
Yn Cyflwyno: Cymunedau Dros Blant
Tlodi Plant yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig heddiw. Mae’n fater cymdeithasol cymhleth sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau, ac mae’n effeithio ar fywydau pobl ifanc yn wahanol yn ôl yr unigolyn a’r lleoliad.
Mae BBC Plant mewn Angen yn ymwybodol o oblygiadau helaeth tlodi i iechyd, perthnasoedd, a’r cyfleoedd y mae plant a phobl ifanc yn eu cael yn y dyfodol, ac rydym ni’n gwybod bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r broblem hon.
Dyna pam rydym yn falch o fod yn rhan o Cymunedau dros Blant; rhaglen gyllido newydd gwerth £15 miliwn i fynd i’r afael â thlodi plant yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Ymddiriedolaeth City Bridge, Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Pears.
Bydd y rhaglen yn meithrin partneriaethau lleol cryf, yn cefnogi arweinyddiaeth gymunedol ac yn rhoi llwyfan i leisiau plant a phobl ifanc er mwyn lleihau effaith tlodi plant, ac, lle bo modd, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol y broblem.
Rhagor o Wybodaeth am Gymunedau Dros Blant
Ble fydd y rhaglen yn cael ei darparu?
Ble fydd y rhaglen yn cael ei darparu?
Dyma’r pedwar lleoliad a’r sefydliadau cyntaf a fydd yn derbyn £1.5 miliwn dros bum mlynedd:
- Wishaw, Gogledd Swydd Lanark (yr Alban) – Corra Foundation sy’n gweithio gyda phobl yn eu cymunedau i annog newid cadarnhaol, cyfleoedd, tegwch a thwf dyheadau, sy’n gwella ansawdd bywyd.
- Caergybi, Ynys Môn – Medrwn Môn sy’n cefnogi cymunedau a grwpiau gwirfoddol ledled Ynys Môn i fod yn annibynnol, yn wydn ac yn ddyfeisgar.
- Hackney (Llundain) – Coffee Afrik CIC sy’n creu mannau lle mae pobl ifanc yn cael eu cydnabod am eu cryfderau, eu dyheadau a’u harweinyddiaeth.
- Seacombe, Wallasey (Dinas-ranbarth Lerpwl) – Right to Succeed sy’n gweithio i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc gyfle i lwyddo, ni waeth ble maen nhw’n byw.
Mae Cymunedau dros Blant yn cael ei gyflwyno fesul cam, gan ddechrau gyda’r pedwar lleoliad cyntaf a restrir yma ac ehangu i ddeg ardal ledled y Deyrnas Unedig yn 2027. Bydd y lleoliadau hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig, trefol ac arfordirol â lefelau uchel o dlodi plant.
Sut mae’r rhaglen hon yn wahanol i raglenni cyllido sydd eisoes yn bodoli?
Sut mae’r rhaglen hon yn wahanol i raglenni cyllido sydd eisoes yn bodoli?
Mae Cymunedau Dros Blant yn rhaglen genedlaethol uchelgeisiol. Bydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar leoliad, gan dargedu deg o leoliadau yn y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn cynnwys elfennau fel adeiladu partneriaethau lleol cryf, ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol, a chryfhau lleisiau plant a phobl ifanc — yn enwedig y rheiny sydd yn aml heb eu clywed.
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Bydd y rhaglen Cymunedau Dros Blant yn cael ei siapio gan y bobl a’r cymunedau mae’n eu cefnogi. Y nod yw grymuso sefydliadau yn y sector gwirfoddol, arweinwyr cymunedol, a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dlodi i greu partneriaethau lleol.
Bydd y partneriaethau lleol hyn yn gweithio’n agos â gwasanaethau a chyrff cyhoeddus i greu a rhoi cynlluniau ymarferol ar waith a fydd yn lleihau effeithiau tlodi plant ar drigolion y lleoliadau hyn. Bydd y sefydliadau a fydd yn cael cyllid gan y rhaglen Cymunedau Dros Blant yn arwain y ffordd drwy gefnogi’r partneriaethau hyn a’u helpu i dyfu a llwyddo.
Faint fydd yr ardaloedd lleol yn ei gael, ac am ba mor hir?
Faint fydd yr ardaloedd lleol yn ei gael, ac am ba mor hir?
Bydd pob un o’r deg lleoliad yn cael £1.5 miliwn dros bum mlynedd: cyllid hirdymor i helpu cymunedau lleol i ddylunio a darparu eu hatebion eu hunain. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos gyda chymunedau i ymateb i’w heriau a’u cyfleoedd unigryw er mwyn sbarduno newid cynaliadwy i blant a phobl ifanc.
Yn wahanol i raglenni cyllido traddodiadol ni fydd Cymunedau Dros Blant ar agor i geisiadau cyffredinol. Yn lle hynny, byddwn yn cydweithio â chymunedau lleol i adnabod prif sefydliadau a phartneriaid. Mae’r rhaglen yn anelu at herio stigma, ysbrydoli newid, a rhannu dysgu yn ehangach dros y sector, gan greu amgylchedd lle gall plant a phobl ifanc ffynnu: heddiw ac yn y dyfodol.