Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

We have updated our Privacy Policy and our Cookie Policy. Click here to find out more about what has changed.

WELSH – Extra guidance for all applicants – WELSH

HANFODOL AR GYFER POB YMGEISYDD Mae Plant mewn Angen y BBC yn disgwyl i bob cais am grant adlewyrchu'r egwyddorion crai

TEXT FOR THIS PAGE NEEDS TO BE CONFIRMED – USE THE PDF OR LIVE TEXT OPTIONS ON THE WEBSITE?

HANFODOL AR GYFER POB YMGEISYDD

Mae Plant mewn Angen y BBC yn disgwyl i bob cais am grant adlewyrchu’r egwyddorion craidd hyn.

Ariannwn brosiectau sy’n canolbwyntio ar y gwahaniaeth a wneir i fywydau plant a phobl ifanc dan anfantais. Amy rheswm hwn, rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth glir y bydd plant a phobl ifanc dan anfantais:

  • y prif rai i gael budd o’r prosiect; a,
  • yn profi newidiadau cadarnhaol i’w bywydau o’r gweithgareddau neu’r gwasanaethau.

Disgwyliwn i brosiectau ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anfantais sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Diffiniwn anfantais fel:

  • Salwch, trallod, cam-drin neu esgeulustod
  • Unrhyw fath o anabledd
  • Anawsterau ymddygiad neu seicolegol
  • Byw mewn tlodi neu sefyllfa o amddifadedd

Disgwyliwn i’r mwyafrif clir o’r plant fydd yn elwa  o  grant  fod  yn profi anfantais.  Wrth ymgeisio mae angen i chi ddweud wrthym am y plant a’r bobl ifanc y mae eich prosiect yn  gweithio  gyda nhw, a sut y mae’r anfanteision a brofir ganddynt yn effeithio ar eu bywydau.

Mae hefyd yn bwysig i ymgeiswyr ddisgrifio sut y maen nhw’n cyrraedd y plant a’r bobl ifanc dan anfantais a allai elwa fwyaf o’r prosiect, yn enwedig oherwydd gallai rhai fod yn anoddach i’w cyrraedd.

Rhaid i sefydliadau ddangos tystiolaeth y byddant yn diogelu plant a phobl ifanc tra byddant yn eu gofal, a’u cefnogi i ddatblygu. Bydd angen i chi ddangos y pwyntiau canlynol yn eich cais, ac yn ystod eich asesiad:

  • Mae gan eich sefydliad ei bolisi a’i weithdrefnau ei hun ar ddiogelu ac amddiffyn plant ac mae pawb, gan gynnwys y plant a’r bobl ifanc yn eich sefydliad, yn gwybod amdanynt ac yn eu defnyddio yn eu gwaith beunyddiol. Dylai fod gennych berson enwebedig yn gyfrifol am amddiffyn plant yn eich sefydliad.
  • Rydych yn cyflawni’r archwiliadau priodol ar yr holl staff, gwirfoddolwyr a’r pwyllgor rheoli sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r plant a’r bobl ifanc.
  • Rydych yn sicrhau bod yr holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r pwyllgor rheoli’n derbyn hyfforddiant ar ddiogelu plant sy’n berthnasol i’w r61 ac sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson.
  • Rydych hefyd yn cymryd y camau priodol i sicrhau body plant a’r bobl ifanc yn eich gofal yn ddiogel.
    e.e. drwy gyflawni asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau, sicrhau bod gan y staff sy’n

goruchwylio’r cymwysterau perthnasol a thrwy ddarparu hyfforddiant digonol i’ch gwirfoddolwyr.

Dylai’r holl fesurau hyn helpu i sicrhau y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn eich gofal yn cael profiad da wrth gymryd rhan yn eich prosiect.

Cofiwch y bydd eich dulliau o ddiogelu plant yn cael eu trafod ymhellach yn ystod yr asesiad, os llwyddwch i gyrraedd y cam hwn.

Mae plant a phobl ifanc wrth galen gwaith Plant mewn Angen y BBC a chredwn fod gan bob plentyn hawl i gael eu diogelu rhag niwed. Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu lies yr holl blant a phobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw, drwy ymrwymiad i arferion sy’n eu hamddiffyn.

Nid yw ac ni all Plant mewn Angen fod yn arbenigwr mewn amddiffyn plant ond rydym yn gweithio ochr yn ochr a’r NSPCC a sefydliadau blaenllaw eraill i hyrwyddo’r arferion gorau wrth ddiogelu plant a phobl ifanc. Mae diogelu ac amddiffyn plant yn cael ei gyflawni drwy sefydlu diwylliant sefydliadol cryf a nifer o weithdrefnau ac archwiliadau i gyd-fynd a hynny.

Gweler gwefan y NSPCC ar gyfer diogelu plant yn y sector gwirfoddol a chymunedol gan dalu sylw penodol i’r adnodd Ydyn nhw’n ddiogel? neu’r Safonau diogelu craidd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os oes angen mwy o arweiniad arnoch, gallwch gysylltu a’r NSPCC sy’n cynnig Gwasanaeth Ymgynghorol i sefydliadau ar draws y DU.

Wrth wneud eich cais rhaid i chi ddangos:

Sut yr ydych yn ystyried barn y plant a’r bobl ifanc am y gwaith y bwriadwch ei wneud a’r gwahaniaeth i’w bywydau y gobeithiwch ei wneud o ganlyniad

Sut y byddwch yn ymgynghori a chynnwys y bobl ifanc yn rheolaidd dros gyfnod y prosiect

Sut y bydd y plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o redeg neu reoli agweddau ar y prosiect yn cael eu cefnogi, lie bo hynny’n briodol.

Gwyddom y bydd efallai rhesymau pam y bydd rhai prosiectau ond yn ymgynghori ychydig; fodd bynnag bydd angen i ymgeiswyr egluro’r rhesymau am hyn yn glir.

Nid yw Plant mewn Angen y BBC yn rhoi cyllid i gyflawni cyfrifoldebau statudol. Gallwn ystyried ceisiadau am wasanaethau ychwanegol sy’n amlwg yn fwy na chyfrifoldeb statudol y sefydliad, a disgwylir i sefydliadau ddangos hynny yn eu ceisiadau.

ABC O BOLISIAU A CHANLLAWIAU

Mae’r canlynol yn ABC o wybodaeth am bolisi a chanllawiau i ymgeiswyr.

Rydym eisiau gwneud yn siwr nad ydych yn gwastraffu eich amser yn ymgeisio am bethau nad ydym yn eu hariannu. Mae yma fanylion gwerthfawr am ein disgwyliadau – mae rhai’n berthnasol i bob prosiect (er enghraifft, diogelu) a rhai’n bwysig i fathau penodol o brosiect (er enghraifft prosiectau cwnsela neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid i brynu cyfarpar).

Ni ystyriwn geisiadau i godi ymwybyddiaeth na gwaith addysgol cyffredinol ynghylch mater neu’i gilydd. Mae hyn yn cyfeirio at brosiectau wedi’u hanelu at blant neu bobl ifanc yn gyffredinol. Cyn y gallwn ystyried prosiectau codi ymwybyddiaeth, rhaid iddynt ddangos eu bod yn benodol yn targedu plant a phobl ifanc sydd eisoes o dan anfantais oherwydd y mater, neu mewn perygl neilltuol o fod o dan anfantais o’i herwydd. (Gallai enghreifftiau gynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion fel cam-drin rhywiol, trais yn y cartref ac alcohol, cyffuriau etc).

Ni ystyriwn geisiadau am fwy na £20,000 ar gyfer unrhyw fath o waith adeiladu. Mae hyn yn cynnwys adeiladu, adnewyddu neu drosi adeiladau newydd, eiddo presennol, meysydd chwarae, caeau chwarae etc.

Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am waith adeiladu gwerth £20,000 neu lai lie bydd yr arian a ofynnir amdano gennym yn gyfanswm cost y prosiect fel bo’r gwaith adeiladu’n gallu dechrau.

Mae sawl mater allweddol y dylid eu cofio wrth wneud cais am grant.

Perchnogaeth:

  • Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau i ariannu cyfleusterau lie mae’r gwelliannau’n ychwanegu at werth cyfalaf eiddo gyda pherchennog statudol, fel ysgolion ac ysbytai.
  • Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau i ariannu datblygiad adeilad a / neu dir nad ydych yn berchen arno neu’n ei brydlesu i sicrwydd.
  • Dylai fod gennych gynllun i dalu costau refeniw’r adeilad yn y dyfodol, gan gynnwys gwaith trwsio a chynnal a chadw.

Cynllunio:

  • Rhaid i chi fod a chaniatad cynllunio ar gyfer y gwaith, neu ganiatad o dan y brydles.
  • Rhaid i’r datblygiad ystyried hygyrchedd a rheoliadau iechyd a diogelwch.
  • Rhaid i chi ddarparu cynlluniau ac amcanbrisiau os gofynnwn amdanynt. Ymgynghori:
  • Rhaid i chi ddangos tystiolaeth fod y plant a’r bobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn dylunio a datblygu’r prosiect.

Ni ystyriwn geisiadau am fwrsari neu i noddi lie ar gyfer plant neu bobl ifanc dan anfantais lie nad yw’r ffi arferol a godir gan y sefydliad yn fforddiadwy iddynt. Gallai enghreifftiau gynnwys ceisiadau gan sefydliad sy’n codi ffioedd ac sy’n darparu dosbarthiadau drama, cylchoedd chwarae, hyfforddiant chwaraeon etc, lie mae’r cais i noddi lie i un neu fwy o blant dan anfantais oherwydd bod y ffi’n rhy uchel iddynt.

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau lie mae mwyafrif y plant y maent yn darparu ar eu cyfer yn blant o dan anfantais, ac nad ydynt yn codi ffi ormodol.

Mae Sefydliadau Elusennol Corfforedig yn gymwys i ymgeisio a dylent fod yn gofrestredig a’r

Comisiwn Elusennau neu’r OSCR yn yr Alban, yn yr un modd ag elusennau. Mae’r dogfennau y bydd angen i chi ei darparu ym mhob gwlad yr un fath ag ar gyfer elusennau.

Yng Nghymru a Lloegr, rhaid i gyrff gwirfoddol a chymunedol a wnaeth dros £5,000 o incwm yn y flwyddyn flaenorol fod yn gofrestredig a’r Comisiwn Elusennau.

Am fwy o wybodaeth gwelery Comisiwn Elusennau, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd lwerddon

Ystyriwn brosiectau gydag elfen o ofal plant, gan gynnwys meithrinfeydd, dim ond lie mae’r ffocws ar ddarparu profiad datblygu da i’r plant eu hunain. Nid ydym yn ystyried ceisiadau am ofal plant lie mae hyn i hwyluso cwrs hyfforddiant neu gyflogaeth ar gyfer rhiant.

Ar gyfer eglwysi, gofynnwn i chi gyflwyno’r dogfennau ychwanegol canlynol:

  1. Dogfen yn cadarnhau eich statws cyfreithiol
  2. Dogfen yn nodi sut y mae / bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y prosiect (disgwyliwn i hyn gynnwys mwy nag unperson).
  3. Dogfen yn nodi sut y mae penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud (disgwyliwn i hyn gynnwys mwy nag un person).

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan gwmn”iau CIC gyda chofrestriad a chyfansoddiad priodol sydd:

  • a thri neu fwy o gyfarwyddwyr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd
  • a ‘chymal cloi asedau’ i sicrhau y gellir ond trosglwyddo arian neu asedau i sefydliad neu aches enwebedig sydd ag amcanion elusennol tebyg i rai’r ymgeisydd A HEFYD
  • sydd yn gwmn”iau CLG (Cwmn”iau Cyfyngedig drwy Warant, yn hytrach na Chwmn”iau wedi eu Cyfyngu gan Gyfranddaliadau)

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gwmn”iau Buddiannau Cymunedol sefydlu a chofrestru gyda Thy’r Cwmn”iau a gallu darparu rhif cofrestru. Rhaid i’r ymgeisydd ddangos bod  y gwaith yn  canolbwyntio’n uniongyrchol ar anghenion a dyheadau’r plant a’r bobl ifanc yn hytrach nag ar anghenion busnes y cwmni. Fel rhan o hyn dylai ceisiadau ddangos sut y mae’r prosiect yn ymateb i angen amlwg a sut yr ystyriwyd barn y plant a’r bobl ifanc.

Dyma rai dolenni i wybodaeth ddefnyddiol gan Swyddfa’r Rheoleiddiwr Cwmn”iau Buddiannau Cymunedol

https://www.gov.uk/government/publications/community-interest-companies-how-to-form-a-cic https://www.gov.uk/government/publications/community-interest-companies-business-activities

Am wybodaeth am fathau eraill o Gwmn’iau Cofrestredig y byddwn yn ystyried ceisiadau ganddynt, gweler yr adran Mentrau Cymdeithasol yn y canllawiau hyn.

Os oes gennych wefan neu’n galluogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at gyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd o’ch adeilad, gan gynnwys drwy ffonau clyfar, yn ystod yr asesiad byddwn yn holi am eich ‘polisi defnydd derbyniol’ p’un ai yw’r defnydd hwnnw’n rhan o’r prosiect y gofynnwch am gyllid ar ei gyfer neu beidio.

Mae ‘polisi defnydd derbyniol’ yn egluro’r ffordd y gellir ac na ellir defnyddio’r cyfleusterau TG a disgwylir i bob defnyddiwr gytuno iddo cyn cael mynediad. Dylai’r polisi gynnwys rheolau i bobl ifanc ar wneud defnydd diogel a chyfrifol o’r rhyngrwyd, e-bost, ystafelloedd sgwrsio, negesu a rhwydweithio cymdeithasol a disgrifio’r sancsiynau os camddefnyddir hwynt. Mae hyn yn cynnwys sut y bydd y defnydd yn cael ei fonitro ac unrhyw gamddefnydd yn cael ei adnabod. Dylai’r polisi hefyd ddisgrifio’r mesurau y mae’r sefydliad yn eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel ar y rhyngrwyd. Mae’n bwysig bod hyn yn berthnasol i’r sefydliad ac yn briodol o ran oed.

Disgwyliwn i’ch gwefan fod yn gwbl hygyrch, hawdd ei darllen a phriodol i oed ei defnyddwyr. Hefyd, lie bo hynny’n briodol, dylech ddangos sut y cafodd y plant a’r bobl ifanc eu cynnwys yn nyluniad y wefan.

Rhaid i chi ystyried y canlynol yn llawn:

Ni ddylid gallu adnabod na chysylltu a’r plant a’r bobl ifanc o unrhyw wybodaeth ar y wefan

Dylid defnyddiau ffotograffau’n ofalus a gyda chaniatad y plentyn a’r rhiant / gofalwr

Dylai cyfleusterau a gwefannau  rhwydweithio cymdeithasol lynu wrth ganllawiau  arfer da,  a allai gynnwys safonau ac arferion ar gyfer adrodd, mynediad, cofrestru, ymddygiad a chymedroli

Dylai’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r rhyngrwyd drwy eich cyfarpar neu yn eich adeilad fod yn ddigon ymwybodol a gyda’r sgiliau iawn i adnabod ac ymdrin a pheryglon y rhyngrwyd. , Gwneir hyn fel arfer drwy ddarparu sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth a thrwy gael gweithdrefnau clir ar gyfer adrodd ymddygiad amhriodol.

Am fwy o wybodaeth gweler Childnet International a Kid Smart.

Gall sefydliadau sydd eisoes yn derbyn cyllid gennym ddisgwyl i ni gysylltu gyda nhw cyn y daw’r grant presennol i ben i drafod opsiynau ar gyfer y dyfodol. Nid yw llwyddo i gael grant yn  y gorffennol yn rhoi unrhyw sicrwydd y rhoddir grant pellach oherwydd ystyrir pob cais ar  ei haeddiant.

Os yw sefydliadau a lwyddodd i gael grant eisoes yn ailymgeisio am grant pellach, bydd disgwyliad cryf arnynt i ddangos tystiolaeth gref o’r gwahaniaeth a  wnaeth y grant i fywydau  plant a phobl  ifanc dan anfantais.

Disgwyliwn i bob sefydliad sy’n cynnig cwnsela ffurfiol a phroffesiynol ystyried y canlynol wrth gynllunio a rhedeg eu prosiectau:

  • cyflogi cwnselwyr proffesiynol a chymwys sydd a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, lie defnyddir goruchwylwyr profiadol i ddarparu goruchwyliaeth glinigol  briodol  ac  sy’n derbyn datblygiad proffesiynol parhaus rheolaidd a pherthnasol
  • darparu cwnsela hygyrch mewn lie preifat priodol ond diogel (i’r cleient a’r cwnselydd) cael eich gweld fel gwasanaeth nad yw’n stigmateiddio yn y gymuned
  • gweithio o fewn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau presennol a chynnig cyfrinachedd o
  • fewn y cyfyngiadau moesegol a diogelu (neu amddiffyn plant) arferol
  • ymateb yn hyblyg, cyn belled ag y bo modd, i anghenion lleol o ran amrywiaeth ac ymarferoldeb (e.e. anabledd ac iaith)
  • gweithio gyda ac ochr yn ochr a gwasanaethau ac asiantaethau eraill mewn ffordd gydweithredol gan gynnal lefelau priodol o gyfrinachedd
  • aelodaeth o gorff proffesiynol (fel Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain) a thrwy hynny’n glynu wrth fframwaith a gweithdrefn gwyno foesegol a sefydledig
  • cyflogi cwnselwyr gyda nodweddion personol sy’n golygu  eu  bod  yn  bobl  ddymunol gyda sgiliau gwrando da ac ymarweddiad sy’n annog perthynas ddiogel y medrant ymddiried ynddi.

Os yw gwasanaethau i’w darparu gan gydweithwyr nad ydynt yn gwbl gymwys, rhaid i staff mwy profiadol a chymwys fonitro a goruchwylio’r gweithwyr  hyn yn ofalus iawn a rhaid cael systemau  yn eu lie i ddiogelu’r cleientiaid, y gweithwyr, a’r gwasanaeth ei hun.

Cofiwch: Rydym yn annhebygol o ariannu prosiect:

, sy’n digwydd yn ystod y tymor ysgol (disgwyliwn i brosiectau ddigwydd cyn neu ar 61 ysgol, yn ystod amser cinio neu yn y gwyliau)

Am fwy o wybodaeth gweler BACP (Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain).

Gweler hefyd Ysgoliona Prosiectau Amser Ysgol

Mae Plant mewn Angen y BBC yn cydnabod y model anabledd cymdeithasol lie deellir bod perthynas anghyfartal yn ein cymdeithas lie nad yw anghenion pobl gyda nam neu anabledd yn cael eu hystyried yn ddigonol yn aml, a bod hyn yn gallu arwain at allgau  cymdeithasol. 0 ganlyniad i’r rhwystrau a wynebir gan blant a phobl ifanc anabl, medrant hefyd brofi anfanteision eraill fel tlodi, ynysu, llai o fynediad at hamdden a gwneud ffrindiau, salwch a llai o gyfleoedd.

  • Rydym eisiau i’n harian gefnogi plant a phobl ifanc anabl mewn ffyrdd sydd: Yn gwella eu dewisiadau a’u cyfleoedd
  • Yn gwella eu galluoedd
  • Yn annog annibyniaeth
  • Yn magu mwy o hyder a hunan-werth
  • Yn cynnwys pobl ifanc ac oedolion anabl fel modelau r61 cadarnhaol Yn gwrthsefyll agweddau negyddol a rhwystrau i gyfranogi
  • Yn cydnabod anghenion teuluoedd a
  • gofalwyr.

Ni fyddwn yn ariannu:

  • Prosiectau sy’n adlewyrchu stereoteipiau negyddol o blant a phobl ifanc anabl.

Disgwyliwn i sefydliadau gydymffurfio a Deddf Cydraddoldeb 2010 (CHANGE LINK)

Wrth wneud cais i ni i weithio gyda phlant ifanc, bydd angen i chi roi manylion am sut y mae eich prosiect y tu allan i ymrwymiadau statudol cenedlaethol a lleol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos sut y mae’r prosiect yn mynd i fod o fudd yn bennaf i blant dan anfantais yn hytrach nag i’w rhieni.

Gallwn ystyried ceisiadau gan sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau mewn canolfannau plant sydd fel arall yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a lie mae gan y partner gwirfoddol r61 arweiniol.

Gweler hefyd Gofal Plant a Meithrinfeydd

Nid ydym yn rhoi grantiau i brynu cyfarpar fydd yn dod yn eiddo i, neu’n cael ei ddefnyddio gan gorff statudol fel ysgol neu ysbyty.

Wrth wneud cais am gyllid ar gyfer cyfarpar, disgwylir i chi nodi:

  • sut y sicrheir mai’r plant a’r bobl ifanc fydd y prif ddefnyddwyr neu fydd yn elwa’n bennaf
  • pam fod angen y cyfarpar ar gyfer y prosiect
  • sut yr ystyriwyd materion fel yswiriant, storio diogel a bywyd silff sut y gwnaethoch siopa o gwmpas i gael y gwerth gorau am arian pam fod prynu’r cyfarpar yn well na’i logi neu gael ei fenthyg
  • pwy fydd yn cael defnyddio’r cyfarpar pan na fydd y prosiect yn ei ddefnyddio?

Lie prynir cyfarpar ar gyfer plentyn neu berson ifanc unigol i’w ddefnyddio, mae’n well gan Plant mewn Angen y BBC i’r eitem aros yn eiddo i’r grwp nid yr unigolyn. Pan fydd eitem yn bwrpasol neu ni ellir ei hailddefnyddio, rydym yn hapus iddi ddod yn eiddo i’r plentyn neu’r person ifanc.

Mae adennill costau llawn yn golygu talu holl gostau’r prosiect, gan gynnwys cyfran tuag at gostau gorbenion y sefydliad sy’n rhedeg y prosiect.

Nid yw Plant mewn Angen y BBC yn mabwysiadu’r model adennill costau llawn. Ni fyddwn yn ariannu costau ‘tybiannol’ y sefydliad ehangach, dim ond costau uniongyrchol y prosiect.

Gweler hefyd Costau’r Prosiect

Mae dogfen lywodraethu’n nodi rheolau ac amcanion sefydliad a sut y mae’n gwneud penderfyniadau. Gelwir y ddogfen hon yn gyfansoddiad fel arfer. Ar gyfer Cwmn’iau Buddiannau Cymunedol, Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu yw’r enw arni.

Gweler hefyd Cofrestriad Elusennol

Rydym yn ariannu gwyliau a thripiau dim ond lie gellir dangos eu bod yn ffordd effeithiol o ateb anghenion y plant a’r bobl ifanc dan sylw.

Lie mai gwyliau neu brofiadau preswyl eraill yw prif nodwedd y cais, byddwn ond yn ariannu am flwyddyn ar y tro. Mae hyn oherwydd pwysigrwydd bod a pholis’iau diogelu diweddar ar gyfer y

mathau hyn o brosiectau.

Ond byddwn yn ystyried ceisiadau dwy a thair blynedd lie mae elfen breswyl yn un rhan o ystod ehangach o weithgareddau. Bydd angen i’r ymgeiswyr llwyddiannus roi diweddariad blynyddol i ni ar eu polisi diogelu.

Ni roddwn grantiau’n uniongyrchol i ganolfannau preswyl sydd eisiau sicrhau cyllid i ddenu plant a phobl ifanc i’w canolfannau. Byddwn ond yn rhoi grantiau i sefydliadau sydd a pherthynas weithio sefydledig gyda phlant a phobl ifanc.

Byddwn ond yn ariannu tripiau a gwyliau o fewn y DU. Yr unig eithriad yw yng Ngogledd lwerddon lie gallwn ystyried tripiau neu wyliau i Weriniaeth lwerddon.

Oherwydd y cyfrifoldebau statudol eang yn y maes hwn, byddwn fel arfer ond yn ariannu llety i blant neu deuluoedd digartref mewn achosion eithriadol iawn. Fodd bynnag, gallwn gefnogi gweithgareddau mewn canolfannau llety sy’n delio’n benodol ag anghenion a phroblemau’r plant. Rydym hefyd yn cydnabod y gallai ymgeisydd ofyn i ni ystyried ariannu llety lloches i bobl ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd.

Erna dderbyniwn geisiadau i’n Prif Raglen Grantiau a Rhaglen Grantiau Bach gan blant unigol, neu eu teuluoedd, mae ein rhaglen Hanfodion Brys yn rhoi grantiau i  blant  a  phobl ifanc  unigol sy’n byw mewn tlodi difrifol, sydd heb y cyfleusterau sylfaenol y mae’r rhan  fwyaf  ohonom  yn  eu cymryd yn ganiataol ac sy’n wynebu pwysau ychwanegol fel trais yn y  cartref,  anabledd  neu salwch yn y teulu.

Mae’r rhaglen yn darparu eitemau i gwrdd ag anghenion mwyaf sylfaenol y plant, fel gwely i gysgu ynddo, st6f i goginio pryd o fwyd poeth, dillad (mewn argyfwng) ac eitemau a gwasanaethau eraill sy’n hanfodol i les y plant. Gweinyddir y rhaglen gan Buttle UK sy’n gallu, drwy ei rwydwaith o asiantaethau partner rheng flaen, cyrraedd y teuluoedd sydd fwyaf angen y rhaglen arnynt.

0 ganlyniad i’r ymrwymiadau hyn ni dderbyniwn geisiadau gan sefydliadau eraill i roi arian lies cyffredinol i deuluoedd ac unigolion oni bai mewn achosion eithriadol. Er enghraifft, gallwn efallai ystyried achos gan sefydliad priodol sydd am wneud math arbenigol o grant (pecynnau eitemau sylfaenol i bobl ifanc ddigartref er enghraifft) neu gan sefydliadau sy’n arbenigo mewn cwrdd ag anghenion cymunedau difreintiedig penodol.

Os gofynnir am gyllid ar gyfer eitem benodol i helpu plentyn  yr  effeithir  arno/arni  gan  salwch, rhaid i’r cais gael ei wneud gan sefydliad cymwys sy’n gallu ateb unrhyw gwestiynau y gallwn ofyn iddynt am y plentyn a’i amgylchiadau neu sefyllfa.

Ni fyddwn yn ystyried talu’n llawn am swyddi sy’n gweithio gydag achosion sy’n denu unrhyw gymorth cyfreithiol. Lie byddwch yn gwneud cais am swyddi o’r fath, dylech ddangos unrhyw arian cymorth cyfreithiol a gawsoch am waith achosion y flwyddyn flaenorol. Ar gyfer blynyddoedd dau a thri’r ceisiadau hyn, dylai’r ymgeiswyr ddangos faint o gymorth cyfreithiol y maen nhw’n debygol o’i dderbyn ac felly faint o gyfraniad at y swydd y maen nhw’n gofyn amdano gennym.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan gyrff llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys cynghorau ar bob lefel.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan gyrff iechyd statudol. Mae hyn yn cynnwys cyrff gofal sylfaenol neu eilaidd y GIG, ysbytai, Ymddiriedolaethau PCT, Awdurdodau SHA neu gyrff cyfatebol, er enghraifft Ymddiriedolaethau lechyd a Gofal Cymdeithasol, Byrddau’r GIG ac Ymddiriedolaethau lechyd.

Ni fyddwn yn ariannu cyfarpar neu gymhorthion meddygol lie mae cyfrifoldeb statudol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys prynu cyfarpar meddygol arbenigol ar gyfer ysbyty.

Disgwyliwn i bob sefydliad sy’n gwneud cais am brosiectau mentora a chyfeillio ystyried y canlynol wrth gynllunio a rhedeg eu prosiectau:

  • cysylltiad clir rhwng amcanion eich prosiect a’r manteision i’r cleientiaid / gwirfoddolwyr unigol
  • proses ar gyfer atgyfeirio / sicrhau cymhwyster cleientiaid, gan gynnwys arferion cyfle cyfartal da
  • proses drylwyr ar gyfer recriwtio a dethol gwirfoddolwyr
  • gweithdrefnau trylwyr yn eu lie i sgrinio gwirfoddolwyr a threfniadau i ddiogelu cleientiaid a gwirfoddolwyr (gan gynnwys archwiliadau priodol, gofyn am eirda, asesiadau risg, hyfforddiant, yswiriant, datganiad cyfrinachedd a ffurflenni caniatad)
  • proses dda a chyson ar gyfer paru eich cleientiaid gyda gwirfoddolwyr a threfniadau yn eu lie i ddelio gydag unrhyw berthynas sy’n troi allan i fod yn anaddas
  • sicrhau bod hyfforddiant a pharatoadau cychwynnol yn eu lie ar  gyfer  gwirfoddolwyr ynghyd a chefnogaeth barhaus
  • sicrhau bod/ y bydd proses wedi’i chofnodi yn ei lie i fonitro cynnydd y perthnasoedd.

Efallai y bydd sefydliadau sy’n gweithio yn y maes hwn am ystyried ennill y Safon Darparwr Cymeradwy sy’n feincnod cenedlaethol i sefydliadau sy’n darparu prosiectau mentora a chyfeillio gwirfoddolwyr.

Am fwy o wybodaeth gweler y Sefydliad Mentora a Chyfeillio

Os yw eich sefydliad yn ymgeisio am swydd Cydgysylltydd Gwirfoddoli, cofiwch sicrhau eich bod yn rhoi swydd-ddisgrifiad i’r gwirfoddolwyr.

Byddwn yn ystyried ceisiadau am fysus mini ond pur anaml y gwneir y grantiau hyn a bydd angen i ymgeiswyr wneud aches cryf o ran y canlyniadau i’r plant ac o ran bod yn gost-effeithiol. Bydd angen tystiolaeth o’r canlynol:

  • pam fod angen i’r sefydliad fod yn berchen ar fws mini’n hytrach na llogi un
  • faint y byddwch yn disgwyl defnyddio’r bws mini a faint o’r defnydd hwnnw fydd gan blant a phobl ifanc dan anfantais
  • sut y bwriadwch dalu’r costau yswiriant, storio diogel a’r costau rhedeg a chynnal a chadw sut y bydd y cerbyd yn addas o ran mynediad i bawb fydd efallai’n ei ddefnyddio
  • sut y bydd y gofynion diogelwch, fel gwregysau diogelwch a diffoddwyr tan, yn cydymffurfio a’r gyfraith.

Sefydliadau cenedlaethol yw rhai sydd eisoes neu sydd am ddarparu  gwasanaethau  Gymru, Lloegr, Gogledd lwerddon neu’r Alban gyfan, neu unrhyw gyfuniad ohonynt.

Ymdrinnir a changhennau annibynnol o sefydliadau cenedlaethol (h.y. gyda’u cyfansoddiad eu hunain, eu pwyllgor rheoli eu hunain ac yn llwyr gyfrifol am eu harian) fel sefydliadau ar wahan a gallwn dderbyn ceisiadau gan bob cangen.

Mae canghennau nad ydynt yn annibynnol o sefydliadau traws-DU,  gyda  phresenoldeb  mewn mwy nag un wlad, yn gymwys i wneud cais i bob gwlad.

Efallai y bydd rhai sefydliadau’n penderfynu gweithio gyda’i gilydd ar y cyd; fodd bynnag rhaid i unrhyw gais a wneir i ni ddod gan sefydliad sy’n endid cyfreithiol.  Felty rhaid enwebu un sefydliad  yn y bartneriaeth, fel y sefydliad arweiniol, i wneud y cais. Y sefydliad hwnnw fydd yn gyfreithiol atebol am reoli’r grant ac adrodd yn 61, am ddarparu’r prosiect gan gynnwys  rheoli  unrhyw weithwyr sy’n cael eu hariannu gan y prosiect, ac am sicrhau bod y prosiect yn cyflawni’r canlyniadau dywededig.

Mae ceisiadau gan bartneriaethau’n destun yr un canllawiau a cheisiadau eraill o ran statws y corff ymgeisio.

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gylchoedd chwarae a chynlluniau chwarae i blant dan wyth oed fod yn gofrestredig oni bai fod y gyfraith yn nodi nad oes raid iddynt fod.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau o’r math yma a ddylai fod yn gofrestredig, ond nid ydynt.

Am fwy o wybodaeth gweler Ofsted (ar gyfer Lloegr): Yr Arolygiaeth Gofal (yr Alban) ; Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; eich Ymddiriedolaeth lechyd  a Gofal Cymdeithasol (ar gyfer Gogledd lwerddon) leol.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau profi beichiogrwydd; na chyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar opsiynau beichiogrwydd.

Bydd Plant mewn Angen y BBC ond yn ariannu costau uniongyrchol prosiect, hynny yw costau sy’n ymwneud yn glir ac uniongyrchol a phrosiect. Gall hyn gynnwys cyflogau, treuliau gwirfoddolwyr, costau llogi adeiladau a chostau teithio. Mewn sawl achos mae costau’r prosiect hefyd yn cynnwys agweddau nad ydynt yn ymwneud gymaint a’r ochr ddarparu, fel rheoli llinell, gweinyddu, yswiriant a chyfleustoda u.

Ni fyddwn yn ariannu unrhyw  orbenion, a elwir  weithiau’n gostau rheoli, i’r  sefydliad  sy’n rhedeg  y prosiect. Costau yw’r rhain y byddai’r sefydliad yn eu talu pe bai neu pe na bai’r prosiect yn ei le. (Mae hyn naill ai fel adennill costau llawn neu unrhyw ddosraniad i’r sefydliad ehangach).

Gweler hefyd Adennill Costau Llawn

Dylai ceisiadau gan sefydliadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda chyflyrau meddygol prin ddarparu geirda allanol gan ymarferydd meddygol gyda phrofiad o weithio gyda’r cyflwr a gwybodaeth am waith y sefydliad a’r prosiect penodol.

Dylai eich canolwr fod yn rhywun o’r tu allan i’ch sefydliad. Dylai fod yn rhywun sy’n adnabod eich sefydliad mewn capasiti proffesiynol ond nad yw’n rhan ohono. Mae’n hanfodol bod gan y canolwr ddealltwriaeth dda o’r prosiect yr ydych yn ymgeisio amdano oherwydd byddwn yn gofyn iddynt drafod eich cais os yw’n cyrraedd y cam asesiad.

Ystyriwn geisiadau gan sefydliadau ffydd ond nid ydym yn ariannu hyrwyddo crefydd neu unrhyw weithgaredd sy’n cynnwys proselytio.

Gallwn ystyried ceisiadau gan brosiectau sy’n cynnig gofal seibiant i deulu plentyn neu berson ifanc anabl. Ond oherwydd bod darpariaeth gofal seibiant graidd yn gyfrifoldeb statudol, bydd angen i chi roi rheswm clir pam yr ydych yn gofyn i ni ariannu’r gweithgaredd hwn.

Disgwyliwn i brosiectau ddigwydd cyn neu ar 61ysgol, yn ystod amser cinio neu yn y gwyliau. Oni bai y gellir gwneud achos eithriadol, rydym yn annhebygol o ariannu prosiectau:

  • sy’n digwydd yn ystod amser ysgol
  • lie mae plant neu bobl ifanc yn cael eu tynnu allan o’r dosbarth i fynychu.

Ystyriwn geisiadau gan ysgolion ond nid:

  • Gweithgareddau neu wasanaethau y mae gan ysgolion gyfrifoldeb statudol i’w darparu, h.y. y cwricwlwm neu weithgareddau cysylltiedig
  • Gwelliannau i adeilad neu dir ysgol
  • I brynu cyfarpar a ddefnyddir yn ystod amser cwricwlwm.

Yn hytrach na chyflwyno  cyfrifon,  rhaid i ysgolion ddarparu:

  • Dogfen yn cadarnhau eich statws cyfreithiol
  • Dogfen yn nodi sut y gwneir y penderfyniadau ariannol (dylid dweud sut y bwriedir gwneud hyn gyda’r prosiect sy’n destun y cais am grant)
  • Dogfen yn nodi sut y gwneir penderfyniadau ar y prosiect (cofiwch sicrhau fod hyn yn berthnasol i’r prosiect sy’n destun y cais am grant)
  • Cadarnhau bod yna gyfrif cronfa ysgol er mwyn gallu talu’r arian grant i mewn iddo.

Dylai prosiectau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol ddangos yn glir sut y bydd ein grant:

  • ddim yn lie unrhyw gyllid statudol – disgwyliwn i’r cyllid hwn ddilyn y plentyn
  • yn ychwanegol i’r cyfrifoldebau statudol
  • yn galluogi profiad o ansawdd sy’n wahanol i’r hyn y mae’r awdurdodau statudol yn gyfrifol am ei ddarparu.

Rydym yn cydnabod bod angen defnyddio staff  sesiynol i  ddarparu  mathau  penodol o brosiect neu weithgaredd i blant a phobl ifanc, er enghraifft cynlluniau chwarae tymor byr neu untro’n unig dros y gwyliau. Fodd bynnag lie bo modd, credwn pe bai sefydliadau’n cynnig contractau tymor penodol ar gyfer prosiectau, y byddai’n fwy tebygol o roi canlyniadau da i blant.

Rhaid i bob prif gais am grant gydag elfen o gostau staffio (yn cynnwys staff sesiynol, tiwtoriaid, hyfforddwyr, gweithwyr, contractwyr, gweithwyr liwt eu hunain, gweithwyr chwarae, artistiaid, therapyddion) ddarparu swydd-ddisgrifiad, manyleb person a chynllun gwaith blwyddyn gyntaf ar gyfer pob swydd wahanol y gofynnir amdani.

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan Fentrau Cymdeithasol a Chwmn”iau Cyfyngedig drwy Warant, gyda chofrestriad a chyfansoddiad priodol, sydd:

  • wedi cofrestru gyda Thy’r Cwmn”iau a gyda thri neu fwy o gyfarwyddwyr heb fod yn perthyn
  • gyda ‘chymal diddymu’ yn eu memorandwm ac erthyglau i sicrhau y gellir ond trosglwyddo arian neu asedau i sefydliad neu achos enwebedig sydd ag amcanion elusennol tebyg i rai’r ymgeisydd
  • sydd yn gwmn”iau CLG (Cwmn”iau Cyfyngedig drwy Warant, yn hytrach na Chwmn”iau wedi eu Cyfyngu gan Gyfranddaliadau)

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Fentrau Cymdeithasol a Chwmn”iau Buddiannau Cymunedol sefydlu a chofrestru gyda Thy’r Cwmn”iau a gallu darparu rhif cofrestru. Rhaid i’r ymgeisydd ddangos body gwaith yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar anghenion a dyheadau’r plant a’r bobl ifanc  yn hytrach nag ar anghenion busnes y cwmni. Fel rhan o hyn dylai ceisiadau ddangos sut y mae’r prosiect yn ymateb i angen amlwg a sut yr ystyriwyd barn y plant a’r bobl ifanc. Ar gyfer Cwmn”iau Buddiannau Cymunedol gweler yr adran hon yn y ddogfen.

Ystyriwn brosiectau sy’n cefnogi rhieni neu sy’n cynnig hyfforddiant ar sgiliau magu  plant,  cyn belled nad ydynt yn ceisio gwella profiad y rhieni fel canlyniad ynddo’i hun ond, yn hytrach, yn gweithio gyda’r rhieni i wella profiad y plant a’r bobl ifanc. Rhaid dangos tystiolaeth glir iawn o’r canlyniadau ar gyfer y plant.

Gellir ystyried hyfforddiant staff pan ddangosir tystiolaeth glir o’i gysylltiad a chanlyniadau gwell i’r plant a’r bobl ifanc. Ni fyddwn yn ariannu hyfforddiant yn bennaf er mwyn gwella datblygiad proffesiynol yr unigolyn.

Yn gyfreithiol, dylid ond talu treuliau gwirfoddolwyr lle mae’r gwariant wedi’i achosi’n wirioneddol, er enghraifft wrth ad-dalu tocyn bws neu gost petrol. Ni ddylai treuliau foci yn lwfans neu’n ffi benodol am wirfoddoli, oherwydd gallai gael ei weld fel tal sy’n agored i Yswiriant Gwladol a threth.

Am fwy o wybodaeth gweler Volunteering England, Gwirfoddoli Cymru, Volunteer Scotland neu Volunteer Now (yng Ngogledd lwerddon).

Nici ydym yn ariannu gweithwyr plant mewn llochesau merched yn yr Alban oherwydd bod hyn yn ddarpariaeth statudol.

Yng Nghymru ariannwn waith mewn llochesau dim ond lle gellir dangos body ddarpariaeth yn ychwanegol at ddatganiad Llywodraeth Cymru o ran y ddarpariaeth graidd y gall plant ddisgwyl ei derbyn.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1