
Pwy ydyn ni
Gweledigaeth BBC Plant Mewn Angen yw y bydd plant a phobl ifanc ym Mhrydain yn mwynhau plentyndod diogel, hapus a sicr, gyda’r cyfle i gyrraedd eu potensial.
Wrth wireddu’r weledigaeth hon ein ròl ni yw dosbarthu grantiau i elusennau a mudiadau di-elw eraill sydd yn cefnogi ac yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd dan anfantais ac sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.
Bydd y bobl a’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu :
- Yn fentrus gan ddangos yn glir sut y bydden nhw’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.
- Yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc, gan feithrin sgiliau a chadernid, eu grymuso ac ymestyn ar eu dewisiadau mewn bywyd.
- Yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso eu gwaith
- Yn dangos brwdfrydedd i barhau i ddysgu am eu gwaith er mwyn parhau i wella eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.