
Sut ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon?
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd perthnasoedd gyda grant-ddalwyr, gydag ymgeiswyr, a chyllidwyr eraill. Rydym am fod yn fwy tryloyw drwy siarad yn allanol am ein meysydd diddordeb daearyddol a thematig lleol gan fod y rhain yn rhan annatod o gynlluniau gweithredu lleol.
Fodd bynnag, er y gall cais gyd-fynd â maes diddordeb daearyddol neu thematig penodol, nid yw hyn yn
golygu y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu’n awtomatig i’r ymgeisydd hwnnw.
Rydym yn ystyried sawl peth wrth ddyrannu cyllid:

Tystiolaeth o'r angen am y cyllid.

Cryfder y canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Tystiolaeth mai'r sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r prosiect.

Tystiolaeth o gynnwys plant a phobl ifanc wrth lunio'r prosiect.

Tystiolaeth o gynllunio prosiectau da.
Dylai ceisiadau ein cefnogi i gyflawni ein blaenoriaethau strategol a gwneir penderfyniadau ar lefel leol a’r DU, wedi’u hategu gan fewnwelediad a gwybodaeth leol a gwaith a wneir gan ein Tîm Ymchwil, gan nodi effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc.