


Yn Cyflwyno: Cymunedau Dros Blant
Tlodi Plant yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig heddiw. Mae’n fater cymdeithasol cymhleth sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau, ac mae’n effeithio ar fywydau pobl ifanc yn wahanol yn ôl yr unigolyn a’r lleoliad.
Mae BBC Plant mewn Angen yn ymwybodol o oblygiadau helaeth tlodi i iechyd, perthnasoedd, a’r cyfleoedd y mae plant a phobl ifanc yn eu cael yn y dyfodol, ac rydym ni’n gwybod bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r broblem hon.

Dyna pam ein bod ni’n falch o lansio Cymunedau Dros Blant; rhaglen gyllido newydd gwerth £15 miliwn i fynd i’r afael â thlodi plant yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth City Bridge, Ymddiriedolaeth Pears ac Ymddiriedolaeth Hunter.
Dyma’r rhaglen gydweithredol fawr gyntaf yn y Deyrnas Unedig sydd yn canolbwyntio ar ganfod ac ariannu datrysiadau cyraeddadwy i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar blant. Nod Cymunedau Dros Blant yw cefnogi’r plant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’u helpu i ffynnu a chyflawni eu llawn botensial.
Rhagor o Wybodaeth am Gymunedau Dros Blant
Ble fydd y rhaglen yn cael ei darparu?
Ble fydd y rhaglen yn cael ei darparu?
Bydd y rhaglen yn para pum mlynedd ac yn cael ei chyflwyno bob yn dipyn mewn pedwar o leoliadau i ddechrau, a bydd y lleoliadau hyn yn cael eu dewis yn ofalus. Yna, bydd y nifer hwn yn cynyddu i ddeg lleoliad yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ardaloedd gwledig, ardaloedd trefol ac ardaloedd arfordirol.
Sut mae’r rhaglen hon yn wahanol i raglenni cyllido sydd eisoes yn bodoli?
Sut mae’r rhaglen hon yn wahanol i raglenni cyllido sydd eisoes yn bodoli?
Mae Cymunedau Dros Blant yn rhaglen genedlaethol uchelgeisiol. Bydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar leoliad, gan dargedu deg o leoliadau yn y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn cynnwys elfennau fel adeiladu partneriaethau lleol cryf, ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol, a chryfhau lleisiau plant a phobl ifanc — yn enwedig y rheiny sydd yn aml heb eu clywed.
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Bydd y rhaglen Cymunedau Dros Blant yn cael ei siapio gan y bobl a’r cymunedau mae’n eu cefnogi. Y nod yw grymuso sefydliadau yn y sector gwirfoddol, arweinwyr cymunedol, a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dlodi i greu partneriaethau lleol.
Bydd y partneriaethau lleol hyn yn gweithio’n agos â gwasanaethau a chyrff cyhoeddus i greu a rhoi cynlluniau ymarferol ar waith a fydd yn lleihau effeithiau tlodi plant ar drigolion y lleoliadau hyn. Bydd y sefydliadau a fydd yn cael cyllid gan y rhaglen Cymunedau Dros Blant yn arwain y ffordd drwy gefnogi’r partneriaethau hyn a’u helpu i dyfu a llwyddo.
Faint fydd yr ardaloedd lleol yn ei gael, ac am ba mor hir?
Faint fydd yr ardaloedd lleol yn ei gael, ac am ba mor hir?
Bydd y lleoliadau yn cael hyd at £1.5 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, a bydd y cyllid hwn yn cael ei wario ar leddfu effeithiau tlodi plant a diwallu anghenion brys plant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr ardaloedd dan sylw.
Yn wahanol i raglenni cyllido traddodiadol ni fydd Cymunedau Dros Blant ar agor i geisiadau cyffredinol. Yn lle hynny, byddwn yn cydweithio â chymunedau lleol i adnabod prif sefydliadau a phartneriaid. Mae’r rhaglen yn anelu at herio stigma, ysbrydoli newid, a rhannu dysgu yn ehangach dros y sector, gan greu amgylchedd lle gall plant a phobl ifanc ffynnu: heddiw ac yn y dyfodol.