Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

A short play by a young person showing all the Deaf people in the world coming together

Addasu i gyfnod y Coronafeirws: dewch i gwrdd â’n Theatr i Bobl Ifanc Byddar!

Helo! Fy enw i yw Steph, rwy’n fyddar ac rwy’n hynod freintiedig i fod yn arweinydd Taking Flight Theatre, sef theatr i bobl ifanc byddar yng Nghaerdydd.

Diolch i BBC Plant mewn Angen, Ashley Family Foundation a’r Moondance Foundation, roeddem yn gallu sefydlu nôl ym mis Ionawr ac mae ein llwyddiannau hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel. Mae gennym dri dosbarth yn llawn o’r bobl ifanc byddar/trwm eu clyw mwyaf anhygoel, ac mae ein Sadyrnau o greu theatr, chwarae gemau, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl wastad yn uchafbwynt fy wythnos.

Yna wrth gwrs, fe benderfynodd y coronafeirws gyrraedd. Roedd hyn yn dorcalonnus i fi, felly yn fuan ar ôl i ni gael popeth yn barod, bu’n rhaid i ni gau’r cyfan er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb dan sylw. Heb ein cyfarfodydd rheolaidd ar Sadyrnau, bu’n rhaid i ni (fel y mae nifer o bobl eraill wedi gorfod gwneud) droi at ffyrdd ar-lein i gadw mewn cysylltiad.

Rwyf i (Steph) ac Anna (Cydlynydd Cynorthwyol) wedi bod yn brysur yn creu fideos i’w rhannu gyda’r bobl ifanc drwy ein tudalen Facebook. Mae’r rhain yn cynnwys esboniadau o amrywiaeth o weithgareddau celf a theatr y gall ein pobl ifanc eu gwneud gartref; mae pob fideo mewn Iaith Arwyddion Prydain gyda chapsiynau (ry’n ni’n caru popeth sy’n hygyrch!) ac mae’r rhain yn cael eu hanfon ar e-bost at rieni hefyd ar gyfer y rhai sydd heb fynediad i Facebook. Rydym hefyd wedi rhyddhau fideos am lesiant gan fod cyn lleied o wybodaeth ar gael am hunanofal mewn Iaith Arwyddion Prydain o’i gymharu â’r hyn sydd ar gael mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig. Yn ogystal, rydym yn parhau i gadw cysylltiad â chwmnïau theatr eraill ac yn hyrwyddo eu gwaith ar ein tudalen ni os yw’n hygyrch ac os yw’n rhywbeth rydym yn meddwl y bydd ein pobl ifanc yn ei hoffi.

Dyma sgrin-lun o un o fideos Steph ac Anna; roedden nhw’n dangos gêm ddrama gyda’i gilydd y gall ein pobl ifanc ei gwneud gartref yn hawdd gyda’u teuluoedd.

Rhywbeth arall ry’n ni’n ei wneud yw “Cadw mewn Cysylltiad” ar-lein – dyma gyfle i’n pobl ifanc gwrdd ar-lein gyda’u grwpiau i weld sut mae pawb, dweud helo wrth ein ffrindiau a hefyd chwarae gemau drama hwyliog. Yn sicr, mae wedi bod yn her ddiddorol ceisio addasu rhai o’n gemau mwyaf poblogaidd i’r byd ar-lein!

A post on Facebook about Steph video conferencing, reading: Steph is so excited for our zoom catch ups this morning, who is joining us?

Llun o Steph yn codi bawd cyn un o’r sesiynau “Cadw mewn Cysylltiad” ar-lein.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Taking Flight drydar: “Mae astudiaethau yn dangos bod pobl ifanc byddar yn fwy tebygol o ddioddef o afiechyd meddwl na’u cyfeillion sy’n gallu clywed. Cyfunwch hynny gydag anhawster i gael mynediad at wybodaeth am COVID i bobl fyddar sy’n cynyddu’r lefelau straen. Mae’r gwaith o adeiladu gwytnwch plant byddar fel ein Theatr Pobl Ifanc erioed wedi bod mor bwysig – ac rwy’n llwyr gytuno â hynny. Yn bersonol, rydw i wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, yn enwedig pan oeddwn i’n iau oherwydd nifer o rwystrau cyfathrebu. Fe wnaeth theatr fy helpu i ddod trwy bethau; ac mae gallu rhannu fy nghariad at theatr mewn ffordd gwbl hwyliog, croesawgar a hygyrch gyda’n pobl ifanc gwych sy’n fyddar/drwm eu clyw – yn ein sesiynau ac ar-lein oherwydd Covid-19 – yn fraint!

I gloi, mae gennym rai llefydd dal ar ôl! Ydych chi’n fyddar/drwm eich clyw, rhwng 4-18 oed a diddordeb bod yn rhan o’n Theatr Pobl Ifanc Byddar pan ddaw’r cyfyngiadau presennol i ben? Edrychwch ar ein tudalen Facebook “Taking Flight Youth Theatre” ac e-bostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth. Cadwch yn ddiogel bawb!

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1