Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Ffrydiau Cyllido COVID-19

Meini Prawf A Chymhwysedd

Gwybodaeth am ein Cronfeydd

Mae ein rhaglenni Grantiau Bach a Phrif Grantiau yn addas i gyrff dielw sy’n gwneud cais am grantiau sy’n para hyd at dair blynedd. Darllenwch yr wybodaeth isod i weld a ddylai’ch prosiect chi wneud cais.

Cyn i chi wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod:

Mae ein grantiau i gyd yn addas i gyrff:

Mae ein Prif grantiau yn addas i gyrff:

  • Sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol, fel Comisiwn Elusennau eich gwlad chi, neu Dŷ’r Cwmnïau

A ddylwn i wneud cais?

Dim ond cyrff sy’n gallu dweud wrthym pam mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni eu gwaith y byddwn ni’n eu cyllido. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i ymgeiswyr allu rhoi gwybodaeth i ni am y canlynol:

  • Eu cysylltiadau sefydledig â phobl ifanc
  • Y sgiliau a’r arbenigedd sydd ganddynt ar gyfer y gwaith maent yn gofyn am gyllid ar ei gyfer
  • Eu hanes o gyflawni’r gwaith maen nhw’n gofyn am gyllid ar ei gyfer. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ymgeiswyr ar gyfer ein Rhaglen Prif Grantiau
  • Sut maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â chyrff eraill yn eu cymuned leol

Os na allwch chi roi gwybodaeth i ni am yr holl bethau hyn, nid ydym yn argymell gwneud cais am gyllid. Mae’n debygol iawn y bydd eich cais yn aflwyddiannus.

Rhaid i chi hefyd gyrraedd ein Safonau Sylfaenol ar gyfer Dyfarnu Grantiau. Darllenwch y safonau hyn cyn gwneud cais. Mae peidio â bodloni’r safonau sylfaenol yn rheswm cyffredin iawn dros gael eich gwrthod.

Beth os oes gen i grant yn barod?

Rydym yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr newydd, a gan gyrff sydd â grant BBC Plant mewn Angen yn barod. Ni allwch ddal mwy nag un grant gweithredol o’r un rhaglen grantiau ar unrhyw un adeg. Er enghraifft, os oes gennych Brif Grant, ni fyddech yn gallu gwneud cais am Brif Grant arall oni bai ei fod yn dechrau ar ôl i’ch grant presennol ddod i ben. Gallwch wneud cais am gyllid pellach ym mlwyddyn olaf y grant hwnnw.

Os ydych wedi cael eich gwrthod yn ddiweddar am grant, gwiriwch eich llythyr penderfyniad i weld a ydych wedi cael dyddiad “ddim yn gallu ailymgeisio tan.

Rydym am gyllido cyrff sydd yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc difreintiedig. Fel bob amser, mae galw mawr am ein cyllid, ac rydym eisiau sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Rydym yn gadael i gyrff gael mwy nag un grant gennym ni, ond nid ydym bob amser yn gallu cynnig mwy nag un grant i’r un corff. Os oes gennych chi grant ar hyn o bryd, neu os ydych chi wedi cael cyllid yn ddiweddar, bydd hyn yn cael ei ystyried wrth i ni wneud ein penderfyniadau ynghylch cyllido.

Rydych yn gymwys i wneud cais os oes gennych Grant Camau Nesaf neu Dyfodol Ysbrydoledig, ond mae rhaid i’ch cais newydd fod ar gyfer gwaith gwahanol.

Rydym yn rhoi grantiau ar gyfer:

Plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sy’n wynebu anfantais yn sgil:

  1. Salwch, trallod, cam-drin neu esgeulustod.
  2. Unrhyw fath o anabledd.
  3. Anawsterau ymddygiad neu seicolegol.
  4. Byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd.

Mae’r gwaith rydym yn ei gyllido yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant, sy’n helpu i atal neu oresgyn effeithiau’r anfanteision maen nhw’n eu hwynebu. Mae cyrff sy’n cael cyllid yn gwneud gwahaniaeth naill ai drwy weithio’n uniongyrchol gyda phlant, neu’n ceisio gwella eu hamgylcheddau cymdeithasol a ffisegol.

Nid ydym yn rhoi grantiau:

  • Ar gyfer gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w cyllido. I sefydliadau addysgol, gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad. Darllenwch ein Canllawiau A-Y.
  • I lywodraeth leol, carchardai na chyrff y GIG.
  • Ar gyfer prosiectau cyfalaf na phrosiectau adeiladu.
  • Ar gyfer prosiectau sy’n hybu crefydd.
  • I gyllido tripiau neu brosiectau dramor.
  • Ar gyfer ymchwil na thriniaeth feddygol.
  • Ar gyfer profion neu gyngor ar feichiogrwydd, gwybodaeth neu gwnsela ynghylch dewisiadau beichiogrwydd.
  • Ar gyfer gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl.
  • Ar gyfer bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gyfatebol.
  • Ar gyfer gwyliau nad ydyn nhw’n ymwneud fawr ddim, os o gwbl, â’r prosiect.
  • Ar gyfer gweithgarwch gwleidyddol, nac i sefydliadau pleidiau gwleidyddol nac ar gyfer lobïo uniongyrchol.
  • I unigolion.
  • I gael ei drosglwyddo i gyrff eraill.
  • Ar gyfer apeliadau cyffredinol na chronfeydd gwaddol.
  • I helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion.
  • I brosiectau lle mae disgwyl i wariant y grant ddechrau cyn dyddiad dyfarnu’r grant (cyllid ôl-weithredol).
  • I brosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant.
  • Ar gyfer gwariant amhenodol.

Am beth allwn ni wneud cais?

Oherwydd pandemig COVID-19, rydym wedi ymestyn dros dro y mathau o geisiadau y byddwn ni’n eu derbyn. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyllid y gellir ei ddefnyddio’n fwy hyblyg nag arfer. Rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y canlynol:

  • Cyflawni’r prosiect (gan gynnwys costau staffio a chyflog)
  • Atebion creadigol i ddarparu gwasanaethau y mae mawr eu hangen
  • Costau sefydliadol i gefnogi sefydlogrwydd a gwaith addasu. (Gan gynnwys costau rhedeg y corff o ddydd i ddydd yn hytrach na chostau sy’n benodol i brosiect)

Bydd yn rhaid i bob cais ddangos sut bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng hwn.

Nid yw eich cais wedi’i gyfyngu i un prosiect penodol, a gellir gwneud cais ar gyfer costau rhedeg y corff. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau gwirfoddol gyda’r mathau hyn o grantiau.

Am beth allwn ni ddim gwneud cais?

Mae’r gronfa hon wedi’i dylunio i fod mor hyblyg â phosibl, ond nid oes modd i ni ystyried ceisiadau ar gyfer y canlynol:

  • Costau cyfalaf/adeiladu
  • Offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau ac ati)
  • Cerbydau
  • Costau statudol neu waith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w cyllido
  • Offer ansefydlog sydd â gwerth dros £20,000 (e.e. cyfarpar chwarae/synhwyraidd)
  • Gwaith sy’n cael ei wneud y tu allan i’r DU
  • Gwaith gyda phobl ifanc dros 18 oed
  • Cyllid ôl-weithredol, lle mae disgwyl i wariant y grant ddechrau cyn dyddiad dyfarnu’r grant
  • Costau rydych wedi cael cyllid ar eu cyfer yn barod (dyblygiad)
  • Cyfraniadau i’ch cronfeydd wrth gefn
  • Costau diswyddo neu adleoli staff
  • Ad-dalu benthyciadau neu ddyledion
  • Buddsoddiadau
  • Rhwymedigaethau pensiwn a/neu gyfraniadau i nifer fawr o bensiynau staff
  • Astudiaethau dichonoldeb neu waith cwmpasu
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd (Fodd bynnag, gallwn barhau i gyllido cyrff crefyddol)
  • Tripiau neu brosiectau dramor
  • Ymchwil neu driniaeth feddygol
  • Profion neu gyngor ynghylch beichiogrwydd, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gyfatebol
  • Gweithgarwch gwleidyddol, neu sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu ar gyfer lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • I’r grant gael ei drosglwyddo i gyrff eraill
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • Grantiau Bychain yn Unig – Gwaith sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol ag effeithiau camfanteisio’n rhywiol ar blant, neu sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mater hwn (Gallwn gefnogi’r gwaith hwn drwy ein Rhaglen Prif Grantiau)

Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni wneud cais?

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi cyrraedd. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Bydd ein Timau Dyfarnu Grantiau wedyn yn defnyddio proses safonol i benderfynu pa geisiadau fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf, gan ystyried y canlynol ymysg pethau eraill:

  • nifer y ceisiadau;
  • y gyllideb sydd ar gael;
  • portffolio cytbwys ar lefel leol;

Byddwn wedyn yn gwirio ceisiadau yn erbyn ein meini prawf cymhwysedd a’r safonau sylfaenol ar gyfer dyfarnu grantiau, cyn symud ymlaen i’r cam asesu.

Os cewch eich gwahodd i’r cam asesu, bydd asesydd yn cysylltu â chi i drefnu galwad ffôn. Bydd yr asesydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cais a mesurau diogelu’ch corff yn fwy manwl.

Bydd eich cais wedyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Dyfarnu Grantiau yn eich rhanbarth neu eich gwlad, a fydd yn rhoi gwybod i’n Pwyllgor Effaith a’n Hymddiriedolwyr a yw grant yn cael ei argymell ai peidio.

Ar ôl gwneud y penderfyniadau terfynol, byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad drwy e-bost. Bydd y neges e-bost i gadarnhau ein bod ni wedi cael eich cais ar gyfer y prosiect yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pryd y gallwch ddisgwyl clywed am benderfyniad.

Beth os oes gen i unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected], ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu. Rydym ni eisiau i’r broses weithio’n dda iawn i chi. Gan ei bod yn newydd, byddwn yn dysgu ac yn gwella wrth fynd ymlaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau.

Grantiau Bychain 2021 – Hyd at £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd (AR GAU)

Rydym ar gau ar gyfer ceisiadau newydd – Gwiriwch yn ôl yn y dyfodol am ddiweddariadau

Gwybodaeth allweddol:

  • Gall y grantiau bara am hyd at 3 blynedd.
  • Gall cyrff wneud cais am hyd at (ac yn cynnwys) £10,000 y flwyddyn
  • Ni allwn gyllido gwaith, drwy ein Rhaglen Grantiau Bach, sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi dioddef Camfanteisio Rhywiol. Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am y math hwn o waith, edrychwch ar ein Prif Grantiau.
  • Dim ond ar gyfer Prif Grantiau neu Grantiau Bach y gall sefydliadau wneud cais yn y rownd yma, nid y ddau.

Faint allwn ni wneud cais amdano?

Bydd cyrff cymwys yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 y flwyddyn. Ni fydd cyrff yn gallu gwneud cais am fwy na £30,000 i gyd gyda’i gilydd. Os ydych chi eisiau gwneud cais am fwy na hyn, edrychwch ar ein Rhaglen Prif Grantiau.

Sut mae gwneud cais?

Rhaid cyflwyno pob cais drwy ein Porth Ar-lein. Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn gallu cwblhau a chyflwyno’ch cais ar gyfer y rhaglen Grantiau Bach.

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn darllen ein Canllawiau ar y Ffurflen Gais ar gyfer Grantiau Bychain.

Rydym yn disgwyl y bydd y galw am y gronfa hon yn fwy na’r arian sydd ar gael, a dim ond cyfran o’r ceisiadau fydd yn llwyddiannus. Rydym ni’n gwybod hefyd bod angen yr arian arnoch yn gyflym.

Pryd byddwn yn cael clywed gennych? 

Rydym yn disgwyl gwneud pob penderfyniad ynghylch y Grantiau Bach erbyn canol mis Chwefor. 

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost i roi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf, ac am delerau ac amodau eich grant. Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant:

  • Newidiadau y bydd angen eu gwneud neu bethau y bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian i chi.

·         Rydym yn disgwyl i bob corff ddechrau gwario’r grant erbyn mis Ionawr 2023.

Prif Grantiau 2021 – Dros £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd (AR GAU)

Rydym ar gau ar gyfer ceisiadau newydd – Gwiriwch yn ôl yn y dyfodol am ddiweddariadau

Gwybodaeth allweddol:

  • Y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyfredol yw 11.30am, Awst 23ain, 2021
  • Gall y grantiau bara am hyd at 3 blynedd
  • Gall cyrff wneud cais am £10,001 neu fwy, y flwyddyn
  • Ni allwch wneud cais am fwy na £40,000 y flwyddyn
  • Rydym yn annhebygol iawn o ddyfarnu dros £100k i gyd
  • Dim ond ar gyfer Prif Grantiau neu Grantiau Bach y gall sefydliadau wneud cais yn y rownd yma, nid y ddau.

Faint allwn ni wneud cais amdano?

Mae’n bosibl gwneud cais am £10,001 neu fwy, y flwyddyn. Ni allwch wneud cais am fwy na £40,000 y flwyddyn. Rydym yn disgwyl mai tua 30k y flwyddyn fydd maint grantiau cyfartalog. Os ydych chi’n gwneud cais am dair blynedd o gyllid, nid ydym yn debygol o ddyfarnu mwy na £100,000 i gyd gyda’i gilydd. Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau yn llai na hyn, ac yn gymesur â maint a chapasiti’r corff. Dylech sicrhau nad ydych yn gwneud cais am fwy nag yr ydych ei angen i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Os ydych chi eisiau gwneud cais am lai na hyn, edrychwch ar ein Rhaglen Grantiau Bach.

Sut mae gwneud cais?

Rhaid cyflwyno pob cais drwy ein porth ar-lein. Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn gallu cwblhau a chyflwyno’ch cais ar gyfer y rhaglen Prif Grantiau.

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn darllen ein Canllawiau ar y Ffurflen Gais ar gyfer y Prif Grantiau.

Rydym yn disgwyl y bydd y galw am y gronfa hon yn fwy na’r arian sydd ar gael, a dim ond cyfran o’r ceisiadau fydd yn llwyddiannus. Rydym ni’n gwybod hefyd bod angen yr arian arnoch yn gyflym.

Pryd byddwn yn cael clywed gennych?

Rydym yn disgwyl gwneud pob penderfyniad ynghylch y Prif Grantiau erbyn mis Ionawr 2022.

Ond, mae’n anodd i ni wybod yn union faint o geisiadau ddaw i law. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr os byddwn angen mwy o amser.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost i roi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf, ac am delerau ac amodau eich grant. Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant:

  • Newidiadau y bydd angen eu gwneud neu bethau y bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian i chi.
  • Rydym yn disgwyl i bob corff ddechrau gwario’r grant erbyn mis Ionawr 2023.

Hanfodion Brys +

Rydym yn ehangu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd drwy’r rhaglen Hanfodion Brys. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi plant a phobl ifanc unigol sy’n byw mewn tlodi difrifol, heb y cyfleusterau sylfaenol y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, ac â phwysau ychwanegol megis trais domestig, anabledd neu afiechyd yn y teulu.

Pwy all ymgeisio?

Mae’r gronfa hon yn agored i unrhyw deuluoedd â phlant sy’n wynebu anawsterau ariannol a chymdeithasol, ac anawsterau iechyd.

Am beth y gallwn ni wneud cais?

Mae’r rhaglen yn darparu eitemau sy’n diwallu anghenion mwyaf sylfaenol plant, megis gwely i gysgu ynddo, popty i roi pryd poeth o fwyd iddynt, dillad (mewn argyfwng) ac eitemau a gwasanaethau eraill sy’n hanfodol i les plant.

Oherwydd y sefyllfa â COVID-19, rydym wedi ehangu ein meini prawf cyllido ar gyfer y cynllun grant hwn i gynnwys amrediad ehangach o hanfodion sylfaenol.

Sut mae gwneud cais?

Ar hyn o bryd mae Hanfodion Brys yn cael ei ddarparu gan Family Fund. Er bod y grantiau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd, rhaid i geisiadau gael eu gwneud drwy asiantaeth atgyfeirio. Ni all unigolion ymgeisio’n uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen y rhaglen Hanfodion Brys ar y we.

Pryd fyddwn ni’n clywed rhywbeth gennych?

Mae Hanfodion Brys yn gronfa ymateb cyflym. Ein nod yw gwneud penderfyniad ynglŷn â phob cais cyn pen tair wythnos.

English

To read this page in English, please click here.

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb allu gwneud cais am ein cyllid.  Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosibl, pryd bynnag y byddwn yn gallu gwneud hynny. Os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015 neu drwy anfon neges e-bost i [email protected]. Gallai’r help hwn gynnwys trefnu cyfieithydd neu ofyn am ganllawiau mewn fformatau eraill

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1