
Miliwn a Fi
Miliwn a Fi yw cronfa £10m BBC Plant mewn Angen, sy’n benodol ar gyfer cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae Miliwn a Fi yn ariannu prosiectau sy’n gweithio ar draws y DU, yn lleol ac yn ddigidol. Mae’r rhain yn galluogi plant rhwng 8 ac 13 oed i gael eu cefnogi mewn perthnasoedd cadarnhaol ymysg eu cyfoedion, rhieni, gofalwyr ac oedolion dibynadwy yn eu bywydau.
Nod y gronfa yw darparu cymorth yn gynnar, cyn i broblemau iechyd meddwl ddatblygu. Mae prosiectau sy’n cael eu hariannu gan Miliwn a Fi yno pan fydd plant yn dechrau cael trafferth gyda’u teimladau, drwy gynnig cyfleoedd i rannu pryderon yn ddiogel ac yn barchus, gyda mynediad at wybodaeth a llwybrau atgyfeirio. Mae Miliwn a Fi yn ariannu gwaith sy’n cynnig yr help sydd ei angen ar blant, sut, a phan fydd angen hynny arnyn nhw, cyn troi at ymyriadau clinigol.