Communities for Children Blog Welsh
Er mwyn mynd i’r afael ag effaith tlodi plant, mae BBC Plant mewn Angen, ynghyd â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Hunter, Sefydliad Pears a Sefydliad City Bridge, yn buddsoddi £15m mewn deg ardal i rymuso’r cymunedau lleol hynny i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wneud gwahaniaeth, ac adeiladu ar y gefnogaeth honno.
Yn y DU, tlodi plant yw un o’r heriau cymdeithasol mwyaf enbyd a pharhaus o hyd. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae dros 4 miliwn o blant yn y DU yn byw mewn tlodi – mae hynny bron yn un plentyn o bob tri. Mae mynd i’r afael â’r mater hwn yn hanfodol yn foesol ac i lesiant tymor hir plant. Mae cydnabyddiaeth gynyddol mai datblygu atebion cynaliadwy, systemig a dull gweithredu sy’n seiliedig ar leoedd yw’r ffordd o gael effaith yn y maes hwn.
Mae gan bob mudiad partner sy’n ffurfio Cymunedau er mwyn Plant hanes hir o gefnogi elusennau sydd wrth galon eu cymunedau. O’r gwaith hwn, gwyddom nad yw canolbwyntio ar gymorth brys ac adweithiol yn unig yn ddigon i fynd i’r afael â thlodi plant yn effeithiol. Gwyddom fod angen i ni helpu cymunedau i nodi eu problemau unigryw, a’u helpu i ddatblygu atebion lleol.
Mae wedi’i hen sefydlu bod plant sy’n cael eu magu mewn tlodi yn wynebu nifer o heriau. Rhai o’r heriau y gallent eu hwynebu yw tai gwael, maeth a mynediad cyfyngedig at ofal plant ac addysg o ansawdd uchel. Mae’r amgylchiadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar eu datblygiad corfforol a meddyliol yn ogystal â’u cyrhaeddiad addysgol.
Mae pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw dilynol wedi dwysáu’r broblem, gan wthio mwy o deuluoedd o dan y llinell dlodi. Mae chwyddiant, costau tai cynyddol, a chyflogaeth ansicr wedi golygu bod llawer o rieni’n cael trafferth darparu ar gyfer anghenion sylfaenol eu plant.
Yng ngoleuni’r realiti bod nifer y plant mewn tlodi ar gynnydd, ac wedi cynyddu 100,000 ers y flwyddyn flaenorol, rydym ni fel cyllidwyr wedi dod at ein gilydd i lunio’r rhaglen genedlaethol uchelgeisiol hon i fynd i’r afael â’r cynnydd hwn.
Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn her gymhleth na all un sefydliad neu sector ei datrys ar ei ben ei hun. Mae’n gofyn am ymdrech gydlynol ar draws y llywodraeth, cymunedau ac, yn hollbwysig, cyllidwyr.
Mae’n hanfodol bod cyllidwyr yn cydweithio er mwyn sicrhau newid systemig sy’n para a sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu a’u defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.
Drwy ddod at ein gilydd fel cyllidwyr a chyfuno ein hasedau a’n gwybodaeth, gallwn greu llawer mwy o effaith drwy ganiatáu ar gyfer rhaglenni mwy uchelgeisiol ar raddfa fawr na fydd cyllidwyr unigol o bosibl yn gallu eu cefnogi ar eu pen eu hunain. Mae cyllid cydweithredol hefyd yn caniatáu dulliau seiliedig ar leoedd sydd wedi’u teilwra i gyd-destunau lleol, gan sicrhau bod cyllid yn strategol a bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar gymorth wedi’i dargedu. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid iddynt lywio drwy system ddarniog o brosiectau tymor byr, digyswllt sy’n cael effaith gyfyngedig.
Mae Cymunedau er mwyn Plant yn fwy na rhaglen dyrannu grantiau. Er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant yn effeithiol, rhaid i gyllidwyr fabwysiadu dull gweithredu amlochrog sy’n mynd y tu hwnt i ddulliau traddodiadol dyrannu grantiau. Yn BBC Plant mewn Angen, gwyddom fod y symudiadau mwyaf pwerus yn deillio o gysylltu pobl sy’n canolbwyntio ar yr un nodau ac amcanion. Drwy gynnull partneriaid lleol a lleisiau cymunedol i gydweithio, rhannu dysgu, a chysoni ymdrechion, bydd y fenter hon yn gyfle i dderbynwyr grantiau rwydweithio er mwyn meithrin cymuned sy’n ymarfer ac yn cefnogi ei gilydd.
Mae meithrin gallu yn elfen allweddol arall o’r dull hwn. Yn aml, nid oes gan lawer o sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gwneud gwaith hanfodol mewn cymunedau y seilwaith, yr hyfforddiant na’r adnoddau i gynnal ymyriadau yn y tymor hir gan eu bod yn delio ag angen brys. Mae angen amser ac adnoddau i feithrin y gallu i gryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd.
Mae adrodd straeon hefyd yn rhan bwerus o’r rhaglen hon. Drwy roi mwy o lais i’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol a thynnu sylw at yr heriau a’r llwyddiannau ar lawr gwlad, gallwn helpu i newid naratifau cyhoeddus ac ysgogi cefnogaeth ehangach.
Mae cyfuno’r strategaethau hyn yn galluogi cyllidwyr i ymateb i anghenion brys, ac i gyfrannu at newid tymor hir i systemau drwy newid arferion a meddylfryd.
Mae gweithio ar sail lleoedd yn dod ag awdurdodau lleol, ysgolion, gwasanaethau iechyd, sefydliadau gwirfoddol a thrigolion at ei gilydd i greu atebion ar y cyd sy’n seiliedig ar wybodaeth a chysylltiadau lleol. Mae’n ddull sy’n ymateb i anghenion penodol cymunedau unigol ac mae’n eu grymuso i gymryd perchnogaeth dros yr atebion, gan wneud ymyriadau’n fwy cynaliadwy ac effeithiol.
Yn aml, y rheini sydd agosaf at y broblem sy’n ei deall orau. Mae gan drigolion lleol, gweithwyr rheng flaen ac arweinwyr cymunedol wybodaeth a phrofiad uniongyrchol o’r heriau penodol y mae eu cymunedau eu hunain yn eu hwynebu, megis tai, cyflogaeth, bylchau mewn addysg a gwasanaethau iechyd. Drwy gynnwys y gymuned, rydym yn dymuno dylanwadu ar y gwaith o ddylunio a darparu atebion, ac mae ymyriadau’n dod yn fwy perthnasol, dibynadwy ac ymatebol. Mae grymuso hefyd yn meithrin gallu a chydnerthedd lleol, gan alluogi cymunedau i wneud newidiadau yn y tymor hir yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar gymorth allanol.
Pan fydd pobl yn teimlo perchnogaeth dros y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, maen nhw’n fwy tebygol o ymgysylltu, cydweithio a chynnal momentwm. Yn y pen draw, mae mynd i’r afael â thlodi plant yn gofyn am bolisi o’r brig i lawr, yn ogystal ag arweinyddiaeth ar lawr gwlad a chamau gweithredu dan arweiniad y gymuned sydd wedi’u gwreiddio mewn profiad uniongyrchol.
Mae tlodi plant yn y DU yn fater brys sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, gyda chanlyniadau parhaol i blant, teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol. Mae angen mwy nag atebion cenedlaethol cyffredinol i fynd i’r afael â hyn – mae’n galw am ddull gweithredu sy’n seiliedig ar leoedd sy’n cydnabod ac yn ymateb i’r heriau unigryw sy’n wynebu gwahanol gymunedau.
Drwy rymuso pobl leol, meithrin cydweithio ymysg cyllidwyr, a gweithio at nodau cyffredin, gallwn symud oddi wrth atebion tymor byr at newid ystyrlon a thymor hir. Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i dyfu i fyny’n ddiogel, yn iach ac yn obeithiol ar gyfer y dyfodol – a thrwy weithio gyda’n gilydd, ar draws sectorau ac ar bob lefel, gallwn helpu i wireddu’r weledigaeth honno.
Rwy’n credu ac yn gobeithio y bydd lansio’r rhaglen hon yn dangos y gall cyllidwyr, drwy fuddsoddi gyda’i gilydd mewn atebion tymor hir, chwarae rhan ganolog yn y gwaith o dorri cylch tlodi plant a chreu newid parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fozia Irfan
Cyfarwyddwr Effaith a Dylanwad