
Gwnewch gais am gyllid
Yn BBC Plant mewn Angen, rydyn ni’n credu y dylai pob plentyn gael cyfle i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod. Fodd bynnag, mae nifer o blant yn wynebu heriau sy’n effeithio ar ansawdd eu bywyd a’u llesiant. Gall heriau gynnwys tyfu i fyny mewn tlodi, materion iechyd meddwl, bod yn sâl neu’n anabl, heriau teuluol, ac anghyfiawnder cymdeithasol.
Ein nod yw creu newid cadarnhaol a pharhaol ledled y DU i’r plant sydd ein hangen fwyaf. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn perthnasoedd cadarnhaol sy’n cryfhau llesiant plant ac yn eu helpu i ddygymod â’r heriau yn eu bywydau. Mae perthnasoedd cadarnhaol yn hanfodol i blant wrth iddyn nhw dyfu, datblygu ymdeimlad o bwy ydyn nhw a wynebu heriau yn eu bywydau. Mae’r perthnasoedd hyn yn meithrin ymdeimlad o berthyn ac yn eu helpu i ddysgu sgiliau bywyd pwysig, llunio strategaethau ymdopi, a chael gafael ar adnoddau a chyfleoedd gwerthfawr.
Rydyn ni’n cynnig cyllid prosiect a chraidd, ac nid oes dyddiadau cau, felly gallwch wneud cais unrhyw bryd. Mae’r grantiau sydd ar gael yn amrywio o £1,000 i £40,000 y flwyddyn a gellir eu dyfarnu am hyd at dair blynedd.
Hefyd, mae ein rhaglen hanfodion brys yn cefnogi plant unigol sy’n byw mewn tlodi.
Sut i wneud cais

Rhagor o wybodaeth am beth rydyn ni’n ei ariannu
Dysgu am y math o waith rydyn ni’n ei ariannu a’r gwahanol flaenoriaethau cyllido sydd gennym ledled y DU

Gweld a ydych chi’n gymwys i wneud cais
Mae BBC Plant mewn Angen yn mynnu bod pob sefydliad yn bodloni ein safonau sylfaenol ar gyfer dyfarnu grantiau. Mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb llawn dros gyllid, trefniadau llywodraethu a diogelu wrth gyflawni’r gwaith. Rydyn ni hefyd yn darparu gwybodaeth o A i Z o’n polisïau a’n canllawiau cymhwysedd, a Chwestiynau Cyffredin am ddyfarnu grantiau. Edrychwch ar ein tudalennau isod:

Cyn i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, rhaid i chi siarad â’ch tîm grantiau lleol. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canlynol:
– Ein meini prawf cymhwysedd
– A yw eich gwaith yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau cyllido lleol
– Y mathau o raglenni cyllido sydd ar gael ar hyn o bryd
Os ydych chi wedi cael cyllid gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen, neu os ydych chi’n ddeiliad grant ar hyn o bryd sy’n bwriadu gwneud cais eto, bydd angen i chi fynd i sesiwn neu siarad â’ch tîm grantiau lleol cyn cyflwyno cais newydd.

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
Byddwch yn gallu cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb ar ein porth grantïaid newydd erbyn diwedd Hydref 2025