
Ein blaenoriaethau strategol
Rydyn ni’n credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r cyfle i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod. Yn BBC Plant mewn Angen, rydyn ni’n gweithredu lle mae’r angen mwyaf. Ein nod yw creu newid parhaol a chadarnhaol ledled y DU ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen fwyaf. Gyda’r BBC a’n partneriaid, ein nod yw ysbrydoli’r genedl i gefnogi ein gwaith.
Ym mis Awst 2022, roeddem wedi rhyddhau ein Strategaeth Dyrannu Grantiau ar gyfer 2022-2025. Mae’n cynnwys ein pedair egwyddor gyllido:
- Rydyn ni’n rhannu pŵer gyda Phlant a Phobl Ifanc, gan gydnabod mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i lywio ein gwaith.
- Rydyn ni’n gweithredu’n hyblyg, gan sicrhau bod ein cyllid a’n prosesau yn ymatebol, yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio.
- Rydyn ni’n defnyddio ein llais, gan ddefnyddi ein safle a’n hasedau i feithrin ymwybyddiaeth ac empathi.
- Rydyn ni’n adeiladu partneriaethau pwrpasol i weithredu newid a gweithio o fewn cymunedau.
Yn y dyfodol agos, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am sut byddwn yn cysoni ein gwaith eang ar draws y DU â blaenoriaethau a themâu strategol newydd.
I ddarllen mwy am ein Strategaeth Grantiau newydd ar gyfer 2022-2025, cliciwch ar un o’r dolenni isod. Yno, cewch weld ein strategaeth grantiau newydd, yn ogystal â fersiwn a luniwyd gan blant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn tynnu sylw at ein hegwyddorion, ein dylanwad a’n model cyllido.