Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

10 Cam tuag at gais cryf

1. Nodwch yr angen yr hoffech fynd i’r afael ag ef

  • Pwy yw’r bobl ifanc y byddwch chi’n gweithio gyda nhw?
  • Sut maent dan anfantais?
  • Sut mae’r anfanteision hyn yn effeithio ar eu bywyd?

Bydd dealltwriaeth dda o’r bobl ifanc a’u hanghenion yn eich helpu i benderfynu pa wahaniaethau rydych chi eisiau eu cyflawni er eu mwyn.

Awgrymiadau ar gyfer nodi angen

Ni all pob cais am gyllid bob amser nodi’r grwpiau penodol o blant dan sylw. Er hynny, bydd cais cryf yn dangos dealltwriaeth glir o’r bobl ifanc mae’r gwaith yn ceisio eu cyrraedd.

Bydd hyn yn ei dro yn eich galluogi i wneud cynllun cadarn ar gyfer cynnwys y grwpiau targed hynny.

Mae’n bosibl eich bod chi wedi nodi meysydd angen allweddol yn barod drwy waith blaenorol. Gallwch hefyd ymchwilio i anghenion newydd yr hoffech fynd i’r afael â nhw drwy wneud pethau fel:

    • Cynnal ymgynghoriadau gweithredol gyda phlant a phobl ifanc, cymunedau lleol a sefydliadau partner.
    • Cynnal prosiect peilot i gasglu data a chanolbwyntio’n fwy penodol.
    • Defnyddio ac adeiladu ar ymchwil sydd eisoes yn bodoli gan eich sefydliad eich hun neu gan sefydliadau eraill.

2. Nodwch y gwahaniaethau (‘canlyniadau’) rydych chi eisiau eu cyflawni

  • Mae llawer o gyllidwyr yn sôn am ‘ganlyniadau’. Dyma ffordd arall o ddisgrifio’r newidiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i’ch gwaith.
  • Pa wahaniaethau cadarnhaol fyddwch chi’n eu gwneud i’r bobl ifanc dan sylw? Byddwch yn glir ynghylch sut bydd y gwahaniaethau hyn yn gwella eu bywydau a’u profiadau.
  • Dyma’r prif reswm pam rydych chi’n gwneud y gwaith, felly mae ymysg y rhannau o’ch cais sydd o’r diddordeb mwyaf i ni.

Awgrymiadau ar gyfer nodi gwahaniaethau

Cofiwch nad yw’r gwahaniaethau rydych chi’n eu gwneud yr un peth â’r gwaith rydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd:

    • Gall clwb ieuenctid gynnal digwyddiadau chwaraeon rheolaidd fel rhan o brosiect – dyma’r gwaith
    • Gallai canlyniadau i blant fod yn well iechyd corfforol, mwy o hunanhyder, neu ffrindiau newydd
    • Dylid cysylltu’r canlyniadau hyn â’r bobl ifanc a’u hanghenion bob amser

Bydd angen i chi ddweud wrthym am y tri phrif wahaniaeth y bydd eich gwaith yn eu gwneud o ran gwella bywydau plant. Os dyfernir grant gan BBC Plant mewn Angen, byddwn yn gofyn i chi adrodd yn ôl ar y canlyniadau hyn yn fanwl yn ddiweddarach.

3. Deall beth fydd eich gwaith a beth fydd yn ei wneud

Ar ôl i chi benderfynu ar y gwahaniaethau rydych chi eisiau eu gwneud, gallwch gynllunio pa waith y mae’n rhaid i chi ei wneud i’w cyflawni.

Mae ceisiadau cryf bob amser yn nodi beth maent eisiau ei wneud, cyn dangos i ni sut byddant yn gwneud hynny.

Awgrymiadau ar gyfer penderfynu beth fydd eich gwaith

Meddyliwch am yr holl fathau o weithgareddau, gwasanaethau neu gyfleusterau y gallech eu defnyddio yn eich gwaith.

      • Sut byddant yn helpu i wneud y gwahaniaethau rydych chi’n anelu atynt?
      • Fyddwch chi’n rhedeg caffi ieuenctid galw heibio, neu’n trefnu penwythnos gweithgareddau awyr agored? Fyddwch chi’n darparu cwnselydd hyfforddedig, neu’n adeiladu man diogel neu fan chwarae newydd?

Dylech allu cysylltu pob gweithgaredd neu wasanaeth yn ôl â’r gwahaniaethau rydych chi eisiau eu gwneud.

4. Gofynnwch gwestiynau anodd! Ai eich syniad chi yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r angen?

Mae angen i chi fod mor siŵr â phosibl mai eich gwaith arfaethedig yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r anghenion rydych chi wedi eu nodi.

  • Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod modd cyflawni’r gwahaniaethau rydych chi’n anelu atynt
  • Mae hefyd yn allweddol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i’r plant a’r bobl ifanc

Os nad ydych chi’n gwybod yn union beth arall sydd ar gael i bobl ifanc yn eich ardal chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymchwilio ac yn dod i wybod.

    • Drwy wneud hyn, byddwch yn gwybod bod eich gwaith yn llenwi bwlch nad yw’n cael sylw yn rhywle arall yn barod
    • Mae’r rhaglenni sy’n ategu’r gwasanaethau presennol yn gryfach na’r rhai sy’n eu dyblygu

5. Targedu eich gwaith yn union

Creu cynllun i sicrhau mai’r plant a’r bobl ifanc sydd angen eich gwaith fwyaf yw’r rhai a fydd yn elwa arno.

  • Meddyliwch sut byddwch chi’n hysbysebu neu’n hyrwyddo eich mudiad i’r grŵp targed. Ble gallwch chi bostio gwybodaeth fel bod yr wybodaeth yn eu cyrraedd?
  • A fyddwch chi’n defnyddio sianeli sy’n bodoli’n barod – er enghraifft, drwy rwydweithiau o fudiadau elusennol eraill?
  • A fyddwch chi’n defnyddio asiantaethau allanol, fel ysgolion neu ymwelwyr iechyd, i helpu i ledaenu’r gair?
  • A fyddwch chi’n defnyddio llwyfannau digidol? Os felly, ydych chi’n deall digon am sut gallai pobl eraill ryngweithio â nhw?

Awgrymiadau ar gyfer targedu eich gwaith

Gallai eich helpu i feddwl am y cwestiynau a ganlyn:

    • A fyddwch chi’n ceisio atgyfeiriadau uniongyrchol gan fudiadau gwirfoddol eraill? Gallai’r rhain fod yn bethau fel ysgolion, grwpiau cymunedol, neu glybiau ieuenctid yn eich ardal
    • A fydd y gwaith yn cael ei gynnal ar yr adeg orau a mwyaf addas ar gyfer y plant a’r bobl ifanc rydych chi eisiau eu cyrraedd?
    • Os bydd costau i bobl ifanc, a ydynt yn fforddiadwy i’r grŵp targed cyfan? Os nad ydynt, a oes gennych chi bolisi codi ffi ar gyfer plant neu deuluoedd nad ydynt yn gallu eu fforddio?
    • Ydych chi’n bwriadu defnyddio lleoliad sy’n hawdd i’ch grŵp targed ei gyrraedd? Ydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn gallu cael gafael ar eich gwasanaethau?

6. Cynnwys plant a phobl ifanc

Ydych chi wedi ymgynghori â’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n bwriadu iddynt elwa ar eich gwaith cyn i chi ddechrau arni? Mae ceisiadau cryf yn dangos tystiolaeth o gynnwys grwpiau targed yn gynnar yn y camau cynllunio.

  • Gofynnwch i’r bobl ifanc beth sydd ei angen arnynt, a pha fath o wasanaethau maent eisiau eu defnyddio
  • Pryd fyddent yn hoffi i’ch gwaith redeg fwyaf, a pha fath o gyfarpar fyddai’n cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi fwyaf ganddynt?

Cynlluniwch mewn ffordd sy’n cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o ddatblygu, rhedeg a rheoli prosiectau lle bynnag y bo modd.

Bydd hyn yn eich helpu i ddarparu gweithgareddau neu wasanaethau y mae arnynt eu heisiau mewn gwirionedd. O ganlyniad, byddant yn llawer mwy tebygol o deimlo ymdeimlad o berchnogaeth, ac mae hyn yn siŵr o gynyddu ei effaith.

Mae ein Strategaeth Dyrannu Grantiau 2022-2025 yn rhoi rhagor o fanylion am rannu pŵer â phobl ifanc. Gallwch hefyd ddarllen fersiwn o’r strategaeth fel y’i disgrifir gan y plant mae ein cyllid yn eu cynorthwyo.

7. Cynllunio ar gyfer y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch

Bydd cais cryf yn glir ynghylch yr union weithgareddau a gwasanaethau rydych chi eisiau eu darparu.

Y cam nesaf yw gwneud yn siŵr bod gan eich sefydliad y sgiliau a’r adnoddau allweddol ar waith i gyflawni fel y bwriadwyd.

Awgrymiadau ar gyfer cynllunio sgiliau ac adnoddau

Ystyriwch yr holl agweddau ar adnoddau’r gwaith rydych am i ni eu cefnogi, gan gynnwys meysydd fel:

    • Staffio (gwirfoddol neu gyflogedig)
    • Offer
    • Adeiladau a lleoliadau
    • Diogelu, asesu risg ac ymatebolrwydd
    • Costau cymorth, gan gynnwys ffioedd rheoli ac amser gweinyddu
    • Costau craidd (lle bo’n berthnasol), gan gynnwys cyfleustodau, yswiriant a chynnal a chadw

Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu defnyddio adnoddau sy’n bodoli’n barod, neu gael cymorth ‘ymarferol’ gan sefydliadau eraill yn eich ardal.

Meddyliwch hefyd am y staff y bydd eu hangen arnoch i reoli neu oruchwylio gweithgareddau, yn ogystal â’u darparu.

    • Yn achos sefydliadau bach, mae’n bosibl y bydd nifer o’r rolau hyn yn berthnasol i’r un unigolyn
    • Gofynnwch i chi eich hun a yw hynny’n debygol o fod yn gynaliadwy – a fydd yn gweithio er budd gorau’r bobl ifanc?

Os ydych chi wedi rhedeg gwasanaethau tebyg o’r blaen, mae’n bosibl fod gennych chi syniad da yn barod o’r hyn sydd ei angen. Os yw hwn yn wasanaeth neu’n weithgaredd newydd, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud mwy o ymchwil a defnyddio profiad pobl eraill yn gyntaf.

Cofiwch, mae BBC Plant mewn Angen eisiau cyllido gwaith mewn ffyrdd a fydd yn ei helpu i lwyddo:

    • Yr hyn sy’n allweddol i gais da yw cynllunio, ymchwilio a gofyn i ni am yr hyn y bydd ei angen arnoch mewn gwirionedd
    • Mae hyn yn gwneud cais cryfach na gofyn am y swm lleiaf posibl i’w wneud yn hyfyw

8. Meddyliwch am yr amseru

Ystyriwch faint o amser fydd ei angen arnoch i baratoi a rhedeg y gweithgaredd neu’r gwasanaeth rydych chi’n mynd i’w ddarparu. Wrth gynllunio, meddyliwch am bethau fel:

  • Pryd fyddwch chi’n lansio? Faint o amser rhagarweiniol y gallai fod ei angen arnoch i sefydlu pethau a bod yn barod?
  • Pa mor aml fydd eich gweithgareddau’n cael eu cynnal?
  • Ydych chi wedi holi’r plant a’r bobl ifanc i weld a yw eich dyddiadau/amseroedd yn addas?
  • Faint o amser fydd ei angen arnoch i reoli, datblygu a gweinyddu prosiectau’n barhaus?
  • Ydych chi wedi ystyried amser ar gyfer monitro a gwerthuso’r gwaith, yn ystod ac ar ei ôl?

9. Ymchwilio ac ysgrifennu cyllideb fanwl ar gyfer gwneud cais

Un o gamau olaf cynllunio yw cyfrifo eich cyllideb yn fanwl iawn.

Dim ond ar ôl i chi gynllunio ar gyfer yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch y dylech wneud hyn, ac am ba hyd y bydd eu hangen arnoch.

Bydd hyn yn eich galluogi i lunio cyllideb fanwl, benodol a chywir ar gyfer y gwaith rydych chi’n gofyn i ni ei gefnogi.

Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cyllideb eich cais

Byddwch mor fanwl a chywir ag y gallwch gyda’ch costau bob amser:

    • Osgowch amcangyfrifon, dyfalu, costio bras, a chanrannau hyblyg lle bynnag y bo modd
    • Ar gyfer offer a chyflenwadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu amrywiaeth mor eang â phosibl o brisiau cyflenwyr
    • Ceisiwch gynllunio o gwmpas cynnydd tebygol mewn cyfraddau, costau cynnal a chadw neu ddibrisiant dros amser

Ar gyfer gwariant cyflog, cofiwch gynnwys costau cysylltiedig fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae ein canllawiau ar y wefan yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wneud cais i ni am gostau staffio.

Cofiwch gynnwys eich trysorydd neu eich swyddog cyllid yn y gwaith cynllunio ariannol lle bo hynny’n berthnasol. Os oes angen sgwrs Rhagor o Wybodaeth ar eich cais, mae croeso i drysoryddion gymryd rhan.

Os nad ydych chi’n siŵr sut i gyflwyno eich cyllideb, mae croeso i chi ofyn cwestiynau a allai eich helpu.

10. Peidiwch ag anghofio monitro eich gwaith

Meddyliwch am yr arwyddion (‘dangosyddion’) a fydd yn dangos eich bod chi’n cyflawni’r canlyniadau rydych chi’n bwriadu eu cyflawni.

  • Pa newidiadau yn ymddygiad, agweddau, perthnasoedd neu amgylcheddau plant fydd yn allweddol?
  • Sut bydd y rhain yn cadarnhau eich bod chi’n cyflawni neu’n symud ymlaen tuag at y gwahaniaethau roeddech chi eisiau eu gweld?

Awgrymiadau ar gyfer monitro eich gwaith

Mae’n bwysig dechrau mesur y gwahaniaethau rydych chi’n eu gwneud cyn gynted ag y bydd y gwaith yn dechrau.

  • Dylech hefyd gynnwys amser yn rheolaidd i fyfyrio ar yr wybodaeth rydych chi’n ei chasglu
  • Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa mor bell ydych chi wedi mynd o ran eich cynlluniau, a pha newidiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud wrth i chi fynd yn eich blaen

Penderfynwch ar y dulliau neu’r offer gorau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth wrth i chi weithio.

  • Sut gallwch chi eu defnyddio i ddangos ble mae’r gwahaniaethau arfaethedig yn cael eu gwneud?
  • Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ddylunio set newydd o offer, dysgu dulliau newydd, neu wario ar system fesur soffistigedig
  • Yn aml, mae’n bosibl mai dim ond rhai cwestiynau penodol am eich nodau y bydd angen i chi eu hychwanegu at yr adnoddau rydych chi eisoes yn eu defnyddio
  • Gallai hyn gynnwys dulliau syml fel monitro staff, neu gyfweld â’r plant dan sylw

Mae monitro a myfyrio yn allweddol i gynyddu effaith eich gwaith wrth iddo ddatblygu.

Dechreuwch wneud cais am gyllid BBC Plant mewn Angen

 

Os ydych chi wedi ystyried a chynllunio eich gwaith yn fanwl, rydych chi nawr yn barod i ddechrau eich cais am gyllid gyda ni.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen rhagor o arweiniad arnoch.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1