Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

A group of children smiling, wearing pudsey ears and throwing balls

Camau Nesaf Pudsey

Bydd rhaglen gyllido Camau Nesaf Pudsey yn helpu i sicrhau mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein proses dyfarnu grantiau.

Bydd y rownd gyntaf yn agor yn hydref 2024. Mae’n canolbwyntio ar ymgeiswyr newydd sy’n gweithio mewn ardaloedd daearyddol ledled y DU sydd wedi’u tanwasanaethu.

Nod y rownd hon yw cyrraedd plant a phobl ifanc sydd wedi’u tanwasanaethu a’u hymyleiddio. Gall heriau yn cynnwys tlodi, gwahaniaethu ac allgáu effeithio arnynt. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal neu sy’n anabl. Gall gynnwys plant a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Ardaloedd lle nad yw ein cyllid yn cyrraedd plant a phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas. Rydym yn nodi’r meysydd hyn gan ddefnyddio data ac ymchwil mewnol ac allanol.

Pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol neu’n wynebu rhwystrau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’r rhwystrau hyn yn golygu eu bod yn llai abl i gymryd rhan mewn agweddau ar fywyd bob dydd neu i fanteisio ar wasanaethau neu gyfleoedd. Gall plant a phobl ifanc gael eu hymyleiddio oherwydd amrywiaeth o ffactorau. Gallai’r rhain gynnwys hunaniaeth rywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywedd, daearyddiaeth, ethnigrwydd, tlodi neu anabledd.

Mae BBC Plant mewn Angen yn ymrwymo i degwch a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Ein cyfrifoldeb ni yw arddel agwedd amrywiol, deg a chynhwysol ym mhopeth a wnawn. Mae plant a phobl ifanc yn wych am hyn ac mae angen i ninnau fod hefyd.

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw adborth am ein proses o ddyrannu grantiau. Rydym am fod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiynau. Os oes angen help arnoch chi i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected]

Wrth i ni fynd ymhellach ar y daith hon gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu i sicrhau ein bod yn dyrannu grantiau mewn ffordd deg, amrywiol a chynhwysol.

Rydym am i’n proses o wneud cais weithio’n dda i chi. Mae’n newydd i ninnau hefyd, felly byddwn yn dysgu ac yn gwella wrth fynd ymlaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella.

Mae rownd gyntaf Camau Nesaf Pudsey ar gyfer ymgeiswyr sy’n newydd i BBC Plant mewn Angen. Byddwn yn cefnogi sefydliadau sydd:

  • yn rhoi sylw i’r blaenoriaethau lleol penodol a nodwyd ar gyfer y rownd hon yn eu Gwlad neu eu Rhanbarth (gweler y tabl isod)
  • heb gael eu hariannu gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen
  • ag incwm blynyddol o £100,000 neu lai
  • wedi’u lleoli yn y gymuned y maent yn ei gwasanaethu
  • yn cyrraedd plant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n profi anghydraddoldeb o ran cyfle

Gall sefydliadau wneud cais am:

  • Grantiau o £1,000 – £15,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd
  • Cyllid Craidd (costau rhedeg sefydliadol) neu gyllid Prosiect

 

Os hoffech chi drafod gwneud cais i raglen Camau Nesaf Pudsey, cysylltwch â’ch tîm lleol.

 

Y dyddiad cau i Ddatganiadau o Ddiddordeb ar gyfer rownd gyllido gyntaf Camau Nesaf Pudsey yw 11:59pm ar Ddydd Mawrth y 15fed o Hydref 2024.

Blaenoriaethau Lleol ar gyfer rownd gyntaf Camau Nesaf Pudsey

 

Yr Alban  

Yn yr Alban, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.

 

Gogledd Iwerddon  

Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sydd naill ai:

 

Wedi’u lleoli yn Strabane a Sir Wledig Fermanagh sy’n targedu plant a phobl ifanc wedi’u hymyleiddio y mae tlodi yn effeithio arnynt

 

Neu 

 

Yn cyrraedd plant a phobl ifanc o hil lleiafrifiedig y mae tlodi yn effeithio arnynt, y tu allan i ardal Belfast.

 

Cymru  

Yng Nghymru, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau yng Nghaerffili, Sir Ddinbych, Sir Fynwy a Phowys sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y mae heriau a rhwystrau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu, stigma ac allgáu yn effeithio arnynt, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o ofal, unigolion anabl neu’r rhai sydd o hil lleiafrifiedig.

 

Gogledd Lloegr   

Yn Rhanbarth Gogledd Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Bradford, Kirklees a Calderdale sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y mae heriau a rhwystrau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu, stigma ac allgáu yn effeithio arnynt, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o ofal, unigolion anabl neu’r rhai sydd o hil lleiafrifiedig.

 

Canolbarth Lloegr   

Yn Rhanbarth Canolbarth Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan fudiadau sydd wedi’u lleoli yn y Black Country (Sandwell, Wolverhampton, Dudley a Walsall) sy’n targedu plant a phobl ifanc sy’n profi tlodi.

 

De-orllewin Lloegr   

Yn Ne-orllewin Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.

 

Llundain  

Yn Llundain, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau yn Barking a Dagenham, Bexley, Brent, Ealing, Enfield, Greenwich, Harrow, Havering, Hillingdon, Merton, Newham a Redbridge. Rhaid iddynt hefyd weithio gydag o leiaf un o’r canlynol:

 

    • Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
    • Plant a theuluoedd sy’n byw mewn llety ansefydlog, anaddas neu dros dro, yn enwedig ffoaduriaid a cheiswyr lloches
    • Plant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.

 

De-ddwyrain Lloegr   

Yn Ne-ddwyrain Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau yn Dover, Folkestone a Hythe, Gravesham, Hastings, Ynys Wyth, Milton Keynes, Southampton a Thanet sy’n targedu plant a phobl ifanc wedi’u hymyleiddio y mae tlodi yn effeithio arnynt.

 

Ni fydd pob sefydliad yn gymwys ar gyfer Camau Nesaf Pudsey. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r meini prawf cymhwysedd yn ofalus. Os nad ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn ystyried gwneud cais i’n rhaglenni grant Costau Prosiect neu Gostau Craidd.

Bydd Camau Nesaf Pudsey yn agor eto ddechrau 2025. Bydd gan y rownd nesaf ffocws a blaenoriaethau gwahanol, yn seiliedig ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu o’r rownd gyntaf hon.

Cymhwysedd

  • Sefydliadau nad ydynt wedi cael eu hariannu gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen
  • Sefydliadau ag incwm blynyddol o £100,000 neu lai
  • Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
  • Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
  • Dim ond un grant y cewch chi wneud cais amdano a’i ddal ar unrhyw adeg.
  • Os na fyddwn yn ariannu eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch wneud cais i ni nesaf.
  • Sefydliadau sy’n bodloni ein Safonau Sylfaenol ar gyfer Rhoi Grantiau
  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
  • Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
  • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc
  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
  • Mudiadau addysgol, gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Z i gael rhagor o fanylion
  • Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
  • Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd
  • Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • Triniaeth feddygol neu ymchwil
  • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi ei dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
  • Gweithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • Costau a drosglwyddir i gyrff eraill
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
  • Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
  • Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
  • Gwariant amhenodol
  • Unrhyw weithgaredd sydd eisoes yn cael ei ariannu drwy grant arall. Ni allwn ariannu’r un gweithgaredd ddwywaith. Dylai pob cais ddangos yn glir ei fod naill ai ar gyfer gwaith gwahanol, neu ar gyfer gwaith gyda charfan wahanol o blant a phobl ifanc.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Z ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.

Mae ein Canllawiau A i Z yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn ardaloedd a nodwyd gennym fel rhai sy’n cael eu tanwasanaethu. Dim ond ar gyfer gwaith yn yr ardaloedd hyn, sydd wedi’u rhestru yma, y gallwch wneud cais i ni.

Os nad ydych yn gweithio yn yr ardaloedd hyn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer ein rhaglenni Costau Prosiect neu Gostau Craidd.

  • Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd.
  • Gall cyrff wneud cais am rhwng £1,000 a £15,000 y flwyddyn.
  • Yr isafswm y gallwch wneud cais amdano yw £3,000 (£1,000 y flwyddyn).

Sut mae gwneud cais?

    1. Cynlluniwch eich prosiect yn fanwl. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein canllaw ar gynllunio eich prosiect cyn i chi wneud cais. Mae cynllunio gwael yn un o’r rhesymau cyffredin dros geisiadau aflwyddiannus.
    2. Darllenwch ein Canllawiau A i Z i helpu i sicrhau nad ydych ond yn gwneud cais am bethau y gallwn eu hariannu.
    3. Darllenwch ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau i wirio bod eich sefydliad yn gymwys. Os na chaiff y safonau hyn eu bodloni, ni fyddwn yn gallu cefnogi eich gwaith.
    4. Cyflwynwch eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb Camau Nesaf Pudsey i ni ei hystyried yn erbyn y blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol penodol ar gyfer eich ardal, gweler uchod. Ein nod yw rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad ynghylch eich Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb o fewn chwe wythnos i ni ei chael.
    5. Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb i’r cam nesaf, byddwn yn anfon dolen atoch at Ffurflen Gais lawn. Byddwch wedyn yn cael mynediad at y ffurflen hon drwy eich cyfrif ar-lein.

Rwyf wedi cyflwyno ffurflen gais, beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

  • Os na fydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad. Oherwydd y nifer fawr o sefydliadau sy’n cofrestru drwy’r broses hon, allwn ni ddim rhoi rhagor o adborth i chi ar hyn o bryd.
  • Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch at Ffurflen Gais ar-lein lawn
  • Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
  • Bydd gennych tan 11:59pm ddydd Dydd Llun 9 Rhagfyr 2024 i gyflwyno eich cais llawn.

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

  1. Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y costau y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid
  2. Efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu slot amser gyda ni ar gyfer galwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
  3. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich cais neu am eich gwaith
  4. Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu’ch gwlad, lle gwneir penderfyniadau ynghylch argymell cyllid
  5. Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi. Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad. Byddwn yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd yn y rownd gyntaf am ein penderfyniad ym mis Chwefror 2025.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth hefyd yn yr adran ‘Mae gennyf grant’.

  • Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud neu’n bethau y bydd angen i chi eu dweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian y cytunwyd arno i chi
  • Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad drwy e-bost

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd y gallwch wneud cais eto.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.

Gallwch wneud cais o’r dudalen hon o’r 16eg o Fedi 2024.

For the English page click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1