
Grantiau
Gwnewch Gais am Grant
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ar hyn o bryd, nid yw BBC Plant mewn Angen bellach yn derbyn ceisiadau Datganiad Diddordeb newydd. Byddwn yn derbyn ceisiadau newydd wedi i ni lansio ein system grantiau newydd diwedd mis Medi 2025.
Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 15 Awst 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Pan fyddwn yn lansio ein system dyrannu grantiau newydd bydd yna rai newidiadau i’n polisïau a fydd yn effeithio ar bwy all wneud cais am grant wrth BBC Plant mewn Angen. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda manylion cyn i ni ailagor ym mis Medi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.
Pwy ydyn ni
Ni yw’r prif noddwr annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yn y DU.
Rydyn ni’n credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r cyfle i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod. Drwy ein gwaith dyrannu grantiau a’n gwaith ehangach, ein nod yw creu newid parhaol a chadarnhaol ledled y DU ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen fwyaf.
Bydd y bobl a’r sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu yn:
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng.
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu.
- Mynd i’r afael â’r heriau y mae’r plant a’r bobl ifanc yn eu hwynebu. Byddant yn meithrin eu sgiliau a’u gwytnwch, yn eu grymuso ac yn ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd.
- Awyddus i barhau i ddysgu am eu gwaith fel bod eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn parhau i wella.
Cysylltu â’r tîm grantiau
Os oes gennych gwestiwn yn ymwneud â’n rhaglenni Grantiau, ac nad yw’r ateb yn ein hadran canllawiau Grant, cysylltwch â ni.