Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

‘Rare Beasts’ – taflu goleuni ar rieni ifanc

English

Mae Steffan Llŷr Williams yn Bennaeth Gwasanaethau GISDA yng Ngogledd Cymru. Yn y darn byr yma, mae Steffan yn trafod gwaith GISDA a’r broses o gymryd rhan mewn cynllun gan BBC Writersroom Cymru, sy’n cysylltu awduron o Gymru â phrosiectau a ariennir gan BBC Plant mewn Angen yng Nghymru. Mae ‘Rare Beasts’ yn animeiddiad byr sydd wedi cael ei greu yn sgil y cynllun.

Mae’r prosiect Rhieni Ifanc gan GISDA wedi cael ei ariannu gan BBC Plant mewn Angen am y tair blynedd diwethaf, ac mae’r cyllid yn rhoi cymorth i rieni ifanc 18 oed ac iau. Prif amcan y prosiect ydy rhoi cymorth i rieni agored i niwed a’u plant, er mwyn eu helpu i roi’r gorau i fod yn ddibynnol a dechrau byw’n annibynnol, gan dorri’r cylch ymysg teuluoedd sy’n parhau i fod yn ddibynnol ar wasanaethau cymdeithasol. Nod GISDA ydy gwella dyheadau rhieni ifanc a’u plant i fyw bywyd hapus ac iach sy’n llawn boddhad, fel rhan o gymuned gadarn a chefnogol lle byddan nhw’n cael cyfle i ffynnu ac i fwynhau’r profiad o fod yn rhan o deulu.

Roedd bod yn rhan o gynllun BBC Writersroom Cymru yn brofiad amhrisiadwy i’r holl rieni ifanc a fu’n cymryd rhan. Roedd yn fforwm iddyn nhw allu mynegi eu teimladau a’u hemosiynau mewn ffordd greadigol ac arloesol, a hynny mewn amgylchedd diogel a dienw. Roedd yn gyfle iddyn nhw rannu llawer o’r problemau roedden nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd, phwysleisiwyd pa mor bwysig ydy’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu o ran eu dyheadau at y dyfodol.  Gobaith y bobl ifanc y buom ni’n cydweithio â nhw oedd y byddai’r animeiddiad yn annog pobl ifanc eraill, fel nhw eu hunain, i weithio gyda sefydliadau fel GISDA sydd yno i’w helpu a’u hannog pan fydd pethau’n anodd.

Elusen sy’n rhoi cyfleoedd a chefnogaeth ddwys i bobl ifanc agored i niwed rhwng 16 a 25 oed yng Ngwynedd ydy GISDA. Mae GISDA yn ceisio gwella bywyd pobl ifanc drwy weithio gyda nhw i ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol ac i wella eu cyflogadwyedd, eu hiechyd a’u lles, a’u teimladau o hunanwerth. Mae’r gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig wedi cael ei theilwra i anghenion yr unigolyn, drwy roi sylw uniongyrchol i’r anawsterau mae’n eu hwynebu; rydyn ni’n annog unigolion i osod eu nodau eu hunain a’u cyflawni gyda’n harweiniad ni. Drwy’r amrywiaeth o brosiectau a chymorth therapiwtig sydd ar gael gan GISDA, gall pobl ifanc ddysgu’r sgiliau a magu’r hyder sy’n angenrheidiol i fyw’n annibynnol.

Yn fy marn i, mae’r animeiddiad – a ddyluniwyd fel rhan o Gynllun BBC Writersroom Cymru – yn ddarn o waith pwerus, sy’n crynhoi teimladau cychwynnol rhiant ifanc pan fydd yn cael cynnig help. Drwy ein profiad, rydyn ni wedi gweld sut mae pobl ifanc yn gyndyn o gydweithio ag asiantaethau oherwydd teimladau o ddiffyg ymddiriedaeth sydd ganddyn nhw’n barod. Mae hynny’n rhwystr sylweddol i’w oresgyn. Mae ein gwaith ni gyda BBC Writersroom Cymru yn rhoi cyfle i rieni ifanc rannu eu teimladau mewn ffordd greadigol, rhywbeth na all llawer ei wneud drwy ddim ond siarad, oherwydd ei fod yn wahanol iawn i’w hanawsterau o ddydd i ddydd.

Mae’r prosiect wedi parhau i helpu rhieni ifanc drwy gydol cyfnod Covid-19, ac rydyn ni wedi gallu addasu’r ffordd rydyn ni’n gweithio drwy barhau i gynnig ein gwasanaethau i bobl ifanc. Rydyn ni wedi gweld anghenion rhieni ifanc yn cynyddu o ran eu hiechyd meddwl, gorbryder ac iselder. Mae’r holl staff wedi bod yn wych wrth gynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ystod y cyfnod anodd yma.

I ddarllen mwy am sut cafodd yr awdur Tim Price ei ysbrydoli i greu ‘Rare Beasts’, cliciwch yma. 

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1