Sut rydym yn nodi ein meysydd diddordeb daearyddol a thematig lleol?
Mae sawl ffordd rydym yn nodi ein meysydd diddordeb daearyddol a thematig:

Rydym yn edrych ar ble mae'r prosiectau rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd yn cyflawni

Rydym yn edrych ar y rhwystrau y mae plant a phobl ifanc yn eu profi.

Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc.

Rydym yn gwrando ar brosiectau sy'n dweud wrthym am anghenion presennol a rhai sy'n datblygu yn y sector, ers dyfodiad y pandemig.

Rydym yn edrych ar y dirwedd ariannu ehangach, polisi ac ymchwil y llywodraeth ar lefel leol.

Rydym yn ystyried y themâu Covid-19 allweddol ledled y DU y mae ein tîm ymchwil wedi'u nodi.
Rydym yn cydnabod bod darlun cymhleth o amrywiad rhanbarthol ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys amrywiadau ar lefel wardiau, ac mae anghenion o fewn ardaloedd sydd fel arall yn cael eu gwasanaethu’n dda.