Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Dyma resymau pam y gall sgyrsiau helpu i gadw iechyd meddwl plentyn ar y trywydd iawn

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn wynebu heriau i’w hiechyd meddwl, boed hynny’n digwydd eisoes neu’n digwydd yn y dyfodol. Mae sawl ffordd i ni eu helpu i ymdopi. Ffordd wych o helpu i gadw llesiant emosiynol plant a phobl ifanc ar y trywydd iawn yw cael oedolyn dibynadwy i gael sgyrsiau agored a chefnogol gyda nhw.

Mae BBC Plant mewn Angen yn gwybod y gall iechyd meddwl plant a phobl ifanc wella drwy gymryd camau cynnar i’w cefnogi, cyn i bethau waethygu. Drwy Miliwn a Fi, rhaglen iechyd meddwl BBC Plant mewn Angen, fe wnaethom ddysgu bod cymryd y camau cynnar hyn yn arbennig o bwysig i’r rheini sy’n mynd drwy oedrannau trawsnewidiol 8-13, gan fod llawer o bryderon fod llesiant emosiynol yn dod i’r amlwg yn ystod yr oedrannau hyn.

A child playing tennis

Mae llesiant emosiynol pobl ifanc yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma yn BBC Plant mewn Angen. Mae’r rhan fwyaf o brosiectau sy’n cael eu hariannu yn helpu plant a phobl ifanc i feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac i gael sgyrsiau sy’n cefnogi eu llesiant emosiynol nhw. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o gael hwyl a mwynhad mewn clwb chwaraeon ar ôl ysgol, i edrych ar sut i reoli teimladau yn ystod sesiwn therapi drama er mwyn delio ag effeithiau trallod drwy raglen therapi grŵp. Fodd bynnag, nid lleoliadau gwaith ieuenctid ffurfiol yn unig sy’n darparu oedolion dibynadwy i bobl ifanc. Gallai’r oedolyn dibynadwy fod yn weithiwr cymorth i deuluoedd, yn weithiwr chwarae, neu’n rhiant/gofalwr. Mae pob un o’r oedolion dibynadwy hyn yn chwarae rhan allweddol yn y system iechyd meddwl plant.

Mae sgyrsiau’n helpu pobl ifanc i ddysgu’r iaith emosiynol er mwyn siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw ac i archwilio sut maen nhw’n teimlo. Rydyn ni’n gwybod bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi perthnasoedd cadarnhaol gydag oedolion dibynadwy – boed hynny gartref, yn yr ystafell ddosbarth neu yn y gymuned. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn sgyrsiau am lesiant emosiynol drwy’r perthnasoedd cadarnhaol hyn, fel eu bod nhw’n gwybod at bwy i droi pan fydd angen iddyn nhw ofyn am help. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hyn cyn i bethau waethygu.

A child and adult writing together

Yn union fel oedolion, mae pobl ifanc yn poeni am bethau bob dydd hefyd. Mae dechrau sgwrs a helpu pobl ifanc i ddatrys problemau drwy siarad amdanynt yn gallu cyfrannu at deimladau o gydnerthedd – sef cryfder allweddol sydd ei angen ar bob un ohonom i ymdopi ag anawsterau bywyd. Gall y broses o wrando ar sut mae pobl ifanc yn teimlo – a’u cefnogi i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt – ddechrau mewn sgwrs arferol gyda’r unigolyn.

Rydyn ni’n credu bod y sgyrsiau cyffredin a chefnogol hyn gyda phobl ifanc yn bwerus. Gall y sgyrsiau ddigwydd drwy berthynas gadarnhaol o ddydd i ddydd gydag oedolion dibynadwy. Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau sgwrs am deimladau, a dylid atgoffa oedolion dibynadwy i gael yr hyder i wneud hynny… Y cyfan sydd angen ei wneud yw gofyn.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1