
Prif Grantiau
Dysgwch ragor am Prif Grantiau.
Cylchoedd Cyllido yn y Dyfodol
Diweddarwyd Ddiwethaf: 22/09/20
Drwy gydol y pandemig ac yn ystod y cyfyngiadau symud, rydyn ni wedi gweld y sector yn ymateb i’r her o barhau i ddarparu gwasanaethau i gefnogi rhai o’r plant a’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed ledled y DU. Rydyn ni wedi gweld beth sy’n bosibl mewn argyfwng ac rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y newidiadau a wnaed hyd yn hyn a meddwl am gymorth yn y tymor hwy. Rydyn ni ar hyn o bryd yn casglu adborth a sylwadau gwerthfawr gan ein rhaglenni Ymateb i COVID-19, anghenion y sector a phlant a phobl ifanc, i lywio’r gwaith hwn a’n gwaith cyllido yn y dyfodol.
Mae BBC Plant mewn Angen yn bwriadu agor dau gylch cyllido ychwanegol yn ystod y chwe mis nesaf. Bydd y cylch cyntaf yn agor cyn diwedd y flwyddyn, a bydd cylch arall yn dilyn yn y gwanwyn. Bydd y cylchoedd cyllido hyn ar agor i geisiadau am grantiau o £10,000 a llai yn ogystal â dyfarniadau mwy o dros £10,000.
Cofiwch daro golwg ar ein gwefan am ragor o fanylion yn y dyfodol.
Cysylltwch â Ni
Oes angen i chi gysylltu â ni? Dyma’r wybodaeth sydd eisiau arnoch.
Ffurflen Gais
Llenwch y ffurflen hon i wneud cais am Prif Grantiau.