Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Young boy laughing at an older male volunteer in a group session

A Ddylwn i Geisio? : Prif Grantiau

Rydyn ni’n diweddaru ein prosesau ar gyfer rhoi grantiau

Mae BBC Plant mewn Angen yn paratoi i lansio diweddariad i’n Rhaglen Prif Grantiau ac o ganlyniad byddwn yn addasu’r amserlen ar gyfer rhoi grantiau dros y flwyddyn nesaf i’n helpu i newid drosodd i’r dulliau newydd o weithio.

Dylech edrych ar y wefan yn rheolaidd i gael diweddariadau a newyddion am ddyddiadau cau grantiau yn y dyfodol. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch tîm lleol.

Byddwn yn cysylltu ag unrhyw brosiectau sy’n cael eu hariannu ar hyn y bryd y gallai’r newidiadau i’n calendr rhoi grantiau effeithio arnynt.

Mae ein rhaglen Prif Grantiau yn agored i elusennau a sefydliadau nid er elw sy’n gwneud cais am grantiau dros £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd. Cymerwch olwg ar yr wybodaeth isod i weld a ddylai eich prosiect wneud cais. Ond yn gyntaf – ydych chi wedi darllen sut, gyda’n gilydd, y gallwn wella bywydau plant yn y Deyrnas Unedig?

Os ydych chi’n chwilio am swm o hyd at £10,000 am flwyddyn, gweler ‘Grantiau Bach’.

Rydym yn rhoi grantiau ar gyfer…

Plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sy’n wynebu anfantais oherwydd:

  1. Salwch, trallod, camdriniaeth neu esgeulustod
  2. Unrhyw fath o anabledd
  3. Anawsterau ymddygiad neu seicolegol
  4. Byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd

Mae’r prosiectau rydym yn eu cyllido yn gwneud y gwahaniaethau ym mywydau plant sy’n helpu i atal neu oresgyn effeithiau’r anfanteision maen nhw’n eu hwynebu. Mae prosiectau’n cyflawni’r gwahaniaethau hyn naill ai drwy weithio’n uniongyrchol gyda phlant neu drwy geisio gwella eu sefyllfaoedd cymdeithasol a ffisegol.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

  • Sefydliadau nid er elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc difreintiedig 18 oed ac iau sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
  • Os ydych chi’n cael Prif Grant ar hyn o bryd, cyn belled â bod eich cyllid yn dod i ben o fewn y 12 mis nesaf, gallwch wneud cais am arian Prif Grant pellach er mwyn parhau â’r un prosiect, neu ddatblygu prosiect gwahanol. Bydd angen i chi allu darparu tystiolaeth argyhoeddiadol o’r gwahaniaethau y mae ein grant wedi eu gwneud i fywydau’r plant a’r bobl ifanc ddifreintiedig rydych chi wedi gweithio gyda nhw.
  • Os ydych chi’n cael Grant Bach ar hyn o bryd, gallwch hefyd wneud cais am Brif Grant cyn belled â’i fod ar gyfer gweithio gyda grŵp gwahanol o blant a phobl ifanc.

NID YDYM yn rhoi grantiau…

  • Ar gyfer gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w gyllido
  • I gyrff llywodraeth leol neu gyrff y GIG
  • Ar gyfer prosiectau adeiladu sy’n gwneud cais am ragor nag £20,000
  • Ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo crefydd
  • I gyllido tripiau neu brosiectau dramor
  • Ar gyfer ymchwil neu driniaeth feddygol
  • Ar gyfer profion beichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Ar gyfer gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle caiff ei dargedu at y plant neu’r bobl ifanc hynny sydd fwyaf mewn perygl.
  • Ar gyfer bwrsariaethau, lleoedd noddedig, ffioedd neu gyfwerth
  • I unigolion (oni bai bod sefydliad cymwys yn gwneud cais ar eu rhan neu drwy ein Rhaglen Hanfodion Brys).
  • I’w trosglwyddo i sefydliadau eraill – er enghraifft, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn gwneud cais ar ran ysgolion
  • Ar gyfer apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • I helpu gyda diffygion mewn cyllideb neu ad-dalu dyledion
  • I brosiectau lle mae disgwyl i wariant y grant ddechrau cyn y dyddiad dyfarnu grantiau (cyllid ôl-weithredol)
  • I sefydliadau sydd wedi gwneud cais yn ystod y 12 mis diwethaf
  • I brosiectau na allan nhw ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad y dyfarniad grant
  • Ar gyfer gwariant amhenodol
  • Ar gyfer gorbenion sefydliadol neu gostau rhedeg y byddai’r sefydliad yn eu hwynebu pa un ai a oedd y prosiect yn rhedeg ai peidio. (Er y byddwn yn ystyried cyllido costau cymorth a ddaw o ganlyniad uniongyrchol i redeg y prosiect.)

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n troi at ein Canllaw A i Z ar-lein i sicrhau nad ydych chi’n gwastraffu amser yn gwneud cais am bethau nad ydym yn eu cyllido ac yn gwirio eich bod chi’n bodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau. Cewch fanylion gwerthfawr am ein polisïau yma – mae rhai’n berthnasol i bob prosiect (er enghraifft, Diogelu Plant) ac mae rhai’n bwysig ar gyfer mathau penodol o brosiect (er enghraifft, prosiectau cwnsela neu brosiectau sy’n ceisio cyllid ar gyfer cyfarpar).

Faint y gellir gofyn amdano?

  • Mae ein Rhaglen Prif Grantiau yn dyfarnu grantiau dros £10,000 y flwyddyni gefnogi prosiectau am hyd at dair blynedd.
  • Nid oes uchafswm ar gyfer y Prif Grantiau, ond ychydig iawn o grantiau dros £120,000 (neu £40,000 y flwyddyn) rydyn ni’n eu dyfarnu, ac mae’r rhan fwyaf o grantiau yn llawer llai.
  • Bob blwyddyn rydyn ni’n cael cais am lawer mwy o arian na’r hyn y gallwn ni ei roi. Mae ceisiadau am symiau mwy bob amser yn fwy cystadleuol.
  • Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am swm llai, gall ein Rhaglen Grantiau Bach neu ein Rhaglen Hanfodion Brys fod yn fwy addas i chi.

Sut i wneud cais

  1. Cynlluniwch eich prosiect yn ofalus. Mae’n bosibl y bydd ein canllaw ar Gynllunio Eich Prosiect yn ddefnyddiol cyn i chi gwblhau eich cais. Mae cynllunio gwael yn rheswm cyffredin pam nad yw ceisiadau’n llwyddiannus.
  2. Darllenwch ein Canllaw A i Z i’ch helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n gwneud cais am bethau y gallwn ni eu cyllido.
  3. Darllenwch ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau i’ch helpu i asesu a yw sefydliadau’n gymwys. Cofiwch ddarllen y rhain. Os na fyddwch yn cwrdd â’r rhain, ni fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â’ch cais.
  4. Mae gennym broses ymgeisio dau gam a fydd yn ein galluogi i roi gwybod i chi yn gyflym a fyddem yn hoffi gweld cais llawn.
  5. Defnyddiwch ein system gwneud cais ar-lein i gwblhau Cais Cychwynnol a chyflwyno gwybodaeth ychwanegol.
  6. Ar ddechrau’r ffurflen gais, bydd gofyn i chi gwblhau cwis cymhwysedd. Atebwch y cwestiynau’n ofalus gan ei fod yn dweud wrthym a yw eich prosiect yn un y gallwn ei gyllido. Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr atebion hyn yn ystod ein proses asesu.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros gais aflwyddiannus yw oherwydd nad yw’r holl wybodaeth ychwanegol angenrheidiol wedi ei chynnwys. Os oes gennych chi gwestiynau am yr hyn y mae angen i chi ei gyflwyno, trowch at ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni.

Nid ydyn ni’n asesu ceisiadau:

  • nad ydyn nhw’n gymwys
  • sydd â gwybodaeth ar goll
  • sydd â chwestiynau heb eu hateb
  • nad ydyn nhw wedi bodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau

Pryd i wneud cais

Dylech gynllunio eich cais fel eich bod chi’n cael clywed am y penderfyniad mewn da bryd, cyn i chi ddechrau eich prosiect. Ni allwn gyllido gwaith sy’n digwydd na chostau a ddaw cyn i’r penderfyniad gael ei dderbyn.

Fel rheol, byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y Prif Grantiau o fewn tua 5 mis i ddyddiad cau’r ceisiadau. Bydd rhai ymgeiswyr yn clywed lawer yn gynharach os na fyddan nhw’n mynd i gael grant.

Wrth gynllunio eich cais, dylech ystyried y bydd yn rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i glywed y penderfyniad os byddwch chi’n llwyddiannus.

Os ydych chi’n cael Prif Grant ar hyn o bryd, ac eich bod chi’n dymuno gwneud cais am gyllid pellach ar gyfer yr un prosiect, neu brosiect gwahanol, ni ddylech chi wneud cais tan flwyddyn olaf eich grant.

Beth sy’n digwydd ar ôl i ni gyflwyno ein ffurflen Cais Cychwynnol am Brif Grant?

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Cais Cychwynnol am Brif Grant, cewch neges e-bost yn cadarnhau ei bod hi wedi ein cyrraedd ni. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Gwneir penderfyniad ynglŷn â’ch gwahodd chi i’r cam nesaf ai peidio yn eich rhanbarth neu eich cenedl leol ychydig wythnosau ar ôl y dyddiad cau. Cewch wybod beth yw’r penderfyniad drwy neges e-bost.

Os bydd eich Cais Cychwynnol yn cael gwahoddiad ar gyfer y cam nesaf, bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Gais Lawn ar gyfer Prif Grantiau. Er mwyn cael eich ystyried yn y rownd nesaf, bydd gennych chi dair wythnos i gwblhau ffurflen gais lawn ar-lein. Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y mis ar ôl i chi gyflwyno eich Cais Llawn ar gyfer asesiad dros y ffôn. Bydd angen i’ch canolwr fod ar gael hefyd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn darparu geirda.

Beth sy’n digwydd ar ôl i ni gyflwyno ein ffurflen gais lawn am Brif Grant?

Os gwahoddir chi i gyflwyno Ffurflen Gais lawn, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi dolen at y ffurflen ac yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen honno.

Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen, fe gewch chi neges e-bost yn cadarnhau ein bod ni wedi ei chael, a rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Byddwn yn cynnal gwiriad sylfaenol i weld a ydych chi wedi cyflwyno’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ac a yw eich sefydliad yn addas ar gyfer ein cyllid ac yn bodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.

Yna, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad gydag aseswr annibynnol – dros y ffôn fel arfer – i’n helpu ni i ddeall eich prosiect yn well.

Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan bwyllgor gwirfoddol yn eich rhanbarth neu eich cenedl, a fydd yn argymell i’n hymddiriedolwyr a ddylid rhoi grant i chi ai peidio.

Bydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gwneud y penderfyniadau terfynol, a byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad drwy neges e-bost. Cewch wybodaeth ynghylch pryd y gallwch ddisgwyl clywed am benderfyniad yn y neges e-bost a fydd yn cadarnhau ein bod ni wedi cael eich cais llawn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Mae’n bosibl y bydd rhai amodau ar eich grant: newidiadau y bydd angen eu gwneud neu bethau y bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym cyn y gallwn ni roi’r arian i chi.

Bydd yn rhaid i chi ddechrau gwario’r arian o fewn 12 mis i ddyddiad y neges e-bost sy’n rhoi gwybod i chi am y penderfyniad.
Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Mae gen i grant’.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhesymau byr i chi pam y gwrthodwyd eich cais, a bydd yn nodi pryd y gallwch chi wneud eich cais nesaf. Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech chi gael rhagor o adborth.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1