What we fund- Welsh
Ein Canlyniadau Strategol
Mae gennym bedwar canlyniad strategol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cliciwch neu tapiwch i gael rhagor o wybodaeth am bob un:
Atal problemau iechyd meddwl
Atal problemau iechyd meddwl
Credwn fod iechyd meddwl da yn hanfodol er mwyn i blant a phobl ifanc ffynnu, datblygu’n gymdeithasol ac yn emosiynol a dysgu. Rydym yn cydnabod bod llawer gormod o blant yn methu â chael gafael ar gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl, yn enwedig ar y cam cynnar hollbwysig pan fydd problemau a heriau’n dechrau dod i’r amlwg. Rydyn ni’n gwybod bod angen cymorth ar blant a phobl ifanc gyda phroblemau wrth iddyn nhw ddechrau dod i’r amlwg neu drwy eu hatal rhag datblygu o gwbl.
Mae ein cyllid yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc, cyn gynted â phosibl, cyn cyrraedd pwynt o argyfwng.
Ni fyddwn yn ariannu:
‘Ymyriadau pwynt argyfwng’ sy’n rhai tymor byr/cyfyngedig o ran amser, ac sydd wedi’u cynllunio i sefydlogi unigolion sy’n wynebu argyfwng ar frys. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau ‘clinigol’ fel ymyriadau a gwasanaethau cwnsela ffurfiol/strwythuredig, therapïau seicolegol neu driniaethau clinigol/meddygol eraill sy’n digwydd ar ôl cyrraedd pwynt o argyfwng.
Lliniaru effaith tlodi ac amddifadedd
Lliniaru effaith tlodi ac amddifadedd
Rydyn ni’n cydnabod bod tlodi ac amddifadedd yn gymhleth ac yn cael effaith ddofn ar fywydau plant a phobl ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol, datblygiad plentyndod, addysg, perthnasoedd a chyfleoedd bywyd. Gwyddom fod mynediad at amrywiaeth o gymorth i liniaru effaith tlodi ac amddifadedd yn allweddol, gan gynnwys mynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol, mynediad at gyfleoedd a phrofiadau datblygiadol a chyfoethog, cymorth ar gyfer llesiant corfforol ac iechyd meddwl a gweithgareddau sy’n mynd i’r afael ag annhegwch systemig ac anghenion lleol.
Mae ein cyllid yn canolbwyntio ar liniaru effaith tlodi ac amddifadedd ar fywydau plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag anghenion sylfaenol/uniongyrchol (fel yr amlinellir uchod), mynediad at gyfleoedd a phrofiadau datblygiadol a chyfoethog, gwella cyfleoedd bywyd a chymorth ar gyfer llesiant corfforol ac iechyd meddwl a gweithgareddau sy’n mynd i’r afael ag anghenion lleol.
Ni fyddwn yn ariannu:
Anghenion sylfaenol a chymorth materol os mai nhw yw unig ffocws prosiect. Mae ein rhaglen Hanfodion Brys yn cefnogi plant unigol sy’n byw mewn tlodi difrifol.
Lleihau anghydraddoldeb cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas
Lleihau anghydraddoldeb cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas
Rydyn ni’n cydnabod bod annhegwch a gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a hunaniaeth rywiol yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Bod rhwystrau systemig a strwythurol yn effeithio ar ddatblygiad a llesiant corfforol ac emosiynol, addysg, cyflogaeth, cyfiawnder troseddol, a sefyllfa economaidd-gymdeithasol. Gwyddom fod y rhwystrau hyn yn lleihau mynediad at gyfleoedd a chymorth, yn cynyddu allgáu ac arwahanrwydd, yn effeithio ar iechyd meddwl ac yn cynyddu’r risg o dlodi, gan effeithio ar gyfleoedd bywyd a llesiant. Gwyddom fod angen cymorth a chyfleoedd datblygiadol cyfoethog ar blant a phobl ifanc sydd ar y cyrion, sy’n mynd i’r afael â materion unigol a systemig.
Mae ein cyllid yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae rhwystrau strwythurol a systemig a gwahaniaethu yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys ethnigrwydd, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a hunaniaeth rywiol, yn cael mynediad at y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Mynd i'r afael ag effaith heriau sy'n gysylltiedig â'r teulu
Mynd i'r afael ag effaith heriau sy'n gysylltiedig â'r teulu
Rydyn ni’n cydnabod nad oes gan bob plentyn a pherson ifanc fywydau cartref sefydlog, diogel a hapus. Mae amrywiaeth o faterion a heriau’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan gynnwys cam-drin domestig, teuluoedd yn chwalu a gwahanu, gan gynnwys rhiant yn y carchar, profedigaeth, rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau/alcohol, cyfrifoldebau gofalu, esgeulustod a thrawma. Gwyddom fod angen cymorth cyfoethog a thrawsnewidiol ar blant a phobl ifanc a’u teuluoedd sy’n mynd i’r afael â diogelwch, llesiant corfforol ac emosiynol, perthnasoedd a datblygiad personol a chorfforol.
Mae ein cyllid yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n wynebu heriau sy’n ymwneud â’u teulu yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, gan gynnwys gofalwyr ifanc, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phrofedigaeth.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i gefnogi:
- Gwaith ieuenctid, gan gynnwys clybiau ieuenctid a chlybiau gweithgareddau, yn ogystal â gwaith ieuenctid datgysylltiedig
- Cymorth i deuluoedd a chwarae i blant y blynyddoedd cynnar
Ein Blaenoriaethau Cyllido Lleol

Rydyn ni’n ariannu prosiectau a sefydliadau ledled y DU. Ein nod yw ariannu cydbwysedd o grantiau ledled y DU sy’n mynd i’r afael ag anghenion mwyaf plant a phobl ifanc agored i niwed. I gyflawni hyn, rydym yn ystyried daearyddiaeth fel rhan o’n proses gwneud penderfyniadau. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn ariannu’n deg ac yn gallu lledaenu’r cyllid sydd ar gael gennym mor eang â phosibl ac ar sail angen. Bydd ein blaenoriaethau cyllido yn cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, a gallant amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi yn y DU. Gweler ein blaenoriaethau cyllido lleol isod:
CYMRU
CYMRU
Byddwn yn ariannu Prosiectau a Sefydliadau i’r pethau canlynol:
- Cynnig cysylltiadau hwyliog a chymdeithasol sydd wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol ac sy’n hygyrch i bawb
- Sefydlu prosiectau hygyrch, cynhwysol yn y gymuned sy’n mynd i’r afael â nifer o heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc y mae tlodi ac amddifadedd yn effeithio arnyn nhw.
- Darparu gwaith ieuenctid datgysylltiedig i gyrraedd plant a phobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig ynysig.
- Rhoi cymorth i blant a phobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
- Cefnogi plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol y tu allan i ddinasoedd De Cymru
- Cefnogi plant a phobl ifanc sy’n gorfforol anabl, yn fyddar neu’n ddall
- Cefnogi plant a phobl ifanc y mae salwch neu gyflyrau hirdymor neu sy’n cyfyngu ar eu bywyd yn effeithio arnyn nhw
Ledled y DU
Ledled y DU
I sefydliadau sy’n gwneud cais i weithio ar draws dwy neu fwy o wledydd neu ranbarthau’r DU, byddwn yn ariannu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc:
- Sydd ag anabledd corfforol
- Mae cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n bygwth bywyd yn effeithio arnyn nhw
- Mae cyflyrau iechyd cronig a phrin yn effeithio arnyn nhw

Ydych chi’n barod am y cam nesaf?
Nawr eich bod yn deall ein blaenoriaethau cyllido, ewch yn ôl i brif dudalen y cais i adolygu cam nesaf y broses