
Asedau, ‘Cefnogwyd gan’
Byddem wrth ein bodd petaech chi’n rhoi gwybod i bawb am y cyllid a dderbyniwyd gan BBC Plant mewn Angen drwy arddangos ein logo ar eich gwefan neu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn helpu i ddangos yr effaith rydyn ni’n ei chael ar lawr gwlad mewn cymunedau lleol. I’w llwytho i lawr, cliciwch y ddolen isod.
Dim ond i brosiectau sydd â grant gan BBC Plant mewn Angen ar hyn o bryd y mae’r deunyddiau hyn ar gael, a dim ond pan fydd gennych chi grant gweithredol y gellir eu defnyddio. Drwy lwytho’r deunyddiau hyn i lawr a’u defnyddio, rydych chi’n cadarnhau bod gan eich prosiect grant BBC Plant mewn Angen cyfredol. Ni ddylech addasu na diwygio’r deunyddiau hyn mewn unrhyw ffordd na’u rhannu â thrydydd partïon.



