
Beth yw ein meysydd o ddiddordeb daearyddol a thematig ar lefel leol?
Mae BBC Plant mewn Angen yn gweithredu ledled y DU, gyda thimau grantiau wedi’u lleoli’n lleol ac wedi’u llywio gan drafodaeth, mewnwelediad, ac ymchwil sector sy’n berthnasol i’r ardal leol.
Rydym yn falch o fod yn ariannwr eang ac rydym am sicrhau ein bod yn cefnogi prosiectau sy’n cyrraedd plant a phobl ifanc difreintiedig nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n gryf drwy ein cyllid. Mae meysydd diddordeb daearyddol a thematig yn ein helpu i gyflawni portffolio cynhwysfawr a chynhwysol o grantiau sy’n cynrychioli amrywiaeth cymunedau ac anghenion ledled y DU.
Yn syml: NID ydym am i’r meysydd o ddiddordeb daearyddol a thematig fod yn rhwystr i sefydliadau sy’n gwneud cais i BBC Plant mewn Angen. Mae Meysydd o Ddiddordeb yn rhan o gynlluniau gweithredu lleol sydd yn llywio ein trafodaethau gyda’r sector ac yn ein helpu i nodi materion a rhwystrau ar lefel leol. Yn bwysig iawn rydym am gyrraedd plant a phobl ifanc nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n gyfartal yn ein portffolio.
Rydym yn cydnabod bod y dirwedd ariannu yn newid ac mae’r pandemig wedi arwain at amgylchedd sy’n symud yn gyflym i’r sector. Rydym yn monitro ac yn profi ein meysydd o diddordeb yn barhaus a byddwn yn addasu mewn ymateb i’r amgylchedd sy’n newid gan sicrhau ei fod wedi’i lywio gan ein trafodaethau a’n dadansoddiad sector.
Meysydd o ddiddordeb daearyddol
yw meysydd y nodwyd bod ganddynt lefelau uchel o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, wedi’u mapio yn erbyn buddsoddiad BBC Plant mewn Angen yn yr ardal honno.
Caiff meysydd diddordeb thematig
eu llywio gan ein gwaith ymchwil, buddsoddiad cyfredol, a gwybodaeth am y seilwaith ar lefel leol.
Cyllid yn Lloegr
Llundain
Llundain
Dioddordeb Daearyddol: Bwrdeistrefi Barking a Dagenham, Bexley, Croydon, Ealing, Enfield, Greenwich, Harrow, Havering, Hillington, Hounslow, Merton, Newham, a Redbridge.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig, digartrefedd, a phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal.
Gweld yr holl ardaloedd lleol yn ein rhanbarth yn Llundain yma.
De Orllewin
De Orllewin
Diddordebau Daearyddol: Torridge, Canolbarth Dyfnaint, Teignbridge, Torbay, Dwyrain Dyfnaint a Gorllewin Dyfnaint, Sedgemoor, De Gwlad yr Haf, Ardal Awdurdod Unedol Wiltshire, Bournemouth, Christchurch a Poole (BCP), ac ardaloedd Purbeck a Dwyrain Dorset o fewn Cyngor Dorset.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd. Prosiectau sy’n cynrychioli amrywiaeth y bobl ifanc sy’n byw yn y rhanbarth, gan gynnwys sefydliadau sydd â phrofiad o gefnogi cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig.
Gweld yr holl ardaloedd lleol yn ein rhanbarth y De Orllewin yma.
De Ddwyrain
De Ddwyrain
Dioddordebau Daearyddol: Basildon, Colchester, Medway, Milton Keynes, Portsmouth, Slough, Southampton, Southend-on-Sea, Swale, Tendro, Thanet, a Thurrock.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cynrychioli amrywiaeth y bobl ifanc sy’n byw yn y rhanbarth.
Gweld yr holl ardaloedd lleol yn ein rhanbarth y De Ddwyrain yma.
Canolbarth
Canolbarth
Diddordebau Daearyddol: Bolsover, Dwyrain Birmingham, Dwyrain Lindsey (ar draws arfordir y dwyrain), Luton, Swydd Northampton, Peterborough, Stoke on Trent, Telford, Gogledd Norfolk, Walsall, a Wolverhampton.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cynrychioli amrywiaeth y bobl ifanc sy’n byw yn y rha barth, gan gynnwys sefydliadau sydd â phrofiad o gefnogi cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig a phlant a phobl ifanc sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Prosiectau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc y mae niwed personol yn effeithio arnynt. Prosiectau sy’n cefnogi gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar.
Gweld yr holl ardaloedd lleol yn ein rhanbarth y Canolbarth yma.
Gogledd Lloegr
Gogledd Lloegr
Diddordebau Daearyddol: Oldham, Middlesbrough, Gateshead, Rotherham, Hull, Canol Doncaster, Blackpool, Pendle, Burnley, Gogledd Sheffield, Preston, Knowsley, Bradford, St Helens, Gogledd a Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln ac Ynys Manaw.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan amddifadedd, arwahanrwydd, a materion iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac arfordirol. Prosiectau sy’n cynrychioli amrywiaeth y bobl ifanc sy’n byw yn y rhanbarth. Prosiectau sy’n cefnogi dyheadau a dilyniant plant a phobl ifanc i’r gwaith mewn ardaloedd lle ceir diweithdra uchel. Prosiectau sy’n mynd i’r afael â chamfanteisio troseddol, diwylliant gangiau, trais ieuenctid, a chamfanteisio rhywiol.
Gweld yr holl ardaloedd lleol yn ein rhanbarth y Gogledd yma.
Cyllid yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Chymru:
Yr Alban
Yr Alban
Diddordebau Daearyddol: Ffocws ar y sefydliadau go au mewn cymunedau.
Diddordebau Thematig: Mynd i’r afael ag un neu fwy o’r themâu, a nodwyd gan ein Mewnwelediad, sy’n dangos sut mae Covid-19 yn effeithio ar blant a phobl ifanc
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon
Diddordebau daearyddol: Plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan amddifadedd o fewn Strabane, Coleraine, Newry a Mourne, Dungannon, North Down, Ballymena, Moyle, Magherafelt, Armagh, Fermanagh, Omagh, Carrickfergus, a Lisburn.
Diddordebau Thematig: Prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig ac iechyd meddwl a lles pobl ifanc anabl. Prosiectau sy’n mynd i’r afael â thlodi ac arwahanrwydd gwledig gan gynnwys tlodi digidol. Prosiectau sy’n cynrychioli amrywiaeth pobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon.
Cymru
Cymru
Ardaloedd daearyddol: Caerffili, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Ynys Môn
Meysydd thematig: Plant Carcharorion, Troseddwyr Ifanc
Thematig mewn meysydd penodol: Yng Nghymru, rydym yn deall bod plant a phobl ifanc yn wynebu heriau ychwanegol o ganlyniad i broblemau’n ymwneud â mynediad a theimlo’n ynysig. Gall yr heriau gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, teimlo’n ynysig yn ffisegol o wasanaethau, a mynediad rhwydd at fwyd iach a fforddiadwy. Mae gennym ddiddordeb mewn ariannu gwaith sy’n mynd i’r afael â’r anghenion hyn yn uniongyrchol. Dyma rai enghreifftiau:
- Gwaith ieuenctid datgysylltiedig mewn cymuned ynysig, gan sefydliad sydd wedi’i hen sefydlu gerllaw
- Gwasanaethau teithio sy’n cludo plant a phobl ifanc i wasanaethau
- Prosiectau digidol sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc gysylltu â gwasanaethau
Mae BBC Plant mewn Angen yn cynnal digwyddiadau cynnull rheolaidd a sesiynau gwybodaeth am gyllid ar-lein ar lefel leol. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’ch tîm lleol neu ewch i wefan BBC Plant mewn Angen.
English
To read this page in English, please click here.