Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig

Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig

Mae Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig COVID-19 wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â’r Youth Futures Foundation


Mae’r Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig nawr ar gau.

Byddwn yn agor rhagor o raglenni cyllido mewn ymateb i COVID-19 ym mis Hydref. Cadwch olwg ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.


Mae rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig ar agor i geisiadau o ddydd Iau 9 Gorffennaf i 11:59 ar ddydd Iau 30 Gorffennaf 2020.

Mae BBC Plant mewn Angen a Youth Futures Foundation yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno Dyfodol Ysbrydoledig, rhaglen £6m ar gyfer ariannu gweithgareddau cadarnhaol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial ar eu taith at gyflogaeth.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi dwysau’r heriau a’r cymhlethdodau i blant a phobl ifanc sy’n ceisio cael mynediad at addysg bellach, hyfforddiant a gwaith.

Mae pryderon y bydd y cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol hir ar ôl y cyfnod clo yn cael effaith arbennig o niweidiol ar y rheini sydd eisoes yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith, a bydd hefyd yn cyfyngu ar y cyfleoedd i unigolion eraill ddysgu’r sgiliau a chael y profiadau a fyddai’n eu helpu i gael gwaith pan fyddan nhw’n hŷn.

Cyn yr argyfwng COVID-19, roedd yna dros 760,000 o bobl ifanc oedd ddim mewn addysg na gwaith yn y DU.  Mae pryderon y bydd effaith economaidd y pandemig yn arwain at 640,000 yn rhagor o bobl ifanc 18 i 24 oed yn ddi-waith eleni yn unig.

Mae mwy nag un o bob tri pherson ifanc 18-24 oed yn ennill llai na chyn y pandemig, mae tua eu chwarter wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ac mae 9% yn ychwanegol wedi colli eu gwaith yn gyfan gwbl. Mae pobl ifanc eisoes ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith nag oedolion hŷn yn y farchnad lafur ac mae rhai pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig â chyfraddau uwch o ddiweithdra na’u cyfoedion Gwyn. Yn y cyfamser, mae plant a phobl ifanc difreintiedig sydd â llai o gyfleoedd yn anghymesur o debygol o fod allan o waith neu addysg.

Rydyn ni’n falch o sefydlu partneriaeth â’r Youth Futures Foundation ar y rhaglen £6m hon, gan unioni ein hamcanion o wella cyfleoedd gwaith i blant a phobl ifanc sy’n wynebu gwahaniaethu neu anfantais, er mwyn cyflawni ein huchelgais o drawsnewid bywydau ifanc drwy ddatgloi eu potensial a mynd i’r afael ag achosion diweithdra ymysg yr ifanc.

Faint allwn ni wneud cais amdano ac am ba hyd?

Bydd sefydliadau cymwys yn gallu gwneud cais am rhwng £1,000 ac £80,000 ar gyfer gwaith sy’n dechrau ym mis Hydref 2020.

Bydd y cyllid ar gyfer costau prosiect a chostau sefydliadol, gan gynnwys cynllunio a datblygu ar gyfer y dyfodol, a bydd yn cefnogi:

  • Rhwng 12 a 18 mis o ddarpariaeth
  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc:
    • 10 i 24 oed yn Lloegr
    • 10 i 18 oed yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cofiwch mai’r Youth Futures Foundation sy’n darparu’r cyllid ar gyfer unigolion 19 i 24 oed ac mae’n gwasanaethu Lloegr yn unig.

Pwy all wneud cais?

Mae rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig ar gyfer sefydliadau nid-er-elw yn y DU. Rhaid i bob cais gyrraedd ein Safonau Sylfaenol ar gyfer Dyfarnu Grantiau? Mae’r safonau hyn yn ymwneud â threfniadau llywodraethu, cyllid a mesurau diogelu. Mae methu â bodloni’r safonau hyn yn un o’r rhesymau mwyaf cyffredin nad yw sefydliadau’n cael eu hasesu.

Rhaid i’ch sefydliad fod wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol, fel Comisiwn Elusennau eich gwlad neu Dŷ’r Cwmnïau (oni bai fod eich sefydliad yn ddeiliad grant BBC Plant mewn Angen ar hyn o bryd).

 Lle bo modd, rydyn ni am ariannu sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o’r materion sy’n wynebu’r plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n helpu i’w cefnogi. 

Mae BBC Plant mewn Angen a’r Youth Futures Foundation wedi ymrwymo i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael sylw penodol wrth i ni gydnabod anghyfiawnder hiliol ac effaith anghymesur COVID-19 arnyn nhw…

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan garchardai, ysbytai na chyrff statudol eraill.

*Er nad ydy BBC Plant mewn Angen yn ariannu ysgolion a chyrff addysgol ar hyn o bryd – rydyn ni’n credu bod amcanion y gronfa hon yn golygu bod y sefydliadau hyn yn allweddol ar gyfer cyrraedd y plant a’r bobl ifanc hynny sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Bydd disgwyl i geisiadau gan yr ysgolion neu’r cyrff addysgol hyn ddangos y canlynol:

  • Cysylltiadau cryf â’r gymuned leol a’r sector pobl ifanc
  • Tystiolaeth glir mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • Tystiolaeth glir nad yw’r cais am gyllid yn ddyletswydd statudol (ni fyddwn ni’n ariannu unrhyw beth sy’n cael ei ystyried yn ddyletswydd statudol)
  • Yn gallu dangos cyfyngiad cyllid a llywodraethiant a phenderfynu lleol. Sef fod gan y bobl sy’n gwario’r grant yr awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau a darparu’n unol â’u cais am grant ac nad oes modd i’r sefydliad ehangach reoli hyn.

Ai hon yw’r gronfa iawn i’ch sefydliad chi?

Mae cyllid ar gael i sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio i wella cyfleoedd plant a phobl ifanc sy’n:

  • Wynebu gwahaniaethu neu anfantais drwy eu cefnogi ar eu taith tuag at neu i mewn i waith.
  • Dioddef gwahaniaethu neu anfanteision sy’n creu rhwystrau tymor byr neu hirach at waith, yn enwedig y rheini y mae eu taith at waith wedi cael ei amharu gan COVID-19.

Bydden ni’n hoffi deall profiadau penodol y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n bwriadu gweithio gyda nhw’n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith yn y dyfodol. Gall y rhwystrau gynnwys, ymysg eraill:

  • plant a phobl ifanc o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn enwedig y rheini sy’n fwyaf tebygol o ddioddef gwahaniaethau yn y farchnad lafur (e.e. Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Du, Cymysg, Sipsi, Roma a Theithwyr)
  • pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
  • pobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal
  • rhiant ifanc, neu â chyfrifoldeb gofalu
  • o dan anfantais economaidd (yn gymwys am brydau ysgol am ddim) neu yn byw mewn ardal o amddifadedd uchel
  • plant a phobl ifanc anabl neu blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu
  • yn cael eu heffeithio gan brofiad o’r system cyfiawnder troseddol
  • yn cael eu heffeithio gan allgáu o addysg neu ddarpariaeth addysgol amgen
  • yn cael eu heffeithio gan ddigartrefedd
  • yn cael eu heffeithio gan faterion iechyd meddwl
  • yn cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd tymor hir
  • yn cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr drafod ac adolygu eu cynnig gydag aseswr BBC Plant mewn Angen. Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ym mis Awst ar gyfer asesiad. Gan ein bod am weld y cyllid yn cyrraedd plant a phobl ifanc cyn gynted â phosibl, nid oes modd ymestyn y cyfnod asesu hwn.

Ga i wneud cais am y Rhaglen Camau Nesaf ac Dyfodol Ysbrydoledig?

Fyddwn ni ddim ond yn derbyn ac yn prosesu un cais ar y tro ar gyfer ein rhaglenni ymateb i COVID-19. Nid yw hyn yn cynnwys ein grantiau Hybu diweddar. Rydyn ni’n ymwybodol y bydd y galw yn llawer mwy na’r arian sydd ar gael yn y ddwy raglen. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwneud cais i’r rhaglen rydych chi’n teimlo sy’n siwtio orau.

Rydw i wedi gwneud cais i Camau Nesaf ond rydw i eisiau newid i’r Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig??

Os hoffech chi i’r cais rydych chi wedi’i gyflwyno i raglen Camau Nesaf gael ei ystyried ar gyfer Rhaglen Dyfodol Ysbrydoledig, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ddargyfeirio eich cais.

Os hoffech chi gyflwyno cais gwahanol i’r un y gwnaethoch chi ei gyflwyno i Camau Nesaf, cysylltwch â [email protected] i dynnu eich cais i Camau Nesaf yn ôl ac ailymgeisio i raglen Dyfodol Ysbrydoledig yn lle hynny.

Am beth allwn ni wneud cais?

Dylai’r holl brosiectau ganolbwyntio ar wella’r daith at gyflogaeth i blant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau.

Byddwn ni’n disgwyl i ymgeiswyr nodi’r tri phrif wahaniaeth (canlyniadau) y maen nhw’n bwriadu eu gwneud i fywydau’r plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n gweithio gyda nhw a dangos y cysylltiadau rhwng y gwahaniaethau hyn, ar daith gadarnhaol tuag at waith.

Rydyn ni’n ymwybodol y bydd y canlyniadau y byddwch chi’n gallu eu cyflawni yn amrywio yn dibynnu ar rinweddau’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw (e.e. eu hoedran, y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu, a lle maen nhw ar eu taith at waith). Dydy’r daith at waith ddim yn llinell syth ac mae taith pawb yn wahanol – does yna ddim un ffactor sy’n sicrhau llwyddiant o ran cyflawni dyheadau ac amcanion. Efallai y bydd angen gwahanol fathau o gymorth ar blant a phobl ifanc unigol ac mae ffactorau allanol yn cael effaith fawr ar allu person ifanc i gael a chadw gwaith hefyd, fel rydyn ni’n ei weld gyda COVID-19.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o wahaniaethau y gallech chi eu cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc a allai gyfrannu at wella eu taith at waith:

  • Sgiliau bywyd gwell fel gwrando, siarad, datrys problemau, creadigrwydd, aros yn bositif, anelu’r uchel, arweinyddiaeth a gwaith tîm.
  • Perthnasoedd cadarnhaol ag oedolion a sefydliadau maen nhw’n ymddiried ynddynt er mwyn cynnig cyfleoedd, addysg, cyngor, mentora, hyfforddi, profiad neu waith.
  • Codi dyheadau neu orwelion drwy brofiadau a chyfleoedd newydd.
  • Mwy o flas o hyfforddiant ac addysg gydol oes sy’n cryfhau gallu pobl ifanc i addasu ac ymgymryd â chyfleoedd newydd pan fyddan nhw’n codi.
  • Sgiliau craidd gwell fel llythrennedd a rhifedd fel pasbort i mewn i hyfforddiant neu waith,

Efallai y bydd sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd ymhellach ar hyd eu taith at waith yn gallu cynnig y canlynol hefyd:

  • Sgiliau ymarferol ar gyfer crefft neu alwedigaeth, fel TG (e.e. Cymorth technegol, dylunio graffeg, dadansoddwr busnes, datblygwr gwefannau), gweinyddu, adeiladu (e.e. Dylunydd, trydanwr, gosodwr brics, addurnwr), iechyd a gofal cymdeithasol, cyllid (e.e. cadw cyfrifon, cyfrifyddu), gofal plant, gyrwyr cyflenwi ‘swyddi eraill y dyfodol’.
  • Lleoliadau profiad gwaith, hyfforddeiaethau, prentisiaethau neu interniaethau
  • Gwaith cyflogedig

Rydyn ni eisiau i’r sefydliadau sy’n deall anghenion plant a phobl ifanc a’r rhwystrau penodol y maen nhw’n eu hwynebu i adael i ni wybod beth sydd eisoes yn gweithio neu i nodi atebion arloesol. Ond, dyma rai enghreifftiau o’r mathau o waith y gallen ni eu gweld:

  • Cyfeirio plant a phobl ifanc tuag at neu i mewn i waith, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth pan fo’n bosib, dulliau a allai gynnwys y canlynol.
    • Darparu gweithgareddau cadarnhaol fel cerddoriaeth, celf a chwaraeon sy’n galluogi datblygiad canlyniadau a sgiliau parodrwydd am waith.
    • Darparu cynghorydd cyson y maen nhw’n ymddiried ynddo i ddarparu cymorth cyson i helpu plant a phobl ifanc oresgyn rhwystrau a chyflawni eu hamcanion personol.
    • Darparu sgiliau cyflogadwyedd, academaidd neu alwedigaethol wedi’u personoli, hyfforddiant mentergarwch, chwilio am waith, neu brofiad gwaith
    • Mynd i’r afael â rhwystrau at waith fel problemau iechyd meddwl a chorfforol, a materion tai
    • Helpu pobl ifanc i mewn i addysg bellach, hyfforddiant neu waith na fydden nhw wedi cael mynediad ato fel arall.
    • Cefnogi pobl ifanc trwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, profiad gwaith, gwaith cyflogedig a symud i waith parhaol.
    • Cysylltu pobl ifanc yn uniongyrchol â chyfleoedd gwaith cynaliadwy.

Rydyn ni’n deall ac yn gwerthfawrogi ei bod yn bosib y bydd prosiectau yn parhau i addasu eu darpariaeth o fewn yr amgylchiadau newidiol yn sgil COVID-19. Rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr gael cynllun clir ar gyfer y misoedd i ddod, ond rydyn ni’n deall ei bod yn bosib y bydd angen iddo newid dros amser. Rydyn ni’n gyfforddus gyda hyn a bydden ni’n gofyn bod ymgeiswyr yn cyfathrebu newidiadau sy’n codi yn ystod eu grant, os dyfernir cyllid.

Am beth allwn ni ddim gwneud cais?

Mae’r gronfa hon wedi’i dylunio i fod mor hyblyg â phosibl, ond nid oes modd i ni ystyried ceisiadau ar gyfer y canlynol:

  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gyfatebol
  • Costau cyfalaf/adeiladu
  • Offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau ac ati)
  • Cerbydau
  • Costau statudol neu waith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w hariannu.
  • Offer ansefydlog sydd â gwerth dros £20,000 (e.e. cyfarpar chwarae/synhwyraidd)
  • Gwaith sy’n cael ei wneud y tu allan i’r DU
  • Gwaith gyda phobl ifanc dros 18 oed yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. (Gellir defnyddio’r gronfa hon i gefnogi pobl ifanc hyd at 24 oed yn Lloegr).
  • Ariannu ôl-weithredol, lle mae’r gwariant grant i fod i gychwyn cyn dyddiad dyfarnu’r grant
  • Costau rydych wedi cael arian ar eu cyfer (dyblygiad)
  • Cyfraniadau i’ch cronfeydd
  • Costau diswyddo neu drosglwyddo staff
  • Ad-dalu benthyciadau neu ddyledion
  • Buddsoddiadau
  • Rhwymedigaethau pensiwn a/neu gyfraniadau i nifer fawr o bensiynau staff
  • Astudiaethau dichonoldeb neu waith cwmpasu
  • Prosiectau neu waith sy’n hyrwyddo crefydd
  • Tripiau neu brosiectau dramor
  • Triniaeth feddygol neu ymchwil
  • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Gweithgarwch gwleidyddol neu, i sefydliadau gwleidyddol pleidiol neu ar gyfer lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • I’r grant gael ei drosglwyddo i sefydliadau eraill
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol.

Sut mae gwneud cais?

Rhaid cyflwyno pob cais drwy ein Porth Ar-lein. Bydd modd gwneud cais o ddydd Iau 9 Gorffennaf 2020. Pan fyddwch wedi mewngofnodi, byddwch yn gallu cwblhau a chyflwyno eich cais ar gyfer rhaglen grantiau Dyfodol Ysbrydoledig.

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn darllen ein Canllawiau Ffurflen Gais Grant Dyfodol Ysbrydoledig

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar gael ar wefannau’r Youth Futures Foundation a BBC Plant mewn Angen.

Y dyddiad cau ar gyfer y rhaglen hon yw 11.59pm dydd Gwener 31 Gorffennaf 2020. Rydym yn disgwyl y bydd y galw am y gronfa hon yn fwy na’r arian sydd ar gael, a dim ond cyfran o’r ceisiadau fydd yn llwyddiannus.

Pryd byddwn yn cael clywed gennych?

Rydyn ni’n disgwyl gwneud pob penderfyniad erbyn canol mis Hydref 2020.

Fel cronfa newydd, mae’n anodd i ni wybod yn union faint o geisiadau a gawn. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr os bydd angen mwy o amser arnom.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost i roi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf a thelerau ac amodau eich grant. Mae’n bosibl y bydd rhai amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant, fel newidiadau y bydd angen eu gwneud neu bethau y bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian i chi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 0345 609 0015.

Ffrydiau Cyllido COVID-19

I weld ein rhaglenni ymateb i COVID-19, sydd wedi’u cynllunio i roi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig COVID19, cliciwch yma.

English

To read this page in English, please click here.

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb allu gwneud cais am ein cyllid.  Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosibl, pryd bynnag y byddwn yn gallu gwneud hynny. Os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015 neu drwy anfon neges e-bost i [email protected]. Gallai’r help hwn gynnwys trefnu cyfieithydd neu ofyn am ganllawiau mewn fformatau eraill

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1