Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

A child sat amongst colourful toys on the floor

Hanfodion Brys

Hanfodion Brys

 

Mae ein rhaglen Hanfodion Brys yn cefnogi plant a phobl ifanc unigol sydd yn byw mewn tlodi difrifol heb y cyfleusterau sylfaenol y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, a gyda phwysau ychwanegol megis trais yn y cartref, anabledd neu afiechyd yn y teulu.

Mae’r rhaglen yn darparu eitemau sydd yn cwrdd ag anghenion mwyaf sylfaenol plant megis gwely i gysgu ynddo neu ffwrn i baratoi pryd o fwyd poeth, dillad (mewn argyfwng) ac eitemau a gwasanaethau eraill sydd yn hanfodol i les plentyn. Mae’r ffilm fer hon, a gafodd ei chynhyrchu ar gyfer apêl y llynedd, yn helpu i ddangos pwysigrwydd ein Rhaglen Hanfodion Brys, a pha effaith mae’n ei chael.

Mae’r rhaglen nawr yn cael ei darparu ar ein rhan gan Family Fund Business Services. Dim ond drwy gyfeirio mae modd defnyddio’r rhaglen a dim ond asiantaethau cofrestredig sy’n cael cyfeirio, sef yr asiantaethau hynny sy’n gallu cyrraedd y teuluoedd hynny sydd angen y rhaglen fwyaf. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dysgu sut mae cofrestru fel asiantaeth cyfeirio, ar eu gwefan.

Er mwyn ymateb i’r galw cynyddol ar gyfer nwyddau angenrheidiol gan deuluoedd sy’n byw ag anawsterau ariannol, iechyd a chymdeithasol difrifol sy’n effeithio ar les eu plant, bydd BBC Plant mewn Angen yn cynyddu ei ymrwymiad i Hanfodion Brys, ac yn gwario £3.0m ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019.

Bydd gwybodaeth am sut mae gwneud cais i’r rhaglen newydd, neu am sut mae cofrestru i fod yn bartner cyfeirio, ar gael ym mis Mehefin.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1