Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
Gweler isod rai cwestiynau cyffredin, a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.
A yw BBC Plant Mewn Angen atal rhoi grantiau rhwng Ebrill a Medi 2025?
Nac ydy, bydd BBC Plant mewn Angen yn dal i ddyfarnu grantiau drwy gydol y flwyddyn. Fyddwn ni ddim yn gallu derbyn ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb newydd ar ôl 15 Ebrill tan ganol mis Medi 2025. Yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn parhau i ystyried ac i brosesu pob cais a gyflwynir ar 15 Ebrill neu cyn hynny. Os byddwch yn cyflwyno cais Datganiad o Ddiddordeb ar 15 Ebrill neu cyn hynny a’ch bod yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn, byddwch yn gallu cyflwyno hon i gael ei hystyried o fewn yr amserlen arferol.
Mae gennyf gais ar y gweill neu rwyf ar fin cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, sut mae hyn yn effeithio arna i?
Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar neu cyn 15 Ebrill yn cael eu hystyried yn y ffordd arferol. Efallai byddwch chi’n cael penderfyniad 1-2 wythnos yn hwyrach na’r disgwyl. Os bydd eich cais neu eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych beth i’w wneud nesaf.
Rydw i’n derbyn grant; sut mae defnyddio fy nghyfrif ar-lein yn y system newydd i ddyfarnu grantiau?
Pan fyddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru ar gyfer cyfrif porth derbynnydd grant newydd.
Rydyn ni’n disgwyl taliad rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2025, fyddwn ni’n dal i gael ein taliad?
Byddwch. Byddwn yn dal i dalu derbynwyr grantiau drwy gydol y cyfnod hwn.
Rydw i wedi gwneud cais i BBC Plant mewn Angen yn y gorffennol, neu mae gen i grant ar hyn o bryd. Beth fydd yn digwydd i’r hen ffurflenni cais a’r adroddiadau yn fy nghyfrif ar-lein (sydd hefyd yn cael ei alw yn borth derbynnydd grant)?
Fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio eich cyfrif ar-lein (sydd hefyd yn cael ei alw yn borth derbynnydd grant) o 26 Gorffennaf 2025 ymlaen. Felly fyddwch chi ddim yn gallu cael gafael ar eich hen ffurflenni ac adroddiadau ac ati o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Byddwn yn cysylltu â phob sefydliad sydd â chyfrif ar-lein i ofyn iddynt gadw unrhyw ffurflenni neu adroddiadau maen nhw eisiau eu defnyddio yn y dyfodol. Am y dudalen bydd cyfarwyddiadau llawn ar sut mae gwneud hyn yn cliciwch yma.
Roeddwn i’n bwriadu cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025, beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Fyddwn ni ddim yn gallu derbyn unrhyw geisiadau Datganiadau o Ddiddordeb newydd ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025. Byddwn yn blaenoriaethu ystyried a phrosesu pob cais gan ddefnyddio ein system bresennol cyn cau ein porth presennol ar gyfer ymgeiswyr/derbynwyr grantiau. Byddwn wedyn yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb newydd yn ein system newydd ar ôl i ni ail-lansio ym mis Medi 2025.
Rwy’n dderbynnydd grant ac mae fy adroddiad diwedd blwyddyn i fod i gael ei gyflwyno rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2025, beth ddylwn i ei wneud?
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Rydyn ni’n gweithio ar ddull arall i’n derbynwyr grantiau gyflwyno eu hadroddiadau diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod cau. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i egluro eich opsiynau. Yn y cyfamser, os oes gennych chi adroddiad ar ei hanner nad yw’n debygol o gael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau, sef 26 Gorffennaf 2025, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi lleol o’r holl wybodaeth sydd yn eich adroddiad. Am y dudalen bydd cyfarwyddiadau llawn ar sut mae gwneud hyn yn cliciwch yma.
Mae grant ar fin dod i ben rhwng canol mis Ebrill 2025 a mis Chwefror 2026. Rydw i eisiau gwneud cais am gyllid i barhau â’r gwaith hwn. Beth ddylwn i ei wneud?
Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd unrhyw un o’n derbynwyr grantiau presennol yn cael rhagor o gyllid. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod y bydd rhai derbynwyr grant presennol am wneud cais am ragor o gyllid, felly os byddan nhw’n llwyddo, bydd eu gwaith yn parhau heb doriad. Os bydd eich grant presennol yn dod i ben yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cysylltu â chi yn ystod yr wythnosau nesaf i egluro eich opsiynau. Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch Rheolwr Grantiau neu [email protected].
Mae grant newydd gael ei ddyfarnu i mi. Fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?
Os ydych chi newydd dderbyn llythyr dyfarnu, dychwelwch eich ffurflen derbyn grant atom cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu ei phrosesu a threfnu eich taliad cyntaf. Mae’n syniad da dychwelyd eich ffurflen atom gyda digon o amser i wneud unrhyw gywiriadau neu newidiadau os oes angen.
Pan fyddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru ar gyfer cyfrif porth derbynnydd grant newydd. Byddwch yn defnyddio’r cyfrif newydd hwn i reoli eich grant yn y dyfodol.
Mae gen i gwestiynau, gyda phwy alla i siarad am hyn?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr wybodaeth hon, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch ni ar 0345 609 0015.
English
To read this page in English, please click here.