC Plant mewn Angen ar yr adeg dan sylw.
35.3 Rydych Chi’n cytuno i roi i BBC Plant mewn Angen unrhyw a phob cydsyniad angenrheidiol o ran hawliau eiddo mewn perthynas â hawliau perfformwyr o dan Ran II o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 fel y’i diwygir neu y’i diweddarir yn y dyfodol, a phob cydsyniad perfformwyr eraill a hawliau eiddo o dan unrhyw gyfraith neu ddeddfwriaeth gyfredol neu yn y dyfodol sydd mewn grym mewn unrhyw ran o’r byd er mwyn galluogi BBC Plant mewn Angen (a, lle y bo’n berthnasol, y BBC) i wneud y defnydd llawnaf o’r perfformiadau.

36. Rheolaeth Olygyddol

36.1 Rydych Chi’n cydnabod mai BBC Plant mewn Angen sydd â’r rheolaeth olygyddol derfynol ac nad oes yn rhaid i BBC Plant mewn Angen (a, lle y bo’n berthnasol, y BBC) ddarlledu unrhyw raglen rydych Chi wedi darparu gwasanaethau ar ei chyfer.
36.2 Os ydych Chi’n darparu gwasanaethau fel Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd neu Gynhyrchydd/Cyfarwyddwr:
(a) efallai y cewch eich gwahodd, yn amodol ar rybudd rhesymol, i ddarparu gwasanaethau ategol i unrhyw Archebion sydd gennych Chi y tu allan i’r cyfnod Archebu. Bydd BBC Plant mewn Angen yn gwneud pob ymdrech bosibl, yn amodol ar anghenion gweithredol a golygyddol BBC Plant mewn Angen (a, lle bo’n berthnasol, y BBC) i drefnu i ddarparu gwasanaethau ategol o’r fath ar amser pan fyddwch Chi ar gael. Os na fyddwch Chi ar gael i ddarparu gwasanaethau o’r fath ar adeg sy’n cyd-fynd â’r anghenion hyn, bydd gan BBC Plant mewn Angen yr hawl i gael gwasanaethau o’r fath gan Gyfarwyddwr/Cynhyrchydd/Cynhyrchydd-Cyfarwyddwr arall; (b) cydnabod bod y tâl a nodir yn y Dogfennau Archebu yn ystyried yr holl amgylchiadau a’ch bod Chi o’r farn ei fod yn cynnwys tâl teg mewn perthynas ag unrhyw ddefnydd o’ch cyfraniadau Chi;
(b) bydd gennych Chi hawl i gael ad-daliad am dreuliau y telwch Chi’n unig amdanynt yn llawn wrth ddarparu Eich gwasanaethau, a bydd yr amodau sy’n ymwneud â threuliau a nodir yng nghymal 9 yn berthnasol.
(c) os ydych Chi wedi cael eich contractio fel Cyfarwyddwr Teledu ar gyfer unrhyw archeb, ar yr amod eich bod Chi (i) yn darparu’r holl wasanaethau sy’n ofynnol o dan unrhyw Archeb(ion) ac (ii) ddim yn peidio â chadw at y telerau ac amodau hyn yn sylweddol nac unrhyw delerau yn y Dogfennau Archebu, byddwch Chi’n cael cydnabyddiaeth “Cyfarwyddo” mewn copïau o’r rhaglen a wneir gan BBC Plant mewn Angen (neu, lle y bo’n berthnasol, y BBC) fel cyfarwyddwr y rhaglen, fel arfer ar ddiwedd y cydnabyddiaethau ar flaen rhaglenni, a bydd union ffurf cydnabyddiaeth o’r fath yn unol â Chanllawiau Cydnabyddiaeth y BBC;
(d) rhaid i chi adrodd i’r Cynhyrchydd ar bob mater sy’n ymwneud â chynhyrchu’r rhaglen(ni) sy’n dod o dan y telerau hyn (os yw’n briodol), ar yr amod fodd bynnag y gall drafod yn gyfrinachol gyda’r Pennaeth Cynhyrchu, uwch aelod o adran Adnoddau Dynol y BBC neu BBC Plant mewn Angen, neu gyswllt priodol yn BBC Plant mewn Angen neu’r BBC, unrhyw faterion sylweddol y maent wedi methu â dod i gytundeb â’r Cynhyrchydd yn eu cylch ar ôl gwneud pob ymdrech resymol.
 36.3 O ran yr indemniad a nodir yn y Contract hwn, ni fyddwch Chi’n atebol mewn perthynas ag unrhyw ddeunyddiau a ddarperir i Chi gan BBC Plant mewn Angen neu’r BBC.

37.  Diogelu Data 37.1 Yn y cymal hwn:

(a) Mae “Cyfraith Diogelu Data” yn golygu Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data, lle bo hynny’n berthnasol, Rheoliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Ddiogelu Data, prosesu Data Personol o dan y Contract, Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y GE) 2003 a’r holl reoliadau, codau ymarfer rheoleiddio, barn a chanllawiau cysylltiedig, gan gynnwys y rheini a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth; a
(b) bydd gan y termau “Rheolydd”, “Gwrthrych y Data”, “Cyfraith Ddomestig”, “Sefydliad Rhyngwladol”, “Data Personol”, “Tor Diogelwch Data Personol”, “Prosesu”, “Prosesydd”, “Awdurdod Goruchwylio”, a “Trydedd Wlad” yr un ystyron ag sydd wedi’u nodi yn y Gyfraith Diogelu Data berthnasol.
37.2      Monitro System.  Pan fo BBC Plant mewn Angen neu’r BBC yn darparu offer technoleg neu fynediad at feddalwedd fel rhan o’r Contract hwn, rydych Chi’n deall y gall BBC Plant mewn Angen a/neu’r BBC fonitro gweithgarwch a chyfathrebu ar unrhyw un o’u systemau fel y nodir yn y Polisi Defnydd Derbyniol o Systemau Gwybodaeth rydych Chi’n cytuno i’w ddilyn.
37.3 Hyfforddiant. Yn ystod eich ymgysylltiad â BBC Plant mewn Angen, rydych Chi’n deall y byddwch chi’n cwblhau unrhyw hyfforddiant diogelu data sy’n benodol i BBC Plant mewn Angen ac yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau diogelu data BBC Plant mewn Angen (yn ogystal â’r rheini sy’n ofynnol gan y BBC).
37.4 Gweithiwr fel Rheolydd. Ac eithrio mewn perthynas â’r gwaith Prosesu a nodir yn y Dogfennau Archebu (“Prosesu Penodol”), rydych Chi a BBC Plant mewn Angen yn Rheolyddion annibynnol ac ar wahân, a byddwch Chi’n cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau Chi o dan Gyfraith Diogelu Data.
37.5 Unigolyn a Enwir fel Prosesydd ar ran BBC Plant mewn Angen. Pan fyddwch Chi’n prosesu data ar ran BBC Plant mewn Angen, byddwch Chi’n Brosesydd ar ran BBC Plant mewn Angen mewn perthynas â Phrosesu Penodol, a bydd Cymalau 37.6 i 37.13 yn berthnasol, fel sy’n ofynnol gan Gyfraith Diogelu Data.
37.6 Cyfarwyddiadau. Dim ond yn unol â chyfarwyddiadau a gofnodwyd gan BBC Plant mewn Angen y byddwch Chi’n ymgymryd â Phrosesu Penodol, fel y bydd y cyfarwyddiadau hynny’n cael eu diwygio o bryd i’w gilydd yn ôl disgresiwn llwyr BBC Plant mewn Angen, ac eithrio lle:
(a) Mae’n ofynnol i Chi, neu Eich is-broseswyr a/neu asiantau a ganiateir, o dan Gyfraith Ddomestig ymgymryd â Phrosesu Penodol mewn modd arall nag yn unol â chyfarwyddiadau a gofnodwyd gan BBC Plant mewn Angen; neu
(b) yn eich barn resymol Chi, mae cyfarwyddyd BBC Plant mewn Angen yn torri Cyfraith Ddomestig; ac
yn y naill achos neu’r llall, byddwch Chi’n rhoi gwybod i BBC yn brydlon, oni bai fod Cyfraith Ddomestig yn eich gwahardd Chi rhag gwneud hynny.
37.7 Diogelwch. Byddwch Chi’n sicrhau bod Prosesu Penodol yn ddiogel drwy roi mesurau diogelwch technegol a sefydliadol ar waith nad ydynt yn llai llym na’r rhai sydd wedi’u nodi yn adran diogelu gwybodaeth y BBC, sydd i’w gweld yn https://www.bbc.co.uk/supplying/documents/bbc-thirdhttps://www.bbc.co.uk/supplying/documents/bbc-third-party-information-security-requirements-bbc-data-v1.4.pdfparty-information-security-requirements-bbc-data-v1.4.pdf (“Gofynion Diogelwch Gwybodaeth Trydydd Parti’r BBC”) ac fel y bydd y BBC yn eu diwygio, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.
37.8 Cyfrinachedd. Dim ond i bobl sydd o dan eich awdurdod Chi sydd wedi ymrwymo i gyfrinachedd neu sydd o dan rwymedigaeth statudol briodol o ran cyfrinachedd a dim ond ar sail angen gwybod y byddwch Chi’n rhoi mynediad at y Data Personol sy’n cael ei Brosesu ar ran BBC Plant mewn Angen (“Data Personol Penodol”).
37.9 Is-Broseswyr. Mae gennych Chi awdurdod cyffredinol gennym ni i dderbyn gwasanaeth gan Brosesydd arall (“Is-Brosesydd”) i ymgymryd â gwaith Prosesu Penodol. Fodd bynnag:
(a) Byddwch Chi’n rhoi gwybod i BBC Plant mewn Angen am unrhyw newidiadau arfaethedig sy’n ymwneud ag ychwanegu neu amnewid Is-Brosesydd, o leiaf 30 diwrnod cyn mynd ati i ychwanegu neu amnewid yn y fath fodd;
(b) Byddwch Chi’n gosod rhwymedigaethau diogelu data sy’n union yr un fath â’r rhai a nodir yn y Cymal hwn, neu nad ydynt yn llai llym na’r rheini, ar yr Is-brosesydd drwy gontract, a byddwch Chi’n sicrhau bod copi ar gael i BBC Plant mewn Angen ar gais; a
(c) Byddwch Chi’n gwbl atebol am unrhyw fethiant gan yr Is-Brosesydd i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data.
37.10 Cymorth. Byddwch Chi’n darparu ac yn sicrhau gwybodaeth a chymorth rhesymol yn brydlon, heb gostau i BBC Plant mewn Angen, i alluogi BBC Plant mewn Angen i gyflawni ei rwymedigaethau i wneud y canlynol:
(a) ymateb i geisiadau gan Wrthrychau Data yn unol â’r Gyfraith Diogelu Data;
(b) dangos eich bod Chi (ac unrhyw is-broseswyr a/neu asiantau a ganiateir) yn cydymffurfio â’r Cymal hwn, gan gynnwys cadw cofnodion o dan y Gyfraith Diogelu Data berthnasol;
(c) cydymffurfio â rhwymedigaethau eraill sydd wedi’u gosod ar BBC Plant mewn Angen gan Gyfraith Diogelu Data, sy’n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
(i) diogelwch;
(ii) asesiadau o’r effaith ar breifatrwydd; ac
(iii) ymgynghoriad, ymchwiliad, archwiliad ac ymholiadau gan Awdurdod Goruchwylio.
37.11 Tor Diogelwch Data Personol. Mewn unrhyw achos o Dor Diogelwch Data Personol neu amheuaeth o hynny sy’n effeithio ar Ddata Personol Penodol (“Digwyddiad Data Personol Perthnasol”), byddwch Chi, heb oedi gormodol, ac o fewn 24 awr, ar ôl dod yn ymwybodol ohono, yn rhoi gwybod i BBC Plant mewn Angen, gan gynnwys y canlynol yn eich hysbysiad:
(a) disgrifiad o’r digwyddiad;
(b) categorïau ac amcan o nifer y Gwrthrychau Data a chofnodion data;
(c) a gafodd unrhyw Ddata Personol Penodol yr effeithir arno ei ddad-adnabod, ei roi dan ffugenw, ei wneud yn ddienw, neu ei amgryptio;
(d) enw a manylion cyswllt Eich swyddog diogelu data neu bwynt cyswllt arall mewn perthynas â’r Digwyddiad Data Personol Perthnasol;
(e) disgrifiad o ganlyniadau tebygol y Digwyddiad Data Personol Perthnasol; ac
(f) disgrifiad o unrhyw fesurau sydd wedi cael eu cymryd, neu y bwriedir eu cymryd, gennych Chi i fynd i’r afael â’r Digwyddiad Data Personol Perthnasol, gan gynnwys, lle bo hynny’n briodol, mesurau i liniaru ei effeithiau niweidiol posibl.
37.12 Dileu a dychwelyd Data Personol. Ar ddiwedd Eich ymgysylltiad, byddwch Chi’n dychwelyd unrhyw a phob Data Personol Penodol sydd yn eich meddiant neu sydd o dan eich rheolaeth i BBC Plant mewn Angen ac yn dileu copïau presennol oni bai fod Cyfraith Ddomestig yn mynnu fel arall, ac os felly byddwch Chi’n rhoi gwybod i BBC Plant mewn Angen.
37.13 Archwilio ac arolygu. Byddwch Chi’n sicrhau bod BBC Plant mewn Angen yn gallu cael gafael ar unrhyw a’r holl wybodaeth y mae ei hangen arno i ddangos eich bod Chi’n cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a nodir mewn Cyfraith Diogelu Data a’r Cymal hwn a chaniatáu cynnal archwiliadau a chyfrannu atynt, gan gynnwys arolygiadau, a gynhelir gan BBC Plant mewn Angen neu archwilydd arall sydd wedi’i orfodi gan BBC Plant mewn Angen.
38.  Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
38.1 Gall Ffioedd fod yn ddarostyngedig i’r didyniadau a ganlyn:
(a) didyniadau mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogai sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu y mae BBC Plant mewn Angen neu’r BBC yn credu’n rhesymol y mae’n ofynnol iddo eu gwneud yn ôl y gyfraith, gan ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan CThEF;
(b) unrhyw symiau, nad ydynt yn destun anghydfod fel arall, sy’n ddyledus i BBC Plant mewn Angen gennych Chi neu o dan gytundeb i ddarparu eich gwasanaethau Chi i BBC Plant mewn Angen, p’un a ydynt yn gysylltiedig â’r Contract hwn neu fel arall; ac
(c) unrhyw ddidyniadau y mae’n ofynnol i BBC Plant mewn Angen neu’r BBC eu gwneud o dan y gyfraith.
38.2 Pan fo BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC) yn cynnig gwneud unrhyw ddidyniadau yn unol â’r cymal hwn, bydd BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC), i’r graddau y mae’n ymarferol, yn rhoi gwybod i Chi ymlaen llaw ac yn rhoi cyfle rhesymol i Chi herio unrhyw ddidyniad arfaethedig cyn iddo gael ei wneud, a bydd yn ystyried her o’r fath yn ddidwyll cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Os bydd BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC) yn gwneud unrhyw ddidyniad y canfyddir yn nes ymlaen ei fod yn anghywir neu’n ddiangen, bydd BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC, fel sy’n berthnasol) yn talu swm i Chi sy’n cyfateb i ddidyniad o’r fath yn llawn fel dyled, ynghyd â llog ar y gyfradd llog taliadau hwyr berthnasol ar gyfer treth incwm y DU o’r dyddiad y gwnaed y didyniad tan y dyddiad talu.
38.3 Os byddwch Chi yn hysbysu BBC Plant mewn Angen bod asiantaeth yn eich cynrychioli Chi, rydych Chi drwy hyn yn awdurdodi BBC Plant mewn Angen i dalu’r holl arian sy’n ddyledus o dan y Contract hwn i’r asiantaeth honno ac ni fydd gan BBC Plant mewn Angen unrhyw atebolrwydd pellach i Chi mewn perthynas ag unrhyw arian a dalwyd felly.

39.  Didyniadau

39.1 Gall BBC Plant mewn Angen ddidynnu o’r Ffi unrhyw symiau, nad ydynt yn destun anghydfod fel arall, sy’n ddyledus gennych Chi i BBC Plant mewn Angen neu o dan gytundeb i ddarparu cyfraniadau neu wasanaethau, boed yn gysylltiedig â’r Contract hwn neu fel arall.
 39.2 Os yw’n ofynnol i BBC Plant mewn Angen neu’r BBC, yn unol ag unrhyw ddeddf, rheol neu reoliad perthnasol yn awr neu yn y dyfodol ar unrhyw gorff llywodraethol neu weinyddol arall cymwys, ddidynnu neu gadw arian yn ôl o unrhyw swm neu symiau, mewn perthynas â threth neu fel arall, sy’n daladwy i Chi yn unol â’r Contract, bydd BBC Plant mewn Angen (neu, lle y bo’n berthnasol, y BBC):
(a) yn meddu ar hawl i dalu’r swm neu’r symiau dan sylw ar ôl didynnu’r swm hwnnw sy’n cael ei gadw’n ôl neu ei ddidynnu;
(b) yn talu’n brydlon i’r awdurdod perthnasol o fewn y cyfnod a ganiateir gan y gyfraith y swm hwnnw sy’n cael ei gadw’n ôl neu ei ddidynnu; ac
(c) yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig i Chi ei fod wedi gwneud y taliad i’r awdurdod perthnasol.
39.3 Os na fydd BBC Plant mewn Angen (neu’r BBC) yn cadw’n ôl neu’n didynnu’r swm hwnnw, byddwch Chi’n talu pob ac unrhyw dreth a thâl arall sy’n daladwy oherwydd y symiau hynny a byddwch Chi’n indemnio ac yn cytuno i gadw BBC Plant mewn Angen a’r BBC wedi’i indemnio’n llawn rhag ac yn erbyn unrhyw atebolrwydd neu draul mewn cysylltiad â chadw’n ôl neu ddidynnu’r swm hwnnw.
39.4 Os daw BBC Plant mewn Angen (neu, lle y bo’n berthnasol, y BBC) i’r casgliad ei fod wedi methu â didynnu swm o daliad y gallai fod wedi ei ddidynnu yn unol â chymal 38.1 a 39.2 uchod, rydych Chi’n cytuno y bydd ganddo hawl i ddidynnu’r swm hwnnw o unrhyw daliad pellach a wneir i Chi mewn cysylltiad â’r Contract hwn, gan gynnwys drwy wrthgyfrif symiau sy’n ddyledus ganddo ac iddo.  Ni fydd arfer hawliau BBC Plant mewn Angen neu’r BBC o dan y cymal hwn yn cyfyngu nac yn atal arfer neu arfer pellach o hawliau o’r fath nac unrhyw hawl neu ddatrysiad arall a allai fod gan BBC Plant mewn Angen neu’r BBC.
40.  Cytundeb Cyflawn
40.1 Bydd y Contract hwn bob amser yn drech na’r holl delerau ac amodau eraill y gallech Chi honni eu bod yn berthnasol.  Dim ond drwy gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw rhwng y partïon y gellir diwygio’r Contract hwn.
40.2 Ac eithrio mewn perthynas â chamliwio twyllodrus, mae’r Contract hwn yn sefydlu dealltwriaeth lwyr y partïon mewn perthynas â’r Archeb ac yn disodli’r holl gytundebau, negodiadau a thrafodaethau blaenorol rhwng y partïon.  Mae unrhyw atodlenni yn rhan o’r Contract hwn.

41.  Terfynu

41.1 Ac eithrio’r rolau canlynol: Cyfarwyddwyr, Cynhyrchwyr a Chynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr Teledu a Radio, gall BBC Plant mewn Angen derfynu’r Contract hwn ar unwaith gan dalu am y gwasanaethau a ddarparwyd tan y dyddiad terfynu os:
(a) bydd gwasanaethau’n cael eu hatal oherwydd force majeure (gan gynnwys salwch ardystiedig neu analluogrwydd corfforol sy’n golygu nad ydych Chi’n gallu darparu’r gwasanaethau);
(b) byddwch Chi’n torri amodau unrhyw un o ddarpariaethau’r Contract ac:
(i) (os oes modd unioni’r tor-amod) na fyddwch Chi yn ei unioni cyn pen saith (7) diwrnod (neu gyfnod byrrach y byddai’n rhesymol i BBC Plant mewn Angen ofyn amdano) ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r tor-amod ac yn mynnu ei fod yn cael ei unioni; neu
(ii) nad oes modd unioni’r tor-amod; neu
(iii) bod y tor-amod yn un sylweddol neu’n torri amod arwyddocaol;
(c) byddwch Chi’n torri amodau dro ar ôl tro neu os na fyddwch Chi yn cadw at unrhyw un o delerau ac amodau’r Contract hwn;
(d) os yw canlyniadau unrhyw archwiliad meddygol a gynhaliwyd o dan gymal 11 (Iechyd) uchod yn golygu na all BBC Plant mewn Angen gael yswiriant cynhyrchu ar delerau sy’n dderbyniol i BBC Plant mewn Angen;
(e) na fyddwch Chi’n derbyn gwiriad DBS neu’n ymaelodi â chynllun PVG, pa un bynnag sy’n berthnasol (pan fydd hyn yn ofynnol er mwyn darparu’r gwasanaethau);
(f) byddwch Chi’n dioddef digwyddiad ansolfedd o dan unrhyw ddeddf sy’n ymwneud â methdaliad, ansolfedd neu ryddhad dyledwyr unrhyw le yn y byd; neu
(g) Nid oes modd i Chi ddarparu’r gwasanaethau am unrhyw reswm.
41.2 Ac eithrio’r rolau canlynol: Cyfarwyddwyr, Cynhyrchwyr a Chynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr Teledu a Radio, os bydd eich Archeb yn cael ei therfynu am unrhyw reswm ariannol, golygyddol neu unrhyw reswm arwyddocaol arall, byddwch Chi’n cael eich talu am y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd y dyddiad terfynu a bydd BBC Plant mewn Angen naill ai’n:
(a) rhoi rhybudd terfynu o 24 awr i Chi os ydych Chi’n cael eich talu ar sail Talu Wrth Ennill
(b) gwneud taliad i Chi sy’n cyfateb i daliad wythnos o weddill yr archeb, pa un bynnag yw’r lleiaf os ydych Chi’n cael eich talu ar sail gros.
41.3 Ar gyfer Cyfarwyddwyr, Cynhyrchwyr a Chynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr Teledu a Radio, gall BBC Plant mewn Angen derfynu archeb ar unwaith gan dalu am y gwasanaethau a ddarparwyd tan y dyddiad terfynu os:
(a) byddwch Chi’n torri rhwymedigaethau’n sylweddol ac nad oes modd eu hunioni, neu os
(b) byddwch Chi’n torri amodau unrhyw un o ddarpariaethau’r Contract ac:
(i) (os oes modd unioni’r tor-amod) na fyddwch Chi yn ei unioni cyn pen saith (7) diwrnod (neu gyfnod byrrach y byddai’n rhesymol i BBC Plant mewn Angen ofyn amdano) ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r tor-amod ac yn mynnu ei fod yn cael ei unioni; neu
(ii) nad oes modd unioni’r tor-amod; neu
(iii) bod y tor-amod yn un sylweddol neu’n torri amod arwyddocaol;
(c) mae rhesymau y tu hwnt i’w reolaeth resymol yn atal yr ymrwymiad rhag parhau, neu
(d) nid oes modd i chi ddarparu’r gwasanaethau am unrhyw reswm.
41.4 Ar gyfer Cyfarwyddwyr, Cynhyrchwyr a Chynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr Teledu a Radio, os terfynir archeb am unrhyw reswm heblaw a-d uchod, mae gennych Chi hawl i dderbyn y ffi lawn a nodir yn Eich archeb sy’n parhau i fod heb ei thalu ar y dyddiad terfynu, yn amodol ar ystyried y ddyletswydd arferol i liniaru colled.
41.5 Ni waeth beth yw’r rôl, os ydych Chi i fod i gael/neu wedi cael taliad yn unol â’r cymal hwn (“taliad”), ond eich bod Chi wedi trefnu i weithio gyda BBC Plant mewn Angen a/neu unrhyw gwmni cysylltiedig yn ystod yr un cyfnod ag y byddech Chi i fod i gael/wedi cael taliad yn iawndal am yr archeb flaenorol, yna nid yw’r taliad yn daladwy.
41.6 Mae’n ofynnol i chi ddatgelu hyn i BBC Plant mewn Angen a thalu unrhyw daliad a wnaed yn ôl. Os daw BBC Plant mewn Angen yn ymwybodol eich bod Chi wedi torri hyn, mae’n cadw’r hawl i naill ai fynnu bod y taliad yn cael ei ad-dalu ar unwaith a/neu derfynu’r archeb ar unwaith a pheidio â thalu.
41.7 Pan fydd archeb yn dod i ben, rydych chi’n cytuno y byddwch chi’n dychwelyd holl eiddo BBC Plant mewn Angen, o ba bynnag fath, gan gynnwys cardiau adnabod neu drwyddedau mynediad i safleoedd BBC Plant mewn Angen neu’r BBC, i’ch Archebwr neu i’ch Cyswllt yn BBC Plant mewn Angen, ni waeth beth fo’r amgylchiadau a arweiniodd at derfynu neu ddod â’ch archeb Chi i ben.

42.  Cyfraith Lywodraethol

42.1 Caiff y Cytundeb hwn ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, ac mae pob parti’n ildio i awdurdodaeth benodol Llysoedd Cymru a Lloegr.

43.  Hawliau Trydydd Parti

43.1 Bydd gan y BBC hawl i orfodi unrhyw un o delerau’r Contract hwn y mynegir ei fod er ei fudd neu ei ddiogelwch. Ac eithrio’r uchod, nid yw’r Contract hwn yn creu nac yn awgrymu hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 neu fel arall y gellir eu gorfodi gan unrhyw un nad yw’n barti yn y Contract hwn.  Ni fydd angen caniatâd y BBC i amrywio, diddymu na therfynu’r Contract hwn.
addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1